Category Archives: Blog gwadd

Gwneud i ddysgu gweithredol lwyddo!

Wedi’i ail-flogio o WCVA

Action Learning

Ynogystal â hyfforddiant a chymorth pwrpasol mae Gwasanaeth Cefnogi Cymunedau ynGyntaf yn cynnig y cyfle i nifer cynyddol o bobl yng ngweithlu CyG ddysgu oddi wrth ei gilydd drwy ein Grwpiau Dysgu trwy Ganlyniadau (Outcome Learning Groups – OLGA). Mae’r rhain wedi’u seilio ar fethodoleg Dysgu Gweithredol. Yma, mae Jane Lewes o The Learning Consultancy, sy’n gweithio gyda Gwasanaeth Cefnogi CyG i ddatblygu’r fframwaith ar gyfer y dysgu yma ymysg cymheiriaid, yn egluro ‘rheolau’ Dysgu Gweithredol.

Mae Dysgu Gweithredol yn cael ei ddefnyddio’n fwyfwy aml fel ffordd o helpu grwpiau cymunedol i weithio drwy rai o’r materion y mae’n rhaid iddynt fynd i’r afael â nhw bob dydd. Gall y mathau o faterion neu “broblemau dyrys” gynnwys bron â bod unrhyw beth; gallant fod yn niwsans, yn rhwystredig neu hyd yn oed achosi gofid gwirioneddol. Beth bynnag fo natur y broblem, un nodwedd maent i gyd yn ei rhannu yw y bydd pobl eraill bron yn sicr wedi cael yr un broblem, neu un debyg.

Felly, sut mae Dysgu Gweithredol yn helpu i ddatrys problemau a thorri drwy rwystrau?

Mae techneg Dysgu Gweithredol yn hynod o syml ac yn ffordd effeithiol o gefnogi unigolyn i weithio drwy broblem go iawn a chyfredol, gan arwain at ddealltwriaeth newydd ac, yn y pen draw, atebion.  Mae’r dechneg yn syml gan mai’r cwbl sydd ei angen yw grŵp o bobl (tua 6-8) sy’n cytuno i ddilyn yr ychydig “reolau” hanfodol, sef:

Ymddiried. Pan fo grŵp o gydweithwyr yn cytuno i gwrdd fel Set Dysgu Gweithredol, mae angen sail gryf o ymddiried – ymddiried yn ei gilydd ac ymddiried yn y broses.  Un o gonglfeini ymddiried yw’r ymrwymiad i gyfrinachedd.  Bydd diffyg ymddiried bron yn sicr yn achosi i’r Set ymffrwydro a gallai arwain ar niwed pellach.

Eglurder Rol. Ceir 3 rôl mewn sefyllfa Dysgu Gweithredol:

  • Y Cyflwynydd – yr unigolyn sy’n rhannu ei fater neu ei broblem
  • Y Cefnogwyr – yr aelodau eraill o’r Set sy’n gwrando’n astud ac yn gofyn cwestiynau treiddgar a grymus ynglŷn ag agweddau ar y mater
  • Yr Hwylusydd – yr unigolyn sy’n gweithredu fel “dyfarnwr mwyn”, gan sicrhau bod y Set gyfan yn cadw at reolau’r broses

Y broses. Bydd Set Dysgu Gweithredol nodweddiadol yn mynd rhywbeth fel hyn:

  • Mae’r Set yn cwrdd mewn lleoliad lle mae preifatrwydd wedi’i sicrhau;
  • Mae’r Hwylusydd yn atgoffa’r Set o’r “rheolau cyfranogi”, rheoli amser, ymrwymiad i gyfrinachedd, yr angen i wrando ag empathi, ymatal rhag beirniadu a chanolbwyntio’n llwyr ar y Cyflwynydd;
  • Mae’r Cefnogwyr yn gwrando – gwrando i ddeall, nid i ymateb;
  • Mae’r Cyflwynydd yn siarad am oddeutu 6-10 munud;
  • Mae’r Hwylusydd yn agor y llawr i’r Cefnogwyr ofyn cwestiynau i’r Cyflwynydd, ond NID i roi cyngor na chynnig atebion posib!
  • Pan fo’r cwestiynau wedi dod i ben, mae’r Cyflwynydd yn crynhoi’r sefyllfa, yn enwi unrhyw ddealltwriaeth newydd ac unrhyw gamau y bydd yn eu cymryd cyn y sesiwn nesaf;
  • Daw’r sesiwn i ben gyda’r Hwylusydd yn gwerthuso effeithiolrwydd cyffredinol y sesiwn;
  • Bydd hyd ysesiwn yn amrywio, gan ddibynnu ar gytundeb ymysg y Set

Ansawdd y cwestiynau. Mae’r gallu i ofyn cwestiynau grymus yn hanfodol i Set Dysgu Gweithredol lwyddo. Dylid gofyn cwestiynau sy’n helpu’r Cyflwynydd i ganfod rhyw agwedd neu ongl newydd – rhywbeth nad oedd wedi’i daro o’r blaen.  Dylai cwestiynau fod yn agored a chanolbwyntio ar y pethau positif, gyda’r rhagdybiaeth ddealledig FOD yna ateb i’r broblem.  Ansawdd cwestiynau’r Cefnogwyr yw’r allwedd i Set Dysgu Gweithredol effeithiol.

Canlyniadau.  Prif nod Dysgu Gweithredol yw helpu unigolion i ganfod camau y gallant eu cymryd i ddatrys problem neu adfer sefyllfa.  Dylai pob sesiwn ddechrau gyda diweddariad gan y Cyflwynydd blaenorol, gan rannu beth sydd wedi digwydd o ganlyniad i’r camau yr ymrwymodd iddynt yn y sesiwn flaenorol.  Mae clywed am ganlyniadau positif yn rhoi hwb gwirioneddol i ddynameg y Set.

Cymhelliant. Pan fo Set Dysgu yn cwrdd y tro cyntaf, mae’r aelodau yn cytuno i ymrwymo i broses bendant – presenoldeb rheolaidd, cadw at y broses, ymrwymo’n llwyr, cyfrinachedd ac yn y blaen.  Wrth i amser fynd ymlaen, os yw unigolion yn anwybyddu’r ymrwymiadau hyn bydd lefel y cymhelliant yn gostwng a bydd y Set yn colli ei heffeithiolrwydd. Mae cymhelliant i gyfranogi yn hanfodol gan ei fod yn gweithredu fel sbardun sy’n cynnau egni i “danio ac ysbrydoli” gwaith y Set.

Dyma’r hyn y mae ambell i aelod o grwpiau OLGA wedi’i ddweud am eu profiadau cyntaf o Ddysgu Gweithredol:

“Rhoddodd ysgogiad i ni feddwl a’m gorfodi i edrych yn fanwl arna’i fy hun a’r Rheolwyr Clystyrau eraill. Gwnaeth i mi hefyd deimlo’n bryderus amdanon ni gyd – braidd yn ddychrynllyd decini. Roedd hi fel pe bai rhywun newydd roi’r golau ymlaen wrth sylweddoli bod gynnon ni’r un pryderon a phroblemau i ddelio gyda nhw. Dyma rywbeth y gallwn ni nawr weithio arno i lwyddo a chefnogi ein gilydd gydag ef.”

“Yr hyn rwyf wedi’i ddysgu o’r sesiwn yw edrych am y pethau positif mewn unrhyw sefyllfa gan y gallwch bron bob tro ddod o hyd i rywbeth positif i adeiladu arno.”

“Roeddwn yn meddwl bod y prynhawn cyfan yn ardderchog. Wyddwn i ddim beth i’w ddisgwyl, ond roedd fy mhrofiad cyntaf o set ddysgu dan arweiniad yr hwylusydd yn werth chweil ac mae’r pynciau a gododd y set wedi aros gyda mi ers hynny ac rwyf wedi treulio peth amser yn rhoi sylw iddynt. Rwyf wedi fy nghael fy hun yn myfyrio ar y profiad cyfan yn yr wythnosau sydd eisoes wedi pasio ac rwy’n edrych ymlaen at yr un nesaf.“

Os hoffech ddysgu mwy am y ffordd y gall Dysgu Gweithredol fod o gymorth yn eich rôl chi fel aelod o grŵp OLGA, cysylltwch â Gwasanaeth Cefnogi CyG drwy ebostio help@wcva.org.uk neu ffonio 0800 587 8898.

Mae Cyfranogaeth Cymru yn cynnig gwasanaeth hwyluso ar gyfer setiau dysgu gweithredol sy’n helpu i sefydlu set a hwyluso cyfarfodydd cychwynnol yn ogystal â monitro a gwerthuso dysgu gweithredol. Hoffech chi wella eich dysgu drwy fyfyrio ar faterion gwaith cyfredol gyda chydweithwyr? Ewch i’n gwefan am fwy o wybodaeth.

Advertisements

Ymchwil Gyfranogol gyda Gofalwyr

Ysgrifennwyd y blog gwadd hwn gan Rachel Waters o Wasanaeth Cwnsela Cymunedol Casnewydd.

USWMae Gwasanaeth Cwnsela Cymunedol Casnewydd wedi’i leoli ym Mhrifysgol De Cymru.  Mae’r gwasanaeth yn cynnig cwnsela am ddim i bobl leol ar draws Casnewydd a Chaerllion.

Mae’r Gwasanaeth Cwnsela hefyd yn cynnal ymchwil i gwnsela ac yn y blog hwn byddaf yn canolbwyntio ar ein hymchwil gyfranogol gyda gofalwyr.  Rwyf wedi edrych yn ôl ar rai agweddau heriol ar y gwaith a chynnwys ambell i air o gyngor i gynorthwyo eraill sy’n rhan o ymchwil gyfranogol.

Beth yw Ymchwil Gyfranogol?

Mae ymchwil gyfranogol yn cynnwys pobl mewn ymchwil fel cyd-ymchwilwyr nid cyfranogwyr yn unig; cyd-gynhyrchir gwybodaeth drwy gydweithio rhwng partneriaid ymchwil gymunedol, a dylai’r ymchwil arwain at weithredu er lles y gymuned dan sylw.

Mae gan ddulliau cyfranogol werth arbennig ‘sy’n cynnwys … rheoli grym â’r rheini sydd fel arfer yn destun yr ymchwil, a gweithio tuag at newid cymdeithasol graddol’ (Tîm Ymchwil Gymunedol Durham, 2011, t.4)

Canfod ein Cyd-ymchwilwyr

Ein cam cyntaf oedd cysylltu â mudiadau gofalwyr yn ardal Casnewydd.

Roedd hyn yn anodd i ddechrau – roedd llawer o fudiadau yn gefnogol ac am i ni gadw mewn cysylltiad, ond heb y capasiti i gymryd rhan.  Roedd egluro natur ymchwil gyfranogol yn anodd – gofynnwyd i mi’n aml am y cwestiynau ymchwil a’r ymrwymiad amser angenrheidiol.  Eglurais y byddai cyd-ymchwilwyr yn cytuno ar gwestiynau ymchwil a bod ymrwymiad yn hyblyg yn ôl diddordebau a chapasiti’r mudiad.  Mae’r ansicrwydd cynhenid mewn dulliau ymchwil gyfranogol yn ei gwneud yn anodd rhagweld mewn unrhyw fanylder beth fydd y prosiect yn ei gynnwys, ac mae hyn yn ei gwneud yn anos i fudiadau allu ymrwymo i gymryd rhan.

Er gwaetha’r heriau hyn, yn y pen draw llwyddon ni i ennyn diddordeb ac ymrwymiad nifer o fudiadau ac unigolion allweddol lleol a gytunodd i fod yn gyd-ymchwilwyr.

Ein cyd-ymchwilwyr

Ein cyd-ymchwilwyr yw: Fforwm Gofalwyr Casnewydd, Hafal (Casnewydd), Swyddog Datblygu Gofalwyr Cyngor Dinas Casnewydd a Thîm Adolygu Oedolion Cyngor Casnewydd.

Participatoryresearch

  • Gair o gyngor… Gall perthynas bositif sydd eisoes yn bod â mudiadau ac unigolion wneud y cam cyntaf hwn gymaint haws.
  • Gair o gyngor… Paratowch eglurhad cryno a dealladwy o ymchwil gyfranogol ond byddwch yn barod am gwestiynau ynghylch manylion y prosiect.

Y dasg nesaf oedd gweithio gyda’n gilydd i benderfynu ar ein cwestiwn ymchwil.

Penderfynu beth i’w ymchwilio

Yn ddelfrydol mewn ymchwil gyfranogol, mae cyd-ymchwilwyr cymunedol yn dewis y pwnc a’r cwestiynau ymchwil, ond roedd ein cyd-destun penodol fel gwasanaeth cwnsela mewn Prifysgol yn ei gwneud yn ofynnol i ni ganolbwyntio ar gwnsela.  Gwnaed ein cyd-ymchwilwyr yn ymwybodol o hyn o’r dechrau. 

Datgelodd adolygiad o’r Gwasanaeth Cwnsela nad oedd llawer o ofalwyr yn defnyddio ein gwasanaeth ac nad oedd y rheini a oedd yn ei defnyddio yn aros yn hir.  Roedd hyn yn peri pryder gan y gwyddem o’n cyd-ymchwilwyr ac o ymchwil fod yna lawer o ofalwyr yn yr ardal hon, y gall gofalu arwain at straen, iselder a gorbryder, ac y gall cwnsela fod o gymorth i ofalwyr.  Bu i ni rannu’r wybodaeth hon â’n cyd-ymchwilwyr a phenderfynodd y grŵp i edrych ymhellach ar yr anghysondeb hwn gan anelu at wella’r gwasanaeth y mae Gwasanaeth Cwnsela Cymunedol Casnewydd yn ei gynnig i ofalwyr a rhannu’r hyn rydym yn ei ganfod â mudiadau cwnsela eraill a mudiadau gofalwyr.

Datgelodd trafodaeth â’n cyd-ymchwilwyr fod gofalwyr yn tueddu i ganolbwyntio ar y sawl sy’n cael y gofal gan esgeuluso eu hanghenion eu hunain.  Ategwyd hyn yn y llenyddiaeth ymchwil.  Roedd y grŵp yn meddwl tybed a yw gofalwyr yn ystyried cwnsela fel ffordd o’u helpu i gynnal gofal a ddim yn llawn sylweddoli pa mor ddefnyddiol y gallai fod i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

Lluniodd y grŵp yr amcanion canlynol:

  • Canfod disgwyliadau gofalwyr o broses a chanlyniadau posib cwnsela
  • Canfod a yw gofalwyr yn ystyried y gallai cwnsela fod o gymorth iddynt, ac ym mha ffordd, yn enwedig o ran effaith gofalu ar eu lles emosiynol
  • Canfod rhwystrau sy’n atal gofalwyr rhag cael at wasanaethau cwnsela
  • Gweithio ar y cyd a, chyn belled ag sy’n ymarferol, yn gyfartal ag aelodau o’r gymuned leol

Er ei bod efallai yn ymddangos o ddarllen y crynodeb hwn i’n hamcanion ymchwil ddisgyn yn gyflym ac yn esmwyth i’w lle, mewn gwirionedd roedd proses integreiddio gwybodaeth academaidd â gwybodaeth gymunedol yn cymryd llawer o amser ac yn lletchwith.  Bu i ni adolygu’r llenyddiaeth a gwrando ar ein partneriaid cymunedol ar yr un pryd – wrth edrych yn ôl, mae’n bosib y byddai gwrando’n gyntaf ac yna adolygu’r llenyddiaeth ar y pynciau a godwyd wedi hwyluso’r broses.

  • Gair o gyngor… Ystyriwch ymlaen llaw a ydych am integreiddio gwybodaeth academaidd o’r pwnc i mewn i ddatblygiad amcanion neu gwestiynau ymchwil, ac ym mha ffordd.

Datblygu ein deunyddiau astudio

Bu i ni benderfynu fel grŵp i ddefnyddio cyfweliadau lled strwythuredig i gael gwybodaeth gan ofalwyr, gan fynd ati i gynhyrchu ein deunyddiau astudio – cyhoeddusrwydd i recriwtio cyfranogwyr, amserlen cyfweliadau, ac yn y blaen.

Yn ddelfrydol mewn ymchwil gyfranogol byddai’r holl ddeunyddiau’n cael eu cynhyrchu fel grŵp o’r dechrau, ond oherwydd pryderon pragmataidd penderfynon ni y byddai’r partneriaid academaidd yn datblygu’r deunyddiau ac y byddai’r grŵp yn eu hadolygu a’u golygu gan ddefnyddio eu profiad a’u gwybodaeth leol.

Arweiniodd y broses adolygu at sawl newid yn ein deunyddiau megis gwneud y term ‘gofalwr’ yn gliriach – dywedodd ein cyd-ymchwilwyr wrthym fod y term yn cael ei ddefnyddio’n lleol i gyfeirio at ofalwyr cyflogedig yn ogystal â’r rhai di-dâl.  Bu i ni hefyd addasu amserlen y cyfweliadau i fod yn fwy cyfleus i’r rheini sy’n gofalu am fwy nag un person – dangosodd ein cyd-ymchwilwyr fod y sefyllfa hon yn llawer mwy cyffredin nag oeddem wedi’i ragweld.

Canlyniadau Ymchwil

Un o’r agweddau pwysicaf ar ymchwil gyfranogol yw y dylai arwain at gamau positif er lles y gymuned dan sylw – yn ein hachos ni, gofalwyr yng Ngwent.  Mae pa gamau y byddwn yn eu cymryd yn dibynnu ar ganlyniadau ein hymchwil, ond mae gennym syniadau amrywiol mewn golwg gan gynnwys hyfforddiant arbenigol i gwnselwyr sy’n gweithio gyda gofalwyr a/neu gynhyrchu gwybodaeth hygyrch i ofalwyr ynglŷn â chwnsela.

Rydym wrthi’n recriwtio gofalwyr i gael eu cyfweld ar gyfer ein hymchwil.  Os gwyddech am unrhyw ofalwyr di-dâl, dros 18 oed yng Ngwent a all fod â diddordeb, anfonwch fy manylion cyswllt atynt os gwelwch yn dda:

Rachel Waters (Cynorthwyydd Ymchwil)
Gwasanaeth Cwnsela Cymunedol Casnewydd
Ffôn: 01633 435282
E-bost: Rachel.Waters2@southwales.ac.uk

Mae unrhyw farn neu safbwyntiau a gyflwynir yn y blog hwn yn eiddo i’r awdur yn unig ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli barn na safbwyntiau Prifysgol De Cymru a’r cyd-ymchwilwyr cymunedol.

Cyfeiriadau

Tîm Ymchwil Gymunedol Durham (2011) Community-based participatory research: Ethical challenges.  Ar gael ar: https://www.dur.ac.uk/resources/beacon/CCDiscussionPapertemplateCBPRBanksetal7Nov2011.pdf

(Cyrchwyd 2 Mai 2014)

Newid sianeli: Gwneud y defnydd gorau o sianeli cyfathrebu gyda dinasyddion

Dyma blog gwadd cyntaf Cyfranogaeth Cymru, sydd wedi cael ei chyflwyno gan Tanwen Berrington. Os hoffech chi gyfrannu i’r blog yma, e-bostiwch participationcymru@wcva.org.uk.

Fforwm Gwasanaethau Cwsmeriaid y Sector Cyhoeddus

Ar ddiwedd mis Chwefror fe es i i gynhadledd a gafodd ei drefnu gan PSCSF gyda’r teitl cywrain o ‘Strategaethau aml-sianel i gysylltu â’r cwsmer a newid sianeli i’r sector cyhoeddus’. Roeddwn i wedi fy amgylchynu gan arbenigwyr mewn gwasanaethau cwsmer yn y sector cyhoeddus a hefyd cwmnïau o’r sector cyhoeddus ag oedd yn noddi’r digwyddiad. Dydw i ddim yn arbenigwr yn yr ardaloedd yma, ac rwy’n dychmygu ni fydd llawer o ddarllenwyr chwaith.

Fodd bynnag, cefais sioc ar yr ochr orau ynglŷn â sut mae’r cysyniad ehangach o ymgysylltiad cyhoeddus wedi dod yn ystyriaeth allweddol ar gyfer y ddau sector yma; mae ymgysylltiad cyhoeddus yn werth lot o arian y dyddiau yma.

Roedd yna ystod eang o gyflwyniadau, gan gynnwys siaradwyr o awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, a chwmnïau sector preifat sy’n arbenigo mewn cyfathrebu â chwsmeriaid yn gymdeithasol, ar-lein ac yn electronig (er doedd dim siwd gymaint o’r olaf i droi’r gynhadledd yn ddigwyddiad o werthu).

Fe wnaeth y rhain i gyd ffocysu ar ddefnyddio sianeli i gysylltu â chwsmeriaid, ac i wneud y gorau o’r sianeli yma. Roedd rhai’n ffocysu ar y dechnoleg sydd ar gael i reoli eich ymgysylltiad cyhoeddus, ac roedd pawb yn ymddiddori mewn darparu gwasanaeth gwell i gwsmeriaid drwy wella cyfathrebu ac ymgysylltu.

I ni’r lleyg-bobl, efallai roedd rhai o’r cyflwyniadau arbenigol ar ganolfannau cyswllt i gwsmeriaid ychydig dros ein pennau. I mi, roedd y cyflwyniad gan Sarah Barrow o Gyngor Bwrdeistref Wokingham ar ddewis sianeli cyfathrebu priodol a Leon Stafford o LiveOps ar ‘grymuso eich asiantau i wneud ymgysylltu ymreolaethol’ yn ddiddorol.

Beth wnes i ddysgu?

  • I fy nealltwriaeth i, nid dim ond achos o symud eich dinasyddion i gyfryngau cymdeithasol ac ar-lein yw newid sianeli; wedi’r cwbl, mae hyn ychydig yn unbenaethol! Yn hytrach mae fe amdano ymgysylltu â dinasyddion yn y ffordd fwyaf priodol. Mae hwn yn meddwl symud rhwng cyfryngau gwahanol yn dibynnu ar natur y gwasanaeth a’r cyfrwng mae’r dinesydd yn gyfforddus yn defnyddio, neu sy’n defnyddio mewn ei bywyd pob dydd. Felly efallai byddai cwsmer sy’n cwyno am wasanaeth ar Drydar yn gwerthfawrogi ymateb unionsyth trwy drafodaeth gwe (sy’n dod gyda’r bonws ychwanegol o breifatrwydd).
  • Dyw hi ddim o reidrwydd yn arfer da i ddefnyddio eich cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein i ddarlledu gwybodaeth yn unig. Er enghraifft gall Trydar bod yn ddefnyddiol i ddarlledu diweddariadau traffig, ond mae fe hefyd yn ffordd rad a rhwydd i wrando ar eich dinasyddion. Gallwch ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg fel ‘rhwydwaith synhwyro dynol’ (cysyniad neis a gafodd ei defnyddio gan Dave Snowden) i sicrhau’r tymheredd ac i ddod yn ymwybodol o faterion lleol sy’n ffynhonnell o gwynion neu glod. Pam trefnu ymgynghoriadau afreolaidd ac anaml pan mae ganddo’ch dolen adborth rheolaidd yn barod?
  • Gallwch roi’r rhwydweithiau yma ‘ar waith’. Roedd yna enghraifft grêt o rwydwaith o gerddwyr cŵn ym Mwrdeistref Wokingham; pan mae ci yn cael ei cholli, mae’r cyngor yn anfon neges testun i aelodau’r rhwydwaith, sydd wedyn yn troi mewn i ymarfer ‘chwilio ac achub’ sy’n amgylchynu’r fwrdeistref gyfan (er mae rhaid i mi ddweud fy mod i’n ‘person ci’).

Beth mae hwn yn meddwl?

  • Yn aml mae llawer o fudiadau wedi setio eu sianeli ymgysylltu i fyny yn barod. Felly does dim rhaid i chi ail-ddyfeisio’r olwyn, dim ond gwneud y defnydd gorau o beth rydych chi gyda’n barod.
  • Mewn gwirionedd gall hyn bod mor syml a thalu sylw i beth mae’ch dinasyddion yn dweud!
  • Neu reoli eich sianeli fel bod eich negeseuon wedi’u cydlynu. Bydd dinasyddion yn teimlo fel gallan nhw gysylltu gyda chi mewn unrhyw ddull maen nhw’n teimlo’n gyfforddus heb gael eu colli yn y system.

– Tanwen Berrington
Gweithio i wella’r sector cyhoeddus. Dyma farn fi fy hun.