Mae cyfranogi yn allweddol i herio gwahaniaethu

Yn Rhwydwaith Cyfranogaeth Cymru Gyfan eleni, gosododd Joe Powell y safon gydag araith agoriadol bwerus ynglŷn â phwysigrwydd cyfranogi’n llawn yng nghymdeithas i bobl ag anableddau dysgu. Canfuwyd bod gan Joe Syndrom Asperger yn 1996 ac mae ef wedi treulio 11 mlynedd mewn gofal cymdeithasol. Ef bellach yw Cyfarwyddwr Cenedlaethol Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan; grŵp sy’n uno lleisiau grwpiau hunaneirioli yng Nghymru. Tynnodd Joe ar ei brofiad uniongyrchol o frwydro i adael system a oedd yn benderfynol o’i ystyried yn ddefnyddiwr gwasanaeth, rhywun sydd angen cymorth, ac nid rhywun sydd hefyd â llawer i’w gynnig i’w gymuned.

Dechreuodd Joe ei araith drwy amlinellu’r ‘Model bywyd da’; gwerthoedd sy’n bwysig i’r bobl ag anableddau dysgu y mae Joe wedi siarad â nhw. Ymysg y gwerthoedd hyn roedd ‘perthnasau llawn cariad a gofal’, y dewis sy’n deillio o fod â rhywfaint o gyfoeth (mae hyn hefyd yn cynnwys rheolaeth dros eich asedau ariannol eich hun), ‘lle i gyfrannu yn y Byd’ a ‘fy nghartref fy hun’. Y peth cyntaf i’m taro oedd pa mor debyg ydynt i’r hyn y mae ar rywun sydd heb anabledd dysgu ei eisiau o’i fywyd – ymddangosai’r gwerthoedd yn gyffredin i bawb, nid yn benodol i anableddau dysgu. Yn fy nhyb i, wrth wraidd yr holl werthoedd oedd cydbwysedd rhwng diogelwch personol ar y naill law ac, ar y llall, ymdeimlad o allu cymryd rheolaeth dros eich bywyd eich hun ac, ar ben hynny, gyfrannu rhywbeth at fywydau pobl eraill. Onid dyma sydd ar bawb ei eisiau o’u bywydau?

Joe Powell

Mae gan lawer o bobl ag anableddau dysgu nam ar eu golwg hefyd ac ni ddysgwyd rhai o’r bobl hyn i ddarllen yn yr ysgol. Gall pethau syml megis cynnig gwybodaeth hawdd ei darllen a fformat sain ei gwneud yn bosib i bobl ag anableddau dysgu gael at wybodaeth heb orfod dibynnu ar ffrind neu ofalwr i’w darllen iddyn nhw. Mae hyn yn galluogi pobl i gadw ymdeimlad o annibyniaeth ac urddas, yn hytrach na chael eu sefydliadoli, yn enwedig pan fo’r wybodaeth dan sylw o natur breifat.

O ystyried bod yr hyn y mae ar bobl ag anableddau dysgu ei eisiau mor debyg i’r hyn y mae’r boblogaeth ehangach yn anelu ato, gellid maddau i rywun am gredu bod y dymuniadau hyn yn cael eu bodloni â chroeso mewn gofal ar gyfer anableddau dysgu a bod cymdeithas yn dangos empathi â nhw. Serch hynny, eglurodd Joe mai’r gwirionedd yw bod pobl ag anableddau dysgu i bob pwrpas yn ‘ymddeol yn ddeunaw oed’; prin mewn cyflogaeth ac yn aml yn cael eu cau allan o wirfoddoli. Ymddengys mai’r meddylfryd y tu cefn i’r fath ymyleiddio yw bod unrhyw un sydd ag anabledd dysgu yn ‘ddefnyddiwr gwasanaeth’ ac felly angen cymorth. Tra mae llawer o bobl ag anableddau dysgu yn wir yn ddefnyddwyr gwasanaethau, nid yw hyn yn golygu eu bod heb y gallu a’r awydd i roi cymorth yn eu cymunedau a chyfrannu’n ystyrlon nid yn unig at eu bywydau eu hunain, ond bywydau eraill hefyd.

History of people learning disabilities

Mae’r cyfyngiad hwn ar gyfranogi nid yn unig yn golled enfawr o ran cyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth posib ond hefyd yn gwbl groes i egwyddorion Strategaeth Gymru Gyfan 1983. Mae’r strategaeth yn pennu bod gan bobl ag anableddau dysgu yr hawl i ddewis eu patrymau bywyd eu hunain o fewn eu cymunedau a chael mynediad at wasanaethau proffesiynol pan fo cymorth ychwanegol yn angenrheidiol er mwyn iddynt gyflawni hyn.

Mae’r mwyafrif o bobl ag anableddau dysgu yn dymuno gweithio a gwirfoddoli, meddai Joe, ac mae angen i ni ymdrechu’n fwy i ddiwallu eu hanghenion er mwyn iddynt wneud hyn. Mae rhagfarn yn deillio o anwybodaeth a phan fo pobl ag anableddau dysgu i’w gweld mewn rolau defnyddiol, fe fydd hyn yn ei gwneud yn anos eu stereoteipio fel baich ac yn rhoi hygrededd i’w lleisiau.

Cyn gwahodd cwestiynau o’r llawr, gorffennodd Joe ei araith drwy ddweud bod yn rhaid i gyfranogaeth ar gyfer pobl ag anableddau dysgu fod yn realistig a byth yn docenistaidd. Rhaid i ni ei gwneud yn bosib i bobl ag anableddau dysgu gael mynediad at y gweithlu gan wneud addasiadau rhesymol os oes angen dim ond pan allant gyflawni’r rôl honno.

Os hoffech glywed mwy gan Joe Powell, cadwch olwg ar Joe’s Soapbox.

Mae ‘Storify’ y diwrnod, gan gynnwys cyflwyniad Joe, adnoddau eraill o’r rhwydwaith a chyfraniadau cyfranogwyr drwy’r cyfryngau cymdeithasol, ar gael yma.

 – Non

Advertisements

Dull y mis

Pob mis rydyn ni’n cynnwys dull / offeryn cyfranogol yn ein cylchlythyr ac rwy bob amser yn hynod o falch o gael adborth cadarnhaol  gan ddarllenwyr eu bod wir yn edrych ymlaen at weld beth fydd  ‘Dull y mis’ nesaf! O ganlyniad, roeddem yn meddwl y byddai’n syniad braf i droi’r nodwedd hon i mewn i post blog misol er mwyn (gobeithio) cyrraedd mwy o bobl.

Rydym wastad yn croesawu awgrymiadau a ffotograffau o ddulliau cyfranogol y mae mudiadau eraill wedi bod yn defnyddio, felly cysylltwch â ni os oes gennych techneg yr hoffech ei rannu!

Mae archif o gylchlythyrau blaenorol ar gael ar ein gwefan.

Dull sylw y mis hwn yw …

Thermomedr Gwerthuso 

Mae hon yn dechneg gwerthusiad gweledol, cyfranogol y gellid eu defnyddio i werthuso cyfarfod, digwyddiad neu grwp ffocws. Defnyddiodd Cyfranogaeth Cymru yr offeryn hwn yn ddiweddar i werthuso’r rhwydweithiau cyfranogaeth ranbarthol a ddigwyddodd y mis hwn.

thermometer

Offer sydd eu hangen: Papur siart troi, ysgrifbinnau marcio lliw a dotiau gludiog.

Paratoi: Tynnwch lun thermomedr mawr ar y papur siart troi. Dylai’r top gynrychioli tymheredd poeth (ardderchog / gwych), dylai’r canol fod yn twym (rhesymol / iawn) a dylai’r gwaelod fod yn oer (siom / ddim yn ei hoffi).

Dewiswch beth yr hoffech i bobl raddio, e.e. argraff gyffredinol, pa mor gyfranogol oedd y digwyddiad ayyb.

Rhowch dotiau gludiog i gyfranogwyr a gofynnwch iddynt eu glynu lle maent yn teimlo y dylent fynd ar y thermomedr a chymryd llun o’r canlyniadau.

– Sarah

Yr Etholiad Cyffredinol – dweud eich dweud a mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb etholiadol

PollingStationWalesUK

Etholiadau yw’r brif ffordd i ni fynegi ein hymateb i berfformiad y llywodraeth. Offeryn cyfathrebu yw etholiad rhwng y cynrychiolwyr a ninnau: y bobl maent yn eu cynrychioli.

Yn ôl pob golwg, mae pleidleiswyr yn cael y llywodraeth maent yn ei haeddu. Awgryma hyn, os bydd yr etholwyr yn mynd ati i bleidleisio ar ddiwrnod y bleidlais, y byddwn yn cael llywodraeth sy’n wirioneddol gynrychioli ei phobl ond bydd y mwyafrif ohonom yn dadlau nad yw’r llywodraeth glymblaid bresennol yn cyd-fynd â’r ddadl honno. Dim ond 65.1% o’r etholwyr a bleidleisiodd yn etholiad cyffredinol 2010 ac mae’n weddol amlwg y gallai’r canlyniad fod wedi bod yn holl wahanol pe bai mwy o bobl wedi pleidleisio.

Heb os mae ein cyfranogiad mewn etholiadau yn gyfrifoldeb pwysig ac yn symbol arwyddocaol o’n democratiaeth a’n cyfranogiad mewn materion cyhoeddus.

Efallai fod nodi’ch ‘X’ ar y papur pleidleisio yn ymddangos yn beth bach i’w wneud, gallwn ni wrth gwrs gyfranogi mewn gwleidyddiaeth a gwasanaethau cyhoeddus mewn sawl ffordd wahanol ac nid yn unig adeg etholiad. Ond, mae’r hawl i bleidleisio (y mae pobl wedi brwydro a marw drosti) yn symboleiddio democratiaeth a diwylliant teg a chredaf ei bod yn ddyletswydd i ni’n hunain i gyfrannu ein llais at y broses hon.

Mae’r ffordd y mae ymgeiswyr yn ymgyrchu ac yn cyfathrebu â ni wedi newid yn syfrdanol. Mae hysbysebu gwleidyddol y telir amdano wedi’i wahardd ar deledu a radio yn y Deyrnas Unedig, felly, mewn ymgyrch etholiadol nodweddiadol (yn fy meddwl i) bydd ymgeiswyr gobeithiol yn cnocio ar ddrysau ac yn ysgwyd llaw â phobl wrth wisgo rhoséd liwgar yn falch a llenwi ein blwch llythyrau â phamffledi sgleiniog yn dweud wrtha’i bod “yr ymgeisydd arall eisiau gwerthu’r GIG” neu “pleidleisia drosto ef a bydd yn dyblu dy drethi”.

Gan fod technoleg fodern mor gyffredin ac ar gael yn eang, mae cyfathrebu digidol a’r cyfryngau cymdeithasol wrth wraidd ymgyrchoedd yr etholiad cyffredinol eleni.

Gan fod talu am hysbysebion ar y teledu wedi’i wahardd, mae ymgeiswyr yn cael talu am hysbysebion a fideos gwleidyddol arlein drwy’r cyfryngau cymdeithasol, gyda’r potensial i gyrraedd miliynau o bobl ac nid yw Ofcom yn rheoleiddio’r hyn a gyhoeddir ar y llwyfannau yma. Mae hyn yn gyfle am sgyrsiau llawer ehangach a mwy dilys, diffuant a gonest rhwng yr ymgeiswyr a’r pleidleiswyr. Mae gan Facebook hyd yn oed ei restr wirio ei hun ar gyfer ymgeiswyr gwleidyddol i’w defnyddio wrth gyhoeddi diweddariadau – ond a ydynt yn defnyddio hyn i’w botensial llawn?

Esblygiad llwyfannau cymdeithasol rhwng 2010 a 2015

5 mlynedd yn ôl, roedd y pleidiau gwleidyddol yn eu lansio eu hunain o’r newydd ar Facebook, gan annog arweinwyr eu pleidiau i fynd arlein a sicrhau bod ganddynt ryw fath o ‘bresenoldeb’. Nawr yn 2015 mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi esblygu gymaint yn y 5 mlynedd diwethaf ynghyd â’r ffordd rydym yn eu defnyddio.

Dylai ymgeiswyr a phleidiau lleol bellach fod yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn llwyfan i gael sgyrsiau gwirioneddol a chysylltu â phobl fel bod eu presenoldeb arlein yn teimlo’n ddiffuant ac yn llai fel pe na baent ond yn defnyddio offeryn newydd a ffasiynol.

Yn draddodiadol mae gwleidyddion yn defnyddio eu proffil cyhoeddus i gyfleu eu neges a rhoi gwybod i’r cyhoedd beth maent yn addo ei newid os caent eu hethol. Mae ymgeiswyr bellach hefyd yn defnyddio’r llwyfan i holi pobl am eu barn.

Cynulleidfaoedd cudd a’r gallu i ddylanwadu

Mae nifer y bobl sydd wedi hoffi tudalen Facebook ymgeisydd yn amherthnasol pan fo algorithm enfawr Facebook yn galluogi i ddiddordebau rwydweithio a chysylltu â’i gilydd; mae’r hyn sy’n ymddangos ar eu ffrwd newyddion yn dylanwadu ar ffrindiau i ffrindiau i ffrindiau.

Yn amlwg mae rhai cynulleidfaoedd yn llawer llai ymatebol i’r dull ymgyrchu hwn. Dyw rhai pobl ddim yn defnyddio’r we o gwbl er enghraifft: newyddion ar y teledu a phapurau newydd yw’r ffynonellau newyddion pwysicaf i rai cynulleidfaoedd o hyd.

Dyw rôl y rhwydweithiau cymdeithasol tuag at gynyddu cyfranogiad etholiadol ddim mor syml ag y mae’n ei ymddangos a dyw ‘ei wneud yn iawn’ byth yn wyddor fanwl. Wrth bori drwy dudalennau Facebook a Twitter rhai ymgeiswyr – caf fy synnu nad yw’r rhan fwyaf o ddiweddariadau ond yn tynnu sylw at y gwendidau ym mholisïau’r gwrthwynebiad, felly, gellid methu’r potensial am ymgyrch a sgyrsiau positif!

Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb etholiadol

Mae’r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus (IPPR) wedi lansio adroddiad yn ddiweddar yn awgrymu y dylai pleidleisio fod yn orfodol yn yr etholiad cyntaf ar ôl i rywun droi’n 18. Mae’n gywir wrth ddweud bod gan ‘y dosbarth gweithiol a’r ieuenctid lai o fewnbwn i brosesau penderfynu gwleidyddol’ o’u cymharu â grwpiau hŷn a mwy cefnog o bobl ac mae’n awgrymu mai gorfodi cyfranogiad yw’r ateb i’r anghydraddoldeb hwn.

Y brif drafferth â hyn yw na allwch chi orfodi pobl i gymryd diddordeb; ni allwch orfodi pobl i deimlo’n gryf am rywbeth os nad ydynt. Ni fyddai pleidleisio gorfodol yn ddim byd mwy na rhith-ddemocratiaeth – sut allai fod yn ddemocrataidd os yw’n orfodol? Ni allai fod! Pe bai pleidleisio gorfodol yn cael ei gyflwyno ni allaf lai na dychmygu cynnydd yn nifer y papurau pleidleisio a ddifethir neu bobl yn cael eu gorfodi i bleidleisio dros rywbeth heb lawer o wybodaeth gan arwain at system sydd hyn yn oed yn llai cynrychiadol nag ydyw nawr.

Siawns hefyd ei bod hi dal yn bwysig monitro unrhyw ddiffyg diddordeb ac anfodlonrwydd. Mae yna sawl rheswm cyfiawnadwy dros ddewis peidio â phleidleisio; efallai fod rhywun yn teimlo nad yw wedi cael digon o wybodaeth, neu nad yw dim un o’r ymgeiswyr na’r pleidiau yn cynrychioli ei farn a does gan rai pobl yn syml ddim diddordeb. Mae’n bwysig monitro diffyg pleidleisio mewn etholiadau a darganfod pam mae hyn yn digwydd yn lle gorfodi pawb i gyfranogi.

Yr ail Egwyddor yn yr Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yw “Annog a galluogi pawb a effeithir i gymryd rhan, os ydynt yn dewis hynny.” Mae’r pum gair olaf hyn yn ganolog i’r broses ymgysylltu – rhoi’r dewis i bobl gymryd rhan.

Fe fyddaf i yn pleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol oherwydd fy mod yn dymuno gwneud a fy newis i ydyw, fel y dywedais yn barod rwy’n teimlo ei bod yn ddyletswydd arnaf i gymryd rhan ond rwy’n parchu ac yn deall barn y rheini nad ydynt yn dymuno pleidleisio. Ni ddylid gorfodi neb i gymryd rhan mewn democratiaeth – byddai hynny’n gwrth-ddweud ei hun!

Felly, mae cymryd rhan mewn etholiadau yn gyfrifoldeb pwysig ond nid ein pleidlais yw ein hunig lais nac ein hunig gyfle i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Mae hawl gan bawb i gael eu clywed ac mae angen i’r rheini mewn grym wrando arnon ni, ym mha bynnag ffordd rydym yn dewis cael ein clywed.

– Sarah

Os ydych yn 16 neu’n 17 mlwydd oed – ni allwch bleidleisio y tro hwn ond gallwch dal gofrestru. Cynhelir etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru fis Mai 2016.

Cynhwysiant digidol a dyfodol e-gyfranogaeth

Ar y 25ain a’r 26ain o Chwefror 2015, cynhaliodd Cymunedau 2.0 gynhadledd ynglŷn â Chynhwysiant Digidol ac aeth Cyfranogaeth Cymru draw i gael gwybod mwy.

Dyma ein barn ni ar arwyddocâd a rôl cynhwysiant digidol ar gyfer dyfodol cyfranogaeth yng Nghymru.

Mae’n rhyfeddol meddwl gymaint mae technoleg wedi datblygu mewn cyfnod mor fyr. Rwy’n siwr fod llawer ohonom yn cofio ein cyfrifiadur cyntaf (mae’n siwr un Windows ’95 clogyrnaidd fel un fi), neu hyd yn oed ein bricsen gyntaf – efallai ffôn poced Nokia 32:10. Mae’n rhyfedd meddwl gymaint gallwn ni ei wneud nawr ar ffôn clyfar sylfaenol am ffracsiwn o’r gost.

(Cymerwch olwg ar y lluniau isod a gweld faint o’r rhain sy’n mynd â chi’n ôl!)

Communities 2.0 Digital Inclusion

 

Mae technoleg o’r fath wedi newid y dirwedd rydym yn byw ein bywydau bob dydd ynddi am byth. Ond wrth i’r byd digidol ruthro ymlaen, mae’n hawdd cael eich gadael ar ôl.

I’r mwyafrif ohonom, y mae ein ffordd o fyw a’n gweithle yn fwyfwy digidol, mae hi efallai’n anodd gwerthfawrogi’r math o rwystrau y byddem yn eu hwynebu pe na bai gennym yr adnoddau a’r set o sgiliau sydd eu hangen i fod yn annibynnol yn y byd digidol.

Wrth i gymdeithas fynd yn fwyfwy digidol, mae’r rhaniad sy’n bodoli rhwng y rheini sydd wedi’u cynnwys yn ddigidol a’r rheini sydd heb, yn creu problem wirioneddol ac yn golygu goblygiadau ar bob lefel, hyd yn oed yn economaidd ac yn ddemocrataidd.

Y rhaniad hwn y craffwyd yn fanwl arno yn ystod cynhadledd ddeuddydd Cymunedau 2.0.

Amcangyfrifodd y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn 2015 fod dros 500,000 o oedolion yn dal i fod wedi’u hallgáu’n ddigidol yng Nghymru (tua 1 o bob 6 ohonom). Mae’r cysylltiad sy’n bodoli rhwng allgáu digidol a thlodi ynghyd â grwpiau eraill o bobl sy’n agored i niwed yn dangos bod allgáu digidol yn fater o gyfiawnder cymdeithasol, ac mae’n hawdd gweld y ffordd y gall allgáu digidol ddwysáu diffyg grym.

O safbwynt busnes, mae’r farchnad fyd-eang sy’n gynyddol ddigidol yn golygu bod gan fudiadau sydd yn y llif digidol lawer mwy o gyfle i sicrhau deunyddiau rhatach, ymestyn eu cyrhaeddiad â chwsmeriaid, symleiddio prosesau gwaith a chwtogi oriau gwaith. Mae hyn oll yn ei gwneud yn llawer anos i fusnesau nad ydynt yn manteisio ar y we i oroesi.

Mae diffyg gwybodaeth ddigidol nid yn unig yn cyfyngu ar gyfleoedd cyflogaeth, ond hyd yn oed yn ei gwneud yn drafferthus i gael at fudd-daliadau megis lwfans ceisio gwaith.

Gall cynnal perthynas â phobl eraill – rhywbeth mor syml â chadw cysylltiad – fynd yn fwyfwy anodd os ydych ymysg y rheini sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol. Ymhellach, wrth i fwy a mwy o wasanaethau cyhoeddus symud i fod yn wasanaethau arlein, rydych yn llawer llai tebygol o glywed newyddion a gwybodaeth ynglŷn â phethau a allai effeithio arnoch.

O’r safbwynt hwn, mae allgáu digidol nid yn unig yn golygu cael eich ynysu a’ch analluogi, ond hefyd eich dadrymuso mewn modd cwbl sylfaenol. Felly, beth allwn ni ei wneud i helpu i roi diwedd ar allgáu digidol?

Wel, nid oes yna un ateb syml. Tra mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau positif i ganolbwyntio’n fwy ar lythrennedd digidol yng Nghymru, mae’n galonogol fod mudiadau annibynnol megis #techmums hefyd yn bodoli i helpu i ddymchwel y rhwystrau hynny a chynyddu hyder defnyddwyr digidol. Fel ag erioed, mae yna bob amser waith rhagorol yn cael ei wneud drwy’r adeg gan wirfoddolwyr ar hyd a lled y wlad i helpu i rymuso’r rheini sydd ei angen.

Roedd ymdrechion y grwpiau a’r bobl hyn wir yn amlygu ei bod yn bwysig cofio, yn y gwaith ac yn ein bywyd personol, ein bod yn rhannu cyfrifoldeb i rannu ein grym a sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl.

Mae’n hawdd meddwl am dechnoleg yn nhermau’r hyn mae’n ei roi i ni – boed hynny yr offer i gael yr atebion rydym eu hangen, y cyfle i hysbysebu ein busnes neu ddod o hyd i waith, y gallu i symleiddio ein bywydau bob dydd, darparu adloniant i ni neu bethau newydd i’w dysgu – hyd yn oed rhywbeth mor syml â’r gallu i gadw cysylltiad â’n hanwyliaid…

Georgina

Gwneud i ddysgu gweithredol lwyddo!

Wedi’i ail-flogio o WCVA

Action Learning

Ynogystal â hyfforddiant a chymorth pwrpasol mae Gwasanaeth Cefnogi Cymunedau ynGyntaf yn cynnig y cyfle i nifer cynyddol o bobl yng ngweithlu CyG ddysgu oddi wrth ei gilydd drwy ein Grwpiau Dysgu trwy Ganlyniadau (Outcome Learning Groups – OLGA). Mae’r rhain wedi’u seilio ar fethodoleg Dysgu Gweithredol. Yma, mae Jane Lewes o The Learning Consultancy, sy’n gweithio gyda Gwasanaeth Cefnogi CyG i ddatblygu’r fframwaith ar gyfer y dysgu yma ymysg cymheiriaid, yn egluro ‘rheolau’ Dysgu Gweithredol.

Mae Dysgu Gweithredol yn cael ei ddefnyddio’n fwyfwy aml fel ffordd o helpu grwpiau cymunedol i weithio drwy rai o’r materion y mae’n rhaid iddynt fynd i’r afael â nhw bob dydd. Gall y mathau o faterion neu “broblemau dyrys” gynnwys bron â bod unrhyw beth; gallant fod yn niwsans, yn rhwystredig neu hyd yn oed achosi gofid gwirioneddol. Beth bynnag fo natur y broblem, un nodwedd maent i gyd yn ei rhannu yw y bydd pobl eraill bron yn sicr wedi cael yr un broblem, neu un debyg.

Felly, sut mae Dysgu Gweithredol yn helpu i ddatrys problemau a thorri drwy rwystrau?

Mae techneg Dysgu Gweithredol yn hynod o syml ac yn ffordd effeithiol o gefnogi unigolyn i weithio drwy broblem go iawn a chyfredol, gan arwain at ddealltwriaeth newydd ac, yn y pen draw, atebion.  Mae’r dechneg yn syml gan mai’r cwbl sydd ei angen yw grŵp o bobl (tua 6-8) sy’n cytuno i ddilyn yr ychydig “reolau” hanfodol, sef:

Ymddiried. Pan fo grŵp o gydweithwyr yn cytuno i gwrdd fel Set Dysgu Gweithredol, mae angen sail gryf o ymddiried – ymddiried yn ei gilydd ac ymddiried yn y broses.  Un o gonglfeini ymddiried yw’r ymrwymiad i gyfrinachedd.  Bydd diffyg ymddiried bron yn sicr yn achosi i’r Set ymffrwydro a gallai arwain ar niwed pellach.

Eglurder Rol. Ceir 3 rôl mewn sefyllfa Dysgu Gweithredol:

  • Y Cyflwynydd – yr unigolyn sy’n rhannu ei fater neu ei broblem
  • Y Cefnogwyr – yr aelodau eraill o’r Set sy’n gwrando’n astud ac yn gofyn cwestiynau treiddgar a grymus ynglŷn ag agweddau ar y mater
  • Yr Hwylusydd – yr unigolyn sy’n gweithredu fel “dyfarnwr mwyn”, gan sicrhau bod y Set gyfan yn cadw at reolau’r broses

Y broses. Bydd Set Dysgu Gweithredol nodweddiadol yn mynd rhywbeth fel hyn:

  • Mae’r Set yn cwrdd mewn lleoliad lle mae preifatrwydd wedi’i sicrhau;
  • Mae’r Hwylusydd yn atgoffa’r Set o’r “rheolau cyfranogi”, rheoli amser, ymrwymiad i gyfrinachedd, yr angen i wrando ag empathi, ymatal rhag beirniadu a chanolbwyntio’n llwyr ar y Cyflwynydd;
  • Mae’r Cefnogwyr yn gwrando – gwrando i ddeall, nid i ymateb;
  • Mae’r Cyflwynydd yn siarad am oddeutu 6-10 munud;
  • Mae’r Hwylusydd yn agor y llawr i’r Cefnogwyr ofyn cwestiynau i’r Cyflwynydd, ond NID i roi cyngor na chynnig atebion posib!
  • Pan fo’r cwestiynau wedi dod i ben, mae’r Cyflwynydd yn crynhoi’r sefyllfa, yn enwi unrhyw ddealltwriaeth newydd ac unrhyw gamau y bydd yn eu cymryd cyn y sesiwn nesaf;
  • Daw’r sesiwn i ben gyda’r Hwylusydd yn gwerthuso effeithiolrwydd cyffredinol y sesiwn;
  • Bydd hyd ysesiwn yn amrywio, gan ddibynnu ar gytundeb ymysg y Set

Ansawdd y cwestiynau. Mae’r gallu i ofyn cwestiynau grymus yn hanfodol i Set Dysgu Gweithredol lwyddo. Dylid gofyn cwestiynau sy’n helpu’r Cyflwynydd i ganfod rhyw agwedd neu ongl newydd – rhywbeth nad oedd wedi’i daro o’r blaen.  Dylai cwestiynau fod yn agored a chanolbwyntio ar y pethau positif, gyda’r rhagdybiaeth ddealledig FOD yna ateb i’r broblem.  Ansawdd cwestiynau’r Cefnogwyr yw’r allwedd i Set Dysgu Gweithredol effeithiol.

Canlyniadau.  Prif nod Dysgu Gweithredol yw helpu unigolion i ganfod camau y gallant eu cymryd i ddatrys problem neu adfer sefyllfa.  Dylai pob sesiwn ddechrau gyda diweddariad gan y Cyflwynydd blaenorol, gan rannu beth sydd wedi digwydd o ganlyniad i’r camau yr ymrwymodd iddynt yn y sesiwn flaenorol.  Mae clywed am ganlyniadau positif yn rhoi hwb gwirioneddol i ddynameg y Set.

Cymhelliant. Pan fo Set Dysgu yn cwrdd y tro cyntaf, mae’r aelodau yn cytuno i ymrwymo i broses bendant – presenoldeb rheolaidd, cadw at y broses, ymrwymo’n llwyr, cyfrinachedd ac yn y blaen.  Wrth i amser fynd ymlaen, os yw unigolion yn anwybyddu’r ymrwymiadau hyn bydd lefel y cymhelliant yn gostwng a bydd y Set yn colli ei heffeithiolrwydd. Mae cymhelliant i gyfranogi yn hanfodol gan ei fod yn gweithredu fel sbardun sy’n cynnau egni i “danio ac ysbrydoli” gwaith y Set.

Dyma’r hyn y mae ambell i aelod o grwpiau OLGA wedi’i ddweud am eu profiadau cyntaf o Ddysgu Gweithredol:

“Rhoddodd ysgogiad i ni feddwl a’m gorfodi i edrych yn fanwl arna’i fy hun a’r Rheolwyr Clystyrau eraill. Gwnaeth i mi hefyd deimlo’n bryderus amdanon ni gyd – braidd yn ddychrynllyd decini. Roedd hi fel pe bai rhywun newydd roi’r golau ymlaen wrth sylweddoli bod gynnon ni’r un pryderon a phroblemau i ddelio gyda nhw. Dyma rywbeth y gallwn ni nawr weithio arno i lwyddo a chefnogi ein gilydd gydag ef.”

“Yr hyn rwyf wedi’i ddysgu o’r sesiwn yw edrych am y pethau positif mewn unrhyw sefyllfa gan y gallwch bron bob tro ddod o hyd i rywbeth positif i adeiladu arno.”

“Roeddwn yn meddwl bod y prynhawn cyfan yn ardderchog. Wyddwn i ddim beth i’w ddisgwyl, ond roedd fy mhrofiad cyntaf o set ddysgu dan arweiniad yr hwylusydd yn werth chweil ac mae’r pynciau a gododd y set wedi aros gyda mi ers hynny ac rwyf wedi treulio peth amser yn rhoi sylw iddynt. Rwyf wedi fy nghael fy hun yn myfyrio ar y profiad cyfan yn yr wythnosau sydd eisoes wedi pasio ac rwy’n edrych ymlaen at yr un nesaf.“

Os hoffech ddysgu mwy am y ffordd y gall Dysgu Gweithredol fod o gymorth yn eich rôl chi fel aelod o grŵp OLGA, cysylltwch â Gwasanaeth Cefnogi CyG drwy ebostio help@wcva.org.uk neu ffonio 0800 587 8898.

Mae Cyfranogaeth Cymru yn cynnig gwasanaeth hwyluso ar gyfer setiau dysgu gweithredol sy’n helpu i sefydlu set a hwyluso cyfarfodydd cychwynnol yn ogystal â monitro a gwerthuso dysgu gweithredol. Hoffech chi wella eich dysgu drwy fyfyrio ar faterion gwaith cyfredol gyda chydweithwyr? Ewch i’n gwefan am fwy o wybodaeth.

Diweddariad: Rhwydweithiau Cyfranogi Rhanbarthol

Free Tools

Cynhaliwyd ein rhwydweithiau cyfranogol rhanbarthol y mis hwn yn y Rhyl, Casnewydd a Chaerfyrddin. Yn y digwyddiadau rhwydweithio hyn edrychwyd yn fanwl ar sawl adnodd arlein am ddim y gellir eu defnyddio i ymgysylltu. Roedd amrywiaeth eang o fudiadau yn bresennol gan rannu llawer o syniadau diddorol.

Dyma restr o’r gwefannau a’r offer a drafodwyd:

Socrative – Creu cwisiau

Read-Able – Gwirio pa mor ddarllenadwy yw rhywbeth

Easel.ly – Creu graffigau gwybodaeth

Infogram – Creu graffigau gwybodaeth

Powtoon – Creu cartwnau byw

Pixabay – Casgliad o luniau am ddim

Morguefile – Mwy casgliad o luniau am ddim

Phrase it! – Ychwanegu swigod siarad ar ddelweddau

Pixlr – Golygydd lluniau arlein am ddim

Mailchimp – Creu cylchlythyron ar gyfer eich rhestrau postio

Twtpoll – Arolygon barn ar gyfer Twitter

Tagboard – Chwilio am bynciau/hashnodau ar Twitter

https://twitter.com/search-home – Chwilio Twitter

Eventbrite – Trefnu digwyddiadau y gellir cadw lle ynddynt

Survey Monkey – Dylunio arolygon a holiaduron.

Magisto – Clip ffilm golygydd

Google Charity Apps

Doodle – Trefnu cyfarfodydd gydag eraill

KeePass – Claddgell cyfrinair amgryptio (meddalwedd y gellir eu lawrlwytho ffynhonnell agored)

http://www.gimp.org/ – GNU Image Manipulation Programme (meddalwedd y gellir eu lawrlwytho ffynhonnell agored)

Skitch – Lluniau a darluniau yn Evernote (meddalwedd y gellir eu lawrlwytho)

Geospike – Dyddiadur teithio gyda GPS

Byddwn yn cynnal digwyddiadau rhwydweithio rhanbarthol eto fis Mai pan fydd prosiectau Lleisiau Lleol ledled Cymru yn rhannu eu gwaith. Os hoffech ddod iddynt cysylltwch â ni i gael gwybod mwy.

– Sarah

Llun o Pixabay.

Meddwl yn fyd-eang, gweithredu’n lleol

Mae “meddwl yn fyd-eang a gweithredu’n lleol” yr un mor berthnasol heddiw ag erioed. Mae’r syniad hwn yn ein hannog i ystyried cyflwr y byd cyfan, ond i fynd ati i weithredu yn ein cymunedau, ein broydd a’n dinasoedd ein hunain. Mae’n rhan o’r natur ddynol i warchod yr amgylchedd rydym yn byw ynddo – gall ymdrechion grwpiau bach o bobl ar lawr gwlad gael effaith enfawr ar ein cymuned leol a’n hamgylchfyd ehangach.

cynnalcymruRoeddwn yn ddiweddar yn nigwyddiad lansio Cronfa Cynnal Cymru a gynhaliwyd gan Cynnal Cymru yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, lle’r oedd yna siaradwyr rhagorol yn cynrychioli mudiadau lleol megis Cyngor Celfyddydau Cymru ac NSA Afan, yn ogystal â diwydiannau byd-eang megis Coca Cola Enterprises. Mae gan y mudiadau hyn weithgareddau gwahanol iawn ond roedd y neges yn glir: mae nod cynaliadwyedd yn hanfodol i bob sector, pob busnes a phob cymuned.

Mae datblygu cynaliadwy yn diwallu anghenion y presennol heb amharu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i wneud yr un fath. Mae Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a Siarter Datblygu Cynaliadwy Cymru yn rhoi dilysrwydd i egwyddorion cynaliadwyedd ac yn dangos yr ymrwymiad sydd gan bobl Cymru i’n dyfodol a dyfodol y blaned. Serch hynny, er mwyn i unrhyw fath o newid neu ddiwygiad ddigwydd a bod yn ystyrlon, mae angen iddo ddigwydd o’r gwaelod i fyny, ac felly ceir yr ymadrodd:

Meddwl yn fyd-eang, gweithredu’n lleol.

hands-600497_1280(Pixabay)

Mae i ni gyd ran yn y dyfodol: ein gwaddol ni yw rhoi cynaliadwyedd wrth wraidd gwasanaethau, ac mae hynny er lles pawb. Mewn cyfnod o gyni mae’n gwneud mwy fyth o synnwyr i ystyried cynaliadwyedd, gan ddefnyddio ein hadnoddau’n gynnil ond yn effeithlon; a chyflawni a datblygu ein potensial presennol. Mae cynaliadwyedd hefyd yn rhoi buddion diriaethol i waith ein mudiadau.

Mae Cynnal Cymru bellach yn edrych ymlaen at fynd ar drywydd rhai o’r awgrymiadau gwych a gafwyd yn y digwyddiad a rhoi ei fentrau newydd ar waith: Cronfa Cynnal Cymru, Gwobrau Cynnal Cymru, cynllun aelodaeth newydd ac ystod o hyfforddiant a digwyddiadau.

Mae Storify y diwrnod ar gael yma.

 – Sarah