Tag Archives: Cydgynhyrchu

Gwneud i ddysgu gweithredol lwyddo!

Wedi’i ail-flogio o WCVA

Action Learning

Ynogystal â hyfforddiant a chymorth pwrpasol mae Gwasanaeth Cefnogi Cymunedau ynGyntaf yn cynnig y cyfle i nifer cynyddol o bobl yng ngweithlu CyG ddysgu oddi wrth ei gilydd drwy ein Grwpiau Dysgu trwy Ganlyniadau (Outcome Learning Groups – OLGA). Mae’r rhain wedi’u seilio ar fethodoleg Dysgu Gweithredol. Yma, mae Jane Lewes o The Learning Consultancy, sy’n gweithio gyda Gwasanaeth Cefnogi CyG i ddatblygu’r fframwaith ar gyfer y dysgu yma ymysg cymheiriaid, yn egluro ‘rheolau’ Dysgu Gweithredol.

Mae Dysgu Gweithredol yn cael ei ddefnyddio’n fwyfwy aml fel ffordd o helpu grwpiau cymunedol i weithio drwy rai o’r materion y mae’n rhaid iddynt fynd i’r afael â nhw bob dydd. Gall y mathau o faterion neu “broblemau dyrys” gynnwys bron â bod unrhyw beth; gallant fod yn niwsans, yn rhwystredig neu hyd yn oed achosi gofid gwirioneddol. Beth bynnag fo natur y broblem, un nodwedd maent i gyd yn ei rhannu yw y bydd pobl eraill bron yn sicr wedi cael yr un broblem, neu un debyg.

Felly, sut mae Dysgu Gweithredol yn helpu i ddatrys problemau a thorri drwy rwystrau?

Mae techneg Dysgu Gweithredol yn hynod o syml ac yn ffordd effeithiol o gefnogi unigolyn i weithio drwy broblem go iawn a chyfredol, gan arwain at ddealltwriaeth newydd ac, yn y pen draw, atebion.  Mae’r dechneg yn syml gan mai’r cwbl sydd ei angen yw grŵp o bobl (tua 6-8) sy’n cytuno i ddilyn yr ychydig “reolau” hanfodol, sef:

Ymddiried. Pan fo grŵp o gydweithwyr yn cytuno i gwrdd fel Set Dysgu Gweithredol, mae angen sail gryf o ymddiried – ymddiried yn ei gilydd ac ymddiried yn y broses.  Un o gonglfeini ymddiried yw’r ymrwymiad i gyfrinachedd.  Bydd diffyg ymddiried bron yn sicr yn achosi i’r Set ymffrwydro a gallai arwain ar niwed pellach.

Eglurder Rol. Ceir 3 rôl mewn sefyllfa Dysgu Gweithredol:

  • Y Cyflwynydd – yr unigolyn sy’n rhannu ei fater neu ei broblem
  • Y Cefnogwyr – yr aelodau eraill o’r Set sy’n gwrando’n astud ac yn gofyn cwestiynau treiddgar a grymus ynglŷn ag agweddau ar y mater
  • Yr Hwylusydd – yr unigolyn sy’n gweithredu fel “dyfarnwr mwyn”, gan sicrhau bod y Set gyfan yn cadw at reolau’r broses

Y broses. Bydd Set Dysgu Gweithredol nodweddiadol yn mynd rhywbeth fel hyn:

  • Mae’r Set yn cwrdd mewn lleoliad lle mae preifatrwydd wedi’i sicrhau;
  • Mae’r Hwylusydd yn atgoffa’r Set o’r “rheolau cyfranogi”, rheoli amser, ymrwymiad i gyfrinachedd, yr angen i wrando ag empathi, ymatal rhag beirniadu a chanolbwyntio’n llwyr ar y Cyflwynydd;
  • Mae’r Cefnogwyr yn gwrando – gwrando i ddeall, nid i ymateb;
  • Mae’r Cyflwynydd yn siarad am oddeutu 6-10 munud;
  • Mae’r Hwylusydd yn agor y llawr i’r Cefnogwyr ofyn cwestiynau i’r Cyflwynydd, ond NID i roi cyngor na chynnig atebion posib!
  • Pan fo’r cwestiynau wedi dod i ben, mae’r Cyflwynydd yn crynhoi’r sefyllfa, yn enwi unrhyw ddealltwriaeth newydd ac unrhyw gamau y bydd yn eu cymryd cyn y sesiwn nesaf;
  • Daw’r sesiwn i ben gyda’r Hwylusydd yn gwerthuso effeithiolrwydd cyffredinol y sesiwn;
  • Bydd hyd ysesiwn yn amrywio, gan ddibynnu ar gytundeb ymysg y Set

Ansawdd y cwestiynau. Mae’r gallu i ofyn cwestiynau grymus yn hanfodol i Set Dysgu Gweithredol lwyddo. Dylid gofyn cwestiynau sy’n helpu’r Cyflwynydd i ganfod rhyw agwedd neu ongl newydd – rhywbeth nad oedd wedi’i daro o’r blaen.  Dylai cwestiynau fod yn agored a chanolbwyntio ar y pethau positif, gyda’r rhagdybiaeth ddealledig FOD yna ateb i’r broblem.  Ansawdd cwestiynau’r Cefnogwyr yw’r allwedd i Set Dysgu Gweithredol effeithiol.

Canlyniadau.  Prif nod Dysgu Gweithredol yw helpu unigolion i ganfod camau y gallant eu cymryd i ddatrys problem neu adfer sefyllfa.  Dylai pob sesiwn ddechrau gyda diweddariad gan y Cyflwynydd blaenorol, gan rannu beth sydd wedi digwydd o ganlyniad i’r camau yr ymrwymodd iddynt yn y sesiwn flaenorol.  Mae clywed am ganlyniadau positif yn rhoi hwb gwirioneddol i ddynameg y Set.

Cymhelliant. Pan fo Set Dysgu yn cwrdd y tro cyntaf, mae’r aelodau yn cytuno i ymrwymo i broses bendant – presenoldeb rheolaidd, cadw at y broses, ymrwymo’n llwyr, cyfrinachedd ac yn y blaen.  Wrth i amser fynd ymlaen, os yw unigolion yn anwybyddu’r ymrwymiadau hyn bydd lefel y cymhelliant yn gostwng a bydd y Set yn colli ei heffeithiolrwydd. Mae cymhelliant i gyfranogi yn hanfodol gan ei fod yn gweithredu fel sbardun sy’n cynnau egni i “danio ac ysbrydoli” gwaith y Set.

Dyma’r hyn y mae ambell i aelod o grwpiau OLGA wedi’i ddweud am eu profiadau cyntaf o Ddysgu Gweithredol:

“Rhoddodd ysgogiad i ni feddwl a’m gorfodi i edrych yn fanwl arna’i fy hun a’r Rheolwyr Clystyrau eraill. Gwnaeth i mi hefyd deimlo’n bryderus amdanon ni gyd – braidd yn ddychrynllyd decini. Roedd hi fel pe bai rhywun newydd roi’r golau ymlaen wrth sylweddoli bod gynnon ni’r un pryderon a phroblemau i ddelio gyda nhw. Dyma rywbeth y gallwn ni nawr weithio arno i lwyddo a chefnogi ein gilydd gydag ef.”

“Yr hyn rwyf wedi’i ddysgu o’r sesiwn yw edrych am y pethau positif mewn unrhyw sefyllfa gan y gallwch bron bob tro ddod o hyd i rywbeth positif i adeiladu arno.”

“Roeddwn yn meddwl bod y prynhawn cyfan yn ardderchog. Wyddwn i ddim beth i’w ddisgwyl, ond roedd fy mhrofiad cyntaf o set ddysgu dan arweiniad yr hwylusydd yn werth chweil ac mae’r pynciau a gododd y set wedi aros gyda mi ers hynny ac rwyf wedi treulio peth amser yn rhoi sylw iddynt. Rwyf wedi fy nghael fy hun yn myfyrio ar y profiad cyfan yn yr wythnosau sydd eisoes wedi pasio ac rwy’n edrych ymlaen at yr un nesaf.“

Os hoffech ddysgu mwy am y ffordd y gall Dysgu Gweithredol fod o gymorth yn eich rôl chi fel aelod o grŵp OLGA, cysylltwch â Gwasanaeth Cefnogi CyG drwy ebostio help@wcva.org.uk neu ffonio 0800 587 8898.

Mae Cyfranogaeth Cymru yn cynnig gwasanaeth hwyluso ar gyfer setiau dysgu gweithredol sy’n helpu i sefydlu set a hwyluso cyfarfodydd cychwynnol yn ogystal â monitro a gwerthuso dysgu gweithredol. Hoffech chi wella eich dysgu drwy fyfyrio ar faterion gwaith cyfredol gyda chydweithwyr? Ewch i’n gwefan am fwy o wybodaeth.

Advertisements

Ble mae eich grym ac ym mha ffordd ydych chi’n ei ddefnyddio?

Power!Mae angen ar fyrder i drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae arian yn prinhau, ni fydd arbedion effeithlonrwydd yn unig yn ddigon. Mae’r galw am wasanaethau acíwt yn cynyddu a thoriadau’n cael eu gwneud i wasanaethau cymunedol.

Ni all y wladwriaeth ei hun sicrhau ansawdd bywyd ac mae nifer o bobl bellach yn edrych ar wasanaeth cyhoeddus gwahanol wedi ei ddarparu ar y cyd sy’n rhoi’r dinesydd a’r gymuned yn y canol, gyda’r wladwriaeth fel galluogwr a hwylusydd.

Gan fod y rhan fwyaf o gyrff sector cyhoeddus yn draddodiadol yn strwythuredig a hierarchaidd dros ben, mae’n glir bod angen newid mewn diwylliant er mwyn i’r drefn o rannu pŵer ddod yn brif ddull o weithio yng Nghymru.

Yr wythnos ddiwethaf, bu holl dîm Cyfranogaeth Cymru yng Nghynhadledd flynyddol a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol CGGC yng Nghymru. Teitl y digwyddiad oedd: Symud ymlaen gyda gwasanaethau lleol cynaliadwy. Roedd gennym ran allweddol yn y digwyddiad eleni; cynhaliwyd gweithdy, roedd gennym stondin gwybodaeth ac roedd Mandy Williams, rheolwr Cyfranogaeth Cymru’n un o’r prif siaradwyr. Roeddem yn awyddus i annog pobl i ystyried sut maen nhw (neu eu sefydliad) yn defnyddio eu pŵer ar hyn o bryd, felly gofynnwyd y cwestiwn canlynol i’r rhai a oedd yn bresennol:

Ble mae eich  grym ac ym mha ffordd ydych chi’n ei ddefnyddio?

I ddechrau roedd y cynrychiolwyr yn cael trafferth ateb gan fod angen pwyso a mesur y cwestiwn cyn ateb – diolch byth daeth nifer o bobl yn ôl i ysgrifennu eu hatebion, a dyma grynodeb ohonyn nhw:

  • Mae fy ngrym yn fy nghred mewn cydraddoldeb a fy ysgogiad i sicrhau bod hynny’n realiti i bawb, trwy wrando, dysgu a defnyddio fy llais i helpu eraill!
  • Mae fy ngrym yn y ffaith fy mod yn rhan o dîm gyda chyfoeth o brofiad a gwybodaeth
  • Mae fy ngrym yn y ffaith fy mod yn gweithio i gorff archwilio a fy nghyfrifoldeb yw rhannu gwybodaeth a gwelliannau gydag eraill
  • Mae fy ngrym yn bresennol mewn llawer o wahanol lefydd – rwyf wastad yn ei ddefnyddio mewn ffordd gyfrifol er budd y gymuned – oni bai fod siocled yn gysylltiedig…
  • Mae fy ngrym yn fy mrwdfrydedd i gynnwys pawb ac rwy’n ei ddefnyddio i sicrhau bod ymgysylltu’n rhywbeth ystyrlon ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol
  • Mae fy ngrym yn fy ngallu i ddylanwadu ar eraill wrth ystyried pwysigrwydd ymgysylltu â dinasyddion wrth ddylunio darparu gwasanaethau cyhoeddus sy’n bwysig iddyn nhw
  • Rhannu fy ngwybodaeth a fy mrwdfrydedd gyda’r bobl yn fy mywyd: yn bersonol a phroffesiynol
  • Bod yn ymddiriedolwr sefydliad ac rwy’n defnyddio fy mhŵer trwy roi llai i grwpiau bregus.

Flipchart
Os nad oeddech yn gallu mynychu’r digwyddiad, gadewch eich ymateb i’r cwestiwn isod: Ble mae eich grym ac ym mha ffordd ydych chi’n ei ddefnyddio?

  – Sarah

Cydgynhyrchu ar Waith

Mae’n ymddangos bod yna gydsyniad athronyddol bod cydgynhyrchu, y syniad o fudiadau’n ystyried cymunedau a defnyddwyr gwasanaethau yn ased wrth ddarparu gwasanaethau, yn syniad da. Serch hynny prin yw’r mudiadau sydd wir yn barod i symud y tu hwnt i rethreg niwlog er mwyn gwireddu’r ideoleg hon. Efallai mai un o’r rhwystrau mwyaf yw bod unigolion o fewn mudiadau yn anghofio eu bod hwythau hefyd yn aelodau o’r cyhoedd a ddim yn rhywbeth mor ar wahân â hynny i’r bobl mae eu mudiad yn bodoli i’w gwasanaethau. Efallai’r rheswm yw nad yw mudiadau’n sylweddoli neu’n cydnabod bod defnyddiwr y gwasanaeth yn ased gwerthfawr sydd â rhywbeth i’w gyfrannu, i’w ‘roi yn ôl’ i’r mudiad sy’n ei wasanaethu. Neu efallai ei fod mor syml â hyn: mae cydgynhyrchu yn gofyn i’r rheini ar frig mudiadau sydd â’r grym i gyd ar hyn o bryd i rannu’r grym hwnnw â phobl a chymunedau. Mae hyn yn amhosib heb ymddiried ynddynt. Rhaid i’r rheini sy’n dal grym ar hyn o bryd ymddiried ddigon mewn cymunedau i ymgynghori â nhw, bod yn barod i siarad a gwrando a gwneud hynny’n onest.

Os nad ydych erioed wedi cwrdd â rhywun sy’n adfer yn agored o gaethiwed i gyffuriau neu alcohol, neu sydd wedi adfer, mae’n bosib na fyddech yn ystyried y gellid ymddiried yn y demograffig yma. Pan ddechreuais wirfoddoli i Recovery Cymru (cymuned adfer lle mae pobl yn adfer o broblemau â chyffuriau ac alcohol) fis Awst 2012, gwelais y byddai’r mudiad cyfan (yn enwedig bryd hynny, cyn iddo gael arian gan y loteri) yn disgyn yn ddarnau heb waith caled nid yn unig y ddau aelod o staff cyflogedig ond hefyd y gwirfoddolwyr eraill, y mae llawer ohonynt yn adfer neu wedi adfer o fod yn gaeth i alcohol neu gyffuriau. Ethos Recovery Cymru yw ein bod yn gymuned, ni waeth a ydych yn aelod, yn wirfoddolwr neu’n aelod o staff cyflogedig neu wedi cael problem â chaethiwed erioed ai peidio, a bod gan bob aelod o’n cymuned rywbeth i’w roi yn ogystal â rhywbeth i’w elwa o fod yn rhan ohoni. Rwyf fy hun yn teimlo’n freintiedig dros ben o fod wedi cwrdd â phobl ragorol, cryf ac ysbrydoledig drwy fy nghysylltiad â Recovery Cymru.

ImagePe baech yn cerdded mewn i adeilad Recovery Cymru neu yn wir unrhyw un o’n sesiynau neu ddigwyddiadau, ni fyddai’n amlwg ar unwaith pwy sy’n ‘ddefnyddiwr gwasanaeth’ (term na ddefnyddir o fewn Recovery Cymru, ond mae pwysigrwydd iaith yn bwnc ar gyfer blog i ddod!) a phwy sydd ddim. Mae llawer o’n haelodau sy’n ymuno i gael cymorth gyda chaethiwed hefyd yn wirfoddolwyr, felly, mae’r llinell rhwng defnyddiwr y gwasanaeth yn cymryd o’r mudiad a’r staff a’r gwirfoddolwyr yn rhoi iddynt yn aneglur ar unwaith.

Mae lefel y cyfrifoldeb y mae gwirfoddolwyr (y mae llawer ohonynt hefyd yn ‘ddefnyddwyr gwasanaeth’) yn dewis ei derbyn yn amrywio o gynorthwyo gyda thasgau gweinyddol a chadw’r adeilad yn daclus i hwyluso grwpiau megis y cyfarfod coginio wythnosol a threfnu digwyddiadau i gynrychioli Recovery Cymru mewn cynadleddau megis AWSUM. Mae pawb sy’n ‘defnyddio’ gwasanaethau Recovery Cymru hefyd yn rhoi rhywbeth yn ôl ac mae cymuned Recovery Cymru yn ffynnu oherwydd hynny.

Yn hanfodol, mae ethos cydgynhyrchu nid yn unig yn rhoi ymdeimlad o werth i unigolion sy’n aml wedi’u gwrthod mewn rhannau eraill o’u bywydau, ond hefyd yn hynod fuddiol i weithrediad Recovery Cymru. Mae’n ymddangos yn amlwg ond mewn gymaint o fudiadau anghofir mai defnyddiwr y gwasanaeth yw’r arbenigwr mewn gwirionedd ac mai eu barn nhw yw’r un bwysicaf oll. Yn Recovery Cymru y bobl hynny sy’n adfer o fod yn gaeth i gyffuriau neu alcohol yw’r arbenigwyr ac mae’r mudiad yn dibynnu ar eu gwybodaeth nid yn unig o’r broses adfer a’r llwybrau amrywiol at wellhad ond hefyd o’r materion niferus sy’n aml (ond nid bob tro) yn gysylltiedig â hanes o fod yn gaeth megis materion tai, problemau iechyd meddwl neu gorfforol ac mewn rhai achosion ceisio dod o hyd i waith ar ôl bod yn y carchar. Y bobl sy’n profi’r materion hyn, a’r rheini sydd wedi’u goresgyn, sydd yn y sefyllfa orau yn Recovery Cymru i siapio’r mudiad gan fod Recovery Cymru, wedi’r cwbl, yn bodoli (fel llawer o fudiadau) i gefnogi defnyddiwr y gwasanaeth.

Yn Recovery Cymru, gwahoddir pob aelod i gyfrannu at gyfarfod agored a gynhelir ddwywaith yr wythnos. Yma mae aelodau’n trafod pethau megis pa grwpiau newydd yr hoffent eu gweld yn cael eu cynnal – sut i sicrhau’n well fod y grwpiau’n diwallu anghenion y rheini sy’n eu defnyddio ac yna’n gofyn i’r bobl hyn beth sydd arnynt ei eisiau? Mae llawer o’r grwpiau yn cael eu hwyluso gan wirfoddolwyr – y mae rhai ohonynt yn y broses adfer. Mae aelodau hefyd yn cael dweud eu barn ar elfennau trefniadol, gan gynnwys y gallu i adolygu’r cod ymddygiad. Yn wir, pan gafodd Recovery Cymru gyllid gan y Loteri, a olygodd eu bod yn gallu recriwtio aelodau newydd o staff, roedd aelodau gwirfoddol presennol Recovery Cymru ar y panel cyfweld i holi ymgeiswyr.

Heb os byddai’n beth da pe bai mwy o fudiadau’n cydnabod defnyddwyr eu gwasanaethau fel asedau ac yn manteisio ar eu harbenigedd i wella eu gwasanaeth drwy ymddiried yn ei gilydd a chydweithio.

–          Non

 

Rhwydweithiau Cyfranogaeth Ranbarthol Mai: Cydgynhyrchu

Mae’n ymddangos mai cydgynhyrchu yw’r bri-air diweddaraf sydd i’w ganfod ym mhob sector o’r gwasanaeth cyhoeddus a byddai rhai yn dadlau ei fod yn golygu pethau gwahanol i bobl wahanol. Yn y rhwydweithiau cyfranogaeth a gynhaliwyd ddechrau mis Mai, edrychon ni ar beth mae cydgynhyrchu yn ei olygu i bobl a cheisio gwneud synnwyr o’r hyn mae’n ei olygu yng nghyd-destun cyfranogi ac ymgysylltu. Hefyd rhannodd cyfranogwyr y rhwydwaith lawer o enghreifftiau o gydgynhyrchu sy’n digwydd yn eu prosiectau/mudiadau – ond nid yw pawb yn ei alw ‘cydgynhyrchu’. Fel rydym wedi dysgu mewn rhwydweithiau blaenorol (Chwefror 2014, Hydref 2013) mae’n bwysig peidio boddi mewn diffiniadau.

Dechreuon ni bob rhwydwaith gydag ymarfer torri’r garw. Gofynnon ni i gyfranogwyr fynd i barau a meddwl sut mae cydgynhyrchu yn edrych, beth yw ef a beth nad yw ef. Nid oedd yr ymarfer hwn yn ceisio llunio diffiniad mewn geiriau ond yn ceisio canfod beth mae gweithio’n gydgynhyrchiol yn ei olygu mewn gwirionedd.

maynetwork_03maynetwork_02

 

 

 

 

 

 

 

Daeth y grŵp i’r casgliad nad yw cydgynhyrchu yn ddull ymgysylltu tocenistaidd; nid yw’n golygu arbed arian yn unig ac nid yw’n golygu ymgynghori. Dywedodd y grwpiau hefyd fod rhannu grym, gweithio tuag at amcan cyffredin a chydnabod pobl fel asedau yn crynhoi beth yw cydgynhyrchu – yn gyfystyr â gwerthoedd craidd Edgar Cahn ar gyfer cydgynhyrchu:

  • Cydnabod pobl fel asedau
  • Rhoi gwerth ar waith mewn ffordd wahanol
  • Hyrwyddo cydgyfnewidiaeth
  • Meithrin rhwydweithiau cymdeithasol.

Cliciwch yma i ddarllen nodiadau llawn yr ymarfer torri’r garw.

Roedd gennym siaradwr gwadd gwahanol ym mhob digwyddiad. Anne Collis o Barod oedd ein siaradwr yn y Gogledd. Mae Barod wedi cynhyrchu chwaer ddogfen i gyhoeddiad WCVA Rhoi Pobl yn y Canol o’r enw Bod yn y Canol a gyhoeddir yn fuan. Mae Bod yn y Canol wedi’i ysgrifennu mewn iaith syml ac wedi’i fwriadu ar gyfer y cyhoedd sy’n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus.

Mae Barod wedi datblygu dull maent yn ei alw’n sgyrsiau siop goffi a ddefnyddiwyd ganddynt wrth ddatblygu’r cyhoeddiad Bod yn y Canol. Mae’r dull yn golygu gwrando ar farn pobl mewn awyrgylch anffurfiol (siop goffi neu gaffi) yn hytrach na chyfarfod ymgynghori ffurfiol.

Ein siaradwr yn y De Ddwyrain oedd Gareth Coles, Swyddog Cyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus yn WCVA. Gofynnodd Gareth i gyfranogwyr feddwl am y rhwystrau i weithio’n gydgynhyrchiol a dyma oedd rhai o’u cynigion:

  • Mae’r syniad o gydgynhyrchu yn gallu bod yn ddryslyd gan fod nifer o wahanol syniadau a diffiniadau o’r hyn ydyw.
  • Mae cydgynhyrchu yn gofyn i bobl roi’r gorau i’w grym a rhoi grym i gymunedau a’r cyhoedd. Ni all cydgynhyrchu ddigwydd heb gael ei sbarduno gan y bobl ar y brig, sy’n aml yn amharod i rannu grym.
  • Pwysau ariannol. Hefyd diffyg gonestrwydd ar hyn o bryd wrth gyfathrebu â’r cyhoedd – mae ar lawer o fudiadau ofn cwrdd â thrigolion a bod yn onest â nhw.
  • Nid yw mudiadau bob amser yn cydnabod bod gan ddefnyddwyr gwasanaethau rhywbeth i’w roi yn ôl.

Wedyn trafododd y grŵp pa gamau y mae angen i fudiadau eu cymryd i weithio’n fwy cydgynhyrchiol:

  • Treulio mwy o amser yn gwrando
  • Peidio bod ag ofn rhoi’r ateb nad oes arnynt eisiau ei glywed
  • Gofyn am bryderon ac atebion
  • Rhoi’ch hun yn esgidiau’r derbynnydd
  • Meithrin a rhannu sgiliau/adnoddau
  • Derbyn beirniadaeth
  • Rhoi cynnig arni (gyda phob ewyllys da)
  • Creu deialog tryloyw

Yn y De Orllewin, y siaradwyr oedd Rick Wilson o’r Consortiwm Bywydau Cymunedol a rhai o arweinwyr y prosiect Amser i Gwrdd. Mae Amser i Gwrdd yn cael ei drefnu gan bobl ag anableddau dysgu a’u ffrindiau, eu teulu a staff yn Abertawe. Ei nod yw helpu aelodau i feithrin bywydau cymdeithasol cryfach gyda phobl o’u cwmpas drwy rannu sgiliau, diddordebau ac amser. Mae hyn yn cynnwys gweithdai gwneud gemwaith, gweithdai gwneud cardiau, boreuon coffi a llawer o weithgareddau eraill gan gynnwys eu fersiwn eu hunain o Come Dine with Me o’r enw Come Eat With Us!

Dangosodd Rick ddull maent yn ei ddefnyddio i adnabod beth mae ar eu haelodau eisiau ei wneud. Rhoddwyd darn o bapur coch a darn o bapur glas i bob un ohonom. Roedd gan y darn coch gwestiwn arno: Beth hoffech ei wneud? Ac ar y darn glas: Beth ydych yn hoffi ei wneud, neu’n dda am ei wneud? Unwaith i ni gyd nodi’n hatebion, rhoddwyd y papurau i gyd ar y llawr a’u gosod mewn grwpiau. Daeth hi’n amlwg fod ar lawer ohonom eisiau dysgu am arddio a choginio ac roedd yna hefyd bobl yn yr ystafell oedd eisoes yn gwybod am y pynciau hyn felly fel grŵp roeddem yn syth wedi canfod cyfle i bobl ddysgu ac adnodd i wneud hynny.

maynetwork_01

Ar ddiwedd bob cyfarfod rhwydweithio rydym bob amser yn mynd i grwpiau bach i rannu darnau o waith diweddar ac enghreifftiau o ymarfer da neu i barhau â’r drafodaeth gyffredinol. Yn olaf gofynnir i gyfranogwyr gwblhau ymarfer gwerthuso cyfranogol.

Nid yw Cyfranogaeth Cymru bellach yn cael dim cyllid i hwyluso a threfnu’r rhwydweithiau cyfranogi hyn felly rydym yn ddiolchgar iawn i fudiadau’r cyfranogwyr am ddarparu’r lleoliadau a’r lluniaeth (y tro hwn: Gyrfaoedd Cymru – Bangor, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru – Llantrisant a Chyngor Sir Caerfyrddin). Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i’r siaradwyr am roi eu hamser i ni. Byddwn yn ymdrechu i gadw’r cyfarfodydd rhwydweithio hyn i fynd a bydd y rownd nesaf o gyfarfodydd fis Hydref yn canolbwyntio ar ddulliau a thechnegau cyfranogol felly os ydych am ddangos techneg, rhoi cynnig ar un neu’n gallu cyfrannu unrhyw beth arall at y rhwydweithiau hyn, yna cysylltwch ar bob cyfrif.

Wythnos nesaf, fe fydd Non Humphries yn blogio ynglŷn â Chydgynhyrchu ar Waith.

–       Sarah