Monthly Archives: Chwefror 2013

Clwb Blog Wythnosol

Pan ddechreuon ni blogio yn ôl ym mis Hydref, roeddwn i’n teimlo ychydig o bwysau ar fy ysgwyddau i wneud yn siŵr bod y blog yn llwyddiant. Fi wnaeth awgrymu gallai blogio gwrdd â rhai bylchau yn ein gwasanaeth gwybodaeth (gallwch ddarllen mwy am hwn yma).

Clwb Blogio Wythnosol

Roedd y canlynol yn fy mhoeni i:

  • Byddai neb yn darllen y blog
  • Ni fyddai’r llais blogio wnes i ddatblygu pan ddechreuais fy blog personol trosglwyddo’n dda i flog Cyfranogaeth Cymru
  • Byddai fi’n cael fy ngweld fel “arbenigwr” mewn cyfranogiad, er mai rhannu pethau roeddwn i’n roeddwn i eisiau gwneud, yn hytrach na bod yn awdurdodol (ni’n gweithio ym maes cyfranogi – rhaid i ni roi hwn ar waith!)

Un o’r pethau wnaeth helpu lleddfu fy ofnau oedd y Clwb Blog Wythnosol, ac rydym wedi bod yn cyfrannu iddi ers mis Tachwedd. Fe’i sefydlwyd gan grŵp o bobl sy’n gweithio yn neu gyda’r sector cyhoeddus, grwpiau gwirfoddol neu gymunedau yn y Deyrnas Unedig er mwyn annog blogio.

Mae cyfranwyr yn dod o gefndiroedd a sefydliadau amrywiol ac o wahanol rannau o’r DU, sy’n gwneud cymysgedd gwych. Fe wnaeth darllen y blogiau annog fi ymhellach a gwneud i mi sylweddoli bod lleisiau gwahanol yn effeithiol mewn ffyrdd gwahanol, ac os maen nhw’n gallu siarad am eu gwaith mewn llais anffurfiol, gallai i hefyd.

Ar ôl i mi gyfrannu am ychydig o fisoedd, fe wnes i benderfynu rhoi shot ar redeg y clwb am wythnos, a dyma beth wnes i’r wythnos diwethaf. Rhoddodd hyn cyfle i mi ail-ennill y karma rydw i wedi defnyddio wrth i mi gael y clwb i rannu fy ngwaith, gan roeddwn i’n teimlo doeddwn i ddim wedi gwneud digon i helpu’r clwb fy hun.

Roedd rhedeg y clwb am yr wythnos yn brofiad gwych – fe wnes i ddarllen blogiau amrywiol yn fanwl, a chefais syniadau am sut y gallwn ddefnyddio ein blog mewn ffordd fwy creadigol, gan roedd cyfraniadau yn amrywio o ffotograffiau gwych a chardiau post diddorol, i restrau o ganeuon i brocio’r meddwl ar Spotify (yma ac yma).

Ynglŷn â fy ofn olaf, mae’n werth darllen y blog a gyflwynwyd gan Kenny McDonald sy’n dechrau gyda “Os mae unrhyw un yn galw eu hunain yn arbenigwr, mai nhw naill ai yn gwneud rhywbeth beiddgar neu fod yn naïf.”

Gallwch wrando ar Audioboo ohonof i’n crynhoi’r cyfraniadau isod (ar ôl cais gan Louise Brown fel bod hi’n gallu clywed fy acen Gymreig!) ac mae rhestr lawn o’r cyfraniadau’r wythnos ar gael yma.

– Dyfrig

Advertisements

Gwefannau cyfranogol – beth mae arfer da yn edrych fel?

Rydw i wedi blogio o’r blaen am gael gwahoddiad i fod yn rhan o grŵp gorchwyl a gorffen i ddatblygu gwefan iechyd a lles ar gyfer y dinesydd yng Nghymru, ac fe wnes i fynychu’r cyfarfod dilynol dydd Llun. Gofynnwyd i mi i wneud cyflwyniad byr ar wefan roeddwn i’n meddwl roedd yn cyflwyno gwybodaeth yn glir ac roedd yn fodel da ar gyfer yr hyn y mae’r grŵp yn bwriadu ei wneud.

Fe wnaeth rhan fwyaf o fynychwyr eraill edrych ar wefannau adran Gwasanaethau Cymdeithasol, ond gan fy mod i’n lletchwith, wnes i ddewis gwefan gwahanol!

Fflintyr Ifanc

Yn gyntaf, gofynnais Twitter. Gofynnais am enghreifftiau o wefannau da, achos roeddwn i’n ffeindio fe’n anodd i ddechrau. Mae Cyfranogaeth Cymru yn ddigon ffodus i gael dilynwyr clyfar iawn, gan gynnwys Dynamix, ag awgrymodd “unrhyw safle sydd wedi gwirio ei destun trwy’r Golygydd Testun Uwch-Flaenor Pump” (sef safle defnyddiol iawn sy’n helpu i nodi a thorri allan jargon). Awgrymodd Iechyd Hawdd ei Ddeall Cymru ei wefan ei hun, sydd yn hynod o glir ac sy’n anelu i roi wybodaeth ar iechyd sydd yn hawdd ei ddarllen i bobl sydd ag anawsterau dysgu.

Yn y pen draw fe wnes i ddewis yr awgrym o CLICarlein. Dewisais un o’u gwefannau rhanbarthol, Fflintyr Ifanc, oherwydd roeddwn i’n teimlo nad oedd y cefndir yn ei gwneud hi mor anodd i bobl sydd ag nam ar eu golwg i ddarllen y testun, er ni ddylai unrhyw ddelweddau fod tu ôl i’r testun o gwbl.

Dewisais y wefan hon oherwydd ei natur ryngweithiol, gan fy mod i’n meddwl bod hyn yn hanfodol os yw’r wefan yn mynd i ganolbwyntio ar y dinesydd ac i fod yn ymatebol. Mae’r faner ar frig y wefan yn alwad i weithredu, sy’n gofyn i bobl ifanc i gymryd rhan yn y safle. Mae’r erthyglau diweddaraf a gyflwynir yn cael eu hamlygu, yn ogystal â beth sy’n cael ei ddweud a’r erthyglau mwyaf poblogaidd. Mae hyn yn dangos yn glir bod y wefan yn weithredol ac yn gyfredol. Mae’r arolwg ar y wefan yn rhoi cyfle i bobl ifanc i ddweud eu dweud heb effeithio ar eu profiad o’r safle. Hefyd mae adran nodweddion y safle yn rhoi’r cyfle i’r mudiad i dynnu sylw at newyddion maen nhw’n teimlo mae angen i bobl gwybod.

Yna fe wnes i edrych yn benodol ar adran gwybodaeth y wefan, achos dyma’r rhan fyddai’n fwyaf tebyg i’r ganolfan wybodaeth. Mae’r adran hon yn fywiog ac er enghraifft yn yr adran addysg roedd yna gyfle i wylio fideo fel dewis amgen i ddarllen y testun, er mwyn i bobl wylio prosiect addysgol ar waith. Roedd e’n amlwg pa mor bwysig yw hi fod pobl yn cael y cyfle i roi sylwadau ac i ddweud eu dweud, achos nesaf i’r sylwadau doniol dywedodd un person ifanc roedden nhw’n casáu ysgol achos eu bod nhw’n cael eu bwlio. Rhoddodd hyn gyfle i’r golygydd i gyfeirio nhw ato ffynonellau o gymorth. Ni fyddai hyn byth wedi digwydd os nad oedd cyfle i bobl roi adborth.

Cyn i mi adael fe wnes i fanteisio ar y cyfle i fwydo gwybodaeth i mewn o’r Panel Dinasyddion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys y ffaith dylai’r wybodaeth ar y safle fod yn seiliedig ar y Model Cymdeithasol o Anabledd, yn hytrach nag y Model Meddygol. Rydym yn teimlo’n wirioneddol lwcus i fod yn gweithio gyda’r panel, achos maent yn bobl hyfryd sydd wedi rhoi cymaint o wybodaeth amhrisiadwy i ni. Fe fydd y wybodaeth yma yn bwydo i mewn i’r agenda ar gyfer gwella Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru a hefyd helpu ni i wella sut ni’n gweithio.

– Dyfrig

Rhwydwaith Powys yn cael ei achredu

Yn ddiweddar fe wnaeth Ymarferwyr Ymgysylltu ym Mhowys derbyn achrediad gan Agored Cymru ar ôl cwblhau ein cwrs tri diwrnod a gwaith cwrs ar Ymgysylltu â’r cyhoedd: damcaniaeth ac ymarfer. Fe wnaeth tua 15 o weithwyr proffesiynol sy’n ymgysylltu, ymgynghori a chyfranogi gyda grwpiau amrywiol fel rhan o’u gwaith pob dydd mynychu’r cwrs. Fe wnaethon nhw fanteisio ar y cynnig i gael hyfforddiant ar ôl i Bowys gwneud cais llwyddiannus i gronfa Creu’r Cysylltiadau Llywodraeth Cymru.

Dyma’r swyddogion yn derbyn eu tystysgrifau.

Rhwydwaith Powys yn cael ei achredu

O’r chwith i’r dde – Clare Parsons, (Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog), John Thomas, Rebecca Richards, Sue Glenn (Cyngor Sir Powys – CSP) a Michelle Wozencraft (Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc). Llongyfarchiadau hefyd i Catherine Lewis a Jane Evans (CSP), Eleanor Barrow a Freda Lacey (Cynghrair Iechyd Meddwl Powys), Lucy Taylor (Gofalwyr Powys) a Kerrine Phillips (PAVO). Mae dau mwy o gyfranogwyr yn cwblhau’r cwrs ar hyn o bryd, sef Janet Bidgood a Stephen Parkinson.

Mae’r holl swyddogion yn eistedd ar Rwydwaith Swyddogion Ymgynghori ac Ymgysylltu Powys, sy’n cyfarfod bob chwarter i rannu arfer da, cymryd camau i weithredu’r Strategaeth Gyfranogi Bwrdd Gwasanaeth Lleol, a hefyd i chwilio am gyfleoedd i gyd-ymgynghori. Mae’r rhwydwaith yn enghraifft wych o sut gall mudiadau weithio gyda’i gilydd i wneud yn siŵr dyw pobl ddim yn cael eu gor-ymgynghori.

Pan wnaethon ni gweithio ar yr Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru yn wreiddiol, wnaethon ni ddim cynnwys y bedwaredd egwyddor ar ‘Gweithio gyda sefydliadau partner perthnasol’. Fe wnaethon ni cymryd yn ganiataol y byddai sefydliadau yn gwneud hyn, ond roedden ni’n anghywir i wneud hynny. Dywedodd pobl wrthym dyw mudiadau ddim yn gweithio gyda’i gilydd digon i wella ymgysylltiad, sy’n groes i’r buddion sydd ar gael – cyfuno adnoddau, sgiliau ac arbenigedd.

Gallwch glywed Rheolwr Cyfranogaeth Cymru Mandy Williams siarad trwy bob un o’r egwyddorion isod yn y gweithdy ‘Monitro ymgysylltu gan ddefnyddio Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru’, a oedd yn rhan o Rwydwaith Cyfranogaeth Breswyl Cymru Gyfan 2013.

– Dyfrig

Geiriau Sarah Jones ar ei diwrnod olaf fel Swyddog Cyfranogaeth Cymru

Mae’n ddrwg gen i adael fy swydd i fel Swyddog Cyfranogaeth Cymru ar ôl 3.5 mlynedd.

Sarah Jones

Rydw i  siŵr o fod wedi cwrdd â chi wrth hyfforddi neu hwyluso dros y blynyddoedd diwethaf (ac os byddaf yn anghofio eich enw maddewch i mi, ni wedi gweithio gyda channoedd o ymarferwyr ac aelodau o’r cyhoedd ledled Cymru). Yn ystod y cyfnod hwnnw mae ein tîm bychan o 4, yn ogystal â’n rhwydwaith o hyfforddwyr cyswllt, wedi gweithio’n galed i gefnogi ymgysylltiad â’r cyhoedd yng Nghymru. Ni wedi gweld sawl person yn mynd a dod, ac fe wnes i fy hun gadael am 9 mis i gael fy mab (ac wedyn dod yn ôl eto).

I mi, fe wnaeth yr un materion codi tro ar ôl tro, doedd dim ots pwy roedden ni’n gweithio gyda:

  1. Does ganddo’ch dim byd i ofni o ymgysylltu – nid yn bersonol nac fel sefydliadau. Y noson cyn i mi ymgysylltu â’r cyhoedd roeddwn i’n wir yn poeni: A fydd pobl yn ddig? Beth os maen nhw’n gofyn cwestiynau anodd i mi? Beth os dydw i ddim yn gofyn y cwestiynau cywir yn ystod y sesiwn? Mae ymarferwyr yn aml yn dweud wrthym eu bod nhw’n teimlo’r un fath. Y realiti (bob amser) yw bod pobl yn wir eisiau siarad am eu profiadau ac maen nhw’n ddiolchgar am y cyfle. Mae pobl yn ddig o bryd i bryd, a dydyn ni ddim yn gallu ateb eu cwestiynau bob amser. Ond ni’n gallu gwrando. Ac felly gallwch chi. Wrth wraidd y jargon ymgysylltu, polisi a theori – dim ond siarad â phobl yw e!
  2. Ni gyd yn ddinasyddion. Er bod chi’n ymarferydd sy’n gweithio ym maes ymgysylltu â’r cyhoedd, rydych chi hefyd yn ddinesydd ac mae ganddo’ch chi rôl wrth annog newid diwylliannol i gael mudiadau i ymgysylltu mwy. Gall pob un ohonom yn ein ffordd ein hunain rhoi adborth i fudiadau ar eu gwasanaethau a helpu nhw ar eu taith i ymgysylltu â’r cyhoedd i wneud yn siwr ei fod yn rhan annatod o’r hyn mae mudiadau yn gwneud. Mae gan bawb cyfrifoldeb i ddweud wrth fudiadau ni’n ymgysylltu â sut gallant wneud yn well gennym ni. Y dyddiau yma rwy’n ateb yr holl arolygon a cheisiadau am adborth sydd yn ffeindio’i ffordd i fy mewnflwch, neu ar fat fy nrws blaen, gan gynnwys sgriblo nodyn sydyn ar y cerdyn sylwadau sy’n dod gyda fy nghoffi.
  3. Mae’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yn ddogfen ddefnyddiol iawn ac rydw i’n cyfeirio yn ôl ato dro ar ôl tro. Gellir eu defnyddio nhw mewn nifer wahanol o feysydd gwaith yn gyffredinol, dim jyst i ymgysylltu. Maen nhw’n egwyddorion am weithio’n effeithiol. Mae copi ohonynt wedi bod yn sownd i’r wal wrth ymyl fy nesg i ers i ni argraffu nhw. Os bu’n rhaid i mi ddewis fy hoff egwyddor rwy’n meddwl byddai’n dewis rhif 9: Adborth. Ni gyd yn dioddef yr effeithiau o geisio ymgysylltu gyda phobl ar ôl iddynt gael profiad gwael o’r blaen gan fod nhw heb dderbyn adborth. Dwedwch wrth bobl beth sy’n digwydd os gwelwch yn dda- hyd yn oed (ac yn enwedig!) os yw’n newyddion drwg neu does dim newyddion o gwbl. Ni gyd yn gwybod pa mor rhwystredig / annifyr yw hi i beidio clywed unrhyw beth o gwbl. Mae hyn mor bwysig gan ei fod yn cau’r cylch ac yn paratoi’r ffordd ar gyfer ymgysylltu parhaus a sgwrsio yn y dyfodol. A dyma beth sy’n gweithio yng ngwirionedd – dim gwneud ychydig pob nawr ac yn  y man.

Fy ngobaith i yw bydd ymgysylltu â’r cyhoedd yng Nghymru (ac rwy’n teimlo y gallaf ddweud hyn gan fy mod i’n gadael) yn cael r adnoddau a chefnogaeth ar lefel genedlaethol i gael ei wneud mor effeithiol â ni’n dweud y dylai fod.

Rwy’n gadael i ddod o hyd i rôl sy’n ffitio’n well gyda fy mywyd cartref. Dydw i ddim yn siwr lle bydd y daith yn mynd â fi ar hyn o bryd, ond rwyn gobeithio parhau i weithio mewn meysydd cysylltiedig ac mae’n debyg fe wnâi eich gweld chi eto ar ryw adeg. Dewch i ddweud helo i mi ar LinkedIn.

Gwelai chi cyn bo hir, Sarah