Tag Archives: cyfranogi

Gemeiddio yng ngŵyl Newid Ymddygiad Bangor

Cynhaliwyd Rhwydwaith Cyfranogi diweddaraf y Gogledd o fewn digwyddiad ehangach – yr Ŵyl Newid Ymddygiad yng nghanolfan Pontio, Prifysgol Bangor ac fe’i trefnwyd ar y cyd â Swyddfa Archwilio Cymru ac Arfer Da Cymru.

Roedd yr Ŵyl Newid Ymddygiad wedi’i hanelu at bobl â diddordeb mewn newid neu arloesi cymdeithasol yn y rolau canlynol ym meysydd gofal iechyd, addysg, llywodraeth leol a chenedlaethol a’r sector gwirfoddol:

  • Staff sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus
  • Llunwyr Polisïau
  • Aelodau Etholedig
  • Y Rhai sy’n Gwneud Penderfyniadau Strategol
  • Defnyddwyr Gwasanaethau sydd â diddordeb mewn gwasanaethau cyhoeddus gwell

Rhan fawr o’r ŵyl oedd yr agwedd gemeiddio ar bob diwrnod. Os gwelsoch ein cylchlythyr diweddaraf, dyma oedd ‘Dull y Mis’. Beth am i ni edrych yn fanylach ar y ffordd mae’n gweithio:

Roedd gan bob cyfranogwr dri ‘cherdyn gêm’ yn y pecyn a roddwyd i bawb wrth gyrraedd. Roedd pob cerdyn naill ai’n cynrychioli ‘hawdd’, ‘canolig’ neu ‘anodd’ ac arnynt roedd rhestr o heriau i’w cwblhau drwy gydol y dydd. Wrth gwblhau her, rydych yn cael stamp ar eich cerdyn gêm ac mae cerdyn sydd wedi’i gwblhau’n llawn yn ennill gwobr fechan.

Rwy’n hoffi her, felly es i yn syth am y cerdyn ‘anodd’ a gweld beth oedd angen i mi ei wneud i ennill gwobr:

  1. Cerdded 6000 o gamau
  2. Archebu pryd o fwyd iach o fwyty o fewn y ganolfan
  3. Cydnabod 3 pheth da a ddigwyddodd heddiw
  4. Ymuno â grŵp arall
  5. Mynd i bob digwyddiad mewn un diwrnod

Doedd hi ddim mor syml â gofyn am stamp, roedd angen i chi ddarparu tystiolaeth…

StepCounterAppDefnyddiais ap cyfrif camau ar fy ffôn i gofnodi faint roeddwn yn ei gerdded (roeddwn eisoes wedi cerdded i’r ganolfan felly roeddwn dros hanner ffordd at y targed cyn i’r digwyddiad ddechrau), roedd teclynnau cyfrif camau ar gael hefyd.

Amser cinio, tynnais lun o’r dderbynneb a’r pryd o fwyd a chefais fy ngwobrwyo â stamp am ‘archebu pryd o fwyd iach’. WelshHealthMenu

 

Roeddwn hefyd wedi bwriadu defnyddio lluniau i brofi fy mod wedi cydnabod pethau positif a ddigwyddodd – roedd yr haul yn gwenu, roedd presenoldeb da iawn yn ein digwyddiad rhwydweithio a chawsom drafodaeth ragorol – yn anffodus, ni lwyddais i gael y stamp am yr her hon; roeddwn yn brysur yn hwyluso’r digwyddiad rhwydweithio a dim ond un llun y cefais gyfle i’w dynnu felly oherwydd diffyg tystiolaeth ni chefais stamp!

Er mwyn ymuno â grŵp arall, roedd yna fandiau llewys o wahanol liwiau yn y pecyn a roddwyd i ni wrth gyrraedd – 4 lliw gwahanol i gyd. Roedd modd profi hyn drwy dynnu llun o’r bandiau llewys o wahanol liwiau.

Wristbands

I brofi’ch bod wedi bod i bob digwyddiad mewn un diwrnod, ar ôl gadael sesiwn roedd modd i’r cyfranogwyr a oedd yn chwarae’r gêm gael stamp ar eu cerdyn.

Er na lwyddais i gael pob stamp er mwyn ennill gwobr, roedd y gweithgaredd hwn yn ffordd hwyl iawn o gyfranogi ar ben y sesiynau diddorol a oedd ymlaen fel rhan o’r ŵyl.

Rhag ofn eich bod yn chwilfrydig, dyma’r tasgau ar y cardiau ‘hawdd’ a ‘chanolig’:

GameCards

Gwneud y gêm hon yn rhan o’ch bywyd bob dydd

Mae’r dechneg hon yn cynnig ffordd o’ch ysgogi’ch hun os ydych yn ei defnyddio yn eich bywyd bob dydd. Mae yna wefan ac ap symudol rwyf wedi’i ddarganfod o’r enw Habitica sy’n troi’ch bywyd yn gêm chwarae rôl (RPG – role-playing-game). Rydych yn gosod eich tasgau a’ch amcanion eich hun, yn dewis pa mor anodd ydynt ac wrth i chi eu cwblhau mae’ch cymeriad yn cael ei wobrwyo! Ond gofalwch, os nad ydych yn cwblhau’ch tasgau, fe fydd hyn yn niweidio iechyd eich cymeriad a rhaid i chi weithio’n galetach i’w adfer.

Cymwynas ar hap

Yn ogystal â’r cardiau gêm, roedd yna wybodaeth yn ein pecynnau ynglŷn â ‘chymwynas ar hap’ …ac ambell i sticer. Awgrymodd y daflen wybodaeth y cymwynasau ar hap canlynol:

  • Gadael llyfr ail-law mewn caffi
  • Dweud wrth rywun sut mae ef/hi wedi effeithio ar eich bywyd
  • Prynu diod i bwy bynnag sydd tu ôl i chi yn y ciw
  • Cuddio anrheg fechan i ddieithryn ei darganfod
  • Canmol rhywun
  • Rhoi nodyn rydych wedi’i ysgrifennu â llaw i ffrind

Y gêm oedd defnyddio’r sticeri a ddarparwyd i nodi’ch cymwynasau ar hap. Nod y gêm hon yw creu profiad positif i bawb. Mae wedi’i ddangos bod cymwynas fechan, syml ar hap, yn aml i ddieithriaid, yn cynyddu teimladau o hapusrwydd yn fawr yn yr un sy’n ei gwneud hi a’r un sy’n ei derbyn. Yn ogystal, mae myfyrio’n ymwybodol ynghylch cymwynasau o’r fath yn cael ei gysylltu â lleihad mewn emosiynau negyddol a chredir ei fod yn hwb tuag at fod ag agwedd optimistaidd.

Mae ymchwil wedi dangos y gall cymwynasau ar hap fod yn ffordd effeithiol o hybu’ch llesiant cymdeithasol ac emosiynol, sydd â chysylltiad pellach â sgiliau mewn perthynas, gwneud penderfyniadau cyfrifol, hunanbarch a hunanymwybyddiaeth.

Ydych chi wedi defnyddio unrhyw weithgareddau gemeiddio gyda defnyddwyr gwasanaethau, neu a ydych wedi defnyddio ap gemeiddio i gyrraedd nod i newid eich ymddygiad personol? A allai cymwynasau ar hap fod yn fuddiol i chi? Rhowch wybod drwy adael sylw isod ac ymuno yn ein trafodaeth.

   – Sarah

 

Defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ymgynghori o fewn y sector cyhoeddus

Er fy mod i’n siaradwr Cymraeg rhugl, mae fy hyder wrth ei ddefnyddio yn y gwaith yn amrywio ac yn dibynnu ar y sefyllfa. Rydw i wedi bod yn ymateb i ymgynghoriadau ar ran Cyfranogaeth Cymru am tua dwy flynedd, ond dim ond yn y mis diwethaf ymatebais yn y Gymraeg am y tro cyntaf. Rwy’n siarad Cymraeg bob dydd, ond dydw i ddim yn dod ar draws yr iaith sy’n cael ei ddefnyddio mewn ymgynghoriadau o ddydd i ddydd.

Pan gefais wahoddiad i wneud cyflwyniad yn symposiwm Tu Hwnt i’r Bwlch Comms Cymru ar yr iaith Gymraeg a chyfryngau cymdeithasol, roeddwn i’n awyddus ar unwaith – rydw i wedi mwynhau defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel rhan o fy rôl i. Maen nhw wedi helpu torri lawr ffiniau confensiynol gwasanaeth gwybodaeth, gan mai dim ond darlledu gwybodaeth wnaeth mudiadau yn y dyddiau a fu. Mae cyfryngau cymdeithasol wedi fy ngalluogi i rannu syniadau, dysgu oddi wrth eraill a rhwydweithio gyda mudiadau ledled y byd.

Fel siaradwr Cymraeg, rydw i’n awyddus i gael y cyfle i fyw fy mywyd trwy gyfrwng y Gymraeg ble bynnag mae’n bosib. Er mwyn galluogi hyn i ddigwydd, mae rhaid fy mod i’n cael y cyfle i ymgysylltu yn iaith fy newis i. Rwy’n ffodus fy mod i’n byw yng Nghaerdydd, ble mae gan Gyngor Caerdydd cyfrif Twitter Cymreig ardderchog, sy’n fy ngalluogi i wneud hynny.

Yn anffodus, dyw pawb yng Nghymru ddim yn cael yr un cyfle. O’r 257 o bobl a gwblhaodd Arolwg Cymru gyfan ar ddefnydd y rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol gan wasanaethau cyhoeddus, dim ond traean (33%) o’r ymatebwyr dywedodd bod ganddynt ffrydiau cyfryngau cymdeithasol Cymraeg neu ddwyieithog, tra bod 28% yn ansicr a doedd dim gan 39%.

Yn ddiddorol, roedd teimladau cymysg yn yr arolwg ac yn y digwyddiad am gael un ffrwd ddwyieithog neu ffrydiau ar wahân ar gyfer y Gymraeg a Saesneg. Roedd rhai’n teimlo bod un ffrwd yn normaleiddio’r defnydd o Gymraeg, tra bod eraill yn teimlo roedden nhw’n hoffi cael yr opsiwn o ddilyn ffrwd o’u dewis fel bod nhw’n gallu ymgysylltu yn yr iaith roedden nhw’n dewis.

Mae canlyniadau’r arolwg wedi dangos bod pobl yn meddwl mai un o’r rhwystrau mwyaf cyffredin yw does dim digon o staff sy’n siarad Cymraeg gan fudiadau er mwyn cynnal gwasanaeth effeithiol. Roedd pobl yn meddwl bod ymateb cyflym yn hollbwysig wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.

Roedd ymatebwyr hefyd yn teimlo bod e’n anodd cael pobl i ymgysylltu yn y Gymraeg, ac roedd e’n anodd gwneud achos busnes ar gyfer buddsoddiad ychwanegol pan mae defnydd yn isel. Fodd bynnag, dywedodd rhai ymatebwyr eu bod nhw’n teimlo bod llai o siaradwyr Cymraeg yn ymgysylltu trwy gyfryngau cymdeithasol achos doedd cynnwys Cymreig ddim wedi ei ysgrifennu mewn ffordd byddan nhw’n siarad, a bod negeseuon yng nghyfieithiad uniongyrchol o neges Saesneg fel arfer.

Ar hyn o bryd rwy’n ail-ysgrifennu fy argymhellion ar gyfer yr adroddiad yn dilyn penderfyniad y Gweinidog ar Safonau Iaith Gymraeg, ond mae fy argymhellion drafft yn cynnwys bod y defnydd o gyfryngau cymdeithasol trwy’r Gymraeg yn cael ei brif ffrydio i mewn i waith cyfathrebu mudiadau, yn hytrach na bod yn ychwanegiad. Hefyd rydym yn argymell bod gwaith ymgysylltu yn bodloni egwyddor 5 o’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru, sef ‘Ni fydd unrhyw jargon yn rhan o’r wybodaeth a ddarperir a bydd yn briodol ac yn hawdd i’w deall’. Mae’r nodiadau cyfarwyddyd yn dweud dylai ‘sicrhau bod y wybodaeth ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg, yn ogystal â mewn ieithoedd ethnig lleiafrifol eraill’. Mae’n hanfodol ein bod ni’n ymgysylltu mewn ffyrdd mae pobl eisiau ymgysylltu trwyddo, a hefyd ein bod ni’n ymgysylltu ar delerau bobl gan ddefnyddio iaith glir gall pawb deall. Mae cyfryngau cymdeithasol yn ffordd ddelfrydol i wneud hyn, gan fod ei natur anffurfiol yn golygu y gallwn ddefnyddio iaith glir i gyfathrebu’n well â phobl, beth bynnag yw eu dewis iaith.

– Dyfrig

Margaret Peters yn myfyrio dros waith Cyfranogaeth Cymru

Y fideo isod yw’r ail mewn cyfres o dri chyfweliad rydym wedi cynnal gydag aelodau o Banel Cynghori Cyfranogaeth Cymru fel rhan o’n Fframwaith Gwerthuso.

Margaret Peters on Participation Cymru / Margaret Peters ar Gyfranogaeth Cymru from Participation Cymru on Vimeo.

Yn wahanol i’r cyfweliad cyntaf gyda Derek Walker o Ganolfan Cydweithredol Cymru, lle wnaethon ni cyfweld Derek mewn person, fe wnaethon ni cyfweld Margaret dros y ffôn a defnyddiom ddelweddau a fideo o gyfarfod diwethaf y panel.

Pan ofynnais Margaret am rôl y Panel Ymgynghorol dywedodd “Rwy’n credu eu bod yno i lywio Cyfranogaeth Cymru yn y cyfeiriad cywir ac i’w cefnogi, ac mae’r ffaith bod sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus amrywiol yn aelodau o’r panel yn caniatáu cyd-weithio ac ymagwedd gyson at ymgysylltu â dinasyddion a chymunedol ar draws Cymru”.

Mae Margaret wedi cynrychioli Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar ein Panel Cynghori ers cyn i’r tîm presennol dechrau ein swyddi yng Nghyfranogaeth Cymru, ac yn dilyn y cyfweliad hwn mae hi wedi newid rolau a dyw hi ddim yn aelod o’r panel pellach. Mae hi wedi gweithio’n galed iawn i’n cynorthwyo ni gyda’n gwaith, ac rydyn ni gyd yn hynod o ddiolchgar am yr amser a’r ymdrech mae Margaret wedi rhoi i mewn i fod yn aelod o’r panel. Rydym i gyd yn dymuno’n dda iddi yn ei rôl newydd.

Fi yw’r cyntaf i gyfaddef dyw’r fideo yma ddim cweit i fyny i ansawdd Hollywood, ond serch hynny mae’n syndod bod y fideo wedi ei roi at ei gilydd gan ddefnyddio meddalwedd am ddim. Defnyddiais i Windows Moviemaker, sydd yn rhan safonol o becynnau Windows, ac fe wnes i hefyd defnyddio Audacity, sydd yn feddalwedd ffynhonnell agored am ddim sy’n galluogi chi i olygu ffeiliau sain.

Mae defnyddio fideo yn hytrach na dogfennau ysgrifenedig yn galluogi pobl i gael syniad gwell o’r gwaith ni’n gwneud fel prosiect. Mae’n meddwl gall pobl wrando a gwylio aelodau’r panel yn siarad am eu rolau yn eu geiriau eu hunain.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cymryd y defnydd o fideo i’r lefel nesaf drwy ddefnyddio YouTube i ymgynghori ar eu cynigion ar gyfer ei chyllideb. Mae’r blog yn cyfrif diddorol o’u gwaith ac mae’n werth ei ddarllen os ydych chi’n edrych i ddechrau defnyddio fideo i ymgynghori ac ymgysylltu!

– Dyfrig