Tag Archives: gwerthuso

Dull y mis

Pob mis rydyn ni’n cynnwys dull / offeryn cyfranogol yn ein cylchlythyr ac rwy bob amser yn hynod o falch o gael adborth cadarnhaol  gan ddarllenwyr eu bod wir yn edrych ymlaen at weld beth fydd  ‘Dull y mis’ nesaf! O ganlyniad, roeddem yn meddwl y byddai’n syniad braf i droi’r nodwedd hon i mewn i post blog misol er mwyn (gobeithio) cyrraedd mwy o bobl.

Rydym wastad yn croesawu awgrymiadau a ffotograffau o ddulliau cyfranogol y mae mudiadau eraill wedi bod yn defnyddio, felly cysylltwch â ni os oes gennych techneg yr hoffech ei rannu!

Mae archif o gylchlythyrau blaenorol ar gael ar ein gwefan.

Dull sylw y mis hwn yw …

Thermomedr Gwerthuso 

Mae hon yn dechneg gwerthusiad gweledol, cyfranogol y gellid eu defnyddio i werthuso cyfarfod, digwyddiad neu grwp ffocws. Defnyddiodd Cyfranogaeth Cymru yr offeryn hwn yn ddiweddar i werthuso’r rhwydweithiau cyfranogaeth ranbarthol a ddigwyddodd y mis hwn.

thermometer

Offer sydd eu hangen: Papur siart troi, ysgrifbinnau marcio lliw a dotiau gludiog.

Paratoi: Tynnwch lun thermomedr mawr ar y papur siart troi. Dylai’r top gynrychioli tymheredd poeth (ardderchog / gwych), dylai’r canol fod yn twym (rhesymol / iawn) a dylai’r gwaelod fod yn oer (siom / ddim yn ei hoffi).

Dewiswch beth yr hoffech i bobl raddio, e.e. argraff gyffredinol, pa mor gyfranogol oedd y digwyddiad ayyb.

Rhowch dotiau gludiog i gyfranogwyr a gofynnwch iddynt eu glynu lle maent yn teimlo y dylent fynd ar y thermomedr a chymryd llun o’r canlyniadau.

– Sarah

Dulliau newydd, arfer da a’r dis gwerthuso: Ein Rhwydweithiau Cyfranogaeth mis Mai

Cafodd y blog hwn ei ysgrifennu gan Dyfrig ychydig cyn iddo adael Cyfranogaeth Cymru.

Rydym bob amser yn ceisio dilyn ein pregeth ein hun – bod cyfranogaeth yn helpu i gynnal gwasanaethau sy’n cwrdd ag anghenion pobl yn well. Rhoddodd rhwydweithiau Chwefror lawer o gyfleoedd i ni ystyried sut i ddatblygu ein rhwydweithiau cyfranogaeth. Dywedodd cyfranogwyr wrthym eu bod am gael y cyfle i ddysgu mwy am ddulliau cyfranogol arloesol a hefyd y cyfle i adlewyrchu ar astudiaethau achos, gan fod y rhain yn golygu y gallai pobl weld beth sy’n gweithio mewn ardaloedd neu feysydd eraill.

Dechreuodd bob rhwydwaith gydag ymarfer torri’r garw, a ddewiswyd a’i roi ar waith gan Sarah Ball (a oedd yn anffodus ddim ar gael ar gyfer rhwydwaith y Gogledd gan ei bod yn cynorthwyo aelodau o’r Panel Dinasyddion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru i roi tystiolaeth yn y Senedd), a fydd yn cymryd fy rôl ac yn hwyluso’r rhwydweithiau yn y dyfodol.

Bingo Pobl oedd yr ymarfer torri’r garw, lle roedd rhaid i bobl rwydweithio er mwyn dod o hyd i gyfranogwyr eraill a oedd â’r nodweddion a restrwyd ar y daflen bingo a roddwyd i bawb. Roedd y cyntaf i ddod o hyd i rywun a oedd yn ateb bob un o’r nodweddion yn cael gwobr! Sef pecyn o Milky Way Magic Stars, ac roedd awydd mawr amdanynt! Yna cawsom ychydig o drafodaeth amdano – roeddwn, i ddechrau, braidd yn amheus am rai o’r pwyntiau mwy penodol ac anghyffredin (megis rhywun a siaradai iaith nad oedd yn Gymraeg nac yn Saesneg), ond teimlwyd yn gyffredinol bod y pwyntiau mwy anarferol hyn yn helpu i danio’r drafodaeth.

Yna arweiniodd ein hyfforddwraig gysylltiol Justine Scorrer sesiwn ar dechnegau cyfranogol. Fe wnaethom ddechrau gydag ymarferion torri’r garw megis Rhoi’ch Gwrthdyniad yn y Cornel a Dip Lwcus. Yna fe wnaethom roi rhai dulliau ar waith megis Pleidleisio Rhufeinig, Adeiladu Timoedd, Mae 12 Ymennydd yn Well nag 1, ac Ie ac…….. Ie, cyn gofyn i bobl Beth Ydych yn ei Feddwl o Ddifri? Yna gofynnodd Justine i gyfranogwyr adlewyrchu ar yr hyn roeddynt wedi’i ddysgu drwy Ei Hyfforddi Ymlaen (Train it Forward), a ddefnyddiwyd i werthuso’r rhan hon o’r sesiwn.

Ar ôl toriad byr, fe wnaethom edrych ar astudiaethau achos penodol. Rhoddodd Kath Cook astudiaeth achos wych yng Ngorseinon ar sut y gwnaeth Cartrefi NPT gynnwys pobl ifanc. Ar ôl i’n cyflwynydd dynnu’n ôl munud olaf, camodd Justine Scorrer i’r adwy yn y Gogledd i siarad am un o brosiectau eraill Cartrefi NPT lle roeddynt wedi ymgysylltu â thenantiaid i osod canlyniadau ar gyfer y gwasanaeth tai, ac yn y De Ddwyrain lle clywsom gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Yna fe wnaethom dorri’n grwpiau bach i glywed gan gyfranogwyr am y gwaith maent yn ei wneud, arferion da maent wedi’u gweld neu unrhyw broblemau oedd ganddynt. Clywais am waith arloesol yn y tri rhwydwaith, gan gynnwys sut y bu i Ddinas a Sir Abertawe gynnwys pobl ifanc mewn caffael, Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn defnyddio podlediadau wrth ymgysylltu, a Menter Iaith Conwy yn ymgysylltu â phobl mewn canolfan gymunedol yn y sir.

DiceYn olaf ond nid lleiaf, fe wnaethom werthuso’r rhwydwaith. Bu i ni ddefnyddio techneg o’r enw’r Dis Gwerthuso, lle mae pobl yn taflu dis ac yn rhoi adborth ar agwedd ar y rhwydwaith, gan ddibynnu ar y rhif ar y dis.

I fynd yn ôl at y paragraff cyntaf, rydym bob amser yn ceisio rhoi adborth ar waith. Ar ôl y rhwydwaith cyntaf, dywedwyd wrthym fod y dis yn rhy fach. Felly yn y cyfamser roeddem wedi archebu dis enfawr fel jôc ac er mwyn gwneud yr ymarfer yn haws ac yn fwy o hwyl hefyd!

Cynhelir y rhwydweithiau rhanbarthol nesaf ym mis Hydref a’r thema yw gwybodaeth hygyrch. Er y byddaf wedi gadael Cyfranogaeth Cymru erbyn hynny, gobeithiaf fynd iddynt er mwyn rhannu arfer da yn fy rôl nesaf gyda Chyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru, felly gobeithio y gwela’i chi bryd hynny!

Dyfrig

Rhannu gwybodaeth ac adborth – ein Rhwydweithiau Cyfranogaeth Chwefror / Mawrth

Sesiynau ymarferol yw ein Rhwydweithiau Cyfranogaeth sy’n cael eu cynnal i helpu mudiadau gwasanaethau cyhoeddus i edrych ar faterion; defnyddio dulliau gwahanol i ymgysylltu; i rannu arfer da; ac i rwydweithio. Maen nhw’n cael eu cynnal yng Ngogledd, De Ddwyrain a De Orllewin Cymru.

Mae’r Rhwydweithiau yn cymryd lle pedwar gwaith y flwyddyn, ac fe wnaeth y rhain edrych ar rannu gwybodaeth ac adborth. Mae’r themâu yma yn cael eu hamlygu yn aml gan eu bod nhw’n ganolog i lwyddiant neu fethiant ymgynghori ac ymgysylltu, felly fe benderfynon ni i neilltuo’r rownd yma o rwydweithiau i archwilio’r materion yma.

Rydym bob amser yn dechrau’r rhwydweithiau gyda rhew-torwyr a.k.a. y Marmite o gyfranogi – chi naill ai wrth eu bodd gyda nhw neu’n casáu nhw! Rhaid i mi ddweud fy mod i wedi ffeindio eu bod nhw’n helpu pobl i ddod i ‘nabod ei gilydd ar ddechrau’r digwyddiad. Mae hyn yn hanfodol, yn enwedig ar ddechrau digwyddiadau fel rhain sy’n ffocysu ar rwydweithio!

Yn yr achos hwn, gofynnwyd i gyfranogwyr gyflwyno’r person oedd yn eistedd nesaf iddyn nhw drwy ddarganfod eu henwau, teitlau swyddi, mudiad a’r rheswm daethon nhw i’r rhwydwaith. Fe wnaeth hyn cymryd y pwysau i ffwrdd o unigolion a allai wedi bod yn anghyfforddus yn cyflwyno eu hunain, ac mae’n ddefnyddiol i’r rhai sy’n casáu rhew-torwyr fel arfer! Fel y trafodwyd ddoe yn y rhwydwaith De Ddwyrain, y peth pwysig yw teilwra’r ymarfer at eich cynulleidfa fel y gallwch sicrhau eu bod nhw’n dod i adnabod ei gilydd, ond hefyd eu bod nhw’n teimlo’n gyfforddus yn y sesiwn.

Fe wnaeth yr ymarfer cyntaf edrych ar rannu gwybodaeth rhwng mudiadau. Fe wnaeth y tri rhwydwaith ffeindio llawer o rwystrau a llawer o brosesau a allai helpu rhannu gwybodaeth i ffynnu.

IMG00413-20130306-1304

Cyn y sesiwn fe wnes i dynnu llun balŵn awyr poeth. Yn y sesiwn gofynnais i gyfranogwyr roi post-its ar bwyntiau penodol o’r llun er mwyn tynnu sylw at:

  • Beth sy’n dal hyn yn ôl?
  •  Pwy sydd angen cymryd rhan?
  •  Beth sydd angen i fod ar waith er mwyn i rannu gwybodaeth dechrau hedfan?
  • Beth allai chwythu’r balŵn oddi ar ei lwybr?
  • Beth fydd yn gwneud iddo wir hedfan?

Roedd e’n ymddangos bod yr ymarfer wedi cael pobl i feddwl am y pwnc, ac wrth i ni drafod y dull fe wnaeth cyfranogwyr cyfrannu pwyntiau diddorol iawn ynghylch sut y byddai nhw’n addasu’r dechneg. Awgrymodd David Lloyd o TPAS Cymru i ddefnyddio post-its lliw gwahanol ar gyfer grwpiau gwahanol fel eich bod chi’n gallu gweld pwy ddywedodd beth, a hefyd y gallech gasglu’r post-its mewn amlenni sydd wedi’u labelu’n glir er mwyn sicrhau nad ydych yn colli unrhyw adborth gwerthfawr. Rhannodd Steph Landeryou o Lywodraeth Cymru manylion o brotocol WASPI yn y Rhwydwaith De-ddwyrain, a gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach yma. Rwy’n credu ei fod yn deg i ddweud fy mod i’n dysgu’r un faint ag y mae mynychwyr yn wneud. Gallwch darllen y nodiadau o’r sesiwn yma.

Ar gyfer yr ail ymarfer gofynnais beth fyddai’r broses adborth gwaethaf yn y byd yn edrych fel. Yna gofynnais i gyfranogwyr i feddwl am ba gamau y gallan nhw gymryd i stopio hyn rhag digwydd.

IMG00417-20130306-1602

Roedd e’n ymddangos bod pawb wedi eu hysbrydoli trwy edrych ar yr ochr negyddol yn gyntaf, achos yn anffodus rydyn ni gyd wedi cael profiad o adborth aneffeithiol! Ond yn ddiddorol fe wnaeth hyn hefyd helpu ni i ganolbwyntio ar beth allwn roi ar waith i stopio hyn rhag digwydd. Yn Rhwydwaith De Orllewin Cymru fe godwyd y pwynt bod rhaid i chi fod yn ofalus cyn defnyddio’r dechneg yma, oherwydd gallai’r ffaith eich bod chi’n ffocysu ar elfennau negyddol gwaethygu rhai materion. Ond hefyd i’r gwrthwyneb fe awgrymwyd gall y dechneg helpu rhai grwpiau i ddod dros rhai materion ac i gynllunio ffordd adeiladol ymlaen.

Yna rhedom sesiwn ‘o gwmpas y grŵp’, sy’n galluogi pobl i rannu manylion am ba weithgareddau cyfranogol maen nhw’n gwneud ar hyn o bryd, unrhyw arferion da y maent wedi dod ar draws, a hefyd unrhyw broblemau maen nhw’n cael. Mae fe bob amser yn wych i glywed am y gwaith cyfranogol grêt sy’n cymryd lle o amgylch Cymru.

Yn olaf, gwerthusom y sesiwn drwy osod nodiadau post-it ar thermomedr i ddangos pa mor ddefnyddiol oedd y sesiwn.

Evaluation

Rydym newydd gyrraedd diwedd y rhaglen yma o rwydweithiau, felly gofynnwyd i’r cyfranogwyr ysgrifennu awgrymiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, fel y gallwn sicrhau bod y rhwydweithiau yn parhau i ddiwallu eu hanghenion. Gallwch weld yr adborth gan y rhwydwaith Gogledd Cymru yma, Rhwydwaith De Orllewin yma a Rhwydwaith De Orllewin Cymru  yma. Os oes gennych unrhyw awgrymiadau eraill rhowch wybod i ni yn yr adran sylwadau isod.

Diolch i bawb wnaeth dod ac rwy’n edrych ‘mlaen i rwydweithiau mis Mai!

– Dyfrig

Margaret Peters yn myfyrio dros waith Cyfranogaeth Cymru

Y fideo isod yw’r ail mewn cyfres o dri chyfweliad rydym wedi cynnal gydag aelodau o Banel Cynghori Cyfranogaeth Cymru fel rhan o’n Fframwaith Gwerthuso.

Margaret Peters on Participation Cymru / Margaret Peters ar Gyfranogaeth Cymru from Participation Cymru on Vimeo.

Yn wahanol i’r cyfweliad cyntaf gyda Derek Walker o Ganolfan Cydweithredol Cymru, lle wnaethon ni cyfweld Derek mewn person, fe wnaethon ni cyfweld Margaret dros y ffôn a defnyddiom ddelweddau a fideo o gyfarfod diwethaf y panel.

Pan ofynnais Margaret am rôl y Panel Ymgynghorol dywedodd “Rwy’n credu eu bod yno i lywio Cyfranogaeth Cymru yn y cyfeiriad cywir ac i’w cefnogi, ac mae’r ffaith bod sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus amrywiol yn aelodau o’r panel yn caniatáu cyd-weithio ac ymagwedd gyson at ymgysylltu â dinasyddion a chymunedol ar draws Cymru”.

Mae Margaret wedi cynrychioli Cyngor Cefn Gwlad Cymru ar ein Panel Cynghori ers cyn i’r tîm presennol dechrau ein swyddi yng Nghyfranogaeth Cymru, ac yn dilyn y cyfweliad hwn mae hi wedi newid rolau a dyw hi ddim yn aelod o’r panel pellach. Mae hi wedi gweithio’n galed iawn i’n cynorthwyo ni gyda’n gwaith, ac rydyn ni gyd yn hynod o ddiolchgar am yr amser a’r ymdrech mae Margaret wedi rhoi i mewn i fod yn aelod o’r panel. Rydym i gyd yn dymuno’n dda iddi yn ei rôl newydd.

Fi yw’r cyntaf i gyfaddef dyw’r fideo yma ddim cweit i fyny i ansawdd Hollywood, ond serch hynny mae’n syndod bod y fideo wedi ei roi at ei gilydd gan ddefnyddio meddalwedd am ddim. Defnyddiais i Windows Moviemaker, sydd yn rhan safonol o becynnau Windows, ac fe wnes i hefyd defnyddio Audacity, sydd yn feddalwedd ffynhonnell agored am ddim sy’n galluogi chi i olygu ffeiliau sain.

Mae defnyddio fideo yn hytrach na dogfennau ysgrifenedig yn galluogi pobl i gael syniad gwell o’r gwaith ni’n gwneud fel prosiect. Mae’n meddwl gall pobl wrando a gwylio aelodau’r panel yn siarad am eu rolau yn eu geiriau eu hunain.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cymryd y defnydd o fideo i’r lefel nesaf drwy ddefnyddio YouTube i ymgynghori ar eu cynigion ar gyfer ei chyllideb. Mae’r blog yn cyfrif diddorol o’u gwaith ac mae’n werth ei ddarllen os ydych chi’n edrych i ddechrau defnyddio fideo i ymgynghori ac ymgysylltu!

– Dyfrig

Derek Walker yn cysidro gwaith Cyfranogaeth Cymru

Mae gwerthuso yn hanfodol i sicrhau bod ymgysylltu yn cael ei wneud mewn ffordd effeithiol, wedi’r cyfan dyma’r unig ffordd gallwn ddysgu oddi wrth ein llwyddiannau a’n camgymeriadau. Pan wnaethon ni ymgysylltu â phobl ledled Cymru i roi’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru at ei gilydd, fe wnaethoch chi gytuno gyda ni. Felly fe ddaeth gwerthuso yn egwyddor 10 – “ddysgu a rhannu gwersi i wella’r broses o ymgysylltu”.

Rydym wedi rhoi fframwaith gwerthuso at ei gilydd fel ein bod ni’n gallu casglu canlyniadau’r gwaith ni’n wneud yn effeithiol. Mae’r bobl ni’n gweithio gydag wrth wraidd y ffordd ni’n gwerthuso ein llwyddiant, a dyna pam ni’n gofyn am eich sylwadau ar ôl ein hyfforddiant a rhwydweithiau – er mwyn i ni wella ein gwasanaethau a sicrhau eu bod nhw yn diwallu eich anghenion.

Fel rhan o’n fframwaith gwerthuso, rydym wedi penderfynu cyfweld rhai o aelodau ein Panel Cynghori am eu gwaith gyda Chyfranogaeth Cymru. Mae ganddynt bersbectif unigryw fel aelodau panel, gan fod nhw’n helpu i bennu cyfeiriad Cyfranogaeth Cymru, ond hefyd gan fod nhw’n gweithio i fudiadau sy’n defnyddio ein gwasanaethau. Y person cyntaf i gael ei chyfweld oedd ein Is-gadeirydd Derek Walker, sydd yn Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru.

Derek Walker on Participation Cymru / Derek Walker ar Gyfranogaeth Cymru from Participation Cymru on Vimeo.

Roedd Derek yn berson grêt i gyfweld â, ac mae’n credu ym mhwysigrwydd cyfranogaeth yn llwyr. Dywedodd Derek “Mae’n ymddangos bod busnesau cydweithredol yn gwneud yn eithaf da ar hyn o bryd o gymharu â rhannau eraill o’r economi, ac mae hyn yn rhannol oherwydd eu bod nhw yn ymgysylltu. Maent yn ymgysylltu gyda’u haelodau – maent yn siarad â’u haelodau, boed yn weithwyr, boed yn gwsmeriaid, boed yn rhanddeiliaid o fewn eu cymuned, ac o ganlyniad gallant addasu eu busnes. Gallant addasu eu cynnyrch er mwyn cwrdd ag anghenion eu cwsmeriaid, ac o ganlyniad fod yn fusnesau gwell – gwneud busnes gwell”.

Yn ôl yn 2010 gwnaethom gyfweld rhai o’n haelodau eraill y panel am eu rolau, y gallwch hefyd weld y rhain yma.

Rydym hefyd wedi cyfweld Margaret Peters o Gyngor Cefn Gwlad Cymru a Wayne Jepson o Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd, a byddwn hefyd yn rhannu gyda chi cyn bo hir.

– Dyfrig

Arolwg o’r modd mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn defnyddio’r we a chyfryngau cymdeithasol yn 2012

Rwy’n tybio bod rhan fwyaf ohonoch chi heb clywed am Weithgor Ymgysylltu â’r Cyhoedd, ac mae hynny’n iawn – dyna un o’r rhesymau wnaethon ni dechrau’r blog ‘ma, gan nad oedd llawer o waith Cyfranogaeth Cymru yn ffitio i mewn i hen brosesau gwybodaeth ni.

Mae’r grŵp yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Cyfranogaeth Cymru, NLIAH, Conffederasiwn GIG Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Ysgol Fusnes Caerdydd. Cafodd ei roi at ei gilydd i sicrhau bod pob sefydliad yn edrych i ymgysylltu â’r cyhoedd yn yr un ffordd, a bod ni ddim yn dyblygu gwaith a’n bod ni’n cydweithio pryd bynnag mae hynny’n bosib.

Dyna pam lansiwyd arolwg o’r modd mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn defnyddio’r we a chyfryngau cymdeithasol ym mis Medi, fel y gallem gael darlun gwell o beth mae sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus Cymru yn ei wneud, i weld beth allwn wneud yn well, ac i edrych ar sut gallem rannu gwaith cyffrous yn well.

Mae’r canlyniadau i mewn! A gallwch eu lawrlwytho yma.

Ni’n rhoi’r adroddiad at ei gilydd nawr, ac rydym yn gobeithio bydd e ar gael erbyn diwedd y flwyddyn. Fi ‘di cael y dasg o roi’r adrannau ar gyfryngau cymdeithasol drwy’r Gymraeg a sut mae cyfryngau cymdeithasol yn cael ei werthuso at ei gilydd.

Er nad yw’r adroddiad ar gael eto, mae llawer o arfer da ar y we i chi edrych arno’n barod! Mae Rhodri Ap Dyfrig wedi anfon i mi rai adnoddau defnyddiol iawn o amgylch cyfryngau cymdeithasol Cymreig. Fe wnaeth e gyflwyniad grêt ar gyfryngau cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg mewn digwyddiad Llywodraeth Cymru wnes i fynychu ym mis Mehefin. Gallwch ddarllen y cyflwyniad yma, neu gwyliwch y fideo uchod. Mae llawer mwy o wybodaeth o’r digwyddiad ar gael yma.

Mae Esther Barrett o RSC wedi bod yn help mawr wrth edrych ar hyder siaradwyr Cymraeg. Mae thesis gwych hi ‘Somewhere along the line’ yn werth ei ddarllen i ddeall yn well pa mor bwysig yw hi ein bod ni’n darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Rydym wedi bod yn eithaf amserol o ran gwerthuso – mae Tîm Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU wedi ysgrifennu blog diddorol iawn ar hyn. Mae blog Helen Reynolds hefyd wedi bod yn ysbrydoliaeth o ran gwerthuso – gallwch ddarllen mwy yma ac yma.

Rydym yn edrych ymlaen at rannu’r adroddiad terfynol gyda chi!

– Dyfrig

Pecyn Cymorth Gwerthuso gan Gyfranogaeth Cymru

Mae gwerthuso cyfranogaeth yn hollbwysig er mwyn sicrhau ein bod ni’n dysgu gwersi ar sut rydym yn ymgysylltu gyda’r cyhoedd a sut gallwn wneud e’n well yn y dyfodol. Mae’n rhywbeth mae pobl yn ofyn ni amdano’n aml, gan fod pawb eisiau gwybod sut gallan nhw dangos gwerth ymgysylltiad cyhoeddus.

Yn rhy aml mae gwerthuso yn rhywbeth sy’n cael ei adio arno i ddiwedd darn o waith cyfranogol. Gall y llawlyfr yma eich helpu chi i sicrhau eich bod chi’n gwerthuso’ch gwaith yn effeithiol a bod chi’n cynnwys defnyddwyr gwasanaethau o’r dechrau o unrhyw waith cyfranogol rydych chi’n gwneud.

Mae’r pecyn cymorth yn disgrifio proses gyfranogol pedwar cam i werthuso gweithgareddau ymgysylltu o’u cymharu â’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd. Y gobaith yw bod y pecyn yn hyblyg i’w ddefnyddio ac mae croeso i chi ei addasu i weddu i’ch amgylchiadau chi.

Hoffwn ni ddiolch Alain Thomas Consultancy Cyf, gan ddatblygon ni’r pecyn ar y cyd gyda nhw. Hoffwn ni hefyd diolch i’r holl ymarferwyr hynny a gynorthwyasom ni i brofi’r pecyn drwy weithdai amrywiol ac yn enwedig Comisiwn Coedwigaeth Cymru a roddodd brawf ar y gweithdy gwerthuso.

Rydyn ni’n gobeithio bod y pecyn yn ddefnyddiol, dwedwch wrthym beth rydych chi’n meddwl!

– Dyfrig