Radio Caerdydd 97.8FM yw gorsaf radio gymunedol Caerdydd, sef math o wasanaeth radio sy’n darlledu y tu hwnt i wasanaeth masnachol a chyhoeddus. Mae’n darlledu cynnwys sy’n boblogaidd ac yn berthnasol i gynulleidfa leol a phenodol sy’n aml yn cael ei hesgeuluso.
Cynhelir Diverse Cardiff yn fyw bob dydd Mawrth 13:30-15:00 a gofynnwyd i Cyfranogaeth Cymru ddod i siarad ar y sioe. Roedd yn gyfle cyffrous iawn felly penderfynais wirfoddoli fy hun i’w wneud; rwy’n un dda iawn am siarad am ein gwaith felly meddyliais: pam lai?!
Wrth i mi gyrraedd y stiwdio cofiais am y cwrs hyfforddi hyder mewn digwyddiadau cyhoeddus a wnaethais y llynedd ac roedd yn sicr o gymorth ar yr achlysur yma! Cofiais yn benodol am y rhan o’r cwrs ar ddod dros ofn…
- Bydd yr ofn byth yn mynd i ffwrdd cyn belled fy mod yn parhau i dyfu
- Yr unig ffordd o gael gwared â’r ofn o wneud rhywbeth yw mynd allan a’i wneud
- Yr unig ffordd o deimlo’n well amdanaf fy hun yw mynd allan…a’i wneud
- Nid yn unig rwyf am deimlo ofn pryd bynnag rwyf ar dir anghyfarwydd, ond bydd pawb arall yn teimlo felly hefyd
- Mae bwrw drwy ofn yn llai ofnus na byw gyda’r ofn sydd dan yr wyneb o ganlyniad i deimlo’n ddi-help
(wedi’i gymryd a’i gyfieithu o Susan Jeffers ‘Feel the fear and do it anyway’)
Roeddwn, wrth gwrs, yn teimlo’r nerfau cyn dechrau siarad ond ar ôl rhai munudau dechreuais fwynhau fy hun a doeddwn i ddim eisiau stopio siarad!
Mae’r sioe yn un anffurfiol iawn, gyda llawer o sgwrsio a siarad. A hithau mor agos i Ddydd Gŵyl Dewi roedd yr holl gerddoriaeth a chwaraewyd ar y sioe gan artistiaid o Gymru, felly cefais fwynhau gwrando ar Gorky’s Zygotic Mynci a Super Furry Animals wrth i mi aros.
Dechreuais drwy gyflwyno Cyfranogaeth Cymru, pwy ydyn ni a beth rydym yn ei wneud, yna siaradais am waith rydym wedi’i wneud yn ddiweddar a gorffen drwy siarad am ffyrdd y gall pobl fanteisio ar ein gwaith, drwy fynychu ein hyfforddiant, rhwydweithiau a chymeradwyo’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd. Soniais hefyd am rai cyfleoedd lleol i bobl Caerdydd gymryd rhan, gan grybwyll gwefannau megis www.holicaerdydd.com a http://www.ygymruagarem.co.uk/
Mae Diverse Cardiff bob amser yn chwilio am westeion i siarad ar y sioe, felly os oes gennych brosiect lleol diddorol yr hoffech ei drafod yna cliciwch yma i gysylltu â Diverse Cardiff.
Dyma ychydig o gyngor i unrhyw un sy’n siarad ar y radio am y tro cyntaf:
- Rydych yn cael sgwrs gyffredinol am eich gwaith; dychmygwch y bwrdd heb y microffon.
- Siaradwch mewn iaith syml – peidiwch â defnyddio brawddegau hir na geiriau jargon a all eich achosi i faglu drostynt, ac os ydych yn baglu dros eich geiriau – dechreuwch eto – mwy na thebyg ni fydd neb yn sylwi (heblaw amdanoch chi’ch hun!)
- Cofiwch baratoi – gallech hyd yn oed ysgrifennu rhai cwestiynau yr hoffech i’r cyflwynwyr eu gofyn a’u hanfon atynt ymlaen llaw er mwyn gwybod beth sy’n dod
- Cofiwch fod amser yn ymddangos yn llawer cynt pan rydych yn siarad – efallai y bydd rhywbeth rydych yn meddwl fydd yn cymryd 2 funud i’w ddweud yn cymryd 5 munud mewn gwirionedd
Gallwch wrando ar y sioe gyfan yma neu ar gyfweliad Cyfranogaeth Cymru yn unig yma; y gwestai arall oedd Chrissie Nicholls o Gymorth i Fenywod Cymru.
– Sarah