Tag Archives: cymru

Rhwydweithio ym Myd Natur

Yma yn Cyfranogaeth Cymru, rydym wrth ein bodd yn treulio amser yn yr awyr agored ac ers tro bellach rydym wedi bod yn trafod y syniad o gynnal rhwydwaith ym myd natur.

Felly, yn fuan ar ôl penwythnos Gŵyl Banc Calan Mai, cynhaliwyd rhwydwaith ymarferwyr yn yr awyr agored am y tro cyntaf erioed gyda chymorth Tom Moses o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Dyma grynodeb o’r hyn a ddigwyddodd:

Yn gyntaf, roedd y tywydd yn fendigedig!

20160504_102746.jpg

Dim argoel o gwbl am law

IMG_20160504_205021

Roedd Tom wedi cynnau’r tân yn gynt y bore hwnnw, felly roedd paned boeth o de a choffi ar gael wrth i ni gyrraedd.

20160504_103712

Dangosodd Jill Simpson, o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, y dodrefnyn godidog hwn i ni (mae’n gymaint mwy na mainc yn unig). Fe’i dyluniwyd a’i greu gan bobl ifanc leol ar gyfer y coetir hwn.

20160504_112318

20160504_112404

Aeth Matt, un o wirfoddolwyr Arfordir Penfro, â ni am dro ar hyd llwybr cerdded gan ddysgu darllen map a sgiliau cyfeiriannu sylfaenol.

20160504_120738

Ar hyd y ffordd, fe ddaethom ar draws wartheg ifanc chwilfrydig a oedd yn awyddus iawn i ddweud shwmae

20160504_121708

Mae modd gwneud te o blanhigion, gwreiddiau a ffyngau amrywiol o’r goedwig (ond peidiwch byth â bwyta unrhyw beth gwyllt rydych wedi’i hel onid ydych yn hollol siwr ei fod yn ddiogel!)

20160504_123628

Tamaid i aros pryd: bara cynnes yn syth o’r ffwrn agored gyda garlleg gwyllt a oedd newydd ei hel.

20160504_124110

Defnyddiwyd dull pleidleisio cyfranogol – ‘pleidlais gerrig’ – i benderfynu pa de oedd fwyaf blasus (dant y llew oedd ‘at ddant’ y mwyafrif).

20160504_124033

Ond roedd mwy i’w wneud na dim ond yfed te, sgwrsio â gwartheg a mynd am dro, thema’r cyfarfod rhwydweithio oedd newid ymddygiad. Gofynnodd Cyfranogaeth Cymru y cwestiwn i fudiadau sy’n gweithredu’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru: pa fath o newid ymddygiad sy’n gorfod digwydd o fewn mudiad? Atebion ar y bwrdd gwyn magnetig…

20160504_132843

Yn ddiweddar, fe wnaethom gyhoeddi rhestr gyfeirio wrth weithredu’r Egwyddorion Cenedlaethol ac arni gwestiynau ar gyfer pob egwyddor. A yw’ch mudiad chi wedi gorfod newid ei ymddygiad wrth ymgysylltu? A ydych chi wedi gorfod ceisio dylanwadu ar ymddygiad eraill er mwyn gwneud gwelliannau? Ymunwch yn y sgwrs drwy adael sylw isod.

Yn olaf… gadael (bron) dim ôl

Mae’r clai hwn, sy’n hydawdd mewn dŵr ac yn sychu ag aer, yn ffordd wych i bobl ‘adael eu marc’ ym myd natur heb niweidio’r amgylchedd o gwbl. Aethom â’n sbwriel i gyd i ffwrdd gyda ni.

20160504_134159

20160504_133852

Diolch o galon i Tom, Jill a Matt o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro am eu cymorth i sicrhau llwyddiant y diwrnod.

Os ydych chi’n ystyried cynnal digwyddiad neu gyfarfod cymunedol yn yr awyr agored, cofiwch roi gwybod i ni fel y gallwn eich helpu i’w hyrwyddo.

Cofiwch gadw llygad ar ein gwefan am fanylion digwyddiadau rhwydweithio i ddod.

Cynhelir ein ‘digwyddiad Rhwydweithio Cymru Gyfan’ o’r enw ‘Ymgysylltu â chymunedau amrywiol’ yn Llandrindod ar 14eg Gorffennaf; mynediad am ddim!

Sarah

Gwella gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru

Yn ogystal â bod yn Weinyddydd ar gyfer Cyfranogaeth Cymru, rwyf hefyd yn arwain ar nodweddion gwarchodedig beichiogrwydd a mamolaeth o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rwy’n fam falch iawn i ferch fendigedig un oed ac roeddwn yn sicr o’r dechrau fy mod am ddychwelyd i’r gwaith, yn bennaf fel y byddai hi’n tyfu fyny gan wybod nad oes raid iddi ddewis rhwng gyrfa a theulu, felly, mae’r pwnc hwn yn agos at fy nghalon.

Roeddwn yn f’ystyried fy hun yn ffodus tra oeddwn yn disgwyl ac yn ystod yr absenoldeb mamolaeth dilynol i fod yn gweithio i fudiad sy’n trin cyflogeion beichiog yn deg – yn wir, mi ddatgelais yn y cyfweliad am y swydd fy mod yn disgwyl ac ni rwystrodd hyn fi o gwbl! Dewisais gymryd chwe mis o absenoldeb mamolaeth ac roeddwn yn gallu gwerthfawrogi a defnyddio’r amser hwn yn llawn i feithrin perthynas agos â’m merch gan wybod y byddai fy swydd yn y gwaith yn ddiogel ar ddiwedd fy absenoldeb. Yn ogystal, dim ond ynglŷn â materion cymdeithasol y cysylltodd fy nhîm â mi yn ystod fy absenoldeb a chefais gefnogaeth a goruchwyliaeth wrth ddychwelyd i’m helpu i ddod yn ôl i arfer â phethau’n gyflym.

Dylai fy sefyllfa i gael ei hystyried y norm ac nid fel enghraifft o lwc dda. Mae yna gryn dystiolaeth o wahaniaethu anghyfreithlon yn erbyn cyflogeion beichiog fodd bynnag, a bob blwyddyn mae llawer o fenywod yn cael profiadau gwahanol iawn i’r un a ddisgrifiais i. Yn y Deyrnas Unedig, profiad un o bob naw mam newydd yw y gwahaniaethir yn eu herbyn neu fe’u diswyddir o’u cyflogaeth. Tra ystyrir dynion yn aml yn fwy cyfrifol yn y gwaith wrth iddynt ddod yn dadau a gallant elwa o fwy o gyfrifoldeb neu hyrwyddiad, gall menywod ddioddef, ac yn wir maent yn dioddef, oherwydd yr agwedd eu bod yn llai galluog ac yn llai dibynadwy wrth iddynt ddod yn famau. Nid yn unig y mae hyn yn asesiad annheg o alluoedd menywod unigol yn eu gyrfaoedd (heb sôn am gyfraniad tadau) ond mae hefyd yn niweidio gweithleoedd os yw menywod dawnus yn dewis gadael.

Holais fenywod eraill ynglŷn â’u profiadau nhw o ddychwelyd i’r gwaith ar ôl absenoldeb mamolaeth a beth wnaeth eu gweithle i’w gwneud yn haws dychwelyd. Dyma beth oedd ganddynt i’w ddweud:

  • Darparu’r hyfforddiant anffurfiol roeddwn yn teimlo fy mod ei angen i sicrhau y gallwn ddychwelyd yn hyderus i’m gwaith
  • Roeddwn yn gallu dychwelyd yn rhan amser a chynyddu’n raddol at weithio’n llawn amser dros gyfnod o 6 i 8 wythnos
  • Roedd cydweithwyr yn feddylgar ynglŷn â gofyn i mi ddod i gyfarfodydd a oedd yn bell o gartref neu’n dechrau’n gynnar iawn
  • Oriau gweithio hyblyg
  • I mi, roedd y ffaith fy mod fy ngweithle yn rhan o gynllun talebau gofal plant o gymorth enfawr
  • Mae’n beth syml ond roedd gan bobl yn gyffredinol agwedd bositif tuag at y ffaith fy mod yn dychwelyd
  • Addasiadau rhesymol – roedd fy rheolwr a’m tîm yn deall pan gafodd fy merch haint a bu’n rhaid i mi gymryd gwyliau ar fyr rybudd i fod gartref gyda hi

Fe fues yn ddiweddar i gyfarfod Rhwydwaith Mamolaeth Cymru Gyfan, fforwm i ddefnyddwyr gwasanaethau gyfrannu at wella gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru. Yn ystod y cyflwyniad, dysgais fod y mwyafrif o newidiadau yn y gwasanaethau hyn wedi digwydd o ganlyniad uniongyrchol i heriau gan ddefnyddwyr gwasanaethau – mae gennym yr hawl i roi geni mewn ysbyty a chael mynediad at epidwral oherwydd i famau fynnu hynny.

Tra’r oedd hi’n sicr yn bositif bod yn rhan o gyfarfod o rieni a gweithwyr proffesiynol (roedd y mwyafrif yn rhan o’r ddau grŵp) a oedd yn benderfynol o wella gwasanaethau mamolaeth, roedd nifer y bobl a rannodd brofiadau truenus y gellid bod wedi’u hosgoi yn dorcalonnus. Un rhwystredigaeth gyffredin a ddaeth i’r amlwg oedd bod mamau’n teimlo nad oeddynt wedi cael digon o wybodaeth i deimlo eu bod yn gwneud dewisiadau gwybodus, awdurdodedig ynglŷn â’r opsiynau a oedd ar gael iddynt o ran ble a sut roeddynt yn dewis rhoi geni. Ar ben hyn, nid oedd llawer o fenywod yn ymwybodol bod ganddynt ddewis mewn rhai materion – awgrymodd yr iaith a ddefnyddid gan rai ymwelwyr iechyd a bydwragedd fod y menywod hyn yn cael eu gorchymyn yn hytrach na’u cynghori a doedd dim cyfle i drafod. Mae’r materion hyn yr un mor berthnasol i famau sy’n dewis dychwelyd i’r gwaith – os ydym i fynnu triniaeth deg, rhaid i ni wybod beth yw ein hawliau yn y maes hwn.

Gallwch gael gwybod mwy yma am sut i gymryd rhan yn Rhwydwaith Mamolaeth Cymru.

 – Non

 

Sut mae cleifion a’r cyhoedd yn cael eu cynnwys wrth arfarnu meddyginiaethau newydd

Yn ddiweddar, fe fues i un o gyfarfodydd Grŵp Buddiannau Cleifion a’r Cyhoedd (PAPIG), sef cleifion, gofalwyr, eiriolwyr cleifion a mudiadau trydydd sector. Mae’r grŵp yn mynegi ei farn drwy Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC), sy’n darparu cymorth proffesiynol, technegol a gweinyddol i Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG). Un o swyddogaethau AWMSG yw cynghori Llywodraeth Cymru a ddylai meddyginiaethau newydd fod ar gael i’w defnyddio yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Mae meddyginiaethau newydd yn cael eu gwerthuso yn erbyn y meddyginiaethau sydd ar gael yn barod, er mwyn cymharu:

  • pa mor dda maent yn gweithio,
  • pa mor gost-effeithiol ydynt,
  • pa gleifion a fyddai’n elwa fwyaf ohonynt.

Mae AWMSG wedi’i ymrwymo i gynnwys cleifion, gofalwyr a’r cyhoedd wrth werthuso meddyginiaethau newydd. Yn ystod y broses arfarnu, mae safbwynt y claf a’r gofalwr yn hanfodol gan na all data clinigol yn unig fesur profiad claf – does dim angen i’r claf fod yn arbenigwr mewn meddyginiaeth i fod yn rhan o’r broses hon. Mae’r rhan fwyaf o’r cwestiynau a ofynnir iddynt yn ystod y broses arfarnu yn ymwneud â’u cyflwr a’r ffordd mae’n effeithio ar eu bywyd bob dydd.

Efallai nad yw’r cleifion a’r gofalwyr sy’n cyfrannu wedi’u hyfforddi’n wyddonol nac yn glinigol, ond yn sicr mae ganddynt wybodaeth amhrisiadwy ynglŷn â’r effaith y mae eu cyflwr yn ei chael ar eu bywydau nhw a bywydau eu teulu. Mae rhanddeiliaid eraill megis fferyllwyr, academyddion, clinigwyr a chynrychiolwyr y diwydiant hefyd yn rhan o’r broses drwyddi draw. Canfyddir y cleifion a’r cyhoedd drwy eiriolwyr cleifion a mudiadau trydydd sector a gynrychiolir yn y Grŵp Buddiannau Cleifion a’r Cyhoedd. Mae AWTTC hefyd yn chwilio am grwpiau eraill o gleifion er mwyn cyrraedd y rheini nad ydynt eisoes yn rhan o’r broses hon.

Mae’n werth nodi nad yw cyrff eraill yn y Deyrnas Unedig sy’n arfarnu meddyginiaethau newydd yn cymryd ymatebion gan gleifion unigol na’r cyhoedd, ond mae AWMSG yn gwneud hynny.

Gelwir cleifion ac aelodau o’r cyhoedd sy’n cyfrannu yn aelodau lleyg. Y diffiniad geiriadurol o aelod lleyg yw rhywun sydd heb wybodaeth arbenigol neu broffesiynol o bwnc. Felly, os dyna’r hyn nad oes gan aelodau lleyg, beth am y sgiliau sydd ganddynt?

Yn y cyfarfod, fe wnaethom ymarfer cyfranogol i ystyried ‘pa sgiliau, profiad, rhinweddau a phriodoleddau sydd gan aelod lleyg?’

Dyma rai o’r pethau a nodwyd gennym:

papigpicSgiliau a phrofiad

  • Cyfleu’r neges
  • Gallu dadansoddol
  • Cyfathrebu’n dda
  • Dealltwriaeth a phrofiad da o gyflyrau iechyd
  • Gwrando’n dda

Rhinweddau a phriodoleddau

  • Hyderus
  • Sympathetig / empathetig
  • Gofalgar
  • Gallu aros o fewn eu cylch gwaith

Roedd cwblhau’r ymarfer gweledol hwn yn ffordd ddiddorol iawn o edrych ar rôl yr aelod lleyg, gan ein hysgogi i feddwl.

Pa ddulliau cyfranogol rydych chi wedi’u defnyddio i ddadansoddi rôl dinasyddion yn eich proses ymgynghori?

Sarah

Ymchwil Gyfranogol gyda Gofalwyr

Ysgrifennwyd y blog gwadd hwn gan Rachel Waters o Wasanaeth Cwnsela Cymunedol Casnewydd.

USWMae Gwasanaeth Cwnsela Cymunedol Casnewydd wedi’i leoli ym Mhrifysgol De Cymru.  Mae’r gwasanaeth yn cynnig cwnsela am ddim i bobl leol ar draws Casnewydd a Chaerllion.

Mae’r Gwasanaeth Cwnsela hefyd yn cynnal ymchwil i gwnsela ac yn y blog hwn byddaf yn canolbwyntio ar ein hymchwil gyfranogol gyda gofalwyr.  Rwyf wedi edrych yn ôl ar rai agweddau heriol ar y gwaith a chynnwys ambell i air o gyngor i gynorthwyo eraill sy’n rhan o ymchwil gyfranogol.

Beth yw Ymchwil Gyfranogol?

Mae ymchwil gyfranogol yn cynnwys pobl mewn ymchwil fel cyd-ymchwilwyr nid cyfranogwyr yn unig; cyd-gynhyrchir gwybodaeth drwy gydweithio rhwng partneriaid ymchwil gymunedol, a dylai’r ymchwil arwain at weithredu er lles y gymuned dan sylw.

Mae gan ddulliau cyfranogol werth arbennig ‘sy’n cynnwys … rheoli grym â’r rheini sydd fel arfer yn destun yr ymchwil, a gweithio tuag at newid cymdeithasol graddol’ (Tîm Ymchwil Gymunedol Durham, 2011, t.4)

Canfod ein Cyd-ymchwilwyr

Ein cam cyntaf oedd cysylltu â mudiadau gofalwyr yn ardal Casnewydd.

Roedd hyn yn anodd i ddechrau – roedd llawer o fudiadau yn gefnogol ac am i ni gadw mewn cysylltiad, ond heb y capasiti i gymryd rhan.  Roedd egluro natur ymchwil gyfranogol yn anodd – gofynnwyd i mi’n aml am y cwestiynau ymchwil a’r ymrwymiad amser angenrheidiol.  Eglurais y byddai cyd-ymchwilwyr yn cytuno ar gwestiynau ymchwil a bod ymrwymiad yn hyblyg yn ôl diddordebau a chapasiti’r mudiad.  Mae’r ansicrwydd cynhenid mewn dulliau ymchwil gyfranogol yn ei gwneud yn anodd rhagweld mewn unrhyw fanylder beth fydd y prosiect yn ei gynnwys, ac mae hyn yn ei gwneud yn anos i fudiadau allu ymrwymo i gymryd rhan.

Er gwaetha’r heriau hyn, yn y pen draw llwyddon ni i ennyn diddordeb ac ymrwymiad nifer o fudiadau ac unigolion allweddol lleol a gytunodd i fod yn gyd-ymchwilwyr.

Ein cyd-ymchwilwyr

Ein cyd-ymchwilwyr yw: Fforwm Gofalwyr Casnewydd, Hafal (Casnewydd), Swyddog Datblygu Gofalwyr Cyngor Dinas Casnewydd a Thîm Adolygu Oedolion Cyngor Casnewydd.

Participatoryresearch

  • Gair o gyngor… Gall perthynas bositif sydd eisoes yn bod â mudiadau ac unigolion wneud y cam cyntaf hwn gymaint haws.
  • Gair o gyngor… Paratowch eglurhad cryno a dealladwy o ymchwil gyfranogol ond byddwch yn barod am gwestiynau ynghylch manylion y prosiect.

Y dasg nesaf oedd gweithio gyda’n gilydd i benderfynu ar ein cwestiwn ymchwil.

Penderfynu beth i’w ymchwilio

Yn ddelfrydol mewn ymchwil gyfranogol, mae cyd-ymchwilwyr cymunedol yn dewis y pwnc a’r cwestiynau ymchwil, ond roedd ein cyd-destun penodol fel gwasanaeth cwnsela mewn Prifysgol yn ei gwneud yn ofynnol i ni ganolbwyntio ar gwnsela.  Gwnaed ein cyd-ymchwilwyr yn ymwybodol o hyn o’r dechrau. 

Datgelodd adolygiad o’r Gwasanaeth Cwnsela nad oedd llawer o ofalwyr yn defnyddio ein gwasanaeth ac nad oedd y rheini a oedd yn ei defnyddio yn aros yn hir.  Roedd hyn yn peri pryder gan y gwyddem o’n cyd-ymchwilwyr ac o ymchwil fod yna lawer o ofalwyr yn yr ardal hon, y gall gofalu arwain at straen, iselder a gorbryder, ac y gall cwnsela fod o gymorth i ofalwyr.  Bu i ni rannu’r wybodaeth hon â’n cyd-ymchwilwyr a phenderfynodd y grŵp i edrych ymhellach ar yr anghysondeb hwn gan anelu at wella’r gwasanaeth y mae Gwasanaeth Cwnsela Cymunedol Casnewydd yn ei gynnig i ofalwyr a rhannu’r hyn rydym yn ei ganfod â mudiadau cwnsela eraill a mudiadau gofalwyr.

Datgelodd trafodaeth â’n cyd-ymchwilwyr fod gofalwyr yn tueddu i ganolbwyntio ar y sawl sy’n cael y gofal gan esgeuluso eu hanghenion eu hunain.  Ategwyd hyn yn y llenyddiaeth ymchwil.  Roedd y grŵp yn meddwl tybed a yw gofalwyr yn ystyried cwnsela fel ffordd o’u helpu i gynnal gofal a ddim yn llawn sylweddoli pa mor ddefnyddiol y gallai fod i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

Lluniodd y grŵp yr amcanion canlynol:

  • Canfod disgwyliadau gofalwyr o broses a chanlyniadau posib cwnsela
  • Canfod a yw gofalwyr yn ystyried y gallai cwnsela fod o gymorth iddynt, ac ym mha ffordd, yn enwedig o ran effaith gofalu ar eu lles emosiynol
  • Canfod rhwystrau sy’n atal gofalwyr rhag cael at wasanaethau cwnsela
  • Gweithio ar y cyd a, chyn belled ag sy’n ymarferol, yn gyfartal ag aelodau o’r gymuned leol

Er ei bod efallai yn ymddangos o ddarllen y crynodeb hwn i’n hamcanion ymchwil ddisgyn yn gyflym ac yn esmwyth i’w lle, mewn gwirionedd roedd proses integreiddio gwybodaeth academaidd â gwybodaeth gymunedol yn cymryd llawer o amser ac yn lletchwith.  Bu i ni adolygu’r llenyddiaeth a gwrando ar ein partneriaid cymunedol ar yr un pryd – wrth edrych yn ôl, mae’n bosib y byddai gwrando’n gyntaf ac yna adolygu’r llenyddiaeth ar y pynciau a godwyd wedi hwyluso’r broses.

  • Gair o gyngor… Ystyriwch ymlaen llaw a ydych am integreiddio gwybodaeth academaidd o’r pwnc i mewn i ddatblygiad amcanion neu gwestiynau ymchwil, ac ym mha ffordd.

Datblygu ein deunyddiau astudio

Bu i ni benderfynu fel grŵp i ddefnyddio cyfweliadau lled strwythuredig i gael gwybodaeth gan ofalwyr, gan fynd ati i gynhyrchu ein deunyddiau astudio – cyhoeddusrwydd i recriwtio cyfranogwyr, amserlen cyfweliadau, ac yn y blaen.

Yn ddelfrydol mewn ymchwil gyfranogol byddai’r holl ddeunyddiau’n cael eu cynhyrchu fel grŵp o’r dechrau, ond oherwydd pryderon pragmataidd penderfynon ni y byddai’r partneriaid academaidd yn datblygu’r deunyddiau ac y byddai’r grŵp yn eu hadolygu a’u golygu gan ddefnyddio eu profiad a’u gwybodaeth leol.

Arweiniodd y broses adolygu at sawl newid yn ein deunyddiau megis gwneud y term ‘gofalwr’ yn gliriach – dywedodd ein cyd-ymchwilwyr wrthym fod y term yn cael ei ddefnyddio’n lleol i gyfeirio at ofalwyr cyflogedig yn ogystal â’r rhai di-dâl.  Bu i ni hefyd addasu amserlen y cyfweliadau i fod yn fwy cyfleus i’r rheini sy’n gofalu am fwy nag un person – dangosodd ein cyd-ymchwilwyr fod y sefyllfa hon yn llawer mwy cyffredin nag oeddem wedi’i ragweld.

Canlyniadau Ymchwil

Un o’r agweddau pwysicaf ar ymchwil gyfranogol yw y dylai arwain at gamau positif er lles y gymuned dan sylw – yn ein hachos ni, gofalwyr yng Ngwent.  Mae pa gamau y byddwn yn eu cymryd yn dibynnu ar ganlyniadau ein hymchwil, ond mae gennym syniadau amrywiol mewn golwg gan gynnwys hyfforddiant arbenigol i gwnselwyr sy’n gweithio gyda gofalwyr a/neu gynhyrchu gwybodaeth hygyrch i ofalwyr ynglŷn â chwnsela.

Rydym wrthi’n recriwtio gofalwyr i gael eu cyfweld ar gyfer ein hymchwil.  Os gwyddech am unrhyw ofalwyr di-dâl, dros 18 oed yng Ngwent a all fod â diddordeb, anfonwch fy manylion cyswllt atynt os gwelwch yn dda:

Rachel Waters (Cynorthwyydd Ymchwil)
Gwasanaeth Cwnsela Cymunedol Casnewydd
Ffôn: 01633 435282
E-bost: Rachel.Waters2@southwales.ac.uk

Mae unrhyw farn neu safbwyntiau a gyflwynir yn y blog hwn yn eiddo i’r awdur yn unig ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli barn na safbwyntiau Prifysgol De Cymru a’r cyd-ymchwilwyr cymunedol.

Cyfeiriadau

Tîm Ymchwil Gymunedol Durham (2011) Community-based participatory research: Ethical challenges.  Ar gael ar: https://www.dur.ac.uk/resources/beacon/CCDiscussionPapertemplateCBPRBanksetal7Nov2011.pdf

(Cyrchwyd 2 Mai 2014)

Rhwydweithiau cyfranogi rhanbarthol fis Hydref: Gwybodaeth a thechnoleg hygyrch

A ddylem ymdrechu i gyflawni’r canlyniadau optimwm neu a ddylem, yn syml, trio ein gorau?

Rydym newydd gynnal Digwyddiadau’r Rhwydweithiau Rhanbarthol a’r thema y tro hwn oedd ‘Gwybodaeth a thechnoleg hygyrch’.

BookDechreuon ni bob sesiwn gydag ymarfer torri’r garw i gyflwyno’r thema, cafodd hanner y cyfranogwyr ‘gerdyn jargon’ a’r hanner arall ‘gerdyn hawdd ei ddarllen’. Roedd un gair ar bob cerdyn a nod y gêm oedd cerdded o gwmpas yr ystafell a dod o hyd i’r person oedd â’r cerdyn a oedd â’r un ystyr â’r gair ar eich cerdyn chi. Er enghraifft, os oedd gennych gerdyn jargon yn dweud ‘cyfranogi’ yna byddech yn cael eich paru â’r person a oedd â’r cerdyn hawdd ei ddarllen yn dweud ‘cymryd rhan’ arno ac yna’n cyflwyno’ch gilydd. Geiriau eraill a ddefnyddiwyd yn yr ymarfer hwn oedd ymdrechu (trio), terfynu (gorffen) a chydweithredu (gweithio gyda rhywun). Mae mwy o gyngor ynghylch iaith syml ar gael ar wefan Cymraeg Clir.

Gweithiodd yr ymarfer yn dda i gael pobl i sgwrsio â’i gilydd ac roedd yr adborth a gawsom yn bositif. Doedd neb wedi defnyddio’r ymarfer hwn o’r blaen ond roedd rhai wedi chwarae Buzzword Bingo mewn cyfarfodydd llawn jargon.

Yn y De Ddwyrain, cynhaliwyd y digwyddiad yn Ystrad Mynach. Rhoddodd Barod CIC gyflwyniad a eglurodd pam mae’n bwysig darparu gwybodaeth glir mewn fformat hwylus. Cafodd y grŵp wybod am y gwasanaethau y mae Barod yn eu darparu megis trosi dogfennau i iaith hawdd ei darllen a/neu iaith bob dydd. Maent hefyd yn cynnig pecynnau hyfforddi i fudiadau sydd am hyfforddi staff i gynhyrchu dogfennau hawdd eu darllen. Mae pobl ag anableddau dysgu yn darllen drwy’r holl waith y mae Barod yn ei wneud. Hefyd, rhoddodd Sam o Anabledd Dysgu Cymru gyflwyniad ar Clear & Easy sef canllaw cynhwysfawr i fudiadau sydd am wneud eu gwybodaeth yn fwy hygyrch. Mae’r canllaw yn cynnwys DVD rhyngweithiol sydd am ddim i’r sector gwirfoddol a chyhoeddus (cyfyngiad o un y mudiad). Cysylltwch ag Anabledd Dysgu Cymru i gael gwybod mwy.

Yn y De Orllewin, cynhaliwyd y digwyddiad yn Felin-foel, Llanelli. Roedd sesiwn Andrew Hubbard, o’r Panel Dinasyddion peilot ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymdeithas Byw’n Annibynnol Abertawe, yn canolbwyntio ar Dechnoleg Hygyrch, gan egluro i gyfranogwyr sut mae meddalwedd darllen sgrin yn gweithio i bobl â nam ar eu golwg. Trefnodd Andrew ymarfer grŵp i fynd drwy amrywiaeth o wahanol sefyllfaoedd sy’n wynebu pobl anabl wrth gael at wybodaeth bob dydd megis swyddi gwag, amseroedd bws/trên a hysbysebion. Cafwyd trafodaeth grŵp ar ôl yr ymarfer. Roedd Barod CIC yn ddigon clên i roi cyflwyniad ar y canllaw Clear & Easy eto (am yr ail ddiwrnod yn olynol!)person reading

Ar ôl toriad byr, eglurodd ein swyddog hyfforddi a datblygu, Siobhan, dechneg rydym wedi’i defnyddio o’r blaen ac sydd bob amser yn llwyddiannus iawn – Hot Air Balloon o’r llyfr Spice it Up gan Dynamix! Yn yr ymarfer hwn, anogwyd cyfranogwyr i feddwl am y ffordd y mae eu mudiadau eu hunain yn darparu gwybodaeth a sut y gallent ei gwneud yn fwy hygyrch. Roedd angen i gyfranogwyr feddwl am beth oedd yn eu dal yn ôl, pwy oedd angen eu cynnwys a beth sydd ei angen i’w wneud i ffynnu.

Cafodd cyfyngiadau o ran arian ac amser eu crybwyll yn aml fel pethau sy’n eu dal yn ôl. Cafwyd syniad gan un cyfranogwr fod angen newid diwylliant yn llwyr er mwyn sicrhau bod gwybodaeth fwy hygyrch ar gael drwy’r amser.

Yna cawsom ein rhannu’n grwpiau bach i glywed gan gyfranogwyr am waith maent yn ei wneud, arfer da maent wedi dod ar ei draws neu broblemau maent yn eu cael. Clywsom am waith yn TPAS Cymru sy’n cynnal digwyddiad fis Tachwedd ar Ymgysylltu â’r Cyhoedd. Clywsom hefyd fod Clwstwr Cymunedau yn Gyntaf y Barri yn cynnal sesiynau TG galw-heibio ac yn darparu hyfforddiant TG sylfaenol ar sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd. Mae Heddlu’r De hefyd yn gwneud gwaith ardderchog yn ennyn diddordeb pobl ifanc  darganfod beth maent yn ei feddwl o’r gymuned leol a pha ardaloedd maent yn teimlo’n ddiogel neu’n anniogel ynddynt. Mae Cyngor Sir Gâr wedi cynnal ymgynghoriad cyllideb a defnyddio efelychydd cyllideb sy’n swnio’n ffordd wych o gael pobl yn rhan o gyllidebu.

Yn y Gogledd, cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghyffordd Llandudno ar ddiwrnod llawn gwynt a glaw rydym wedi hen arfer ag o yng Nghymru! Clywsom gan ddau aelod o’r Panel Dinasyddion peilot ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol; Jennie a Beth Lewis. Dechreuodd Beth drwy ddweud wrth y grŵp am ei bywyd; mae’n 24 oed ac mae ganddi anabledd dysgu, mae’n byw yn ei fflat ei hun ac mae ganddi swydd, mae’n mwynhau coginio ac yn awyddus i wneud mwy ar ei phen ei hun. Mae’n gallu darllen yn dda iawn ond ddim bob amser yn deall beth mae’r geiriau yn ei olygu felly mae’n well ganddi frawddegau byr gyda lluniau. Dangosodd Beth a’i mam, Jennie, lawer o enghreifftiau i ni o wybodaeth a anfonwyd ati drwy’r post. Rhoddwyd tasg i’r cyfranogwyr drosi llythyr a oedd wedi cael ei anfon at Beth i fformat hawdd ei ddarllen mewn grwpiau bach (roedd y dasg yn anodd iawn i bawb – yn eironig roedd y llythyr yn ymwneud â chynllun yn benodol i bobl anabl, gan gynnwys pobl ag anableddau dysgu). Cerddodd Beth o gwmpas yr ystafell i ddarllen a gwirio beth roedd pobl wedi’i ysgrifennu.

jennie-bethGofynnon ni i’r grwpiau drafod sut y byddent yn rhoi cyflwyniad diddorol Jennie a Beth ar waith drwy feddwl am sut y gallent wneud y wybodaeth y mae eu mudiadau eu hunain yn ei chynhyrchu yn fwy hygyrch. Heb os roedd llawer iawn i feddwl amdano a chafwyd trafodaethau diddorol dros ben. Yn benodol dywedodd rhywun mai un rhwystr mawr oedd ‘iaith gyfreithiol’ a bod yn rhaid i rai dogfennau neu gontractau ddefnyddio geiriau penodol, ac un ffordd o oresgyn hyn yw rhoi eglurhad hawdd ei ddarllen wrth ochr neu o dan ddatganiad, gan egluro beth mae’n ei ddweud gyda llun os oes angen.

Ar y cyfan roedd y rownd hon o ddigwyddiadau yn llwyddiannus gyda thema ddiddorol iawn a chafwyd cyflwyniadau ardderchog gan ein holl westeion yn y tair ardal. Rydym yn ddiolchgar iawn i Barod, Andrew Hubbard a’i gynorthwyydd Bev, Jennie a Beth am ein helpu yn y rhwydweithiau hyn. Diolch i bawb am ddod!

Fe fydd y rownd nesaf o ddigwyddiadau’r rhwydweithiau yn cael eu cynnal fis Chwefror 2014, mae mwy o fanylion ar gael ar ein gwefan yma. Mae archebu’n gynnar yn hanfodol gan mai dim ond 20 lle sydd ym mhob digwyddiad ac maent yn llenwi’n gyflym! Peidiwch â cholli allan!

–          Sarah

Pam mae cyfranogiad yn wych

Dyma fy narn olaf o waith i ar gyfer Cyfranogaeth Cymru, ac rydw i eisiau dweud diolch yn fawr i bawb rydw i wedi gweithio gyda dros y tair blynedd diwethaf. Mae fy nghydweithwyr yn Gyfranogaeth Cymru yn unigolion sy’n hynod o ymroddedig. Maen nhw wedi fy ysbrydoli fi gan fod nhw’n gweithio mor galed fel rhan o dîm bychan sy’n gweithio ar sail genedlaethol.

P1000191

Mae’r prosiect wedi’i leoli yng Nghyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ac rydw i wedi gweithio yma hyd yn oed yn hirach (wyth mlynedd i’r mis). Wnes i erioed meddwl y byddwn i’n hyfforddi a hwyluso pan ddechreuais weithio yma fel Cynorthwyydd Gweinyddol ar y Ddesg Gymorth.

Rydw i wedi cyfarfod â staff gwych mewn sawl gwasanaeth cyhoeddus, sy’n benderfynol o agor y strwythurau gwneud penderfyniadau yn eu mudiadau. Rydw i wedi cwrdd â chymaint o bobl o feysydd amrywiol sy’n frwdfrydig ynghylch sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn dryloyw ac yn atebol.

Ar ochr arall y geiniog, rydw i wedi mwynhau’r gwaith ymarferol rydym wedi gwneud gyda dinasyddion ledled Cymru. Rydw i wedi cwrdd â chymaint o bobl ymroddedig sydd wedi bod yn fwy na pharod i roi o’u hamser i geisio sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus, a chymdeithas yn gyffredinol, yn well. Dyma’r rheswm mai’r darn mwyaf cofiadwy o waith rydw i mi yw ein gwaith ar Banel Dinasyddion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru.

Mae Involve wedi ysgrifennu pamffled mawr ar gyfranogiad a elwir From Fairytale to Reality. Mae’r pamffled yn chwalu’r mythau ynghylch pam nad yw cyfranogiad yn ymarferol, gan gynnwys y canlynol:

  • Mae ymgysylltu yn rhy ddrud
  • Nid yw dinasyddion yn gallu rhoi’i farn yn effeithiol
  • Mae ymgysylltu dim ond yn gweithio ar gyfer materion hawdd
  • Dylem osgoi rhoi ormod o bŵer i ddinasyddion ar bob cyfrif
  • Nid yw dinasyddion yn awyddus i gymryd rhan, dim ond gwasanaethau da maen nhw eisiau

Pan wnes i wylio aelodau’r panel yn rhoi tystiolaeth i’r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer y pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru ar 16 Mai, fe wnaeth yr aelodau’r panel chwalu pob un o’r mythau – maent yn siarad am daliadau uniongyrchol (a allai wneud gwasanaethau yn rhatach gan eu bod yn teilwra i anghenion pobl), mae ganddynt ymwybyddiaeth o faterion y gwasanaeth maent yn eu defnyddio, maent yn dyrannu bil cymhleth a thrwm iawn, maent yn darparu ymatebion ystyriol ac yn fanwl ac maent yn awyddus iawn i’w lleisiau gael eu clywed.

Hyd yn oed os byddech yn rhoi rhestr o’r pwyntiau mae’r panel yn dweud wrthyf, ni fyddai’r profiad uniongyrchol gen i i wir drafod y pwyntiau a’r diffygion, gan eu bod nhw’n dod ar draws rhain o ddydd i ddydd. Gallaf ddweud yn bendant na fyddwn i’n gallu siarad am y pwyntiau yma mewn ffordd angerddol fel y maent yn ei wneud.

Pan wnes i wylio’r panel yn rhoi tystiolaeth, fe wnaeth e daro fi mai dim ond trwy ofyn i bobl beth yw eu hanghenion nhw gall gwasanaethau cyhoeddus wir diwallu anghenion pobl a gweddnewid gwasanaethau cyhoeddus.

– Dyfrig

Wayne Jepson yn myfyrio dros ein gwaith a bod yn aelod o’n Panel Cynghori

Dyma’r fideo olaf mewn cyfres o dri chyfweliad a wnaethom gydag aelodau o Banel Cynghori Cyfranogaeth Cymru. Mae’r cyfweliad yma yn dilyn cyfweliadau blaenorol gyda Derek Walker o Ganolfan Cydweithredol Cymru a Margaret Peters o Gyngor Cefn Gwlad Cymru (sydd bellach yn rhan o Gyfoeth Naturiol Cymru). Rydyn ni wedi bod yn ffilmio’r rhain fel rhan o’n Fframwaith Gwerthuso, sy’n helpu ni i sicrhau bod yr hyn ni’n gwneud yn bodloni anghenion y bobl a mudiadau sy’n defnyddio ein gwasanaethau.

Wayne Jepson on Participation Cymru / Wayne Jepson ar Gyfranogaeth Cymru from Participation Cymru on Vimeo.

Mae Wayne wedi bod yn aelod o’r Panel Cynghori am sbel. Mae fe wedi bod yn cynrychioli’r Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd (sydd newydd dod i ben – mae’i swyddogaethau nawr yn rhan o Lywodraeth Cymru a’r GIG Cymru) am nifer o flynyddoedd, ac mae fe wedi bod yn ymwneud â chomisiynu gwaith o’r prosiect yn ogystal â darparu arweiniad ar gyfer ein gwaith fel aelod o’r Panel Cynghori.

Pan ofynnais i Wayne sut roedd e’n gweld rôl y Panel Cynghori dywedodd “Rwy’n meddwl bod y Panel Cynghori yn elfen hanfodol o ddatblygiad Cyfranogaeth Cymru. Rwy’n credu ei fod e’n darparu fforwm i lywio a dylanwadu ar benderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan Gyfranogaeth Cymru, a hefyd am Gyfranogaeth Cymru a’r sector cyhoeddus ehangach. I mi, mae’r Panel Cynghori yn gweithredu fel gall Bwrdd Rhaglen gweithredu ar gyfer prosiect, ond mae’r panel hefyd yno i alluogi’r prosiect i wirio ac i sicrhau cydbwysedd. Rwy’n credu bod cyfansoddiad y Panel Cynghori – mae pobl yn dod o fudiadau a sectorau amrywiol – yn dod â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth i’r bwrdd sydd dim ond yn gallu helpu Cyfranogaeth Cymru i ddatblygu a symud ymlaen”.

Un o’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru yw “Gweithio gyda mudiadau partner perthnasol”. Mae’r Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd wedi rhoi hwn ar waith yn eu rôl fel aelod o’r Panel Cynghori, gan bod nhw wedi comisiynu hyfforddiant ar y cyd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae’r dull hwn wedi sicrhau’r defnydd gorau posibl o adnoddau, ac mae fe hefyd wedi ychwanegu gwerth i’r hyfforddiant gan fod mynychwyr yn cael y cyfle i rwydweithio a dysgu o brofiadau ei gilydd.

Mae Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd wedi cynhyrchu llawer o adnoddau defnyddiol ar wella gwasanaethau iechyd, gan gynnwys canllaw defnyddiol iawn ar gynnwys oedolion sy’n ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr y GIG, sy’n dangos yn glir ei fod yn hanfodol bod lleisiau cleifion a’r cyhoedd yn cael eu clywed er mwyn cael gwasanaethau iechyd effeithiol yng Nghymru.

– Dyfrig