Cydgynhyrchu ar Waith

Mae’n ymddangos bod yna gydsyniad athronyddol bod cydgynhyrchu, y syniad o fudiadau’n ystyried cymunedau a defnyddwyr gwasanaethau yn ased wrth ddarparu gwasanaethau, yn syniad da. Serch hynny prin yw’r mudiadau sydd wir yn barod i symud y tu hwnt i rethreg niwlog er mwyn gwireddu’r ideoleg hon. Efallai mai un o’r rhwystrau mwyaf yw bod unigolion o fewn mudiadau yn anghofio eu bod hwythau hefyd yn aelodau o’r cyhoedd a ddim yn rhywbeth mor ar wahân â hynny i’r bobl mae eu mudiad yn bodoli i’w gwasanaethau. Efallai’r rheswm yw nad yw mudiadau’n sylweddoli neu’n cydnabod bod defnyddiwr y gwasanaeth yn ased gwerthfawr sydd â rhywbeth i’w gyfrannu, i’w ‘roi yn ôl’ i’r mudiad sy’n ei wasanaethu. Neu efallai ei fod mor syml â hyn: mae cydgynhyrchu yn gofyn i’r rheini ar frig mudiadau sydd â’r grym i gyd ar hyn o bryd i rannu’r grym hwnnw â phobl a chymunedau. Mae hyn yn amhosib heb ymddiried ynddynt. Rhaid i’r rheini sy’n dal grym ar hyn o bryd ymddiried ddigon mewn cymunedau i ymgynghori â nhw, bod yn barod i siarad a gwrando a gwneud hynny’n onest.

Os nad ydych erioed wedi cwrdd â rhywun sy’n adfer yn agored o gaethiwed i gyffuriau neu alcohol, neu sydd wedi adfer, mae’n bosib na fyddech yn ystyried y gellid ymddiried yn y demograffig yma. Pan ddechreuais wirfoddoli i Recovery Cymru (cymuned adfer lle mae pobl yn adfer o broblemau â chyffuriau ac alcohol) fis Awst 2012, gwelais y byddai’r mudiad cyfan (yn enwedig bryd hynny, cyn iddo gael arian gan y loteri) yn disgyn yn ddarnau heb waith caled nid yn unig y ddau aelod o staff cyflogedig ond hefyd y gwirfoddolwyr eraill, y mae llawer ohonynt yn adfer neu wedi adfer o fod yn gaeth i alcohol neu gyffuriau. Ethos Recovery Cymru yw ein bod yn gymuned, ni waeth a ydych yn aelod, yn wirfoddolwr neu’n aelod o staff cyflogedig neu wedi cael problem â chaethiwed erioed ai peidio, a bod gan bob aelod o’n cymuned rywbeth i’w roi yn ogystal â rhywbeth i’w elwa o fod yn rhan ohoni. Rwyf fy hun yn teimlo’n freintiedig dros ben o fod wedi cwrdd â phobl ragorol, cryf ac ysbrydoledig drwy fy nghysylltiad â Recovery Cymru.

ImagePe baech yn cerdded mewn i adeilad Recovery Cymru neu yn wir unrhyw un o’n sesiynau neu ddigwyddiadau, ni fyddai’n amlwg ar unwaith pwy sy’n ‘ddefnyddiwr gwasanaeth’ (term na ddefnyddir o fewn Recovery Cymru, ond mae pwysigrwydd iaith yn bwnc ar gyfer blog i ddod!) a phwy sydd ddim. Mae llawer o’n haelodau sy’n ymuno i gael cymorth gyda chaethiwed hefyd yn wirfoddolwyr, felly, mae’r llinell rhwng defnyddiwr y gwasanaeth yn cymryd o’r mudiad a’r staff a’r gwirfoddolwyr yn rhoi iddynt yn aneglur ar unwaith.

Mae lefel y cyfrifoldeb y mae gwirfoddolwyr (y mae llawer ohonynt hefyd yn ‘ddefnyddwyr gwasanaeth’) yn dewis ei derbyn yn amrywio o gynorthwyo gyda thasgau gweinyddol a chadw’r adeilad yn daclus i hwyluso grwpiau megis y cyfarfod coginio wythnosol a threfnu digwyddiadau i gynrychioli Recovery Cymru mewn cynadleddau megis AWSUM. Mae pawb sy’n ‘defnyddio’ gwasanaethau Recovery Cymru hefyd yn rhoi rhywbeth yn ôl ac mae cymuned Recovery Cymru yn ffynnu oherwydd hynny.

Yn hanfodol, mae ethos cydgynhyrchu nid yn unig yn rhoi ymdeimlad o werth i unigolion sy’n aml wedi’u gwrthod mewn rhannau eraill o’u bywydau, ond hefyd yn hynod fuddiol i weithrediad Recovery Cymru. Mae’n ymddangos yn amlwg ond mewn gymaint o fudiadau anghofir mai defnyddiwr y gwasanaeth yw’r arbenigwr mewn gwirionedd ac mai eu barn nhw yw’r un bwysicaf oll. Yn Recovery Cymru y bobl hynny sy’n adfer o fod yn gaeth i gyffuriau neu alcohol yw’r arbenigwyr ac mae’r mudiad yn dibynnu ar eu gwybodaeth nid yn unig o’r broses adfer a’r llwybrau amrywiol at wellhad ond hefyd o’r materion niferus sy’n aml (ond nid bob tro) yn gysylltiedig â hanes o fod yn gaeth megis materion tai, problemau iechyd meddwl neu gorfforol ac mewn rhai achosion ceisio dod o hyd i waith ar ôl bod yn y carchar. Y bobl sy’n profi’r materion hyn, a’r rheini sydd wedi’u goresgyn, sydd yn y sefyllfa orau yn Recovery Cymru i siapio’r mudiad gan fod Recovery Cymru, wedi’r cwbl, yn bodoli (fel llawer o fudiadau) i gefnogi defnyddiwr y gwasanaeth.

Yn Recovery Cymru, gwahoddir pob aelod i gyfrannu at gyfarfod agored a gynhelir ddwywaith yr wythnos. Yma mae aelodau’n trafod pethau megis pa grwpiau newydd yr hoffent eu gweld yn cael eu cynnal – sut i sicrhau’n well fod y grwpiau’n diwallu anghenion y rheini sy’n eu defnyddio ac yna’n gofyn i’r bobl hyn beth sydd arnynt ei eisiau? Mae llawer o’r grwpiau yn cael eu hwyluso gan wirfoddolwyr – y mae rhai ohonynt yn y broses adfer. Mae aelodau hefyd yn cael dweud eu barn ar elfennau trefniadol, gan gynnwys y gallu i adolygu’r cod ymddygiad. Yn wir, pan gafodd Recovery Cymru gyllid gan y Loteri, a olygodd eu bod yn gallu recriwtio aelodau newydd o staff, roedd aelodau gwirfoddol presennol Recovery Cymru ar y panel cyfweld i holi ymgeiswyr.

Heb os byddai’n beth da pe bai mwy o fudiadau’n cydnabod defnyddwyr eu gwasanaethau fel asedau ac yn manteisio ar eu harbenigedd i wella eu gwasanaeth drwy ymddiried yn ei gilydd a chydweithio.

–          Non

 

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s