Tag Archives: dulliau cyfranogol

Pam rydym wrth ein bodd â Thechnoleg Gofod Agored

Os nad ydych wedi dod ar draws cysyniad Technoleg Gofod Agored o’r blaen ac rydych yn gyfarwydd â modd ffurfiol o gynnal cyfarfodydd, gall fod yn eithaf brawychus gorfod hwyluso sesiwn sy’n defnyddio Gofod Agored, neu hyd yn oed gymryd rhan mewn sesiwn o’r fath.

Mae’r modd hwn o hwyluso yn cyd-fynd â’n ethos

Ein ethos ni yw ein bod yn ‘gweithio gyda phobl a mudiadau ac nid gweithio iddyn nhw’.

Mae Technoleg Gofod Agored yn ddull hwyluso sy’n caniatáu i grŵp o unigolion eu trefnu eu hunain yn llwyr wrth geisio cyrraedd nod. Cyflawnir hyn â phrin dim mewnbwn gan yr hwylusydd, na fydd yn gwneud llawer mwy nag amlinellu egwyddorion arweiniol Technoleg Gofod Agored, cyflwyno pwnc/thema/diben cyffredinol y cyfarfod ac yna gadael y grŵp i fwrw iddi. Mae’r dechneg hon wedi’i defnyddio o amgylch y byd mewn cyfarfodydd ac ynddynt rhwng 5 a 2000 o bobl.

Does dim agenda ffurfiol na rheolau sylfaenol, ac eithrio Deddf Dwy Droed, hynny yw: “Os ydych yn eich cael eich hun unrhyw adeg yn ein hamser gyda’n gilydd mewn unrhyw sefyllfa lle nad ydych yn dysgu nac yn cyfrannu, defnyddiwch eich dwy droed, ewch i rywle arall.”  (Harrison Owen)

Mae’r sgwrs Tedx Talk gan Owen, Dancing with Shiva (or Sandy, or Katrina)’, yn fan cychwyn gwych i unrhyw hwylusydd neu ymarferydd sydd â diddordeb yn y dull hwn.

Rydym wedi defnyddio’r dechneg hon mewn sawl digwyddiad rhwydweithio

Rydym wedi defnyddio’r dechneg hon sawl gwaith gan gynnwys yn ein Rhwydwaith Preswyl Cymru Gyfan yn 2012, mewn sesiwn yn niwrnod staff blynyddol WCVA ac yn fwyaf diweddar yn ein Rhwydweithiau Cyfranogi Rhanbarthol fis Hydref.

Mae’r dechneg hon yn ardderchog gan ei bod wir yn caniatáu i unrhyw un yn y sesiwn siarad ynglŷn â’r hyn a fynna. Mae Gofod Agored yn rhoi llwyfan i bobl wneud hyn heb hwylusydd yn rhoi ei big i mewn (fel y gellid ei ystyried) os yw’r sgwrs yn mynd oddi ar y pwnc neu os yw’r drafodaeth yn newid cyfeiriad, gan felly symud y grym i ffwrdd oddi wrth un unigolyn a’i rannu ymysg grŵp.

Rydym bob amser wedi cael llwyddiant wrth ddefnyddio Gofod Agored, yn ein rhwydweithiau cyfranogi diweddaraf, cododd pobl bynciau amrywiol iawn yn y cyfarfodydd a gynhaliwyd yn y Rhyl, y Barri a Chaerfyrddin fis Hydref eleni:

  • Sut y gallwn ni weithio’n fwy creadigol – newid strwythurau gwaith
  • Triniaeth deg i Fenywod yng Nghymru – cydnabod hawliau
  • Mae gan faes tai cymdeithasol flynyddoedd o brofiad ymgysylltu
  • Cymorth awtistiaeth i oedolion nad ydynt yn gymwys am gymorth
  • Sicrhau bod gwybodaeth yn cyrraedd y bobl gywir yn y ffordd gywir
  • Gwneud ein gwaith yn deilwng i fod yn y newyddion
  • Sut i ddenu pobl ifanc i wirfoddoli
  • Mentrau cymunedol – ymgysylltu â chymuned dlawd
  • Gartref neu’r ysbyty – beth sydd orau i gleifion a staff?

Y gymuned arlein

Ceir cymuned arlein enfawr i hwyluswyr ac ymarferwyr sy’n defnyddio Technoleg Gofod Agored, neu â diddordeb ynddi, gan gynnwys rhestr drafod drwy ebost sy’n brysur iawn a Grŵp Google – does dim un mudiad nac unigolyn yn berchen ar y wybodaeth gyfunol hon, nac yn ei rheoli, ac mae’n sylfaen wybodaeth sydd wir yn tyfu o hyd. Rwyf wedi bod yn rhan o’r rhestr drafod drwy ebost ers ychydig dros fis ac er nad wyf wedi cyfrannu dim byd, wrth i mi ‘lechu’ o gwmpas rwyf wedi dysgu gymaint ynglŷn â sefyllfaoedd lle mae Gofod Agored wedi’i ddefnyddio’n llwyddiannus. Gall unrhyw un ddarllen archifau’r rhestr, sy’n dyddio’n ôl bron i 20 mlynedd felly mae yna beth wmbreth o wybodaeth ynddi a gynhyrchwyd gan y defnyddwyr!

Mae’n hwyl

OpenSpace1
Fel hwylusydd, gwych o beth yw edrych o amgylch yr ystafell a sylwi ar drafodaethau ystyrlon, organig a chynhyrchiol sy’n digwydd.

Fel cyfranogwr, mae’n braf cael y cyfle i drafod pethau yn anffurfiol. Hyd yn oed wrth hwyluso’n ofalus a gofyn llawer o gwestiynau agored, gall dal fod yn anodd mynegi’ch pwynt os oes gan gyfranogwyr eraill lais cryfach nag un chi. Mewn amgylchedd gofod agored, gall cyfranogwyr ddefnyddio’r ddeddf dwy droed i symud i ffwrdd oddi wrth drafodaethau di-fudd.

A ydych erioed wedi defnyddio Technoleg Gofod Agored yn eich gwaith ymgysylltu? A ydych erioed wedi bod i sesiwn Gofod Agored? Rhannwch eich profiadau yn y blwch sylwadau isod.

Sarah

Sut mae cleifion a’r cyhoedd yn cael eu cynnwys wrth arfarnu meddyginiaethau newydd

Yn ddiweddar, fe fues i un o gyfarfodydd Grŵp Buddiannau Cleifion a’r Cyhoedd (PAPIG), sef cleifion, gofalwyr, eiriolwyr cleifion a mudiadau trydydd sector. Mae’r grŵp yn mynegi ei farn drwy Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC), sy’n darparu cymorth proffesiynol, technegol a gweinyddol i Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG). Un o swyddogaethau AWMSG yw cynghori Llywodraeth Cymru a ddylai meddyginiaethau newydd fod ar gael i’w defnyddio yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Mae meddyginiaethau newydd yn cael eu gwerthuso yn erbyn y meddyginiaethau sydd ar gael yn barod, er mwyn cymharu:

  • pa mor dda maent yn gweithio,
  • pa mor gost-effeithiol ydynt,
  • pa gleifion a fyddai’n elwa fwyaf ohonynt.

Mae AWMSG wedi’i ymrwymo i gynnwys cleifion, gofalwyr a’r cyhoedd wrth werthuso meddyginiaethau newydd. Yn ystod y broses arfarnu, mae safbwynt y claf a’r gofalwr yn hanfodol gan na all data clinigol yn unig fesur profiad claf – does dim angen i’r claf fod yn arbenigwr mewn meddyginiaeth i fod yn rhan o’r broses hon. Mae’r rhan fwyaf o’r cwestiynau a ofynnir iddynt yn ystod y broses arfarnu yn ymwneud â’u cyflwr a’r ffordd mae’n effeithio ar eu bywyd bob dydd.

Efallai nad yw’r cleifion a’r gofalwyr sy’n cyfrannu wedi’u hyfforddi’n wyddonol nac yn glinigol, ond yn sicr mae ganddynt wybodaeth amhrisiadwy ynglŷn â’r effaith y mae eu cyflwr yn ei chael ar eu bywydau nhw a bywydau eu teulu. Mae rhanddeiliaid eraill megis fferyllwyr, academyddion, clinigwyr a chynrychiolwyr y diwydiant hefyd yn rhan o’r broses drwyddi draw. Canfyddir y cleifion a’r cyhoedd drwy eiriolwyr cleifion a mudiadau trydydd sector a gynrychiolir yn y Grŵp Buddiannau Cleifion a’r Cyhoedd. Mae AWTTC hefyd yn chwilio am grwpiau eraill o gleifion er mwyn cyrraedd y rheini nad ydynt eisoes yn rhan o’r broses hon.

Mae’n werth nodi nad yw cyrff eraill yn y Deyrnas Unedig sy’n arfarnu meddyginiaethau newydd yn cymryd ymatebion gan gleifion unigol na’r cyhoedd, ond mae AWMSG yn gwneud hynny.

Gelwir cleifion ac aelodau o’r cyhoedd sy’n cyfrannu yn aelodau lleyg. Y diffiniad geiriadurol o aelod lleyg yw rhywun sydd heb wybodaeth arbenigol neu broffesiynol o bwnc. Felly, os dyna’r hyn nad oes gan aelodau lleyg, beth am y sgiliau sydd ganddynt?

Yn y cyfarfod, fe wnaethom ymarfer cyfranogol i ystyried ‘pa sgiliau, profiad, rhinweddau a phriodoleddau sydd gan aelod lleyg?’

Dyma rai o’r pethau a nodwyd gennym:

papigpicSgiliau a phrofiad

  • Cyfleu’r neges
  • Gallu dadansoddol
  • Cyfathrebu’n dda
  • Dealltwriaeth a phrofiad da o gyflyrau iechyd
  • Gwrando’n dda

Rhinweddau a phriodoleddau

  • Hyderus
  • Sympathetig / empathetig
  • Gofalgar
  • Gallu aros o fewn eu cylch gwaith

Roedd cwblhau’r ymarfer gweledol hwn yn ffordd ddiddorol iawn o edrych ar rôl yr aelod lleyg, gan ein hysgogi i feddwl.

Pa ddulliau cyfranogol rydych chi wedi’u defnyddio i ddadansoddi rôl dinasyddion yn eich proses ymgynghori?

Sarah

Dulliau newydd, arfer da a’r dis gwerthuso: Ein Rhwydweithiau Cyfranogaeth mis Mai

Cafodd y blog hwn ei ysgrifennu gan Dyfrig ychydig cyn iddo adael Cyfranogaeth Cymru.

Rydym bob amser yn ceisio dilyn ein pregeth ein hun – bod cyfranogaeth yn helpu i gynnal gwasanaethau sy’n cwrdd ag anghenion pobl yn well. Rhoddodd rhwydweithiau Chwefror lawer o gyfleoedd i ni ystyried sut i ddatblygu ein rhwydweithiau cyfranogaeth. Dywedodd cyfranogwyr wrthym eu bod am gael y cyfle i ddysgu mwy am ddulliau cyfranogol arloesol a hefyd y cyfle i adlewyrchu ar astudiaethau achos, gan fod y rhain yn golygu y gallai pobl weld beth sy’n gweithio mewn ardaloedd neu feysydd eraill.

Dechreuodd bob rhwydwaith gydag ymarfer torri’r garw, a ddewiswyd a’i roi ar waith gan Sarah Ball (a oedd yn anffodus ddim ar gael ar gyfer rhwydwaith y Gogledd gan ei bod yn cynorthwyo aelodau o’r Panel Dinasyddion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru i roi tystiolaeth yn y Senedd), a fydd yn cymryd fy rôl ac yn hwyluso’r rhwydweithiau yn y dyfodol.

Bingo Pobl oedd yr ymarfer torri’r garw, lle roedd rhaid i bobl rwydweithio er mwyn dod o hyd i gyfranogwyr eraill a oedd â’r nodweddion a restrwyd ar y daflen bingo a roddwyd i bawb. Roedd y cyntaf i ddod o hyd i rywun a oedd yn ateb bob un o’r nodweddion yn cael gwobr! Sef pecyn o Milky Way Magic Stars, ac roedd awydd mawr amdanynt! Yna cawsom ychydig o drafodaeth amdano – roeddwn, i ddechrau, braidd yn amheus am rai o’r pwyntiau mwy penodol ac anghyffredin (megis rhywun a siaradai iaith nad oedd yn Gymraeg nac yn Saesneg), ond teimlwyd yn gyffredinol bod y pwyntiau mwy anarferol hyn yn helpu i danio’r drafodaeth.

Yna arweiniodd ein hyfforddwraig gysylltiol Justine Scorrer sesiwn ar dechnegau cyfranogol. Fe wnaethom ddechrau gydag ymarferion torri’r garw megis Rhoi’ch Gwrthdyniad yn y Cornel a Dip Lwcus. Yna fe wnaethom roi rhai dulliau ar waith megis Pleidleisio Rhufeinig, Adeiladu Timoedd, Mae 12 Ymennydd yn Well nag 1, ac Ie ac…….. Ie, cyn gofyn i bobl Beth Ydych yn ei Feddwl o Ddifri? Yna gofynnodd Justine i gyfranogwyr adlewyrchu ar yr hyn roeddynt wedi’i ddysgu drwy Ei Hyfforddi Ymlaen (Train it Forward), a ddefnyddiwyd i werthuso’r rhan hon o’r sesiwn.

Ar ôl toriad byr, fe wnaethom edrych ar astudiaethau achos penodol. Rhoddodd Kath Cook astudiaeth achos wych yng Ngorseinon ar sut y gwnaeth Cartrefi NPT gynnwys pobl ifanc. Ar ôl i’n cyflwynydd dynnu’n ôl munud olaf, camodd Justine Scorrer i’r adwy yn y Gogledd i siarad am un o brosiectau eraill Cartrefi NPT lle roeddynt wedi ymgysylltu â thenantiaid i osod canlyniadau ar gyfer y gwasanaeth tai, ac yn y De Ddwyrain lle clywsom gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Yna fe wnaethom dorri’n grwpiau bach i glywed gan gyfranogwyr am y gwaith maent yn ei wneud, arferion da maent wedi’u gweld neu unrhyw broblemau oedd ganddynt. Clywais am waith arloesol yn y tri rhwydwaith, gan gynnwys sut y bu i Ddinas a Sir Abertawe gynnwys pobl ifanc mewn caffael, Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn defnyddio podlediadau wrth ymgysylltu, a Menter Iaith Conwy yn ymgysylltu â phobl mewn canolfan gymunedol yn y sir.

DiceYn olaf ond nid lleiaf, fe wnaethom werthuso’r rhwydwaith. Bu i ni ddefnyddio techneg o’r enw’r Dis Gwerthuso, lle mae pobl yn taflu dis ac yn rhoi adborth ar agwedd ar y rhwydwaith, gan ddibynnu ar y rhif ar y dis.

I fynd yn ôl at y paragraff cyntaf, rydym bob amser yn ceisio rhoi adborth ar waith. Ar ôl y rhwydwaith cyntaf, dywedwyd wrthym fod y dis yn rhy fach. Felly yn y cyfamser roeddem wedi archebu dis enfawr fel jôc ac er mwyn gwneud yr ymarfer yn haws ac yn fwy o hwyl hefyd!

Cynhelir y rhwydweithiau rhanbarthol nesaf ym mis Hydref a’r thema yw gwybodaeth hygyrch. Er y byddaf wedi gadael Cyfranogaeth Cymru erbyn hynny, gobeithiaf fynd iddynt er mwyn rhannu arfer da yn fy rôl nesaf gyda Chyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru, felly gobeithio y gwela’i chi bryd hynny!

Dyfrig