Category Archives: Uncategorized

Mae blog Participation Cymru bellach wedi symud!

Ewch i http://participation.cymru/cy/blog i ddarllen ein blogiau diweddaraf.

Os oeddech wedi tanysgrifio – peidiwch â phoeni, rydym wedi symud eich tanysgrifiad drosodd i’n gwefan newydd.

Diolch

Advertisements

Meddwl yn fyd-eang, gweithredu’n lleol

Mae “meddwl yn fyd-eang a gweithredu’n lleol” yr un mor berthnasol heddiw ag erioed. Mae’r syniad hwn yn ein hannog i ystyried cyflwr y byd cyfan, ond i fynd ati i weithredu yn ein cymunedau, ein broydd a’n dinasoedd ein hunain. Mae’n rhan o’r natur ddynol i warchod yr amgylchedd rydym yn byw ynddo – gall ymdrechion grwpiau bach o bobl ar lawr gwlad gael effaith enfawr ar ein cymuned leol a’n hamgylchfyd ehangach.

cynnalcymruRoeddwn yn ddiweddar yn nigwyddiad lansio Cronfa Cynnal Cymru a gynhaliwyd gan Cynnal Cymru yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, lle’r oedd yna siaradwyr rhagorol yn cynrychioli mudiadau lleol megis Cyngor Celfyddydau Cymru ac NSA Afan, yn ogystal â diwydiannau byd-eang megis Coca Cola Enterprises. Mae gan y mudiadau hyn weithgareddau gwahanol iawn ond roedd y neges yn glir: mae nod cynaliadwyedd yn hanfodol i bob sector, pob busnes a phob cymuned.

Mae datblygu cynaliadwy yn diwallu anghenion y presennol heb amharu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i wneud yr un fath. Mae Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a Siarter Datblygu Cynaliadwy Cymru yn rhoi dilysrwydd i egwyddorion cynaliadwyedd ac yn dangos yr ymrwymiad sydd gan bobl Cymru i’n dyfodol a dyfodol y blaned. Serch hynny, er mwyn i unrhyw fath o newid neu ddiwygiad ddigwydd a bod yn ystyrlon, mae angen iddo ddigwydd o’r gwaelod i fyny, ac felly ceir yr ymadrodd:

Meddwl yn fyd-eang, gweithredu’n lleol.

hands-600497_1280(Pixabay)

Mae i ni gyd ran yn y dyfodol: ein gwaddol ni yw rhoi cynaliadwyedd wrth wraidd gwasanaethau, ac mae hynny er lles pawb. Mewn cyfnod o gyni mae’n gwneud mwy fyth o synnwyr i ystyried cynaliadwyedd, gan ddefnyddio ein hadnoddau’n gynnil ond yn effeithlon; a chyflawni a datblygu ein potensial presennol. Mae cynaliadwyedd hefyd yn rhoi buddion diriaethol i waith ein mudiadau.

Mae Cynnal Cymru bellach yn edrych ymlaen at fynd ar drywydd rhai o’r awgrymiadau gwych a gafwyd yn y digwyddiad a rhoi ei fentrau newydd ar waith: Cronfa Cynnal Cymru, Gwobrau Cynnal Cymru, cynllun aelodaeth newydd ac ystod o hyfforddiant a digwyddiadau.

Mae Storify y diwrnod ar gael yma.

 – Sarah

Ble mae eich grym ac ym mha ffordd ydych chi’n ei ddefnyddio?

Power!Mae angen ar fyrder i drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae arian yn prinhau, ni fydd arbedion effeithlonrwydd yn unig yn ddigon. Mae’r galw am wasanaethau acíwt yn cynyddu a thoriadau’n cael eu gwneud i wasanaethau cymunedol.

Ni all y wladwriaeth ei hun sicrhau ansawdd bywyd ac mae nifer o bobl bellach yn edrych ar wasanaeth cyhoeddus gwahanol wedi ei ddarparu ar y cyd sy’n rhoi’r dinesydd a’r gymuned yn y canol, gyda’r wladwriaeth fel galluogwr a hwylusydd.

Gan fod y rhan fwyaf o gyrff sector cyhoeddus yn draddodiadol yn strwythuredig a hierarchaidd dros ben, mae’n glir bod angen newid mewn diwylliant er mwyn i’r drefn o rannu pŵer ddod yn brif ddull o weithio yng Nghymru.

Yr wythnos ddiwethaf, bu holl dîm Cyfranogaeth Cymru yng Nghynhadledd flynyddol a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol CGGC yng Nghymru. Teitl y digwyddiad oedd: Symud ymlaen gyda gwasanaethau lleol cynaliadwy. Roedd gennym ran allweddol yn y digwyddiad eleni; cynhaliwyd gweithdy, roedd gennym stondin gwybodaeth ac roedd Mandy Williams, rheolwr Cyfranogaeth Cymru’n un o’r prif siaradwyr. Roeddem yn awyddus i annog pobl i ystyried sut maen nhw (neu eu sefydliad) yn defnyddio eu pŵer ar hyn o bryd, felly gofynnwyd y cwestiwn canlynol i’r rhai a oedd yn bresennol:

Ble mae eich  grym ac ym mha ffordd ydych chi’n ei ddefnyddio?

I ddechrau roedd y cynrychiolwyr yn cael trafferth ateb gan fod angen pwyso a mesur y cwestiwn cyn ateb – diolch byth daeth nifer o bobl yn ôl i ysgrifennu eu hatebion, a dyma grynodeb ohonyn nhw:

  • Mae fy ngrym yn fy nghred mewn cydraddoldeb a fy ysgogiad i sicrhau bod hynny’n realiti i bawb, trwy wrando, dysgu a defnyddio fy llais i helpu eraill!
  • Mae fy ngrym yn y ffaith fy mod yn rhan o dîm gyda chyfoeth o brofiad a gwybodaeth
  • Mae fy ngrym yn y ffaith fy mod yn gweithio i gorff archwilio a fy nghyfrifoldeb yw rhannu gwybodaeth a gwelliannau gydag eraill
  • Mae fy ngrym yn bresennol mewn llawer o wahanol lefydd – rwyf wastad yn ei ddefnyddio mewn ffordd gyfrifol er budd y gymuned – oni bai fod siocled yn gysylltiedig…
  • Mae fy ngrym yn fy mrwdfrydedd i gynnwys pawb ac rwy’n ei ddefnyddio i sicrhau bod ymgysylltu’n rhywbeth ystyrlon ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol
  • Mae fy ngrym yn fy ngallu i ddylanwadu ar eraill wrth ystyried pwysigrwydd ymgysylltu â dinasyddion wrth ddylunio darparu gwasanaethau cyhoeddus sy’n bwysig iddyn nhw
  • Rhannu fy ngwybodaeth a fy mrwdfrydedd gyda’r bobl yn fy mywyd: yn bersonol a phroffesiynol
  • Bod yn ymddiriedolwr sefydliad ac rwy’n defnyddio fy mhŵer trwy roi llai i grwpiau bregus.

Flipchart
Os nad oeddech yn gallu mynychu’r digwyddiad, gadewch eich ymateb i’r cwestiwn isod: Ble mae eich grym ac ym mha ffordd ydych chi’n ei ddefnyddio?

  – Sarah

Cydgynhyrchu ar Waith

Mae’n ymddangos bod yna gydsyniad athronyddol bod cydgynhyrchu, y syniad o fudiadau’n ystyried cymunedau a defnyddwyr gwasanaethau yn ased wrth ddarparu gwasanaethau, yn syniad da. Serch hynny prin yw’r mudiadau sydd wir yn barod i symud y tu hwnt i rethreg niwlog er mwyn gwireddu’r ideoleg hon. Efallai mai un o’r rhwystrau mwyaf yw bod unigolion o fewn mudiadau yn anghofio eu bod hwythau hefyd yn aelodau o’r cyhoedd a ddim yn rhywbeth mor ar wahân â hynny i’r bobl mae eu mudiad yn bodoli i’w gwasanaethau. Efallai’r rheswm yw nad yw mudiadau’n sylweddoli neu’n cydnabod bod defnyddiwr y gwasanaeth yn ased gwerthfawr sydd â rhywbeth i’w gyfrannu, i’w ‘roi yn ôl’ i’r mudiad sy’n ei wasanaethu. Neu efallai ei fod mor syml â hyn: mae cydgynhyrchu yn gofyn i’r rheini ar frig mudiadau sydd â’r grym i gyd ar hyn o bryd i rannu’r grym hwnnw â phobl a chymunedau. Mae hyn yn amhosib heb ymddiried ynddynt. Rhaid i’r rheini sy’n dal grym ar hyn o bryd ymddiried ddigon mewn cymunedau i ymgynghori â nhw, bod yn barod i siarad a gwrando a gwneud hynny’n onest.

Os nad ydych erioed wedi cwrdd â rhywun sy’n adfer yn agored o gaethiwed i gyffuriau neu alcohol, neu sydd wedi adfer, mae’n bosib na fyddech yn ystyried y gellid ymddiried yn y demograffig yma. Pan ddechreuais wirfoddoli i Recovery Cymru (cymuned adfer lle mae pobl yn adfer o broblemau â chyffuriau ac alcohol) fis Awst 2012, gwelais y byddai’r mudiad cyfan (yn enwedig bryd hynny, cyn iddo gael arian gan y loteri) yn disgyn yn ddarnau heb waith caled nid yn unig y ddau aelod o staff cyflogedig ond hefyd y gwirfoddolwyr eraill, y mae llawer ohonynt yn adfer neu wedi adfer o fod yn gaeth i alcohol neu gyffuriau. Ethos Recovery Cymru yw ein bod yn gymuned, ni waeth a ydych yn aelod, yn wirfoddolwr neu’n aelod o staff cyflogedig neu wedi cael problem â chaethiwed erioed ai peidio, a bod gan bob aelod o’n cymuned rywbeth i’w roi yn ogystal â rhywbeth i’w elwa o fod yn rhan ohoni. Rwyf fy hun yn teimlo’n freintiedig dros ben o fod wedi cwrdd â phobl ragorol, cryf ac ysbrydoledig drwy fy nghysylltiad â Recovery Cymru.

ImagePe baech yn cerdded mewn i adeilad Recovery Cymru neu yn wir unrhyw un o’n sesiynau neu ddigwyddiadau, ni fyddai’n amlwg ar unwaith pwy sy’n ‘ddefnyddiwr gwasanaeth’ (term na ddefnyddir o fewn Recovery Cymru, ond mae pwysigrwydd iaith yn bwnc ar gyfer blog i ddod!) a phwy sydd ddim. Mae llawer o’n haelodau sy’n ymuno i gael cymorth gyda chaethiwed hefyd yn wirfoddolwyr, felly, mae’r llinell rhwng defnyddiwr y gwasanaeth yn cymryd o’r mudiad a’r staff a’r gwirfoddolwyr yn rhoi iddynt yn aneglur ar unwaith.

Mae lefel y cyfrifoldeb y mae gwirfoddolwyr (y mae llawer ohonynt hefyd yn ‘ddefnyddwyr gwasanaeth’) yn dewis ei derbyn yn amrywio o gynorthwyo gyda thasgau gweinyddol a chadw’r adeilad yn daclus i hwyluso grwpiau megis y cyfarfod coginio wythnosol a threfnu digwyddiadau i gynrychioli Recovery Cymru mewn cynadleddau megis AWSUM. Mae pawb sy’n ‘defnyddio’ gwasanaethau Recovery Cymru hefyd yn rhoi rhywbeth yn ôl ac mae cymuned Recovery Cymru yn ffynnu oherwydd hynny.

Yn hanfodol, mae ethos cydgynhyrchu nid yn unig yn rhoi ymdeimlad o werth i unigolion sy’n aml wedi’u gwrthod mewn rhannau eraill o’u bywydau, ond hefyd yn hynod fuddiol i weithrediad Recovery Cymru. Mae’n ymddangos yn amlwg ond mewn gymaint o fudiadau anghofir mai defnyddiwr y gwasanaeth yw’r arbenigwr mewn gwirionedd ac mai eu barn nhw yw’r un bwysicaf oll. Yn Recovery Cymru y bobl hynny sy’n adfer o fod yn gaeth i gyffuriau neu alcohol yw’r arbenigwyr ac mae’r mudiad yn dibynnu ar eu gwybodaeth nid yn unig o’r broses adfer a’r llwybrau amrywiol at wellhad ond hefyd o’r materion niferus sy’n aml (ond nid bob tro) yn gysylltiedig â hanes o fod yn gaeth megis materion tai, problemau iechyd meddwl neu gorfforol ac mewn rhai achosion ceisio dod o hyd i waith ar ôl bod yn y carchar. Y bobl sy’n profi’r materion hyn, a’r rheini sydd wedi’u goresgyn, sydd yn y sefyllfa orau yn Recovery Cymru i siapio’r mudiad gan fod Recovery Cymru, wedi’r cwbl, yn bodoli (fel llawer o fudiadau) i gefnogi defnyddiwr y gwasanaeth.

Yn Recovery Cymru, gwahoddir pob aelod i gyfrannu at gyfarfod agored a gynhelir ddwywaith yr wythnos. Yma mae aelodau’n trafod pethau megis pa grwpiau newydd yr hoffent eu gweld yn cael eu cynnal – sut i sicrhau’n well fod y grwpiau’n diwallu anghenion y rheini sy’n eu defnyddio ac yna’n gofyn i’r bobl hyn beth sydd arnynt ei eisiau? Mae llawer o’r grwpiau yn cael eu hwyluso gan wirfoddolwyr – y mae rhai ohonynt yn y broses adfer. Mae aelodau hefyd yn cael dweud eu barn ar elfennau trefniadol, gan gynnwys y gallu i adolygu’r cod ymddygiad. Yn wir, pan gafodd Recovery Cymru gyllid gan y Loteri, a olygodd eu bod yn gallu recriwtio aelodau newydd o staff, roedd aelodau gwirfoddol presennol Recovery Cymru ar y panel cyfweld i holi ymgeiswyr.

Heb os byddai’n beth da pe bai mwy o fudiadau’n cydnabod defnyddwyr eu gwasanaethau fel asedau ac yn manteisio ar eu harbenigedd i wella eu gwasanaeth drwy ymddiried yn ei gilydd a chydweithio.

–          Non

 

Gair bach i gyflwyno ein gweinyddwr newydd: Non Humphries

NonRwy’n Weinyddwr newydd yn Cyfranogaeth Cymru ers pythefnos erbyn hyn, felly mae’n hen bryd i mi ysgrifennu fy narn blog cyntaf i gyflwyno fy hun.Rwy’n dod o Gaerdydd, a graddiais mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Bryste ym mis Gorffennaf 2013, cyn dychwelyd i weithio i Sustrans Cymru fel Derbynnydd Swyddfa.Bûm yn gweithio i Sustrans Cymru am ychydig dros 6 mis cyn ymuno â Cyfranogaeth Cymru.

Mae fy CV hyd yma yn amrywiol a dweud y lleiaf – mae gen i rywfaint o brofiad o lawer o bethau.Mae rhai o fy swyddi blaenorol yn cynnwys hyfforddwr pêl-droed i blant, gweithio fel swyddog codi arian dros y ffôn a ‘Hyrwyddwr Chwaraeon’ yn cynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon fel rhan o gynllun gan Undeb Prifysgol Bryste.Dim ond mewn un swydd arall rwyf erioed wedi gorfod ysgrifennu blog, sef pan oeddwn i’n Hyfforddai Cyfathrebu i’r Sefydliad Trawsnewid Polisïau Cyffuriau. Rhywsut, llwyddais i gael amser i wneud hynny ddau ddiwrnod yr wythnos yn ystod fy mlwyddyn olaf yn y brifysgol. Felly rwy’n ymddiheuro os yw fy niffyg profiad blogio yn amlwg!

Roedd Undeb Ddadlau Bryste yn rhan fawr o fy mywyd yn y brifysgol, ac roeddwn i’n mwynhau trefnu twrnameintiau yn ystod fy nghyfnod yn Gynullydd Allanol, yn ogystal â chynllunio a chyflwyno sesiynau hyfforddi pan oeddwn i’n Gyfarwyddwr Hyfforddiant.Mae’r profiadau a gefais drwy fod yn rhan o Undeb Ddadlau Bryste wedi datblygu fy sgiliau trefnu, ac mae gen i dipyn o brofiad o hyfforddi rhwng y gwaith pêl-droed a’r dadlau (ond nid cymaint â Siobhan, Sarah a Mandy).

Yn ogystal â datblygu fy sgiliau, roedd y ffaith fy mod yn cystadlu’n gyson gydag Undeb Ddadlau Bryste yn rhoi cyfleoedd i mi deithio ledled y DU a thu hwnt i fynd i dwrnameintiau, gan gynnwys i Belgrade unwaith.Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2013, roeddwn i’n Gynullydd Bwrdeistrefi i bedair Bwrdeistref yn Llundain fel rhan o Her Ddadlau Llundain; twrnamaint blynyddol sy’n cael ei drefnu gan yr English-Speaking Union sy’n rhoi cyfle i ddisgyblion o ysgolion uwchradd gwladol ddadlau mewn sefyllfa gystadleuol.

Yn ogystal â rhywfaint o brofiad blaenorol o weithio yn y trydydd sector, rwyf wedi gwirfoddoli i Oxfam a Sefydliad Prydeinig y Galon, ac rwy’n dal i wirfoddoli i Recovery Cymru, mudiad i bobl sy’n ceisio rhoi’r gorau i fod yn gaeth i gyffuriau ac alcohol.Cyn hir byddaf yn hwyluso grŵp ysgrifennu creadigol wythnosol yn Recovery Cymru, ac rwy’n edrych ymlaen at hynny.

Mae fy mhythefnos cyntaf wedi hedfan heibio, ac rwyf wedi mwynhau ymgolli cymaint â phosib yn fy rôl newydd.Rwyf wedi cael croeso cynnes gan y tîm, ac rwy’n siŵr y bydda i wir yn mwynhau gweithio gyda nhw.Maen nhw wedi rhoi llawer o wybodaeth i mi hyd yma, ac wedi bod yn amyneddgar iawn gyda fy nghwestiynau!Gan fod pawb wedi bod mor groesawgar, rwy’n teimlo fy mod i wedi bod yn rhan o Cyfranogaeth Cymru ers mwy na phythefnos, ond rwy’n sicr yn dal i ddysgu hyd a lled y rôl yn ogystal â goblygiadau’r modelau cyfranogaeth lu!

–          Non

Siarad ar y radio am y tro cyntaf!

RadioCardiffRadio Caerdydd 97.8FM yw gorsaf radio gymunedol Caerdydd, sef math o wasanaeth radio sy’n darlledu y tu hwnt i wasanaeth masnachol a chyhoeddus. Mae’n darlledu cynnwys sy’n boblogaidd ac yn berthnasol i gynulleidfa leol a phenodol sy’n aml yn cael ei hesgeuluso.

Cynhelir Diverse Cardiff yn fyw bob dydd Mawrth 13:30-15:00 a gofynnwyd i Cyfranogaeth Cymru ddod i siarad ar y sioe. Roedd yn gyfle cyffrous iawn felly penderfynais wirfoddoli fy hun i’w wneud; rwy’n un dda iawn am siarad am ein gwaith felly meddyliais: pam lai?!

Wrth i mi gyrraedd y stiwdio cofiais am y cwrs hyfforddi hyder mewn digwyddiadau cyhoeddus a wnaethais y llynedd ac roedd yn sicr o gymorth ar yr achlysur yma! Cofiais yn benodol am y rhan o’r cwrs ar ddod dros ofn…

  1. Bydd yr ofn byth yn mynd i ffwrdd cyn belled fy mod yn parhau i dyfu
  2. Yr unig ffordd o gael gwared â’r ofn o wneud rhywbeth yw mynd allan a’i wneud
  3. Yr unig ffordd o deimlo’n well amdanaf fy hun yw mynd allan…a’i wneud
  4. Nid yn unig rwyf am deimlo ofn pryd bynnag rwyf ar dir anghyfarwydd, ond bydd pawb arall yn teimlo felly hefyd
  5. Mae bwrw drwy ofn yn llai ofnus na byw gyda’r ofn sydd dan yr wyneb o ganlyniad i deimlo’n ddi-help

(wedi’i gymryd a’i gyfieithu o Susan Jeffers ‘Feel the fear and do it anyway’)

Roeddwn, wrth gwrs, yn teimlo’r nerfau cyn dechrau siarad ond ar ôl rhai munudau dechreuais fwynhau fy hun a doeddwn i ddim eisiau stopio siarad!

Mae’r sioe yn un anffurfiol iawn, gyda llawer o sgwrsio a siarad. A hithau mor agos i Ddydd Gŵyl Dewi roedd yr holl gerddoriaeth a chwaraewyd ar y sioe gan artistiaid o Gymru, felly cefais fwynhau gwrando ar Gorky’s Zygotic Mynci a Super Furry Animals wrth i mi aros.

Dechreuais drwy gyflwyno Cyfranogaeth Cymru, pwy ydyn ni a beth rydym yn ei wneud, yna siaradais am waith rydym wedi’i wneud yn ddiweddar a gorffen drwy siarad am ffyrdd y gall pobl fanteisio ar ein gwaith, drwy fynychu ein hyfforddiant, rhwydweithiau a chymeradwyo’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd. Soniais hefyd am rai cyfleoedd lleol i bobl Caerdydd gymryd rhan, gan grybwyll gwefannau megis www.holicaerdydd.com a http://www.ygymruagarem.co.uk/

Mae Diverse Cardiff bob amser yn chwilio am westeion i siarad ar y sioe, felly os oes gennych brosiect lleol diddorol yr hoffech ei drafod yna cliciwch yma i gysylltu â Diverse Cardiff.

Dyma ychydig o gyngor i unrhyw un sy’n siarad ar y radio am y tro cyntaf:

  • Rydych yn cael sgwrs gyffredinol am eich gwaith; dychmygwch y bwrdd heb y microffon.
  • Siaradwch mewn iaith syml – peidiwch â defnyddio brawddegau hir na geiriau jargon a all eich achosi i faglu drostynt, ac os ydych yn baglu dros eich geiriau – dechreuwch eto – mwy na thebyg ni fydd neb yn sylwi (heblaw amdanoch chi’ch hun!)
  • Cofiwch baratoi – gallech hyd yn oed ysgrifennu rhai cwestiynau yr hoffech i’r cyflwynwyr eu gofyn a’u hanfon atynt ymlaen llaw er mwyn gwybod beth sy’n dod
  • Cofiwch fod amser yn ymddangos yn llawer cynt pan rydych yn siarad – efallai y bydd rhywbeth rydych yn meddwl fydd yn cymryd 2 funud i’w ddweud yn cymryd 5 munud mewn gwirionedd

Gallwch wrando ar y sioe gyfan yma neu ar gyfweliad Cyfranogaeth Cymru yn unig yma; y gwestai arall oedd Chrissie Nicholls o Gymorth i Fenywod Cymru.

–          Sarah

Apiau symudol a allai fod yn ddefnyddiol yn eich gwaith ymgysylltu

Mae’r blog hwn am edrych ar rai apiau i’r ffôn symudol a’r llechen a allai fod yn ddefnyddiol i rywun sy’n gweithio ym maes ymgysylltu â dinasyddion neu faes cyfranogi.

Mind Tools (iTunes ac Android)mindtools

Disgrifiad:
Learn more than 100 management, business and personal productivity skills from the MindTools.com toolkit. Build useful skills whenever you have a spare moment.

Skill types include leadership, team management, strategy, problem solving, decision-making, project management, time management and personal productivity, stress management, communication, creativity and career development.

Rhestr yw’r ap hwn o dechnegau megis starbursting, Dadansoddiad SWOT, mapio a llawer iawn mwy, ac mae’n ganllaw cyfeirio cyflym sy’n ddefnyddiol i’w gael ar flaenau’ch bysedd.

Participation Compass (iTunes ac Android)participationcompass

Disgrifiad:
The app helps you:
– Browse and choose between dozens of engagement methods covering face-to-face and digital approaches
– Find a method tailored to your situation and your participants’ needs
– Explore case studies of participation in action from around the world
– Browse resource and practical guidance of how to do this work on the ground
– Keep up to date with relevant RSS feeds
– Browse expert organisations in facilitation, e-democracy, open government, involvement, digital democracy and related fields.

In keeping with the ethos of the site, users are invited to contribute their own experiences and knowledge to any one of the aforementioned sections. In doing so, you can also be considered for Expert directory.

The app has been developed by UK participation specialists Involve, and the German Foundation Bertelsmann Stiftung.

Mae’r ap hwn yn dda iawn, ond roedd rhaid i mi gysoni â’r gronfa ddata bob tro roeddwn yn ei agor cyn iddo weithio’n iawn (wrth ddefnyddio Android). Mae yna lwyth o ddulliau cyfranogi ac astudiaethau achos yn yr ap hwn, yn ogystal â llyfrgell o gyhoeddiadau ac adnoddau. Mae’n cynnwys teclyn cynllunio defnyddiol i hidlo dulliau a gwybodaeth berthnasol yn ôl pa fath o brosiect rydych yn ei gynnal ac mae yna hefyd adran ddolenni o’r enw “arbenigwyr” ac roeddem yn falch o weld Cyfranogaeth Cymru yn yr adran hon! Fel ar wefan Participation Compass, mae’r ap yn cael ei ddiweddaru’n gyson sydd, mae’n debyg, yn rheswm dros yr angen i gysoni bob tro mae’n cael ei agor.

Contexts of Participation (Android)contextofparticipation

Disgrifiad:
Contexts of Participation is a conceptual tool to help you consider the complex contexts that affect participation in everyday life. In particular, it helps the user to think more critically about the barriers and enablers to participation. The tool provides a map to the person in their wider contexts, with participation as both being the output of a person and a means for change. By turning the wheels and considering the ways different factors interact, you can provoke new ways of thinking about the relationship between people, participation and social structures.

Teclyn meddwl yn feirniadol yw hwn gan Rayya Guhl a Dr Ian Marsh a datblygwyd yr ap gan Brifysgol Christ Church Caergaint ac mae wedi’i ddylunio i fod yn hawdd ei ddefnyddio. Gallwch gael gwybod mwy am y teclyn hwn yma neu lawrlwythwch yr ap i’w gael ar flaenau’ch bysedd!

Fe welais hefyd ambell i ap diddorol wrth bori drwy’r app store ac roedd llawer sydd ddim ar gael yn y Deyrnas Unedig, neu roeddynt ar gael i’w lawrlwytho ond mewn iaith heblaw am Saesneg neu Gymraeg.

Roedd yna enghreifftiau arloesol o apiau yn Ewrop megis Colab, rhwydwaith cymdeithasol ym Mhortiwgal sydd wedi’i gysylltu â Facebook sy’n galluogi dinasyddion i dynnu sylw at broblemau yn eu hardaloedd, cynnig atebion a gwerthuso gwasanaethau presennol drwy ddefnyddio’u ffonau clyfar. Ceir hefyd FlashPoll, ap yn yr Almaen sy’n ceisio darparu llwyfan i gynnwys dinasyddion yn well mewn prosesau penderfynu bwrdeistrefol drwy bleidleisiau wedi’u seilio ar leoliad.

Mae’r blog hwn yn ymwneud yn benodol â thechnegau cyfranogi ac ymgysylltu, ond gall mudiadau hefyd ddefnyddio apiau i ymgysylltu â’u cwsmeriaid neu ddefnyddwyr eu gwasanaethau, neu’n syml i roi’r diweddaraf i bobl drwy eu ffonau clyfar. Er enghraifft:

choosewell-ap dwyieithog o’r enw Choose Well Wales | Dewis Doeth Cymru i ddinasyddion Cymru sy’n ganllaw ar ddewis y gwasanaeth GIG cywir. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am hunanofal ac yn darparu mynediad at wefan Galw Iechyd Cymru. (iTunes ac Android)

– mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ap sy’n eich galluogi i chwilio am sgôr hylendid bwytai. (iTunes ac Android)

Mae croeso i chi adael sylwadau yn awgrymu unrhyw apiau symudol a wyddech amdanynt a allai fod o gymorth ym maes ymgysylltu â dinasyddion neu faes cyfranogi, neu os oes gan eich mudiad ap yr hoffech ei rannu.

Sylwch: Mae’r holl apiau yn y blog hwn ar gael i’w lawrlwytho am ddim.

–          Sarah