Tag Archives: e-gyfranogaeth

Cynhwysiant digidol a dyfodol e-gyfranogaeth

Ar y 25ain a’r 26ain o Chwefror 2015, cynhaliodd Cymunedau 2.0 gynhadledd ynglŷn â Chynhwysiant Digidol ac aeth Cyfranogaeth Cymru draw i gael gwybod mwy.

Dyma ein barn ni ar arwyddocâd a rôl cynhwysiant digidol ar gyfer dyfodol cyfranogaeth yng Nghymru.

Mae’n rhyfeddol meddwl gymaint mae technoleg wedi datblygu mewn cyfnod mor fyr. Rwy’n siwr fod llawer ohonom yn cofio ein cyfrifiadur cyntaf (mae’n siwr un Windows ’95 clogyrnaidd fel un fi), neu hyd yn oed ein bricsen gyntaf – efallai ffôn poced Nokia 32:10. Mae’n rhyfedd meddwl gymaint gallwn ni ei wneud nawr ar ffôn clyfar sylfaenol am ffracsiwn o’r gost.

(Cymerwch olwg ar y lluniau isod a gweld faint o’r rhain sy’n mynd â chi’n ôl!)

Communities 2.0 Digital Inclusion

 

Mae technoleg o’r fath wedi newid y dirwedd rydym yn byw ein bywydau bob dydd ynddi am byth. Ond wrth i’r byd digidol ruthro ymlaen, mae’n hawdd cael eich gadael ar ôl.

I’r mwyafrif ohonom, y mae ein ffordd o fyw a’n gweithle yn fwyfwy digidol, mae hi efallai’n anodd gwerthfawrogi’r math o rwystrau y byddem yn eu hwynebu pe na bai gennym yr adnoddau a’r set o sgiliau sydd eu hangen i fod yn annibynnol yn y byd digidol.

Wrth i gymdeithas fynd yn fwyfwy digidol, mae’r rhaniad sy’n bodoli rhwng y rheini sydd wedi’u cynnwys yn ddigidol a’r rheini sydd heb, yn creu problem wirioneddol ac yn golygu goblygiadau ar bob lefel, hyd yn oed yn economaidd ac yn ddemocrataidd.

Y rhaniad hwn y craffwyd yn fanwl arno yn ystod cynhadledd ddeuddydd Cymunedau 2.0.

Amcangyfrifodd y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn 2015 fod dros 500,000 o oedolion yn dal i fod wedi’u hallgáu’n ddigidol yng Nghymru (tua 1 o bob 6 ohonom). Mae’r cysylltiad sy’n bodoli rhwng allgáu digidol a thlodi ynghyd â grwpiau eraill o bobl sy’n agored i niwed yn dangos bod allgáu digidol yn fater o gyfiawnder cymdeithasol, ac mae’n hawdd gweld y ffordd y gall allgáu digidol ddwysáu diffyg grym.

O safbwynt busnes, mae’r farchnad fyd-eang sy’n gynyddol ddigidol yn golygu bod gan fudiadau sydd yn y llif digidol lawer mwy o gyfle i sicrhau deunyddiau rhatach, ymestyn eu cyrhaeddiad â chwsmeriaid, symleiddio prosesau gwaith a chwtogi oriau gwaith. Mae hyn oll yn ei gwneud yn llawer anos i fusnesau nad ydynt yn manteisio ar y we i oroesi.

Mae diffyg gwybodaeth ddigidol nid yn unig yn cyfyngu ar gyfleoedd cyflogaeth, ond hyd yn oed yn ei gwneud yn drafferthus i gael at fudd-daliadau megis lwfans ceisio gwaith.

Gall cynnal perthynas â phobl eraill – rhywbeth mor syml â chadw cysylltiad – fynd yn fwyfwy anodd os ydych ymysg y rheini sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol. Ymhellach, wrth i fwy a mwy o wasanaethau cyhoeddus symud i fod yn wasanaethau arlein, rydych yn llawer llai tebygol o glywed newyddion a gwybodaeth ynglŷn â phethau a allai effeithio arnoch.

O’r safbwynt hwn, mae allgáu digidol nid yn unig yn golygu cael eich ynysu a’ch analluogi, ond hefyd eich dadrymuso mewn modd cwbl sylfaenol. Felly, beth allwn ni ei wneud i helpu i roi diwedd ar allgáu digidol?

Wel, nid oes yna un ateb syml. Tra mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau positif i ganolbwyntio’n fwy ar lythrennedd digidol yng Nghymru, mae’n galonogol fod mudiadau annibynnol megis #techmums hefyd yn bodoli i helpu i ddymchwel y rhwystrau hynny a chynyddu hyder defnyddwyr digidol. Fel ag erioed, mae yna bob amser waith rhagorol yn cael ei wneud drwy’r adeg gan wirfoddolwyr ar hyd a lled y wlad i helpu i rymuso’r rheini sydd ei angen.

Roedd ymdrechion y grwpiau a’r bobl hyn wir yn amlygu ei bod yn bwysig cofio, yn y gwaith ac yn ein bywyd personol, ein bod yn rhannu cyfrifoldeb i rannu ein grym a sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl.

Mae’n hawdd meddwl am dechnoleg yn nhermau’r hyn mae’n ei roi i ni – boed hynny yr offer i gael yr atebion rydym eu hangen, y cyfle i hysbysebu ein busnes neu ddod o hyd i waith, y gallu i symleiddio ein bywydau bob dydd, darparu adloniant i ni neu bethau newydd i’w dysgu – hyd yn oed rhywbeth mor syml â’r gallu i gadw cysylltiad â’n hanwyliaid…

Georgina

Advertisements

Diweddariad: Rhwydweithiau Cyfranogi Rhanbarthol

Free Tools

Cynhaliwyd ein rhwydweithiau cyfranogol rhanbarthol y mis hwn yn y Rhyl, Casnewydd a Chaerfyrddin. Yn y digwyddiadau rhwydweithio hyn edrychwyd yn fanwl ar sawl adnodd arlein am ddim y gellir eu defnyddio i ymgysylltu. Roedd amrywiaeth eang o fudiadau yn bresennol gan rannu llawer o syniadau diddorol.

Dyma restr o’r gwefannau a’r offer a drafodwyd:

Socrative – Creu cwisiau

Read-Able – Gwirio pa mor ddarllenadwy yw rhywbeth

Easel.ly – Creu graffigau gwybodaeth

Infogram – Creu graffigau gwybodaeth

Powtoon – Creu cartwnau byw

Pixabay – Casgliad o luniau am ddim

Morguefile – Mwy casgliad o luniau am ddim

Phrase it! – Ychwanegu swigod siarad ar ddelweddau

Pixlr – Golygydd lluniau arlein am ddim

Mailchimp – Creu cylchlythyron ar gyfer eich rhestrau postio

Twtpoll – Arolygon barn ar gyfer Twitter

Tagboard – Chwilio am bynciau/hashnodau ar Twitter

https://twitter.com/search-home – Chwilio Twitter

Eventbrite – Trefnu digwyddiadau y gellir cadw lle ynddynt

Survey Monkey – Dylunio arolygon a holiaduron.

Magisto – Clip ffilm golygydd

Google Charity Apps

Doodle – Trefnu cyfarfodydd gydag eraill

KeePass – Claddgell cyfrinair amgryptio (meddalwedd y gellir eu lawrlwytho ffynhonnell agored)

http://www.gimp.org/ – GNU Image Manipulation Programme (meddalwedd y gellir eu lawrlwytho ffynhonnell agored)

Skitch – Lluniau a darluniau yn Evernote (meddalwedd y gellir eu lawrlwytho)

Geospike – Dyddiadur teithio gyda GPS

Byddwn yn cynnal digwyddiadau rhwydweithio rhanbarthol eto fis Mai pan fydd prosiectau Lleisiau Lleol ledled Cymru yn rhannu eu gwaith. Os hoffech ddod iddynt cysylltwch â ni i gael gwybod mwy.

– Sarah

Llun o Pixabay.

E-gyfranogaeth ac adrodd storiau

Mae cyfranogaeth yn gysyniad mor fawr, mae fe bron yn frawychus! Mae’n cynnwys dulliau traddodiadol i gynnwys pobl a chymunedau yn bersonol, a dulliau ar-lein i ymgysylltu ag unigolion a chymunedau megis cyfryngau cymdeithasol.

Rwy’n ddigon ffodus i weithio mewn rôl lle dwi ‘di cael llawer o ryddid i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol. Rwy’n gwybod fy mod i’n lwcus oherwydd dywedodd 53% o’r rhai a ymatebodd i’r Arolwg Cymru gyfan ar ddefnydd y rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol gan wasanaethau cyhoeddus bod polisïau technoleg gwybodaeth gyfyngol yn dal i fod yn rhwystr lle maen nhw’n gweithio (bydd yr adroddiad llawn ar gael yn fuan!).

Rydw i wedi bod yn lwcus i fynd i sawl cwrs a digwyddiad ar y pwnc yma ac rydw i wedi cwrdd â llawer o bobl sydd wedi dysgu siwd gymaint i mi am gyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys Louise Brown, a oedd yn rhedeg cwrs gwych ar gyfer Lleisiau dros Newid Cymru ar ymgyrchu ar-lein (ac sydd gyda blog gwych hefyd), ac Esther Barrett a Paul Richardson o RSC Cymru, a wnaeth rhedeg digwyddiad ar gyfer staff WCVA ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.

Roedd y ddau gwrs yn ymarferol iawn a rhoddodd syniadau i mi am ddefnyddio offer rhad ac am ddim i ymgysylltu â phobl. Dysgodd Esther i mi sut i ddefnyddio Audacity, ac rydw i wedi blogio am ddefnyddio hwn i werthuso ein prosiect yn y gorffennol.

Y tro nesaf wnes i redeg i mewn i Esther oedd yn nigwyddiad Adrodd Straeon Digidol DS6 yn Aberystwyth, lle roeddwn i wedi fy lleoli ar y pryd. Fe wnaeth Esther ddechrau trafodaeth ddifyr am ddefnyddio dulliau anhraddodiadol fel Facebook i ddweud storïau anhraddodiadol. Gallwch weld a chlywed Esther yn siarad mwy am hyn yn y fideo uchod. Fe wnaeth ei ymateb wir wneud i mi feddwl am sut ni’n cael storïau pobl i ddylanwadu ar wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig wrth i fwy a mwy o wasanaethau  defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu. Yn dilyn hyn wnaeth Esther gynnal cynhadledd ar-lein ar Elluminate am y profiad. Gallwch wylio’r sesiwn yma. Mae’n ymdrin â sut mae pobl yn defnyddio technoleg i adrodd straeon mewn ffyrdd creadigol, o’r nofel Twitter a ysgrifennwyd yn Tweets at y defnyddiwr Facebook a ddogfennodd genedigaeth ei phlentyn. Mae’n anhygoel pa mor bwerus yw’r naratifau yma.

Bydd Esther a Paul o RSC Cymru yn fy helpu i i redeg y cwrs Cyflwyniad i e-gyfranogaeth, sy’n rhan o’n rhaglen hyfforddiant cyfredol. Fe fydd e’n teimlo’n ychydig yn od i arwain y dydd pan rydw i wedi dysgu cymaint oddi wrth Esther a Paul, ond os ydych chi’n dod rwy’n gobeithio eich bod chi’n ffeindio’r cwrs mor ddefnyddiol ag fe wnes i ffeindio hyfforddiant RSC Cymru!

– Dyfrig

Datblygu gwefan iechyd a lles ar gyfer y dinesydd Cymreig

Ddoe roeddwn i’n rhan o grŵp gorchwyl a gorffen ar gyfer datblygu gwefan iechyd a lles ar gyfer dinasyddion yng Nghymru. Nod y wefan yw rhoi gwybodaeth i bobl a’u helpu nhw i ddewis pa wasanaethau i dderbyn a’u rheoli nhw’n effeithiol. Craidd y mater yw os dydych chi ddim gyda’r wybodaeth gywir, mae’n anodd iawn, os nad yn amhosib, i ddewis pa wasanaethau i ddefnyddio.

Esboniodd Cathryn Thomas o’r Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol (SSIA) i mi fod “llais cryf a rheolaeth dim ond cystal â’r wybodaeth sy’n sail i’r penderfyniadau yma. Mae’r rhaglen yma’n awyddus i ddod a’r holl linynnau gwybodaeth gofal cymdeithasol at ei gilydd, er enghraifft tai, gwasanaethau hamdden, ac iechyd, fel eu bod nhw mewn un lle sy’n hawdd ei gyrraedd ac sy’n caniatáu unigolion i wneud dewisiadau gwybodus am sut y gallant gynnal eu hannibyniaeth”.

Roedd mynychwyr o fudiadau amrywiol, gan gynnwys y sectorau cyhoeddus a’r trydydd sector. Ond y peth gorau oedd bod SSIA wedi cydnabod y pwysigrwydd o ymgysylltu â dinasyddion yn gynnar yn y proses, cyn bod unrhyw benderfyniadau ar y wefan wedi cael eu gwneud. Gofynnais i Andrea Cruttenden, gofalwr sy’n aelod o’r grŵp gorchwyl a gorffen, pam ei bod hi’n falch o fod yn rhan o’r grŵp a beth oedd ei gobeithion hi ar gyfer y safle. Gallwch glywed ei hymateb yn y AudioBoo isod.

Dywedodd Andrea bod dyluniad gwefannau yn gallu fod yn “or-gymhleth ac ychydig yn frawychus ar gyfer defnyddwyr tro cyntaf, ac rwy’n gweld y pwysigrwydd o geisio cadw’r safle mor syml â phosib”. Roeddwn i yn yr un grŵp ag Angela, ac fe gyfrannodd hi cymaint o wybodaeth ddefnyddiol yn ystod y dydd, a byddwn ni ddim wedi clywed yr adborth yma heb gynrychiolaeth gan ddinesydd. Nid yn unig hynny, ond roedd ei syniadau hi wedi eu cefnogi gan dystiolaeth cryf o enghreifftiau yn ei bywyd hi o’r gwahaniaeth gall gwybodaeth sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr wneud i fywydau pobl.

Trafodom bwysigrwydd hygyrchedd yn ystod y dydd o ran anabledd a hygyrchedd iaith a jargon, gan ei fod yn bwysig iawn bod pawb yn gallu cyrchu’r wefan. Dywedwyd yn ystod y digwyddiad na ddylai’r iaith fod yn “iaith awdurdod lleol”.

Gofynnwyd i ni feddwl am ba wefannau rydym yn hoffi a pham rydym yn hoffi nhw cyn y cyfarfod nesaf ym mis Chwefror, felly byddai’n wych os gallech roi gwybod i ni pa wefannau rydych chi’n hoffi a pham yn y maes sylwadau isod! Ni’n addo i fynd â’ch enghreifftiau chi gyda ni i’r cyfarfod a wnawn ni ddim cymryd y clod am eich syniadau chi!

– Dyfrig

Blogs i edrych allan am yn 2013

Cyn i mi ddweud unrhyw beth arall – blwyddyn newydd dda i bawb! Gobeithio gwnaethoch chi gael Nadolig gwych!

2013 yw yn ein hail flwyddyn o flogio (dydw i ddim yn cyfri’r ffaith dechreuwn ni blogio ym mis Hydref 2012!), a hyd yn hyn mae fe wedi rhoi’r cyfle i mi i fyfyrio ar y gwaith rwy’n wneud ac i ddysgu ohono. Fel gwrthbwynt i hynny, mae blogio hefyd wedi arwain i mi edrych ar lawer o flogiau eraill a dysgu llawer o nhw.

Blog-commentskkkkk

Dyma rai o’r blogiau rwy’n meddwl ei fod yn werth cadw llygaid arno yn 2013:

What’s the Pont
Mae’r blog yma amdano ddysgu a rhannu gwybodaeth er mwyn gwella gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn ail-drydar dolenni i’r blog yn aml gan ei fod yn enghraifft wych o ba mor effeithiol y gall blogio fod – mae’n bersonol, doniol a llawn gwybodaeth ddefnyddiol!

Blog Iechyd Meddwl Powys
Mae’r blog yma gan dîm Asiantaeth Powys ar gyfer Iechyd Meddwl, sy’n gweithio ar gyfer Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys. Unwaith eto, mae’n rhoi cipolwg diddorol a phersonol ar waith sy’n cymryd lle. Mae yna gyfranwyr amrywiol, gan gynnwys 3 aelod o staff a defnyddwyr gwasanaeth sy’n cyfrannu eu profiadau eu hunain (fel yn yr erthygl yma) – cyfranogol iawn!

Weekly Blog Club
Fel y Blog Iechyd Meddwl Powys, mae’r blog yma yn cynnwys erthyglau gan gyfranwyr amrywiol, ond y tro yma mae’r cyfranwyr yn bobl sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus, gydag ymddiriedolaethau elusennol neu gyda grwpiau gwirfoddol mewn cymunedau yn y Deyrnas Unedig. Mae dilyn y blog yma yn ffordd wych o glywed am waith amrywiol sy’n cymryd lle ar y ddwy ochr i Glawdd Offa.

Localopolis
Mae Dave Mckenna yn gweithio mewn adran craffu llywodraeth leol, ac mae ei blog yn ffocysu ar hyn ac mae’n ddiddorol iawn! Ei nod yw rhannu 101 o ffyrdd gwahanol o wneud democratiaeth leol. Mae’r erthygl yma ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i graffu ar lywodraeth leol yn enghraifft wych o’i waith!

Ace Digital Comms
Mae’r blog yma gan Helen Reynolds, sy’n gweithio mewn ymgysylltiad digidol yn llywodraeth leol. Mae’r is-bennawd oddi wrth ei blog yn dweud “Symud cyfathrebu o ddarlledu i sgwrsio trwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol ac offer digidol eraill”, sy’n crynhoi e-gyfranogi’n dwt!

Mae llawer mwy o blogiau allan yna sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol, gan gynnwys blog Jason Nickels sydd wedi cael ei ddechrau’n diweddar, Cymunedau 2.0 a gwefannau Involve a GEECS, sydd yn seiliedig ar flogiau.

Rwy’n gobeithio bydd y blogiau yma yn eich ysbrydoli ac rydw i hefyd yn gobeithio bod chi’n cael 2013 wych!

– Dyfrig

Credyd am y llun: http://commons.wikimedia.org/wiki/File%3ABlog-commentskkkkk.jpg

Gan Cortega9 (gwaith ei hun) [CC-BY-SA-3.0 (http://creativecommons.org/licenses/by-sa/3.0)%5D, trwy Wikimedia Commons

Adeiladu ymgysylltiad ar-lein gyda WordPress

Ddoe, mynychais ddigwyddiad defnyddiol iawn a gafodd ei gynnal gan Ddefnyddwyr WordPress Cymru a Chynghrair Meddalwedd Cymru ar Adeiladu Ymgysylltiad Ar-lein Gyda WordPress. Edrychwch ar yr adborth!

Fel prosiect, rydym yn gymharol newydd i flogio, felly roedd yn wych i glywed syniadau sy’n cadarnhau beth ni’n wneud (“defnyddiwch lais anffurfiol”) ac i ddysgu mwy am sut y gallwn blogio’n effeithiol (“rhoi eich erthyglau blog yn eich cylchlythyr, defnydd cymaint o’r cynnwys â phosibl”).

Fe wnaeth Phillipa Davies, Joel Hughes a Helen Reynolds cynnig awgrymiadau craff am sut i flogio’n effeithiol a sut i ddefnyddio WordPress yn arbennig.

Rydw i wedi defnyddio Storify i gasglu trydar o’r digwyddiad er mwyn i chi gael blas o sut wnaeth digwyddiad rhedeg.

Mae’r cyflwyniadau i gyd ar gael ar flog Defnyddwyr WordPress Cymru. Mae Joel wedi ysgrifennu erthygl dilynol ar ei flog ef hefyd.

– Dyfrig

DIWEDDARIAD  – Mae Helen Reynolds wedi ysgrifennu erthygl grêt ar ei flog hi ers y digwyddiad. Gallwch ffeindio’r blog yma.

Organisations need to learn how to party: why digital engagement needs to be more social

Mae’n ddrwg gennym am ail-blogio cyfres o erthyglau gan bobl eraill bore ‘ma – wnaethon ni mewngofnodi ac wedi gweld ar hap bod llawer o bethau gwych yn mynd ymlaen! Dyma blog gret gan Helen Reynolds ar ein defnydd o iaith a gwneud ein cyfryngau cymdeithasol yn fwy cymdeithasol.

social for the people

I work in digital communications. In the public sector. If there’s one obsession both disciplines share, it’s the quest for ‘engagement’.

It’s often said about digital engagement that ‘we’ (organisations) need to go where people go. What that actually means to me isn’t ‘the people use Facebook so we’ll use Facebook and build a page there’. It’s ‘let’s go to a Facebook page that people use and talk to them there’. There’s a difference.

Often when we think of social media we can forget what ‘social’ means in the real world. The ‘social’ rules offline are the same as those for online.

So this is my case for why I think we should behave online like we do at real life parties.

Asking the right questions

At a party, if you’re introduced to somebody you don’t ask them to please comment on the party or feedback on their life so…

View original post 777 yn rhagor o eiriau