Tag Archives: gwasanaethau cymdeithasol

Diweddariad: Rhwydweithiau Cyfranogi Rhanbarthol

Free Tools

Cynhaliwyd ein rhwydweithiau cyfranogol rhanbarthol y mis hwn yn y Rhyl, Casnewydd a Chaerfyrddin. Yn y digwyddiadau rhwydweithio hyn edrychwyd yn fanwl ar sawl adnodd arlein am ddim y gellir eu defnyddio i ymgysylltu. Roedd amrywiaeth eang o fudiadau yn bresennol gan rannu llawer o syniadau diddorol.

Dyma restr o’r gwefannau a’r offer a drafodwyd:

Socrative – Creu cwisiau

Read-Able – Gwirio pa mor ddarllenadwy yw rhywbeth

Easel.ly – Creu graffigau gwybodaeth

Infogram – Creu graffigau gwybodaeth

Powtoon – Creu cartwnau byw

Pixabay – Casgliad o luniau am ddim

Morguefile – Mwy casgliad o luniau am ddim

Phrase it! – Ychwanegu swigod siarad ar ddelweddau

Pixlr – Golygydd lluniau arlein am ddim

Mailchimp – Creu cylchlythyron ar gyfer eich rhestrau postio

Twtpoll – Arolygon barn ar gyfer Twitter

Tagboard – Chwilio am bynciau/hashnodau ar Twitter

https://twitter.com/search-home – Chwilio Twitter

Eventbrite – Trefnu digwyddiadau y gellir cadw lle ynddynt

Survey Monkey – Dylunio arolygon a holiaduron.

Magisto – Clip ffilm golygydd

Google Charity Apps

Doodle – Trefnu cyfarfodydd gydag eraill

KeePass – Claddgell cyfrinair amgryptio (meddalwedd y gellir eu lawrlwytho ffynhonnell agored)

http://www.gimp.org/ – GNU Image Manipulation Programme (meddalwedd y gellir eu lawrlwytho ffynhonnell agored)

Skitch – Lluniau a darluniau yn Evernote (meddalwedd y gellir eu lawrlwytho)

Geospike – Dyddiadur teithio gyda GPS

Byddwn yn cynnal digwyddiadau rhwydweithio rhanbarthol eto fis Mai pan fydd prosiectau Lleisiau Lleol ledled Cymru yn rhannu eu gwaith. Os hoffech ddod iddynt cysylltwch â ni i gael gwybod mwy.

– Sarah

Llun o Pixabay.

Advertisements

Pam mae cyfranogiad yn wych

Dyma fy narn olaf o waith i ar gyfer Cyfranogaeth Cymru, ac rydw i eisiau dweud diolch yn fawr i bawb rydw i wedi gweithio gyda dros y tair blynedd diwethaf. Mae fy nghydweithwyr yn Gyfranogaeth Cymru yn unigolion sy’n hynod o ymroddedig. Maen nhw wedi fy ysbrydoli fi gan fod nhw’n gweithio mor galed fel rhan o dîm bychan sy’n gweithio ar sail genedlaethol.

P1000191

Mae’r prosiect wedi’i leoli yng Nghyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ac rydw i wedi gweithio yma hyd yn oed yn hirach (wyth mlynedd i’r mis). Wnes i erioed meddwl y byddwn i’n hyfforddi a hwyluso pan ddechreuais weithio yma fel Cynorthwyydd Gweinyddol ar y Ddesg Gymorth.

Rydw i wedi cyfarfod â staff gwych mewn sawl gwasanaeth cyhoeddus, sy’n benderfynol o agor y strwythurau gwneud penderfyniadau yn eu mudiadau. Rydw i wedi cwrdd â chymaint o bobl o feysydd amrywiol sy’n frwdfrydig ynghylch sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn dryloyw ac yn atebol.

Ar ochr arall y geiniog, rydw i wedi mwynhau’r gwaith ymarferol rydym wedi gwneud gyda dinasyddion ledled Cymru. Rydw i wedi cwrdd â chymaint o bobl ymroddedig sydd wedi bod yn fwy na pharod i roi o’u hamser i geisio sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus, a chymdeithas yn gyffredinol, yn well. Dyma’r rheswm mai’r darn mwyaf cofiadwy o waith rydw i mi yw ein gwaith ar Banel Dinasyddion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru.

Mae Involve wedi ysgrifennu pamffled mawr ar gyfranogiad a elwir From Fairytale to Reality. Mae’r pamffled yn chwalu’r mythau ynghylch pam nad yw cyfranogiad yn ymarferol, gan gynnwys y canlynol:

  • Mae ymgysylltu yn rhy ddrud
  • Nid yw dinasyddion yn gallu rhoi’i farn yn effeithiol
  • Mae ymgysylltu dim ond yn gweithio ar gyfer materion hawdd
  • Dylem osgoi rhoi ormod o bŵer i ddinasyddion ar bob cyfrif
  • Nid yw dinasyddion yn awyddus i gymryd rhan, dim ond gwasanaethau da maen nhw eisiau

Pan wnes i wylio aelodau’r panel yn rhoi tystiolaeth i’r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer y pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru ar 16 Mai, fe wnaeth yr aelodau’r panel chwalu pob un o’r mythau – maent yn siarad am daliadau uniongyrchol (a allai wneud gwasanaethau yn rhatach gan eu bod yn teilwra i anghenion pobl), mae ganddynt ymwybyddiaeth o faterion y gwasanaeth maent yn eu defnyddio, maent yn dyrannu bil cymhleth a thrwm iawn, maent yn darparu ymatebion ystyriol ac yn fanwl ac maent yn awyddus iawn i’w lleisiau gael eu clywed.

Hyd yn oed os byddech yn rhoi rhestr o’r pwyntiau mae’r panel yn dweud wrthyf, ni fyddai’r profiad uniongyrchol gen i i wir drafod y pwyntiau a’r diffygion, gan eu bod nhw’n dod ar draws rhain o ddydd i ddydd. Gallaf ddweud yn bendant na fyddwn i’n gallu siarad am y pwyntiau yma mewn ffordd angerddol fel y maent yn ei wneud.

Pan wnes i wylio’r panel yn rhoi tystiolaeth, fe wnaeth e daro fi mai dim ond trwy ofyn i bobl beth yw eu hanghenion nhw gall gwasanaethau cyhoeddus wir diwallu anghenion pobl a gweddnewid gwasanaethau cyhoeddus.

– Dyfrig

Sut mae plant a phobl ifanc yn bwydo i mewn i Banel Dinasyddion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru

Mae’r ail rownd o gyfarfodydd y Panel Dinasyddion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru bellach wedi cymryd lle. Mae yna banelau oedolion yn y Gogledd, y De Ddwyrain a De Orllewin Cymru, ac rydym hefyd yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar draws Cymru sy’n cael eu heffeithio gan sut mae gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu darparu.

Mae barn plant a phobl ifanc yn cael eu bwydo i mewn gan Beckii Parnham, gofalwr ifanc o Dorfaen, a oedd wedi gwneud cais i fod yn aelod o’r panel yn wreiddiol. Rydym mor lwcus bod Beckii yn gweithio gyda ni – mae Beckii yn gofalu am ei mam, ei brawd a’i chwaer, mae hi’n gynrychiolydd ar gyfer y Ddraig Ffynci, mae hi’n helpu i redeg grŵp gofalwyr ifanc, mae hi wedi gwneud profiad gwaith gyda’r tîm Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei ardal ac mae hi bellach yn gweithio gyda ni i fwydo barn plant a phobl ifanc i mewn i’r Fforwm Partneriaeth Gwasanaethau Cymdeithasol. Rwy’n teimlo ychydig yn ddiog pan rwy’n clywed am bopeth mae hi’n wneud!

Gofynnais i Beckii pam roedd hi eisiau i fod ar y panel, a dywedodd hi ei bod hi “eisiau bod ar y panel oherwydd y profiadau rydw i wedi cael a’r profiadau rydw i eisiau rhannu. Mae gen i brofiad o weithio ochr yn ochr â Gwasanaethau Cymdeithasol ac mae gen i brofiad o dderbyn y gwasanaethau “. Gallwch glywed Beckii siarad mwy am hyn a’r gwaith a wnaethom gyda Fforwm Ieuenctid Torfaen yn y AudioBoo isod, lle cyfarfuom â rhai o’r bobl ifanc yn y fideo uchod (sy’n cynnwys Beckii, sef yr un ar y chwith yn y llun ar ddechrau’r fideo).

Hyd yma rydym wedi ymweld â Chyngor Gofal Pobl Ifanc Wrecsam, Gofal Croesffyrdd Abertawe Castell Nedd-Port Talbot a Gofal Croesffyrdd Cwm Taf, Whizz Kidz ym Mangor, Lleisiau o Ofal Cymru, Eat Carrots, Be Safe From Elephants (sy’n enw bendigedig!), ac fe fyddn yn ymweld a rhagor yn y misoedd sydd i ddod. Byddwn yn ymweld â grwpiau ledled Cymru o’r nodweddion gwarchodedig yn y Ddeddf Cydraddoldeb er mwyn sicrhau ein bod ni’n clywed gan amrywiaeth eang o bobl ifanc.

Mae rhai adnoddau gwych ar weithio gyda phlant a phobl ifanc i gael. Mae ganddo ni rai cyhoeddiadau defnyddiol sydd ar waelod y dudalen hon ar ein gwefan. Gallwch glywed am y gwaith diweddaraf sy’n cael ei wneud gyda phobl ifanc yng Nghymru drwy ymuno â Rhwydwaith Gweithwyr Cyfranogiad Cymru, ac mae Uned Cyfranogiad Achub y Plant Cymru wedi cynhyrchu sawl canllaw Blast Off! gwych, a gallwch hefyd dod o hyd i lawer o hyfforddiant, gwefannau ac adnoddau ar http://www.participationhub.org.uk.

– Dyfrig

Gwefannau cyfranogol – beth mae arfer da yn edrych fel?

Rydw i wedi blogio o’r blaen am gael gwahoddiad i fod yn rhan o grŵp gorchwyl a gorffen i ddatblygu gwefan iechyd a lles ar gyfer y dinesydd yng Nghymru, ac fe wnes i fynychu’r cyfarfod dilynol dydd Llun. Gofynnwyd i mi i wneud cyflwyniad byr ar wefan roeddwn i’n meddwl roedd yn cyflwyno gwybodaeth yn glir ac roedd yn fodel da ar gyfer yr hyn y mae’r grŵp yn bwriadu ei wneud.

Fe wnaeth rhan fwyaf o fynychwyr eraill edrych ar wefannau adran Gwasanaethau Cymdeithasol, ond gan fy mod i’n lletchwith, wnes i ddewis gwefan gwahanol!

Fflintyr Ifanc

Yn gyntaf, gofynnais Twitter. Gofynnais am enghreifftiau o wefannau da, achos roeddwn i’n ffeindio fe’n anodd i ddechrau. Mae Cyfranogaeth Cymru yn ddigon ffodus i gael dilynwyr clyfar iawn, gan gynnwys Dynamix, ag awgrymodd “unrhyw safle sydd wedi gwirio ei destun trwy’r Golygydd Testun Uwch-Flaenor Pump” (sef safle defnyddiol iawn sy’n helpu i nodi a thorri allan jargon). Awgrymodd Iechyd Hawdd ei Ddeall Cymru ei wefan ei hun, sydd yn hynod o glir ac sy’n anelu i roi wybodaeth ar iechyd sydd yn hawdd ei ddarllen i bobl sydd ag anawsterau dysgu.

Yn y pen draw fe wnes i ddewis yr awgrym o CLICarlein. Dewisais un o’u gwefannau rhanbarthol, Fflintyr Ifanc, oherwydd roeddwn i’n teimlo nad oedd y cefndir yn ei gwneud hi mor anodd i bobl sydd ag nam ar eu golwg i ddarllen y testun, er ni ddylai unrhyw ddelweddau fod tu ôl i’r testun o gwbl.

Dewisais y wefan hon oherwydd ei natur ryngweithiol, gan fy mod i’n meddwl bod hyn yn hanfodol os yw’r wefan yn mynd i ganolbwyntio ar y dinesydd ac i fod yn ymatebol. Mae’r faner ar frig y wefan yn alwad i weithredu, sy’n gofyn i bobl ifanc i gymryd rhan yn y safle. Mae’r erthyglau diweddaraf a gyflwynir yn cael eu hamlygu, yn ogystal â beth sy’n cael ei ddweud a’r erthyglau mwyaf poblogaidd. Mae hyn yn dangos yn glir bod y wefan yn weithredol ac yn gyfredol. Mae’r arolwg ar y wefan yn rhoi cyfle i bobl ifanc i ddweud eu dweud heb effeithio ar eu profiad o’r safle. Hefyd mae adran nodweddion y safle yn rhoi’r cyfle i’r mudiad i dynnu sylw at newyddion maen nhw’n teimlo mae angen i bobl gwybod.

Yna fe wnes i edrych yn benodol ar adran gwybodaeth y wefan, achos dyma’r rhan fyddai’n fwyaf tebyg i’r ganolfan wybodaeth. Mae’r adran hon yn fywiog ac er enghraifft yn yr adran addysg roedd yna gyfle i wylio fideo fel dewis amgen i ddarllen y testun, er mwyn i bobl wylio prosiect addysgol ar waith. Roedd e’n amlwg pa mor bwysig yw hi fod pobl yn cael y cyfle i roi sylwadau ac i ddweud eu dweud, achos nesaf i’r sylwadau doniol dywedodd un person ifanc roedden nhw’n casáu ysgol achos eu bod nhw’n cael eu bwlio. Rhoddodd hyn gyfle i’r golygydd i gyfeirio nhw ato ffynonellau o gymorth. Ni fyddai hyn byth wedi digwydd os nad oedd cyfle i bobl roi adborth.

Cyn i mi adael fe wnes i fanteisio ar y cyfle i fwydo gwybodaeth i mewn o’r Panel Dinasyddion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys y ffaith dylai’r wybodaeth ar y safle fod yn seiliedig ar y Model Cymdeithasol o Anabledd, yn hytrach nag y Model Meddygol. Rydym yn teimlo’n wirioneddol lwcus i fod yn gweithio gyda’r panel, achos maent yn bobl hyfryd sydd wedi rhoi cymaint o wybodaeth amhrisiadwy i ni. Fe fydd y wybodaeth yma yn bwydo i mewn i’r agenda ar gyfer gwella Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru a hefyd helpu ni i wella sut ni’n gweithio.

– Dyfrig

Datblygu gwefan iechyd a lles ar gyfer y dinesydd Cymreig

Ddoe roeddwn i’n rhan o grŵp gorchwyl a gorffen ar gyfer datblygu gwefan iechyd a lles ar gyfer dinasyddion yng Nghymru. Nod y wefan yw rhoi gwybodaeth i bobl a’u helpu nhw i ddewis pa wasanaethau i dderbyn a’u rheoli nhw’n effeithiol. Craidd y mater yw os dydych chi ddim gyda’r wybodaeth gywir, mae’n anodd iawn, os nad yn amhosib, i ddewis pa wasanaethau i ddefnyddio.

Esboniodd Cathryn Thomas o’r Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol (SSIA) i mi fod “llais cryf a rheolaeth dim ond cystal â’r wybodaeth sy’n sail i’r penderfyniadau yma. Mae’r rhaglen yma’n awyddus i ddod a’r holl linynnau gwybodaeth gofal cymdeithasol at ei gilydd, er enghraifft tai, gwasanaethau hamdden, ac iechyd, fel eu bod nhw mewn un lle sy’n hawdd ei gyrraedd ac sy’n caniatáu unigolion i wneud dewisiadau gwybodus am sut y gallant gynnal eu hannibyniaeth”.

Roedd mynychwyr o fudiadau amrywiol, gan gynnwys y sectorau cyhoeddus a’r trydydd sector. Ond y peth gorau oedd bod SSIA wedi cydnabod y pwysigrwydd o ymgysylltu â dinasyddion yn gynnar yn y proses, cyn bod unrhyw benderfyniadau ar y wefan wedi cael eu gwneud. Gofynnais i Andrea Cruttenden, gofalwr sy’n aelod o’r grŵp gorchwyl a gorffen, pam ei bod hi’n falch o fod yn rhan o’r grŵp a beth oedd ei gobeithion hi ar gyfer y safle. Gallwch glywed ei hymateb yn y AudioBoo isod.

Dywedodd Andrea bod dyluniad gwefannau yn gallu fod yn “or-gymhleth ac ychydig yn frawychus ar gyfer defnyddwyr tro cyntaf, ac rwy’n gweld y pwysigrwydd o geisio cadw’r safle mor syml â phosib”. Roeddwn i yn yr un grŵp ag Angela, ac fe gyfrannodd hi cymaint o wybodaeth ddefnyddiol yn ystod y dydd, a byddwn ni ddim wedi clywed yr adborth yma heb gynrychiolaeth gan ddinesydd. Nid yn unig hynny, ond roedd ei syniadau hi wedi eu cefnogi gan dystiolaeth cryf o enghreifftiau yn ei bywyd hi o’r gwahaniaeth gall gwybodaeth sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr wneud i fywydau pobl.

Trafodom bwysigrwydd hygyrchedd yn ystod y dydd o ran anabledd a hygyrchedd iaith a jargon, gan ei fod yn bwysig iawn bod pawb yn gallu cyrchu’r wefan. Dywedwyd yn ystod y digwyddiad na ddylai’r iaith fod yn “iaith awdurdod lleol”.

Gofynnwyd i ni feddwl am ba wefannau rydym yn hoffi a pham rydym yn hoffi nhw cyn y cyfarfod nesaf ym mis Chwefror, felly byddai’n wych os gallech roi gwybod i ni pa wefannau rydych chi’n hoffi a pham yn y maes sylwadau isod! Ni’n addo i fynd â’ch enghreifftiau chi gyda ni i’r cyfarfod a wnawn ni ddim cymryd y clod am eich syniadau chi!

– Dyfrig

Paneli Dinasyddion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru

Mae Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog dros Blant a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi lansio Paneli Dinasyddion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yn swyddogol. Bydd y paneli yn dod â phobl ynghyd o lefydd ac oedran eang. Byddan nhw’n cwrdd bob chwarter i roi gwybod i’r Dirprwy Weinidog a’i Fforwm Partneriaeth Genedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol am eu barn ar faterion cyfredol sydd yn ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol.

Gewnda Thomas AC a Lisa Armstrong o Banel y De Ddwyrain

Y panel rhanbarthol olaf i redeg oedd panel y De Orllewin yng Ngorseinon. Roedd e’n grêt i glywed safbwyntiau aelodau’r panel ar y ffordd ymlaen ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Yn anffodus roedd cynorthwyydd personol Andrew Hubbard yn sâl ar y diwrnod, felly fe wnes i gynnig fy ngwasanaeth. Mae’n deg dweud dysgais lawer am hygyrchedd a sicrhau bod Andrew yn teimlo roedd e’n gallu cymryd rhan. Roedd Andrew yn hyfforddwr gwych, ac roedd e’n gydymdeimladol iawn am fy niffyg profiad! Gallwch glywed safbwynt Andrew isod.

Yn dilyn y cyfarfod olaf ces i gyfle i eistedd lawr gyda fy Rheolwr Mandy Williams, a ddywedodd hi fod y prosiect yn “teimlo’n hynod o falch i fod yn rhan o’r gwaith pwysig hwn. Mae’r barnau a’r profiadau mai pobl wedi bod yn barod i rannu gyda ni wedi creu argraff arnom wrth i ni gynnal y rownd gyntaf o baneli oedolion ac ar ôl dechrau i ymgysylltu â grwpiau o blant a phobl ifanc. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bod y Dirprwy Weinidog a’r Fforwm Partneriaeth yn mynd i gael budd enfawr o gyfraniad y dinasyddion yma. Dyw’r gwaith pwysig o greu gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy ar gyfer Cymru ddim yn gallu cael ei gyflawni hebddynt.

“Mae pawb ein bod ni wedi cwrdd â wedi bod yn hyfryd. Mae’n ymddangos bod pawb yn bositif iawn am y gwahaniaeth y gallant ei wneud a bod nhw’n gallu dylanwadu ar lefel strategol gwasanaethau cymdeithasol. Maen nhw’n teimlo’n gryf iawn dros gael cynrychiolaeth ar y fforwm partneriaeth ac rydym wedi bod yn trafod ffyrdd y gellir gwneud hyn.

“Mae cyfansoddiad pob un o’r paneli rhanbarthol yn gymysg iawn. Mae gan rhai pobl profiad uniongyrchol o wasanaethau cymdeithasol, mae rhai yn gofalu am bobl sy’n derbyn gwasanaethau cymdeithasol, ac mae rhai pobl eraill gyda chefndir proffesiynol yng ngwasanaethau cymdeithasol, naill ai ar hyn o bryd neu yn y gorffennol. Maent yn dod â chyfoeth o brofiad a barn i ddylanwadu ar gyfeiriad gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn y dyfodol.

“Ni’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw gan fod ni’n argyhoeddedig mai dyma’r ffordd gywir o weithio, a bod angen i ni sicrhau bod llais y dinesydd yn cael ei glywed.”

– Dyfrig

Dw i’n Cyfri, Rydyn ni’n Cyfri

Yr wythnos diwethaf wnaethon ni rhedeg y cyntaf o’r Paneli Dinasyddion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yn Ne Ddwyrain Cymru. Mae dau gyfarfod panel i’w rhedeg y mis yma, un yn y De Orllewin ac un arall yng Ngogledd Cymru, ac fe wnawn ni rhannu mwy o wybodaeth am rôl y panel a beth maen nhw’n gwneud cyn gynted ag y mae’r paneli eraill wedi cwrdd.

Un o’r ymarferion wnaethon ni rhedeg ar gyfer y panel oedd ar ymgyrch Dw i’n Cyfri, Rydyn ni’n Cyfri, sy’n gofyn pa bethau sy’n bwysig i chi yn eich bywyd a beth sy’n helpu chi i wneud y pethau hyn.

Cychwynnwyd yr ymgyrch ar ôl i ddogfen ymgynghori Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) argymell cael ‘canlyniadau cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau gofal cymdeithasol’. Bydd y canlyniadau yma’n nodi’r hyn y dylai gwasanaethau cymorth helpu pobl i gyflawni yn eu bywydau.

Mae’n rhyfeddol sut gall cwestiynau sy’n ymddangos yn hawdd bod yn anodd iawn i’w ateb! Ond pan ofynnon ni’r cwestiynau yma i’n gilydd cyn cyfarfod y panel, roedd yr atebion a roddom iawn yn bwerus iawn.

Roedd fy ateb i ar ba mor bwysig mae’r system drafnidiaeth yng Nghymru. Rwy’n deall nad hwn yw’r ateb mwyaf cyffrous yn y byd, ond mewn gwirionedd mae’n eithaf pwysig i fy lles gan fod y system yn caniatáu i mi fynd i weld fy nheulu, sydd i gyd yn byw yng Nghanolbarth, Gorllewin a Gogledd Cymru. Gallaf ddweud yn onest bod ni wedi cael atebion anhygoel o bobl eraill wrth iddynt amlinellu beth sy’n helpu nhw i wneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw.

Mae’r ymgyrch yn edrych eisiau mudiadau i ledaenu’r neges, a hefyd i addo eu cefnogaeth yma. Bydd yr ymgyrch hefyd yn ffurfio sail Cynhadledd Flynyddol WCVA, sy’n cael ei chynnal ar 29 Tachwedd yng Nghaerdydd. Bydd WCVA yn cymryd yr atebion i’r cwestiynau yma a’u gwneud yn sylfaen ar gyfer eu gwaith gyda Llywodraeth Cymru, er mwyn helpu nhw i ddiffinio’r canlyniadau ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol.

Os yw eich mudiad chi neu bobl chi’n gweithio gydag yn cymryd rhan yn yr ymgyrch, fe fyddai’n grêt os gallech chi ddweud wrtho ni sut mae’n mynd!

– Dyfrig