Yr Etholiad Cyffredinol – dweud eich dweud a mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb etholiadol

PollingStationWalesUK

Etholiadau yw’r brif ffordd i ni fynegi ein hymateb i berfformiad y llywodraeth. Offeryn cyfathrebu yw etholiad rhwng y cynrychiolwyr a ninnau: y bobl maent yn eu cynrychioli.

Yn ôl pob golwg, mae pleidleiswyr yn cael y llywodraeth maent yn ei haeddu. Awgryma hyn, os bydd yr etholwyr yn mynd ati i bleidleisio ar ddiwrnod y bleidlais, y byddwn yn cael llywodraeth sy’n wirioneddol gynrychioli ei phobl ond bydd y mwyafrif ohonom yn dadlau nad yw’r llywodraeth glymblaid bresennol yn cyd-fynd â’r ddadl honno. Dim ond 65.1% o’r etholwyr a bleidleisiodd yn etholiad cyffredinol 2010 ac mae’n weddol amlwg y gallai’r canlyniad fod wedi bod yn holl wahanol pe bai mwy o bobl wedi pleidleisio.

Heb os mae ein cyfranogiad mewn etholiadau yn gyfrifoldeb pwysig ac yn symbol arwyddocaol o’n democratiaeth a’n cyfranogiad mewn materion cyhoeddus.

Efallai fod nodi’ch ‘X’ ar y papur pleidleisio yn ymddangos yn beth bach i’w wneud, gallwn ni wrth gwrs gyfranogi mewn gwleidyddiaeth a gwasanaethau cyhoeddus mewn sawl ffordd wahanol ac nid yn unig adeg etholiad. Ond, mae’r hawl i bleidleisio (y mae pobl wedi brwydro a marw drosti) yn symboleiddio democratiaeth a diwylliant teg a chredaf ei bod yn ddyletswydd i ni’n hunain i gyfrannu ein llais at y broses hon.

Mae’r ffordd y mae ymgeiswyr yn ymgyrchu ac yn cyfathrebu â ni wedi newid yn syfrdanol. Mae hysbysebu gwleidyddol y telir amdano wedi’i wahardd ar deledu a radio yn y Deyrnas Unedig, felly, mewn ymgyrch etholiadol nodweddiadol (yn fy meddwl i) bydd ymgeiswyr gobeithiol yn cnocio ar ddrysau ac yn ysgwyd llaw â phobl wrth wisgo rhoséd liwgar yn falch a llenwi ein blwch llythyrau â phamffledi sgleiniog yn dweud wrtha’i bod “yr ymgeisydd arall eisiau gwerthu’r GIG” neu “pleidleisia drosto ef a bydd yn dyblu dy drethi”.

Gan fod technoleg fodern mor gyffredin ac ar gael yn eang, mae cyfathrebu digidol a’r cyfryngau cymdeithasol wrth wraidd ymgyrchoedd yr etholiad cyffredinol eleni.

Gan fod talu am hysbysebion ar y teledu wedi’i wahardd, mae ymgeiswyr yn cael talu am hysbysebion a fideos gwleidyddol arlein drwy’r cyfryngau cymdeithasol, gyda’r potensial i gyrraedd miliynau o bobl ac nid yw Ofcom yn rheoleiddio’r hyn a gyhoeddir ar y llwyfannau yma. Mae hyn yn gyfle am sgyrsiau llawer ehangach a mwy dilys, diffuant a gonest rhwng yr ymgeiswyr a’r pleidleiswyr. Mae gan Facebook hyd yn oed ei restr wirio ei hun ar gyfer ymgeiswyr gwleidyddol i’w defnyddio wrth gyhoeddi diweddariadau – ond a ydynt yn defnyddio hyn i’w botensial llawn?

Esblygiad llwyfannau cymdeithasol rhwng 2010 a 2015

5 mlynedd yn ôl, roedd y pleidiau gwleidyddol yn eu lansio eu hunain o’r newydd ar Facebook, gan annog arweinwyr eu pleidiau i fynd arlein a sicrhau bod ganddynt ryw fath o ‘bresenoldeb’. Nawr yn 2015 mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi esblygu gymaint yn y 5 mlynedd diwethaf ynghyd â’r ffordd rydym yn eu defnyddio.

Dylai ymgeiswyr a phleidiau lleol bellach fod yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn llwyfan i gael sgyrsiau gwirioneddol a chysylltu â phobl fel bod eu presenoldeb arlein yn teimlo’n ddiffuant ac yn llai fel pe na baent ond yn defnyddio offeryn newydd a ffasiynol.

Yn draddodiadol mae gwleidyddion yn defnyddio eu proffil cyhoeddus i gyfleu eu neges a rhoi gwybod i’r cyhoedd beth maent yn addo ei newid os caent eu hethol. Mae ymgeiswyr bellach hefyd yn defnyddio’r llwyfan i holi pobl am eu barn.

Cynulleidfaoedd cudd a’r gallu i ddylanwadu

Mae nifer y bobl sydd wedi hoffi tudalen Facebook ymgeisydd yn amherthnasol pan fo algorithm enfawr Facebook yn galluogi i ddiddordebau rwydweithio a chysylltu â’i gilydd; mae’r hyn sy’n ymddangos ar eu ffrwd newyddion yn dylanwadu ar ffrindiau i ffrindiau i ffrindiau.

Yn amlwg mae rhai cynulleidfaoedd yn llawer llai ymatebol i’r dull ymgyrchu hwn. Dyw rhai pobl ddim yn defnyddio’r we o gwbl er enghraifft: newyddion ar y teledu a phapurau newydd yw’r ffynonellau newyddion pwysicaf i rai cynulleidfaoedd o hyd.

Dyw rôl y rhwydweithiau cymdeithasol tuag at gynyddu cyfranogiad etholiadol ddim mor syml ag y mae’n ei ymddangos a dyw ‘ei wneud yn iawn’ byth yn wyddor fanwl. Wrth bori drwy dudalennau Facebook a Twitter rhai ymgeiswyr – caf fy synnu nad yw’r rhan fwyaf o ddiweddariadau ond yn tynnu sylw at y gwendidau ym mholisïau’r gwrthwynebiad, felly, gellid methu’r potensial am ymgyrch a sgyrsiau positif!

Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb etholiadol

Mae’r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus (IPPR) wedi lansio adroddiad yn ddiweddar yn awgrymu y dylai pleidleisio fod yn orfodol yn yr etholiad cyntaf ar ôl i rywun droi’n 18. Mae’n gywir wrth ddweud bod gan ‘y dosbarth gweithiol a’r ieuenctid lai o fewnbwn i brosesau penderfynu gwleidyddol’ o’u cymharu â grwpiau hŷn a mwy cefnog o bobl ac mae’n awgrymu mai gorfodi cyfranogiad yw’r ateb i’r anghydraddoldeb hwn.

Y brif drafferth â hyn yw na allwch chi orfodi pobl i gymryd diddordeb; ni allwch orfodi pobl i deimlo’n gryf am rywbeth os nad ydynt. Ni fyddai pleidleisio gorfodol yn ddim byd mwy na rhith-ddemocratiaeth – sut allai fod yn ddemocrataidd os yw’n orfodol? Ni allai fod! Pe bai pleidleisio gorfodol yn cael ei gyflwyno ni allaf lai na dychmygu cynnydd yn nifer y papurau pleidleisio a ddifethir neu bobl yn cael eu gorfodi i bleidleisio dros rywbeth heb lawer o wybodaeth gan arwain at system sydd hyn yn oed yn llai cynrychiadol nag ydyw nawr.

Siawns hefyd ei bod hi dal yn bwysig monitro unrhyw ddiffyg diddordeb ac anfodlonrwydd. Mae yna sawl rheswm cyfiawnadwy dros ddewis peidio â phleidleisio; efallai fod rhywun yn teimlo nad yw wedi cael digon o wybodaeth, neu nad yw dim un o’r ymgeiswyr na’r pleidiau yn cynrychioli ei farn a does gan rai pobl yn syml ddim diddordeb. Mae’n bwysig monitro diffyg pleidleisio mewn etholiadau a darganfod pam mae hyn yn digwydd yn lle gorfodi pawb i gyfranogi.

Yr ail Egwyddor yn yr Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yw “Annog a galluogi pawb a effeithir i gymryd rhan, os ydynt yn dewis hynny.” Mae’r pum gair olaf hyn yn ganolog i’r broses ymgysylltu – rhoi’r dewis i bobl gymryd rhan.

Fe fyddaf i yn pleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol oherwydd fy mod yn dymuno gwneud a fy newis i ydyw, fel y dywedais yn barod rwy’n teimlo ei bod yn ddyletswydd arnaf i gymryd rhan ond rwy’n parchu ac yn deall barn y rheini nad ydynt yn dymuno pleidleisio. Ni ddylid gorfodi neb i gymryd rhan mewn democratiaeth – byddai hynny’n gwrth-ddweud ei hun!

Felly, mae cymryd rhan mewn etholiadau yn gyfrifoldeb pwysig ond nid ein pleidlais yw ein hunig lais nac ein hunig gyfle i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Mae hawl gan bawb i gael eu clywed ac mae angen i’r rheini mewn grym wrando arnon ni, ym mha bynnag ffordd rydym yn dewis cael ein clywed.

– Sarah

Os ydych yn 16 neu’n 17 mlwydd oed – ni allwch bleidleisio y tro hwn ond gallwch dal gofrestru. Cynhelir etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru fis Mai 2016.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s