Tag Archives: cyfryngau cymdeithasol

Ymchwil Gyfranogol gyda Gofalwyr

Ysgrifennwyd y blog gwadd hwn gan Rachel Waters o Wasanaeth Cwnsela Cymunedol Casnewydd.

USWMae Gwasanaeth Cwnsela Cymunedol Casnewydd wedi’i leoli ym Mhrifysgol De Cymru.  Mae’r gwasanaeth yn cynnig cwnsela am ddim i bobl leol ar draws Casnewydd a Chaerllion.

Mae’r Gwasanaeth Cwnsela hefyd yn cynnal ymchwil i gwnsela ac yn y blog hwn byddaf yn canolbwyntio ar ein hymchwil gyfranogol gyda gofalwyr.  Rwyf wedi edrych yn ôl ar rai agweddau heriol ar y gwaith a chynnwys ambell i air o gyngor i gynorthwyo eraill sy’n rhan o ymchwil gyfranogol.

Beth yw Ymchwil Gyfranogol?

Mae ymchwil gyfranogol yn cynnwys pobl mewn ymchwil fel cyd-ymchwilwyr nid cyfranogwyr yn unig; cyd-gynhyrchir gwybodaeth drwy gydweithio rhwng partneriaid ymchwil gymunedol, a dylai’r ymchwil arwain at weithredu er lles y gymuned dan sylw.

Mae gan ddulliau cyfranogol werth arbennig ‘sy’n cynnwys … rheoli grym â’r rheini sydd fel arfer yn destun yr ymchwil, a gweithio tuag at newid cymdeithasol graddol’ (Tîm Ymchwil Gymunedol Durham, 2011, t.4)

Canfod ein Cyd-ymchwilwyr

Ein cam cyntaf oedd cysylltu â mudiadau gofalwyr yn ardal Casnewydd.

Roedd hyn yn anodd i ddechrau – roedd llawer o fudiadau yn gefnogol ac am i ni gadw mewn cysylltiad, ond heb y capasiti i gymryd rhan.  Roedd egluro natur ymchwil gyfranogol yn anodd – gofynnwyd i mi’n aml am y cwestiynau ymchwil a’r ymrwymiad amser angenrheidiol.  Eglurais y byddai cyd-ymchwilwyr yn cytuno ar gwestiynau ymchwil a bod ymrwymiad yn hyblyg yn ôl diddordebau a chapasiti’r mudiad.  Mae’r ansicrwydd cynhenid mewn dulliau ymchwil gyfranogol yn ei gwneud yn anodd rhagweld mewn unrhyw fanylder beth fydd y prosiect yn ei gynnwys, ac mae hyn yn ei gwneud yn anos i fudiadau allu ymrwymo i gymryd rhan.

Er gwaetha’r heriau hyn, yn y pen draw llwyddon ni i ennyn diddordeb ac ymrwymiad nifer o fudiadau ac unigolion allweddol lleol a gytunodd i fod yn gyd-ymchwilwyr.

Ein cyd-ymchwilwyr

Ein cyd-ymchwilwyr yw: Fforwm Gofalwyr Casnewydd, Hafal (Casnewydd), Swyddog Datblygu Gofalwyr Cyngor Dinas Casnewydd a Thîm Adolygu Oedolion Cyngor Casnewydd.

Participatoryresearch

  • Gair o gyngor… Gall perthynas bositif sydd eisoes yn bod â mudiadau ac unigolion wneud y cam cyntaf hwn gymaint haws.
  • Gair o gyngor… Paratowch eglurhad cryno a dealladwy o ymchwil gyfranogol ond byddwch yn barod am gwestiynau ynghylch manylion y prosiect.

Y dasg nesaf oedd gweithio gyda’n gilydd i benderfynu ar ein cwestiwn ymchwil.

Penderfynu beth i’w ymchwilio

Yn ddelfrydol mewn ymchwil gyfranogol, mae cyd-ymchwilwyr cymunedol yn dewis y pwnc a’r cwestiynau ymchwil, ond roedd ein cyd-destun penodol fel gwasanaeth cwnsela mewn Prifysgol yn ei gwneud yn ofynnol i ni ganolbwyntio ar gwnsela.  Gwnaed ein cyd-ymchwilwyr yn ymwybodol o hyn o’r dechrau. 

Datgelodd adolygiad o’r Gwasanaeth Cwnsela nad oedd llawer o ofalwyr yn defnyddio ein gwasanaeth ac nad oedd y rheini a oedd yn ei defnyddio yn aros yn hir.  Roedd hyn yn peri pryder gan y gwyddem o’n cyd-ymchwilwyr ac o ymchwil fod yna lawer o ofalwyr yn yr ardal hon, y gall gofalu arwain at straen, iselder a gorbryder, ac y gall cwnsela fod o gymorth i ofalwyr.  Bu i ni rannu’r wybodaeth hon â’n cyd-ymchwilwyr a phenderfynodd y grŵp i edrych ymhellach ar yr anghysondeb hwn gan anelu at wella’r gwasanaeth y mae Gwasanaeth Cwnsela Cymunedol Casnewydd yn ei gynnig i ofalwyr a rhannu’r hyn rydym yn ei ganfod â mudiadau cwnsela eraill a mudiadau gofalwyr.

Datgelodd trafodaeth â’n cyd-ymchwilwyr fod gofalwyr yn tueddu i ganolbwyntio ar y sawl sy’n cael y gofal gan esgeuluso eu hanghenion eu hunain.  Ategwyd hyn yn y llenyddiaeth ymchwil.  Roedd y grŵp yn meddwl tybed a yw gofalwyr yn ystyried cwnsela fel ffordd o’u helpu i gynnal gofal a ddim yn llawn sylweddoli pa mor ddefnyddiol y gallai fod i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

Lluniodd y grŵp yr amcanion canlynol:

  • Canfod disgwyliadau gofalwyr o broses a chanlyniadau posib cwnsela
  • Canfod a yw gofalwyr yn ystyried y gallai cwnsela fod o gymorth iddynt, ac ym mha ffordd, yn enwedig o ran effaith gofalu ar eu lles emosiynol
  • Canfod rhwystrau sy’n atal gofalwyr rhag cael at wasanaethau cwnsela
  • Gweithio ar y cyd a, chyn belled ag sy’n ymarferol, yn gyfartal ag aelodau o’r gymuned leol

Er ei bod efallai yn ymddangos o ddarllen y crynodeb hwn i’n hamcanion ymchwil ddisgyn yn gyflym ac yn esmwyth i’w lle, mewn gwirionedd roedd proses integreiddio gwybodaeth academaidd â gwybodaeth gymunedol yn cymryd llawer o amser ac yn lletchwith.  Bu i ni adolygu’r llenyddiaeth a gwrando ar ein partneriaid cymunedol ar yr un pryd – wrth edrych yn ôl, mae’n bosib y byddai gwrando’n gyntaf ac yna adolygu’r llenyddiaeth ar y pynciau a godwyd wedi hwyluso’r broses.

  • Gair o gyngor… Ystyriwch ymlaen llaw a ydych am integreiddio gwybodaeth academaidd o’r pwnc i mewn i ddatblygiad amcanion neu gwestiynau ymchwil, ac ym mha ffordd.

Datblygu ein deunyddiau astudio

Bu i ni benderfynu fel grŵp i ddefnyddio cyfweliadau lled strwythuredig i gael gwybodaeth gan ofalwyr, gan fynd ati i gynhyrchu ein deunyddiau astudio – cyhoeddusrwydd i recriwtio cyfranogwyr, amserlen cyfweliadau, ac yn y blaen.

Yn ddelfrydol mewn ymchwil gyfranogol byddai’r holl ddeunyddiau’n cael eu cynhyrchu fel grŵp o’r dechrau, ond oherwydd pryderon pragmataidd penderfynon ni y byddai’r partneriaid academaidd yn datblygu’r deunyddiau ac y byddai’r grŵp yn eu hadolygu a’u golygu gan ddefnyddio eu profiad a’u gwybodaeth leol.

Arweiniodd y broses adolygu at sawl newid yn ein deunyddiau megis gwneud y term ‘gofalwr’ yn gliriach – dywedodd ein cyd-ymchwilwyr wrthym fod y term yn cael ei ddefnyddio’n lleol i gyfeirio at ofalwyr cyflogedig yn ogystal â’r rhai di-dâl.  Bu i ni hefyd addasu amserlen y cyfweliadau i fod yn fwy cyfleus i’r rheini sy’n gofalu am fwy nag un person – dangosodd ein cyd-ymchwilwyr fod y sefyllfa hon yn llawer mwy cyffredin nag oeddem wedi’i ragweld.

Canlyniadau Ymchwil

Un o’r agweddau pwysicaf ar ymchwil gyfranogol yw y dylai arwain at gamau positif er lles y gymuned dan sylw – yn ein hachos ni, gofalwyr yng Ngwent.  Mae pa gamau y byddwn yn eu cymryd yn dibynnu ar ganlyniadau ein hymchwil, ond mae gennym syniadau amrywiol mewn golwg gan gynnwys hyfforddiant arbenigol i gwnselwyr sy’n gweithio gyda gofalwyr a/neu gynhyrchu gwybodaeth hygyrch i ofalwyr ynglŷn â chwnsela.

Rydym wrthi’n recriwtio gofalwyr i gael eu cyfweld ar gyfer ein hymchwil.  Os gwyddech am unrhyw ofalwyr di-dâl, dros 18 oed yng Ngwent a all fod â diddordeb, anfonwch fy manylion cyswllt atynt os gwelwch yn dda:

Rachel Waters (Cynorthwyydd Ymchwil)
Gwasanaeth Cwnsela Cymunedol Casnewydd
Ffôn: 01633 435282
E-bost: Rachel.Waters2@southwales.ac.uk

Mae unrhyw farn neu safbwyntiau a gyflwynir yn y blog hwn yn eiddo i’r awdur yn unig ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli barn na safbwyntiau Prifysgol De Cymru a’r cyd-ymchwilwyr cymunedol.

Cyfeiriadau

Tîm Ymchwil Gymunedol Durham (2011) Community-based participatory research: Ethical challenges.  Ar gael ar: https://www.dur.ac.uk/resources/beacon/CCDiscussionPapertemplateCBPRBanksetal7Nov2011.pdf

(Cyrchwyd 2 Mai 2014)

E-gyfranogaeth ac adrodd storiau

Mae cyfranogaeth yn gysyniad mor fawr, mae fe bron yn frawychus! Mae’n cynnwys dulliau traddodiadol i gynnwys pobl a chymunedau yn bersonol, a dulliau ar-lein i ymgysylltu ag unigolion a chymunedau megis cyfryngau cymdeithasol.

Rwy’n ddigon ffodus i weithio mewn rôl lle dwi ‘di cael llawer o ryddid i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol. Rwy’n gwybod fy mod i’n lwcus oherwydd dywedodd 53% o’r rhai a ymatebodd i’r Arolwg Cymru gyfan ar ddefnydd y rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol gan wasanaethau cyhoeddus bod polisïau technoleg gwybodaeth gyfyngol yn dal i fod yn rhwystr lle maen nhw’n gweithio (bydd yr adroddiad llawn ar gael yn fuan!).

Rydw i wedi bod yn lwcus i fynd i sawl cwrs a digwyddiad ar y pwnc yma ac rydw i wedi cwrdd â llawer o bobl sydd wedi dysgu siwd gymaint i mi am gyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys Louise Brown, a oedd yn rhedeg cwrs gwych ar gyfer Lleisiau dros Newid Cymru ar ymgyrchu ar-lein (ac sydd gyda blog gwych hefyd), ac Esther Barrett a Paul Richardson o RSC Cymru, a wnaeth rhedeg digwyddiad ar gyfer staff WCVA ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.

Roedd y ddau gwrs yn ymarferol iawn a rhoddodd syniadau i mi am ddefnyddio offer rhad ac am ddim i ymgysylltu â phobl. Dysgodd Esther i mi sut i ddefnyddio Audacity, ac rydw i wedi blogio am ddefnyddio hwn i werthuso ein prosiect yn y gorffennol.

Y tro nesaf wnes i redeg i mewn i Esther oedd yn nigwyddiad Adrodd Straeon Digidol DS6 yn Aberystwyth, lle roeddwn i wedi fy lleoli ar y pryd. Fe wnaeth Esther ddechrau trafodaeth ddifyr am ddefnyddio dulliau anhraddodiadol fel Facebook i ddweud storïau anhraddodiadol. Gallwch weld a chlywed Esther yn siarad mwy am hyn yn y fideo uchod. Fe wnaeth ei ymateb wir wneud i mi feddwl am sut ni’n cael storïau pobl i ddylanwadu ar wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig wrth i fwy a mwy o wasanaethau  defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu. Yn dilyn hyn wnaeth Esther gynnal cynhadledd ar-lein ar Elluminate am y profiad. Gallwch wylio’r sesiwn yma. Mae’n ymdrin â sut mae pobl yn defnyddio technoleg i adrodd straeon mewn ffyrdd creadigol, o’r nofel Twitter a ysgrifennwyd yn Tweets at y defnyddiwr Facebook a ddogfennodd genedigaeth ei phlentyn. Mae’n anhygoel pa mor bwerus yw’r naratifau yma.

Bydd Esther a Paul o RSC Cymru yn fy helpu i i redeg y cwrs Cyflwyniad i e-gyfranogaeth, sy’n rhan o’n rhaglen hyfforddiant cyfredol. Fe fydd e’n teimlo’n ychydig yn od i arwain y dydd pan rydw i wedi dysgu cymaint oddi wrth Esther a Paul, ond os ydych chi’n dod rwy’n gobeithio eich bod chi’n ffeindio’r cwrs mor ddefnyddiol ag fe wnes i ffeindio hyfforddiant RSC Cymru!

– Dyfrig

Defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ymgynghori o fewn y sector cyhoeddus

Er fy mod i’n siaradwr Cymraeg rhugl, mae fy hyder wrth ei ddefnyddio yn y gwaith yn amrywio ac yn dibynnu ar y sefyllfa. Rydw i wedi bod yn ymateb i ymgynghoriadau ar ran Cyfranogaeth Cymru am tua dwy flynedd, ond dim ond yn y mis diwethaf ymatebais yn y Gymraeg am y tro cyntaf. Rwy’n siarad Cymraeg bob dydd, ond dydw i ddim yn dod ar draws yr iaith sy’n cael ei ddefnyddio mewn ymgynghoriadau o ddydd i ddydd.

Pan gefais wahoddiad i wneud cyflwyniad yn symposiwm Tu Hwnt i’r Bwlch Comms Cymru ar yr iaith Gymraeg a chyfryngau cymdeithasol, roeddwn i’n awyddus ar unwaith – rydw i wedi mwynhau defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel rhan o fy rôl i. Maen nhw wedi helpu torri lawr ffiniau confensiynol gwasanaeth gwybodaeth, gan mai dim ond darlledu gwybodaeth wnaeth mudiadau yn y dyddiau a fu. Mae cyfryngau cymdeithasol wedi fy ngalluogi i rannu syniadau, dysgu oddi wrth eraill a rhwydweithio gyda mudiadau ledled y byd.

Fel siaradwr Cymraeg, rydw i’n awyddus i gael y cyfle i fyw fy mywyd trwy gyfrwng y Gymraeg ble bynnag mae’n bosib. Er mwyn galluogi hyn i ddigwydd, mae rhaid fy mod i’n cael y cyfle i ymgysylltu yn iaith fy newis i. Rwy’n ffodus fy mod i’n byw yng Nghaerdydd, ble mae gan Gyngor Caerdydd cyfrif Twitter Cymreig ardderchog, sy’n fy ngalluogi i wneud hynny.

Yn anffodus, dyw pawb yng Nghymru ddim yn cael yr un cyfle. O’r 257 o bobl a gwblhaodd Arolwg Cymru gyfan ar ddefnydd y rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol gan wasanaethau cyhoeddus, dim ond traean (33%) o’r ymatebwyr dywedodd bod ganddynt ffrydiau cyfryngau cymdeithasol Cymraeg neu ddwyieithog, tra bod 28% yn ansicr a doedd dim gan 39%.

Yn ddiddorol, roedd teimladau cymysg yn yr arolwg ac yn y digwyddiad am gael un ffrwd ddwyieithog neu ffrydiau ar wahân ar gyfer y Gymraeg a Saesneg. Roedd rhai’n teimlo bod un ffrwd yn normaleiddio’r defnydd o Gymraeg, tra bod eraill yn teimlo roedden nhw’n hoffi cael yr opsiwn o ddilyn ffrwd o’u dewis fel bod nhw’n gallu ymgysylltu yn yr iaith roedden nhw’n dewis.

Mae canlyniadau’r arolwg wedi dangos bod pobl yn meddwl mai un o’r rhwystrau mwyaf cyffredin yw does dim digon o staff sy’n siarad Cymraeg gan fudiadau er mwyn cynnal gwasanaeth effeithiol. Roedd pobl yn meddwl bod ymateb cyflym yn hollbwysig wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.

Roedd ymatebwyr hefyd yn teimlo bod e’n anodd cael pobl i ymgysylltu yn y Gymraeg, ac roedd e’n anodd gwneud achos busnes ar gyfer buddsoddiad ychwanegol pan mae defnydd yn isel. Fodd bynnag, dywedodd rhai ymatebwyr eu bod nhw’n teimlo bod llai o siaradwyr Cymraeg yn ymgysylltu trwy gyfryngau cymdeithasol achos doedd cynnwys Cymreig ddim wedi ei ysgrifennu mewn ffordd byddan nhw’n siarad, a bod negeseuon yng nghyfieithiad uniongyrchol o neges Saesneg fel arfer.

Ar hyn o bryd rwy’n ail-ysgrifennu fy argymhellion ar gyfer yr adroddiad yn dilyn penderfyniad y Gweinidog ar Safonau Iaith Gymraeg, ond mae fy argymhellion drafft yn cynnwys bod y defnydd o gyfryngau cymdeithasol trwy’r Gymraeg yn cael ei brif ffrydio i mewn i waith cyfathrebu mudiadau, yn hytrach na bod yn ychwanegiad. Hefyd rydym yn argymell bod gwaith ymgysylltu yn bodloni egwyddor 5 o’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru, sef ‘Ni fydd unrhyw jargon yn rhan o’r wybodaeth a ddarperir a bydd yn briodol ac yn hawdd i’w deall’. Mae’r nodiadau cyfarwyddyd yn dweud dylai ‘sicrhau bod y wybodaeth ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg, yn ogystal â mewn ieithoedd ethnig lleiafrifol eraill’. Mae’n hanfodol ein bod ni’n ymgysylltu mewn ffyrdd mae pobl eisiau ymgysylltu trwyddo, a hefyd ein bod ni’n ymgysylltu ar delerau bobl gan ddefnyddio iaith glir gall pawb deall. Mae cyfryngau cymdeithasol yn ffordd ddelfrydol i wneud hyn, gan fod ei natur anffurfiol yn golygu y gallwn ddefnyddio iaith glir i gyfathrebu’n well â phobl, beth bynnag yw eu dewis iaith.

– Dyfrig

Arolwg o’r modd mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn defnyddio’r we a chyfryngau cymdeithasol yn 2012

Rwy’n tybio bod rhan fwyaf ohonoch chi heb clywed am Weithgor Ymgysylltu â’r Cyhoedd, ac mae hynny’n iawn – dyna un o’r rhesymau wnaethon ni dechrau’r blog ‘ma, gan nad oedd llawer o waith Cyfranogaeth Cymru yn ffitio i mewn i hen brosesau gwybodaeth ni.

Mae’r grŵp yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Cyfranogaeth Cymru, NLIAH, Conffederasiwn GIG Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Ysgol Fusnes Caerdydd. Cafodd ei roi at ei gilydd i sicrhau bod pob sefydliad yn edrych i ymgysylltu â’r cyhoedd yn yr un ffordd, a bod ni ddim yn dyblygu gwaith a’n bod ni’n cydweithio pryd bynnag mae hynny’n bosib.

Dyna pam lansiwyd arolwg o’r modd mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn defnyddio’r we a chyfryngau cymdeithasol ym mis Medi, fel y gallem gael darlun gwell o beth mae sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus Cymru yn ei wneud, i weld beth allwn wneud yn well, ac i edrych ar sut gallem rannu gwaith cyffrous yn well.

Mae’r canlyniadau i mewn! A gallwch eu lawrlwytho yma.

Ni’n rhoi’r adroddiad at ei gilydd nawr, ac rydym yn gobeithio bydd e ar gael erbyn diwedd y flwyddyn. Fi ‘di cael y dasg o roi’r adrannau ar gyfryngau cymdeithasol drwy’r Gymraeg a sut mae cyfryngau cymdeithasol yn cael ei werthuso at ei gilydd.

Er nad yw’r adroddiad ar gael eto, mae llawer o arfer da ar y we i chi edrych arno’n barod! Mae Rhodri Ap Dyfrig wedi anfon i mi rai adnoddau defnyddiol iawn o amgylch cyfryngau cymdeithasol Cymreig. Fe wnaeth e gyflwyniad grêt ar gyfryngau cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg mewn digwyddiad Llywodraeth Cymru wnes i fynychu ym mis Mehefin. Gallwch ddarllen y cyflwyniad yma, neu gwyliwch y fideo uchod. Mae llawer mwy o wybodaeth o’r digwyddiad ar gael yma.

Mae Esther Barrett o RSC wedi bod yn help mawr wrth edrych ar hyder siaradwyr Cymraeg. Mae thesis gwych hi ‘Somewhere along the line’ yn werth ei ddarllen i ddeall yn well pa mor bwysig yw hi ein bod ni’n darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Rydym wedi bod yn eithaf amserol o ran gwerthuso – mae Tîm Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU wedi ysgrifennu blog diddorol iawn ar hyn. Mae blog Helen Reynolds hefyd wedi bod yn ysbrydoliaeth o ran gwerthuso – gallwch ddarllen mwy yma ac yma.

Rydym yn edrych ymlaen at rannu’r adroddiad terfynol gyda chi!

– Dyfrig

Adeiladu ymgysylltiad ar-lein gyda WordPress

Ddoe, mynychais ddigwyddiad defnyddiol iawn a gafodd ei gynnal gan Ddefnyddwyr WordPress Cymru a Chynghrair Meddalwedd Cymru ar Adeiladu Ymgysylltiad Ar-lein Gyda WordPress. Edrychwch ar yr adborth!

Fel prosiect, rydym yn gymharol newydd i flogio, felly roedd yn wych i glywed syniadau sy’n cadarnhau beth ni’n wneud (“defnyddiwch lais anffurfiol”) ac i ddysgu mwy am sut y gallwn blogio’n effeithiol (“rhoi eich erthyglau blog yn eich cylchlythyr, defnydd cymaint o’r cynnwys â phosibl”).

Fe wnaeth Phillipa Davies, Joel Hughes a Helen Reynolds cynnig awgrymiadau craff am sut i flogio’n effeithiol a sut i ddefnyddio WordPress yn arbennig.

Rydw i wedi defnyddio Storify i gasglu trydar o’r digwyddiad er mwyn i chi gael blas o sut wnaeth digwyddiad rhedeg.

Mae’r cyflwyniadau i gyd ar gael ar flog Defnyddwyr WordPress Cymru. Mae Joel wedi ysgrifennu erthygl dilynol ar ei flog ef hefyd.

– Dyfrig

DIWEDDARIAD  – Mae Helen Reynolds wedi ysgrifennu erthygl grêt ar ei flog hi ers y digwyddiad. Gallwch ffeindio’r blog yma.