Monthly Archives: Mehefin 2014

Ymchwil Gyfranogol gyda Gofalwyr

Ysgrifennwyd y blog gwadd hwn gan Rachel Waters o Wasanaeth Cwnsela Cymunedol Casnewydd.

USWMae Gwasanaeth Cwnsela Cymunedol Casnewydd wedi’i leoli ym Mhrifysgol De Cymru.  Mae’r gwasanaeth yn cynnig cwnsela am ddim i bobl leol ar draws Casnewydd a Chaerllion.

Mae’r Gwasanaeth Cwnsela hefyd yn cynnal ymchwil i gwnsela ac yn y blog hwn byddaf yn canolbwyntio ar ein hymchwil gyfranogol gyda gofalwyr.  Rwyf wedi edrych yn ôl ar rai agweddau heriol ar y gwaith a chynnwys ambell i air o gyngor i gynorthwyo eraill sy’n rhan o ymchwil gyfranogol.

Beth yw Ymchwil Gyfranogol?

Mae ymchwil gyfranogol yn cynnwys pobl mewn ymchwil fel cyd-ymchwilwyr nid cyfranogwyr yn unig; cyd-gynhyrchir gwybodaeth drwy gydweithio rhwng partneriaid ymchwil gymunedol, a dylai’r ymchwil arwain at weithredu er lles y gymuned dan sylw.

Mae gan ddulliau cyfranogol werth arbennig ‘sy’n cynnwys … rheoli grym â’r rheini sydd fel arfer yn destun yr ymchwil, a gweithio tuag at newid cymdeithasol graddol’ (Tîm Ymchwil Gymunedol Durham, 2011, t.4)

Canfod ein Cyd-ymchwilwyr

Ein cam cyntaf oedd cysylltu â mudiadau gofalwyr yn ardal Casnewydd.

Roedd hyn yn anodd i ddechrau – roedd llawer o fudiadau yn gefnogol ac am i ni gadw mewn cysylltiad, ond heb y capasiti i gymryd rhan.  Roedd egluro natur ymchwil gyfranogol yn anodd – gofynnwyd i mi’n aml am y cwestiynau ymchwil a’r ymrwymiad amser angenrheidiol.  Eglurais y byddai cyd-ymchwilwyr yn cytuno ar gwestiynau ymchwil a bod ymrwymiad yn hyblyg yn ôl diddordebau a chapasiti’r mudiad.  Mae’r ansicrwydd cynhenid mewn dulliau ymchwil gyfranogol yn ei gwneud yn anodd rhagweld mewn unrhyw fanylder beth fydd y prosiect yn ei gynnwys, ac mae hyn yn ei gwneud yn anos i fudiadau allu ymrwymo i gymryd rhan.

Er gwaetha’r heriau hyn, yn y pen draw llwyddon ni i ennyn diddordeb ac ymrwymiad nifer o fudiadau ac unigolion allweddol lleol a gytunodd i fod yn gyd-ymchwilwyr.

Ein cyd-ymchwilwyr

Ein cyd-ymchwilwyr yw: Fforwm Gofalwyr Casnewydd, Hafal (Casnewydd), Swyddog Datblygu Gofalwyr Cyngor Dinas Casnewydd a Thîm Adolygu Oedolion Cyngor Casnewydd.

Participatoryresearch

  • Gair o gyngor… Gall perthynas bositif sydd eisoes yn bod â mudiadau ac unigolion wneud y cam cyntaf hwn gymaint haws.
  • Gair o gyngor… Paratowch eglurhad cryno a dealladwy o ymchwil gyfranogol ond byddwch yn barod am gwestiynau ynghylch manylion y prosiect.

Y dasg nesaf oedd gweithio gyda’n gilydd i benderfynu ar ein cwestiwn ymchwil.

Penderfynu beth i’w ymchwilio

Yn ddelfrydol mewn ymchwil gyfranogol, mae cyd-ymchwilwyr cymunedol yn dewis y pwnc a’r cwestiynau ymchwil, ond roedd ein cyd-destun penodol fel gwasanaeth cwnsela mewn Prifysgol yn ei gwneud yn ofynnol i ni ganolbwyntio ar gwnsela.  Gwnaed ein cyd-ymchwilwyr yn ymwybodol o hyn o’r dechrau. 

Datgelodd adolygiad o’r Gwasanaeth Cwnsela nad oedd llawer o ofalwyr yn defnyddio ein gwasanaeth ac nad oedd y rheini a oedd yn ei defnyddio yn aros yn hir.  Roedd hyn yn peri pryder gan y gwyddem o’n cyd-ymchwilwyr ac o ymchwil fod yna lawer o ofalwyr yn yr ardal hon, y gall gofalu arwain at straen, iselder a gorbryder, ac y gall cwnsela fod o gymorth i ofalwyr.  Bu i ni rannu’r wybodaeth hon â’n cyd-ymchwilwyr a phenderfynodd y grŵp i edrych ymhellach ar yr anghysondeb hwn gan anelu at wella’r gwasanaeth y mae Gwasanaeth Cwnsela Cymunedol Casnewydd yn ei gynnig i ofalwyr a rhannu’r hyn rydym yn ei ganfod â mudiadau cwnsela eraill a mudiadau gofalwyr.

Datgelodd trafodaeth â’n cyd-ymchwilwyr fod gofalwyr yn tueddu i ganolbwyntio ar y sawl sy’n cael y gofal gan esgeuluso eu hanghenion eu hunain.  Ategwyd hyn yn y llenyddiaeth ymchwil.  Roedd y grŵp yn meddwl tybed a yw gofalwyr yn ystyried cwnsela fel ffordd o’u helpu i gynnal gofal a ddim yn llawn sylweddoli pa mor ddefnyddiol y gallai fod i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

Lluniodd y grŵp yr amcanion canlynol:

  • Canfod disgwyliadau gofalwyr o broses a chanlyniadau posib cwnsela
  • Canfod a yw gofalwyr yn ystyried y gallai cwnsela fod o gymorth iddynt, ac ym mha ffordd, yn enwedig o ran effaith gofalu ar eu lles emosiynol
  • Canfod rhwystrau sy’n atal gofalwyr rhag cael at wasanaethau cwnsela
  • Gweithio ar y cyd a, chyn belled ag sy’n ymarferol, yn gyfartal ag aelodau o’r gymuned leol

Er ei bod efallai yn ymddangos o ddarllen y crynodeb hwn i’n hamcanion ymchwil ddisgyn yn gyflym ac yn esmwyth i’w lle, mewn gwirionedd roedd proses integreiddio gwybodaeth academaidd â gwybodaeth gymunedol yn cymryd llawer o amser ac yn lletchwith.  Bu i ni adolygu’r llenyddiaeth a gwrando ar ein partneriaid cymunedol ar yr un pryd – wrth edrych yn ôl, mae’n bosib y byddai gwrando’n gyntaf ac yna adolygu’r llenyddiaeth ar y pynciau a godwyd wedi hwyluso’r broses.

  • Gair o gyngor… Ystyriwch ymlaen llaw a ydych am integreiddio gwybodaeth academaidd o’r pwnc i mewn i ddatblygiad amcanion neu gwestiynau ymchwil, ac ym mha ffordd.

Datblygu ein deunyddiau astudio

Bu i ni benderfynu fel grŵp i ddefnyddio cyfweliadau lled strwythuredig i gael gwybodaeth gan ofalwyr, gan fynd ati i gynhyrchu ein deunyddiau astudio – cyhoeddusrwydd i recriwtio cyfranogwyr, amserlen cyfweliadau, ac yn y blaen.

Yn ddelfrydol mewn ymchwil gyfranogol byddai’r holl ddeunyddiau’n cael eu cynhyrchu fel grŵp o’r dechrau, ond oherwydd pryderon pragmataidd penderfynon ni y byddai’r partneriaid academaidd yn datblygu’r deunyddiau ac y byddai’r grŵp yn eu hadolygu a’u golygu gan ddefnyddio eu profiad a’u gwybodaeth leol.

Arweiniodd y broses adolygu at sawl newid yn ein deunyddiau megis gwneud y term ‘gofalwr’ yn gliriach – dywedodd ein cyd-ymchwilwyr wrthym fod y term yn cael ei ddefnyddio’n lleol i gyfeirio at ofalwyr cyflogedig yn ogystal â’r rhai di-dâl.  Bu i ni hefyd addasu amserlen y cyfweliadau i fod yn fwy cyfleus i’r rheini sy’n gofalu am fwy nag un person – dangosodd ein cyd-ymchwilwyr fod y sefyllfa hon yn llawer mwy cyffredin nag oeddem wedi’i ragweld.

Canlyniadau Ymchwil

Un o’r agweddau pwysicaf ar ymchwil gyfranogol yw y dylai arwain at gamau positif er lles y gymuned dan sylw – yn ein hachos ni, gofalwyr yng Ngwent.  Mae pa gamau y byddwn yn eu cymryd yn dibynnu ar ganlyniadau ein hymchwil, ond mae gennym syniadau amrywiol mewn golwg gan gynnwys hyfforddiant arbenigol i gwnselwyr sy’n gweithio gyda gofalwyr a/neu gynhyrchu gwybodaeth hygyrch i ofalwyr ynglŷn â chwnsela.

Rydym wrthi’n recriwtio gofalwyr i gael eu cyfweld ar gyfer ein hymchwil.  Os gwyddech am unrhyw ofalwyr di-dâl, dros 18 oed yng Ngwent a all fod â diddordeb, anfonwch fy manylion cyswllt atynt os gwelwch yn dda:

Rachel Waters (Cynorthwyydd Ymchwil)
Gwasanaeth Cwnsela Cymunedol Casnewydd
Ffôn: 01633 435282
E-bost: Rachel.Waters2@southwales.ac.uk

Mae unrhyw farn neu safbwyntiau a gyflwynir yn y blog hwn yn eiddo i’r awdur yn unig ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli barn na safbwyntiau Prifysgol De Cymru a’r cyd-ymchwilwyr cymunedol.

Cyfeiriadau

Tîm Ymchwil Gymunedol Durham (2011) Community-based participatory research: Ethical challenges.  Ar gael ar: https://www.dur.ac.uk/resources/beacon/CCDiscussionPapertemplateCBPRBanksetal7Nov2011.pdf

(Cyrchwyd 2 Mai 2014)

Advertisements

Cydgynhyrchu ar Waith

Mae’n ymddangos bod yna gydsyniad athronyddol bod cydgynhyrchu, y syniad o fudiadau’n ystyried cymunedau a defnyddwyr gwasanaethau yn ased wrth ddarparu gwasanaethau, yn syniad da. Serch hynny prin yw’r mudiadau sydd wir yn barod i symud y tu hwnt i rethreg niwlog er mwyn gwireddu’r ideoleg hon. Efallai mai un o’r rhwystrau mwyaf yw bod unigolion o fewn mudiadau yn anghofio eu bod hwythau hefyd yn aelodau o’r cyhoedd a ddim yn rhywbeth mor ar wahân â hynny i’r bobl mae eu mudiad yn bodoli i’w gwasanaethau. Efallai’r rheswm yw nad yw mudiadau’n sylweddoli neu’n cydnabod bod defnyddiwr y gwasanaeth yn ased gwerthfawr sydd â rhywbeth i’w gyfrannu, i’w ‘roi yn ôl’ i’r mudiad sy’n ei wasanaethu. Neu efallai ei fod mor syml â hyn: mae cydgynhyrchu yn gofyn i’r rheini ar frig mudiadau sydd â’r grym i gyd ar hyn o bryd i rannu’r grym hwnnw â phobl a chymunedau. Mae hyn yn amhosib heb ymddiried ynddynt. Rhaid i’r rheini sy’n dal grym ar hyn o bryd ymddiried ddigon mewn cymunedau i ymgynghori â nhw, bod yn barod i siarad a gwrando a gwneud hynny’n onest.

Os nad ydych erioed wedi cwrdd â rhywun sy’n adfer yn agored o gaethiwed i gyffuriau neu alcohol, neu sydd wedi adfer, mae’n bosib na fyddech yn ystyried y gellid ymddiried yn y demograffig yma. Pan ddechreuais wirfoddoli i Recovery Cymru (cymuned adfer lle mae pobl yn adfer o broblemau â chyffuriau ac alcohol) fis Awst 2012, gwelais y byddai’r mudiad cyfan (yn enwedig bryd hynny, cyn iddo gael arian gan y loteri) yn disgyn yn ddarnau heb waith caled nid yn unig y ddau aelod o staff cyflogedig ond hefyd y gwirfoddolwyr eraill, y mae llawer ohonynt yn adfer neu wedi adfer o fod yn gaeth i alcohol neu gyffuriau. Ethos Recovery Cymru yw ein bod yn gymuned, ni waeth a ydych yn aelod, yn wirfoddolwr neu’n aelod o staff cyflogedig neu wedi cael problem â chaethiwed erioed ai peidio, a bod gan bob aelod o’n cymuned rywbeth i’w roi yn ogystal â rhywbeth i’w elwa o fod yn rhan ohoni. Rwyf fy hun yn teimlo’n freintiedig dros ben o fod wedi cwrdd â phobl ragorol, cryf ac ysbrydoledig drwy fy nghysylltiad â Recovery Cymru.

ImagePe baech yn cerdded mewn i adeilad Recovery Cymru neu yn wir unrhyw un o’n sesiynau neu ddigwyddiadau, ni fyddai’n amlwg ar unwaith pwy sy’n ‘ddefnyddiwr gwasanaeth’ (term na ddefnyddir o fewn Recovery Cymru, ond mae pwysigrwydd iaith yn bwnc ar gyfer blog i ddod!) a phwy sydd ddim. Mae llawer o’n haelodau sy’n ymuno i gael cymorth gyda chaethiwed hefyd yn wirfoddolwyr, felly, mae’r llinell rhwng defnyddiwr y gwasanaeth yn cymryd o’r mudiad a’r staff a’r gwirfoddolwyr yn rhoi iddynt yn aneglur ar unwaith.

Mae lefel y cyfrifoldeb y mae gwirfoddolwyr (y mae llawer ohonynt hefyd yn ‘ddefnyddwyr gwasanaeth’) yn dewis ei derbyn yn amrywio o gynorthwyo gyda thasgau gweinyddol a chadw’r adeilad yn daclus i hwyluso grwpiau megis y cyfarfod coginio wythnosol a threfnu digwyddiadau i gynrychioli Recovery Cymru mewn cynadleddau megis AWSUM. Mae pawb sy’n ‘defnyddio’ gwasanaethau Recovery Cymru hefyd yn rhoi rhywbeth yn ôl ac mae cymuned Recovery Cymru yn ffynnu oherwydd hynny.

Yn hanfodol, mae ethos cydgynhyrchu nid yn unig yn rhoi ymdeimlad o werth i unigolion sy’n aml wedi’u gwrthod mewn rhannau eraill o’u bywydau, ond hefyd yn hynod fuddiol i weithrediad Recovery Cymru. Mae’n ymddangos yn amlwg ond mewn gymaint o fudiadau anghofir mai defnyddiwr y gwasanaeth yw’r arbenigwr mewn gwirionedd ac mai eu barn nhw yw’r un bwysicaf oll. Yn Recovery Cymru y bobl hynny sy’n adfer o fod yn gaeth i gyffuriau neu alcohol yw’r arbenigwyr ac mae’r mudiad yn dibynnu ar eu gwybodaeth nid yn unig o’r broses adfer a’r llwybrau amrywiol at wellhad ond hefyd o’r materion niferus sy’n aml (ond nid bob tro) yn gysylltiedig â hanes o fod yn gaeth megis materion tai, problemau iechyd meddwl neu gorfforol ac mewn rhai achosion ceisio dod o hyd i waith ar ôl bod yn y carchar. Y bobl sy’n profi’r materion hyn, a’r rheini sydd wedi’u goresgyn, sydd yn y sefyllfa orau yn Recovery Cymru i siapio’r mudiad gan fod Recovery Cymru, wedi’r cwbl, yn bodoli (fel llawer o fudiadau) i gefnogi defnyddiwr y gwasanaeth.

Yn Recovery Cymru, gwahoddir pob aelod i gyfrannu at gyfarfod agored a gynhelir ddwywaith yr wythnos. Yma mae aelodau’n trafod pethau megis pa grwpiau newydd yr hoffent eu gweld yn cael eu cynnal – sut i sicrhau’n well fod y grwpiau’n diwallu anghenion y rheini sy’n eu defnyddio ac yna’n gofyn i’r bobl hyn beth sydd arnynt ei eisiau? Mae llawer o’r grwpiau yn cael eu hwyluso gan wirfoddolwyr – y mae rhai ohonynt yn y broses adfer. Mae aelodau hefyd yn cael dweud eu barn ar elfennau trefniadol, gan gynnwys y gallu i adolygu’r cod ymddygiad. Yn wir, pan gafodd Recovery Cymru gyllid gan y Loteri, a olygodd eu bod yn gallu recriwtio aelodau newydd o staff, roedd aelodau gwirfoddol presennol Recovery Cymru ar y panel cyfweld i holi ymgeiswyr.

Heb os byddai’n beth da pe bai mwy o fudiadau’n cydnabod defnyddwyr eu gwasanaethau fel asedau ac yn manteisio ar eu harbenigedd i wella eu gwasanaeth drwy ymddiried yn ei gilydd a chydweithio.

–          Non