Tag Archives: dysgu

Gwneud i ddysgu gweithredol lwyddo!

Wedi’i ail-flogio o WCVA

Action Learning

Ynogystal â hyfforddiant a chymorth pwrpasol mae Gwasanaeth Cefnogi Cymunedau ynGyntaf yn cynnig y cyfle i nifer cynyddol o bobl yng ngweithlu CyG ddysgu oddi wrth ei gilydd drwy ein Grwpiau Dysgu trwy Ganlyniadau (Outcome Learning Groups – OLGA). Mae’r rhain wedi’u seilio ar fethodoleg Dysgu Gweithredol. Yma, mae Jane Lewes o The Learning Consultancy, sy’n gweithio gyda Gwasanaeth Cefnogi CyG i ddatblygu’r fframwaith ar gyfer y dysgu yma ymysg cymheiriaid, yn egluro ‘rheolau’ Dysgu Gweithredol.

Mae Dysgu Gweithredol yn cael ei ddefnyddio’n fwyfwy aml fel ffordd o helpu grwpiau cymunedol i weithio drwy rai o’r materion y mae’n rhaid iddynt fynd i’r afael â nhw bob dydd. Gall y mathau o faterion neu “broblemau dyrys” gynnwys bron â bod unrhyw beth; gallant fod yn niwsans, yn rhwystredig neu hyd yn oed achosi gofid gwirioneddol. Beth bynnag fo natur y broblem, un nodwedd maent i gyd yn ei rhannu yw y bydd pobl eraill bron yn sicr wedi cael yr un broblem, neu un debyg.

Felly, sut mae Dysgu Gweithredol yn helpu i ddatrys problemau a thorri drwy rwystrau?

Mae techneg Dysgu Gweithredol yn hynod o syml ac yn ffordd effeithiol o gefnogi unigolyn i weithio drwy broblem go iawn a chyfredol, gan arwain at ddealltwriaeth newydd ac, yn y pen draw, atebion.  Mae’r dechneg yn syml gan mai’r cwbl sydd ei angen yw grŵp o bobl (tua 6-8) sy’n cytuno i ddilyn yr ychydig “reolau” hanfodol, sef:

Ymddiried. Pan fo grŵp o gydweithwyr yn cytuno i gwrdd fel Set Dysgu Gweithredol, mae angen sail gryf o ymddiried – ymddiried yn ei gilydd ac ymddiried yn y broses.  Un o gonglfeini ymddiried yw’r ymrwymiad i gyfrinachedd.  Bydd diffyg ymddiried bron yn sicr yn achosi i’r Set ymffrwydro a gallai arwain ar niwed pellach.

Eglurder Rol. Ceir 3 rôl mewn sefyllfa Dysgu Gweithredol:

  • Y Cyflwynydd – yr unigolyn sy’n rhannu ei fater neu ei broblem
  • Y Cefnogwyr – yr aelodau eraill o’r Set sy’n gwrando’n astud ac yn gofyn cwestiynau treiddgar a grymus ynglŷn ag agweddau ar y mater
  • Yr Hwylusydd – yr unigolyn sy’n gweithredu fel “dyfarnwr mwyn”, gan sicrhau bod y Set gyfan yn cadw at reolau’r broses

Y broses. Bydd Set Dysgu Gweithredol nodweddiadol yn mynd rhywbeth fel hyn:

  • Mae’r Set yn cwrdd mewn lleoliad lle mae preifatrwydd wedi’i sicrhau;
  • Mae’r Hwylusydd yn atgoffa’r Set o’r “rheolau cyfranogi”, rheoli amser, ymrwymiad i gyfrinachedd, yr angen i wrando ag empathi, ymatal rhag beirniadu a chanolbwyntio’n llwyr ar y Cyflwynydd;
  • Mae’r Cefnogwyr yn gwrando – gwrando i ddeall, nid i ymateb;
  • Mae’r Cyflwynydd yn siarad am oddeutu 6-10 munud;
  • Mae’r Hwylusydd yn agor y llawr i’r Cefnogwyr ofyn cwestiynau i’r Cyflwynydd, ond NID i roi cyngor na chynnig atebion posib!
  • Pan fo’r cwestiynau wedi dod i ben, mae’r Cyflwynydd yn crynhoi’r sefyllfa, yn enwi unrhyw ddealltwriaeth newydd ac unrhyw gamau y bydd yn eu cymryd cyn y sesiwn nesaf;
  • Daw’r sesiwn i ben gyda’r Hwylusydd yn gwerthuso effeithiolrwydd cyffredinol y sesiwn;
  • Bydd hyd ysesiwn yn amrywio, gan ddibynnu ar gytundeb ymysg y Set

Ansawdd y cwestiynau. Mae’r gallu i ofyn cwestiynau grymus yn hanfodol i Set Dysgu Gweithredol lwyddo. Dylid gofyn cwestiynau sy’n helpu’r Cyflwynydd i ganfod rhyw agwedd neu ongl newydd – rhywbeth nad oedd wedi’i daro o’r blaen.  Dylai cwestiynau fod yn agored a chanolbwyntio ar y pethau positif, gyda’r rhagdybiaeth ddealledig FOD yna ateb i’r broblem.  Ansawdd cwestiynau’r Cefnogwyr yw’r allwedd i Set Dysgu Gweithredol effeithiol.

Canlyniadau.  Prif nod Dysgu Gweithredol yw helpu unigolion i ganfod camau y gallant eu cymryd i ddatrys problem neu adfer sefyllfa.  Dylai pob sesiwn ddechrau gyda diweddariad gan y Cyflwynydd blaenorol, gan rannu beth sydd wedi digwydd o ganlyniad i’r camau yr ymrwymodd iddynt yn y sesiwn flaenorol.  Mae clywed am ganlyniadau positif yn rhoi hwb gwirioneddol i ddynameg y Set.

Cymhelliant. Pan fo Set Dysgu yn cwrdd y tro cyntaf, mae’r aelodau yn cytuno i ymrwymo i broses bendant – presenoldeb rheolaidd, cadw at y broses, ymrwymo’n llwyr, cyfrinachedd ac yn y blaen.  Wrth i amser fynd ymlaen, os yw unigolion yn anwybyddu’r ymrwymiadau hyn bydd lefel y cymhelliant yn gostwng a bydd y Set yn colli ei heffeithiolrwydd. Mae cymhelliant i gyfranogi yn hanfodol gan ei fod yn gweithredu fel sbardun sy’n cynnau egni i “danio ac ysbrydoli” gwaith y Set.

Dyma’r hyn y mae ambell i aelod o grwpiau OLGA wedi’i ddweud am eu profiadau cyntaf o Ddysgu Gweithredol:

“Rhoddodd ysgogiad i ni feddwl a’m gorfodi i edrych yn fanwl arna’i fy hun a’r Rheolwyr Clystyrau eraill. Gwnaeth i mi hefyd deimlo’n bryderus amdanon ni gyd – braidd yn ddychrynllyd decini. Roedd hi fel pe bai rhywun newydd roi’r golau ymlaen wrth sylweddoli bod gynnon ni’r un pryderon a phroblemau i ddelio gyda nhw. Dyma rywbeth y gallwn ni nawr weithio arno i lwyddo a chefnogi ein gilydd gydag ef.”

“Yr hyn rwyf wedi’i ddysgu o’r sesiwn yw edrych am y pethau positif mewn unrhyw sefyllfa gan y gallwch bron bob tro ddod o hyd i rywbeth positif i adeiladu arno.”

“Roeddwn yn meddwl bod y prynhawn cyfan yn ardderchog. Wyddwn i ddim beth i’w ddisgwyl, ond roedd fy mhrofiad cyntaf o set ddysgu dan arweiniad yr hwylusydd yn werth chweil ac mae’r pynciau a gododd y set wedi aros gyda mi ers hynny ac rwyf wedi treulio peth amser yn rhoi sylw iddynt. Rwyf wedi fy nghael fy hun yn myfyrio ar y profiad cyfan yn yr wythnosau sydd eisoes wedi pasio ac rwy’n edrych ymlaen at yr un nesaf.“

Os hoffech ddysgu mwy am y ffordd y gall Dysgu Gweithredol fod o gymorth yn eich rôl chi fel aelod o grŵp OLGA, cysylltwch â Gwasanaeth Cefnogi CyG drwy ebostio help@wcva.org.uk neu ffonio 0800 587 8898.

Mae Cyfranogaeth Cymru yn cynnig gwasanaeth hwyluso ar gyfer setiau dysgu gweithredol sy’n helpu i sefydlu set a hwyluso cyfarfodydd cychwynnol yn ogystal â monitro a gwerthuso dysgu gweithredol. Hoffech chi wella eich dysgu drwy fyfyrio ar faterion gwaith cyfredol gyda chydweithwyr? Ewch i’n gwefan am fwy o wybodaeth.

Gair bach i gyflwyno ein gweinyddwr newydd: Non Humphries

NonRwy’n Weinyddwr newydd yn Cyfranogaeth Cymru ers pythefnos erbyn hyn, felly mae’n hen bryd i mi ysgrifennu fy narn blog cyntaf i gyflwyno fy hun.Rwy’n dod o Gaerdydd, a graddiais mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Bryste ym mis Gorffennaf 2013, cyn dychwelyd i weithio i Sustrans Cymru fel Derbynnydd Swyddfa.Bûm yn gweithio i Sustrans Cymru am ychydig dros 6 mis cyn ymuno â Cyfranogaeth Cymru.

Mae fy CV hyd yma yn amrywiol a dweud y lleiaf – mae gen i rywfaint o brofiad o lawer o bethau.Mae rhai o fy swyddi blaenorol yn cynnwys hyfforddwr pêl-droed i blant, gweithio fel swyddog codi arian dros y ffôn a ‘Hyrwyddwr Chwaraeon’ yn cynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon fel rhan o gynllun gan Undeb Prifysgol Bryste.Dim ond mewn un swydd arall rwyf erioed wedi gorfod ysgrifennu blog, sef pan oeddwn i’n Hyfforddai Cyfathrebu i’r Sefydliad Trawsnewid Polisïau Cyffuriau. Rhywsut, llwyddais i gael amser i wneud hynny ddau ddiwrnod yr wythnos yn ystod fy mlwyddyn olaf yn y brifysgol. Felly rwy’n ymddiheuro os yw fy niffyg profiad blogio yn amlwg!

Roedd Undeb Ddadlau Bryste yn rhan fawr o fy mywyd yn y brifysgol, ac roeddwn i’n mwynhau trefnu twrnameintiau yn ystod fy nghyfnod yn Gynullydd Allanol, yn ogystal â chynllunio a chyflwyno sesiynau hyfforddi pan oeddwn i’n Gyfarwyddwr Hyfforddiant.Mae’r profiadau a gefais drwy fod yn rhan o Undeb Ddadlau Bryste wedi datblygu fy sgiliau trefnu, ac mae gen i dipyn o brofiad o hyfforddi rhwng y gwaith pêl-droed a’r dadlau (ond nid cymaint â Siobhan, Sarah a Mandy).

Yn ogystal â datblygu fy sgiliau, roedd y ffaith fy mod yn cystadlu’n gyson gydag Undeb Ddadlau Bryste yn rhoi cyfleoedd i mi deithio ledled y DU a thu hwnt i fynd i dwrnameintiau, gan gynnwys i Belgrade unwaith.Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2013, roeddwn i’n Gynullydd Bwrdeistrefi i bedair Bwrdeistref yn Llundain fel rhan o Her Ddadlau Llundain; twrnamaint blynyddol sy’n cael ei drefnu gan yr English-Speaking Union sy’n rhoi cyfle i ddisgyblion o ysgolion uwchradd gwladol ddadlau mewn sefyllfa gystadleuol.

Yn ogystal â rhywfaint o brofiad blaenorol o weithio yn y trydydd sector, rwyf wedi gwirfoddoli i Oxfam a Sefydliad Prydeinig y Galon, ac rwy’n dal i wirfoddoli i Recovery Cymru, mudiad i bobl sy’n ceisio rhoi’r gorau i fod yn gaeth i gyffuriau ac alcohol.Cyn hir byddaf yn hwyluso grŵp ysgrifennu creadigol wythnosol yn Recovery Cymru, ac rwy’n edrych ymlaen at hynny.

Mae fy mhythefnos cyntaf wedi hedfan heibio, ac rwyf wedi mwynhau ymgolli cymaint â phosib yn fy rôl newydd.Rwyf wedi cael croeso cynnes gan y tîm, ac rwy’n siŵr y bydda i wir yn mwynhau gweithio gyda nhw.Maen nhw wedi rhoi llawer o wybodaeth i mi hyd yma, ac wedi bod yn amyneddgar iawn gyda fy nghwestiynau!Gan fod pawb wedi bod mor groesawgar, rwy’n teimlo fy mod i wedi bod yn rhan o Cyfranogaeth Cymru ers mwy na phythefnos, ond rwy’n sicr yn dal i ddysgu hyd a lled y rôl yn ogystal â goblygiadau’r modelau cyfranogaeth lu!

–          Non

Yn cyflwyno ein Swyddog Hyfforddi a Datblygu newydd: Siobhan Hayward

Pan ofynnwyd i mi ysgrifennu blog i gyflwyno fy hun, teimlais mai’r man cychwyn gorau fyddai pan groesais y bont a dod i fyw yng Nghymru (am yr eildro) tua 15 mlynedd yn ôl. Rwy’n wreiddiol o Loegr ond Cymru yw fy nghartref bellach a’r trobwynt oedd pan ddechreuais gefnogi tîm rygbi Cymru yn ystod y chwe gwlad!

SiobhanYn ystod y cyfnod hwn, rwyf wedi cael gyrfa amrywiol, yn gyntaf fel y Swyddog Datblygu / Arweinydd Tîm ar gyfer Rhwydwaith Amgylchedd Pobl Dduon ac yna bedair blynedd yn gweithio fel ymgynghorydd annibynnol. Roedd y cyfnod hwn yn cynnwys gweithio gyda Dysgu drwy Dirweddau a chynorthwyo athrawon i baratoi at y Cyfnod Sylfaen newydd, cwricwlwm sy’n hyrwyddo dysgu drwy chwarae yn yr awyr agored i blant rhwng 3 a 7 oed. Tarodd y gwaith hwn dant arbennig oherwydd roedd fy mab fy hun yn ifanc iawn ar y pryd. Gwelais os oeddech yn cyfathrebu â phlant ifanc gan ddefnyddio technegau cyfranogi priodol, roeddynt yn gallu mynegi eu barn yn rhwydd iawn am eu hamgylchedd a’r hyn yr hoffent allu ei wneud yn yr awyr agored.

Darn cyferbyniol o waith oedd gyda Chonsortiwm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Cymru pan reolais ymgynghoriadau cymunedol i lywio Strategaethau Tai i Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yr oedd awdurdodau lleol yn eu datblygu.

Yr edefyn sy’n cysylltu’r gwaith hwn yw pwysigrwydd ymgysylltu’n effeithiol a sicrhau bod dinasyddion Cymru, ni waeth beth yw eu hoedran na’u hethnigrwydd, yn cael dweud eu dweud yn y ffordd o ddylunio, datblygu a darparu gwasanaethau sy’n effeithio arnynt.

Gan barhau â thema ymgysylltu â’r cyhoedd, mae gweithio mewn partneriaeth yn fewnol a chyda phartneriaid allanol wedi bod yn rhan allweddol o’m swydd ddiweddaraf fel Cynghorydd Addysg ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn gynharach eleni, bûm ar gwrs achrededig Gweithio mewn Partneriaeth yn Effeithiol yn Sector yr Amgylchedd, a gynhelir gan Cyfranogaeth Cymru. Dyma’r tro cyntaf i’r cwrs gael ei gynnal gyda sector yr amgylchedd ac mae’n galonogol gweld mudiad yn y sector cyhoeddus yn hyrwyddo’r maes gwaith hanfodol hwn.

Rhai misoedd wedyn gwelais hysbyseb am swydd Swyddog Hyfforddi a Datblygu a… dyma fi! Rwyf wedi cael croeso cynnes ac yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r tîm a gweithio gyda mudiadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector i’w cynorthwyo i ymgysylltu â’r cyhoedd.

Gallwch gael gafael arna’ i neu unrhyw aelod o dîm Cyfranogaeth Cymru drwy glicio yma

Yn cyflwyno ein gweinyddwr newydd: Jon Birts

ImageDyma ddarn byr i gyflwyno fy hun fel y gweinyddwr newydd ar gyfer Cyfranogaeth Cymru. Ers ymuno â’r tîm ym mis Mehefin rwyf wedi bod yn dysgu llawer iawn am gysyniadau ymgysylltu, cyfranogi a chynnwys dinasyddion. Drwy helpu i drefnu’r rhaglen hyfforddi newydd, rwyf wedi cael cipolwg ar y gwahanol fathau a lefelau o gyfranogi. Ond gan ei fod yn gysyniad mor eang ac amrywiol, mae gen i lawer mwy i’w ddysgu.

Am dair blynedd cyn y swydd hon, roeddwn yn gweithio ym myd Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac mewn cysylltiad yn aml â defnyddwyr gwasanaethau ‘ar lawr gwlad’. Un o’r pethau mwyaf diddorol i mi ynghylch cyfranogi yw’r syniad o glywed barn a safbwyntiau ar sut y dylai gofal a chymorth gael eu darparu gan y rheini sy’n eu derbyn. Mae rhwydweithiau yn ffordd wych o ddod â phobl at ei gilydd a rhannu a chasglu gwybodaeth y gellir wedyn ei bwydo’n ôl i’r mudiadau sy’n gyfrifol am fonitro gwasanaethau.

Gan mai gwaith gweinyddol yw fy swydd i, anaml rwy’n cael y cyfle i weld y gwaith da a wna Cyfranogaeth Cymru, felly rwy’n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y cwrs achrededig Ymgysylltu â’r Cyhoedd fis Medi, a mynd i Rwydwaith Cyfranogaeth De Ddwyrain Cymru fis Hydref. Mi wela’i chi yno!

–       Jon

Adborth

Wythnos diwethaf fe wnaeth Dyfrig Williams addo byddwn i’n ysgrifennu blog i Gyfranogaeth Cymru. Felly dyma fe! Mae’n briodol fy mod i’n dechrau blogio nawr gan fy mod i newydd gael fy mhenodi i fy rôl newydd fel Hwylusydd Cyfranogaeth Cymru, a byddaf yn gofalu am y blog a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar ôl i Dyfrig gadael am ei swydd newydd yn Swyddfa Archwilio Cymru.

Roeddwn i hefyd yn bresennol yn y cwrs achrededig ar ymgysylltiad cyhoeddus yng Nghaerdydd ar ddiwedd mis Ebrill, rhywbeth rydw i wedi eisiau mynychu am sbel. Fe wnaethon ni edrych dros siwd gymaint o wybodaeth yn ystod y ddau ddiwrnod, ac fe wnaethon ni archwilio nifer o syniadau diddorol a thechnegau cyfranogol hwyl. Y rhan fwyaf diddorol yn fy marn i oedd ar y pwysigrwydd adborth yn y broses ymgysylltu.

Feedback - CYM

Rwy’n credu yn bersonol bod y gair ‘ymgysylltu’ yn awgrymu bod adborth yn cael ei roi yn barhaus o’r dinesydd a’r darparwr gwasanaeth – mewn geiriau eraill – bod ymgysylltu yn sgwrs, ac yn broses barhaus. Fe wnaeth yr hyfforddiant gwneud i mi sylweddoli bod dinasyddion hefyd yn llawer mwy tebygol o fod eisiau i gymryd rhan os ydynt yn gwybod effaith eu cyfraniad. Mae adborth hefyd yn rhoi eglurder i’r broses ymgysylltu, ac mae’n rhoi grym i unigolion a grwpiau cymunedol, gan fod nhw’n gwybod sut mae eu syniadau yn cael eu defnyddio.

Fodd bynnag, nid yw adborth digonol yn golygu cyhoeddi canlyniadau arolwg cenedlaethol mewn cyhoeddiad does neb yn darllen, neu wefan nad oes unrhyw yn ymweld â. Rhaid i’r adborth a roddir i fod yn briodol ac yn berthnasol i’r math o ymgynghori a wnaethoch. Ar gyfer ymgynghoriad bach, gallai dinasyddion derbyn adborth trwy gyswllt uniongyrchol (ar yr amod eu bod wedi caniatáu i chi ddefnyddio eu manylion ar gyfer y diben hwnnw, wrth gwrs!). Byddai’r dull yma yn dangos i’r dinesydd faint rydych chi wedi gwerthfawrogi eu cyfraniad wrth i chi gymryd yr amser i gysylltu â nhw’n unigol. Efallai ar gyfer ymgynghoriad mwy byddai’r cyfryngau neu gyfryngau cymdeithasol yn ffordd fwy priodol i roi adborth.

Mae’r wefan change.org yn rhoi adborth rhagorol i lofnodwyr deisebau. Yn ddiweddar, rwyf wedi llofnodi deisebau drwy’r safle hwn ac wedi derbyn negeseuon e-bost manwl o beth sy’n digwydd – pan mae’r ddeiseb yn cael ei anfon i’r person perthnasol, eu hymateb a beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf, felly mae’n enghraifft wych o adborth perthnasol.

Sut y byddwch yn rhoi adborth i’ch rhanddeiliaid yn y dyfodol?

– Sarah