Monthly Archives: Awst 2013

Dulliau newydd, arfer da a’r dis gwerthuso: Ein Rhwydweithiau Cyfranogaeth mis Mai

Cafodd y blog hwn ei ysgrifennu gan Dyfrig ychydig cyn iddo adael Cyfranogaeth Cymru.

Rydym bob amser yn ceisio dilyn ein pregeth ein hun – bod cyfranogaeth yn helpu i gynnal gwasanaethau sy’n cwrdd ag anghenion pobl yn well. Rhoddodd rhwydweithiau Chwefror lawer o gyfleoedd i ni ystyried sut i ddatblygu ein rhwydweithiau cyfranogaeth. Dywedodd cyfranogwyr wrthym eu bod am gael y cyfle i ddysgu mwy am ddulliau cyfranogol arloesol a hefyd y cyfle i adlewyrchu ar astudiaethau achos, gan fod y rhain yn golygu y gallai pobl weld beth sy’n gweithio mewn ardaloedd neu feysydd eraill.

Dechreuodd bob rhwydwaith gydag ymarfer torri’r garw, a ddewiswyd a’i roi ar waith gan Sarah Ball (a oedd yn anffodus ddim ar gael ar gyfer rhwydwaith y Gogledd gan ei bod yn cynorthwyo aelodau o’r Panel Dinasyddion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru i roi tystiolaeth yn y Senedd), a fydd yn cymryd fy rôl ac yn hwyluso’r rhwydweithiau yn y dyfodol.

Bingo Pobl oedd yr ymarfer torri’r garw, lle roedd rhaid i bobl rwydweithio er mwyn dod o hyd i gyfranogwyr eraill a oedd â’r nodweddion a restrwyd ar y daflen bingo a roddwyd i bawb. Roedd y cyntaf i ddod o hyd i rywun a oedd yn ateb bob un o’r nodweddion yn cael gwobr! Sef pecyn o Milky Way Magic Stars, ac roedd awydd mawr amdanynt! Yna cawsom ychydig o drafodaeth amdano – roeddwn, i ddechrau, braidd yn amheus am rai o’r pwyntiau mwy penodol ac anghyffredin (megis rhywun a siaradai iaith nad oedd yn Gymraeg nac yn Saesneg), ond teimlwyd yn gyffredinol bod y pwyntiau mwy anarferol hyn yn helpu i danio’r drafodaeth.

Yna arweiniodd ein hyfforddwraig gysylltiol Justine Scorrer sesiwn ar dechnegau cyfranogol. Fe wnaethom ddechrau gydag ymarferion torri’r garw megis Rhoi’ch Gwrthdyniad yn y Cornel a Dip Lwcus. Yna fe wnaethom roi rhai dulliau ar waith megis Pleidleisio Rhufeinig, Adeiladu Timoedd, Mae 12 Ymennydd yn Well nag 1, ac Ie ac…….. Ie, cyn gofyn i bobl Beth Ydych yn ei Feddwl o Ddifri? Yna gofynnodd Justine i gyfranogwyr adlewyrchu ar yr hyn roeddynt wedi’i ddysgu drwy Ei Hyfforddi Ymlaen (Train it Forward), a ddefnyddiwyd i werthuso’r rhan hon o’r sesiwn.

Ar ôl toriad byr, fe wnaethom edrych ar astudiaethau achos penodol. Rhoddodd Kath Cook astudiaeth achos wych yng Ngorseinon ar sut y gwnaeth Cartrefi NPT gynnwys pobl ifanc. Ar ôl i’n cyflwynydd dynnu’n ôl munud olaf, camodd Justine Scorrer i’r adwy yn y Gogledd i siarad am un o brosiectau eraill Cartrefi NPT lle roeddynt wedi ymgysylltu â thenantiaid i osod canlyniadau ar gyfer y gwasanaeth tai, ac yn y De Ddwyrain lle clywsom gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Yna fe wnaethom dorri’n grwpiau bach i glywed gan gyfranogwyr am y gwaith maent yn ei wneud, arferion da maent wedi’u gweld neu unrhyw broblemau oedd ganddynt. Clywais am waith arloesol yn y tri rhwydwaith, gan gynnwys sut y bu i Ddinas a Sir Abertawe gynnwys pobl ifanc mewn caffael, Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn defnyddio podlediadau wrth ymgysylltu, a Menter Iaith Conwy yn ymgysylltu â phobl mewn canolfan gymunedol yn y sir.

DiceYn olaf ond nid lleiaf, fe wnaethom werthuso’r rhwydwaith. Bu i ni ddefnyddio techneg o’r enw’r Dis Gwerthuso, lle mae pobl yn taflu dis ac yn rhoi adborth ar agwedd ar y rhwydwaith, gan ddibynnu ar y rhif ar y dis.

I fynd yn ôl at y paragraff cyntaf, rydym bob amser yn ceisio rhoi adborth ar waith. Ar ôl y rhwydwaith cyntaf, dywedwyd wrthym fod y dis yn rhy fach. Felly yn y cyfamser roeddem wedi archebu dis enfawr fel jôc ac er mwyn gwneud yr ymarfer yn haws ac yn fwy o hwyl hefyd!

Cynhelir y rhwydweithiau rhanbarthol nesaf ym mis Hydref a’r thema yw gwybodaeth hygyrch. Er y byddaf wedi gadael Cyfranogaeth Cymru erbyn hynny, gobeithiaf fynd iddynt er mwyn rhannu arfer da yn fy rôl nesaf gyda Chyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru, felly gobeithio y gwela’i chi bryd hynny!

Dyfrig

Advertisements

Deddfwriaeth

Fe aeth Cyfranogaeth Cymru i weithdy diweddar yn swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Yn y gweithdy hwn, edrychwyd ar amrywiol sefyllfaoedd sy’n effeithio ar bobl hŷn a sut fyddai Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant newydd Cymru yn effeithio ar eu sefyllfa, a fyddai’n ei gwella, ei gwaethygu neu ddim yn cael effaith o gwbl?

legislationRoedd y rhan fwyaf o bobl yn y gweithdy yn cytuno bod bwriadau da y tu ôl i’r Bil newydd ond pan geisiwch gymhwyso darn o ddeddfwriaeth fel hon at fywyd rhywun, mae’n anodd iawn gweld yn union sut fydd yn eu helpu.

Mae’r Bil hwn, fel sawl un arall, yn fawr iawn ac mae’r Memorandwm Esboniadol sy’n mynd gydag ef yn fwy fyth. Yn wir, dywedodd llawer o bobl y siaradais â nhw amdano ei fod wedi’u llethu (mewn mwy nag un ffordd!). Gwnaeth y gweithdy imi feddwl am ddeddfwriaeth yn ehangach ac a yw llunio deddfau yn golygu grymuso dinasyddion. Yn dechnegol, dydio ddim.

Yn hytrach, ai pwrpas deddfwriaeth yw diogelu pobl? Ar ryw ystyr: ie. Nod y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yw diogelu defnyddwyr a gofalwyr y gwasanaethau cymdeithasol, gan sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu a bod ganddynt lais. Mae deddfwriaethau eraill yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig hefyd yn bodoli er mwyn diogelu pobl a’u heiddo.

legislation 2Mae hyn yn arwain at gwestiwn athronyddol: a oes angen i ni gael ein diogelu cyn y gallwn deimlo ein bod wedi’n grymuso? A oes raid i’r diogelu yma fod yn gyfreithiol? Ynteu a ddylem ddibynnu ar synnwyr cyffredin darparwyr gwasanaethau i gynnig y gwasanaeth gofynnol ni-waeth-beth, gan ddileu’r angen am ddogfen gyfreithiol hirfaith?

Does dim un o’r bobl rydym wedi siarad â nhw erioed wedi dweud mai’r hyn mae wir arnynt ei eisiau neu ei angen yw darn newydd o ddeddfwriaeth ”.

Cytunaf yn llwyr – mae ar bobl Cymru angen mynediad at wasanaethau cyhoeddus da sy’n diwallu eu hanghenion, does dim arnynt angen deddfwriaeth i ddweud wrth ddarparwr gwasanaeth beth ddylent fod yn ei wneud beth bynnag.

Dyma ffordd syml o gyfleu’r pwynt hwn: Y rheswm dydwi ddim yn mynd allan fory a dwyn o’r banc yw gan fy mod yn credu bod dwyn yn anfoesol ac yn hunanol, nid gan fy mod am osgoi cael fy nghosbi neu gan fod yna ddeddf yn dweud na ddylwn ddwyn. Caf fy ngrymuso gan fy mhenderfyniad fy hun.

–         Sarah