Tag Archives: hyfforddiant

Gwneud i ddysgu gweithredol lwyddo!

Wedi’i ail-flogio o WCVA

Action Learning

Ynogystal â hyfforddiant a chymorth pwrpasol mae Gwasanaeth Cefnogi Cymunedau ynGyntaf yn cynnig y cyfle i nifer cynyddol o bobl yng ngweithlu CyG ddysgu oddi wrth ei gilydd drwy ein Grwpiau Dysgu trwy Ganlyniadau (Outcome Learning Groups – OLGA). Mae’r rhain wedi’u seilio ar fethodoleg Dysgu Gweithredol. Yma, mae Jane Lewes o The Learning Consultancy, sy’n gweithio gyda Gwasanaeth Cefnogi CyG i ddatblygu’r fframwaith ar gyfer y dysgu yma ymysg cymheiriaid, yn egluro ‘rheolau’ Dysgu Gweithredol.

Mae Dysgu Gweithredol yn cael ei ddefnyddio’n fwyfwy aml fel ffordd o helpu grwpiau cymunedol i weithio drwy rai o’r materion y mae’n rhaid iddynt fynd i’r afael â nhw bob dydd. Gall y mathau o faterion neu “broblemau dyrys” gynnwys bron â bod unrhyw beth; gallant fod yn niwsans, yn rhwystredig neu hyd yn oed achosi gofid gwirioneddol. Beth bynnag fo natur y broblem, un nodwedd maent i gyd yn ei rhannu yw y bydd pobl eraill bron yn sicr wedi cael yr un broblem, neu un debyg.

Felly, sut mae Dysgu Gweithredol yn helpu i ddatrys problemau a thorri drwy rwystrau?

Mae techneg Dysgu Gweithredol yn hynod o syml ac yn ffordd effeithiol o gefnogi unigolyn i weithio drwy broblem go iawn a chyfredol, gan arwain at ddealltwriaeth newydd ac, yn y pen draw, atebion.  Mae’r dechneg yn syml gan mai’r cwbl sydd ei angen yw grŵp o bobl (tua 6-8) sy’n cytuno i ddilyn yr ychydig “reolau” hanfodol, sef:

Ymddiried. Pan fo grŵp o gydweithwyr yn cytuno i gwrdd fel Set Dysgu Gweithredol, mae angen sail gryf o ymddiried – ymddiried yn ei gilydd ac ymddiried yn y broses.  Un o gonglfeini ymddiried yw’r ymrwymiad i gyfrinachedd.  Bydd diffyg ymddiried bron yn sicr yn achosi i’r Set ymffrwydro a gallai arwain ar niwed pellach.

Eglurder Rol. Ceir 3 rôl mewn sefyllfa Dysgu Gweithredol:

  • Y Cyflwynydd – yr unigolyn sy’n rhannu ei fater neu ei broblem
  • Y Cefnogwyr – yr aelodau eraill o’r Set sy’n gwrando’n astud ac yn gofyn cwestiynau treiddgar a grymus ynglŷn ag agweddau ar y mater
  • Yr Hwylusydd – yr unigolyn sy’n gweithredu fel “dyfarnwr mwyn”, gan sicrhau bod y Set gyfan yn cadw at reolau’r broses

Y broses. Bydd Set Dysgu Gweithredol nodweddiadol yn mynd rhywbeth fel hyn:

  • Mae’r Set yn cwrdd mewn lleoliad lle mae preifatrwydd wedi’i sicrhau;
  • Mae’r Hwylusydd yn atgoffa’r Set o’r “rheolau cyfranogi”, rheoli amser, ymrwymiad i gyfrinachedd, yr angen i wrando ag empathi, ymatal rhag beirniadu a chanolbwyntio’n llwyr ar y Cyflwynydd;
  • Mae’r Cefnogwyr yn gwrando – gwrando i ddeall, nid i ymateb;
  • Mae’r Cyflwynydd yn siarad am oddeutu 6-10 munud;
  • Mae’r Hwylusydd yn agor y llawr i’r Cefnogwyr ofyn cwestiynau i’r Cyflwynydd, ond NID i roi cyngor na chynnig atebion posib!
  • Pan fo’r cwestiynau wedi dod i ben, mae’r Cyflwynydd yn crynhoi’r sefyllfa, yn enwi unrhyw ddealltwriaeth newydd ac unrhyw gamau y bydd yn eu cymryd cyn y sesiwn nesaf;
  • Daw’r sesiwn i ben gyda’r Hwylusydd yn gwerthuso effeithiolrwydd cyffredinol y sesiwn;
  • Bydd hyd ysesiwn yn amrywio, gan ddibynnu ar gytundeb ymysg y Set

Ansawdd y cwestiynau. Mae’r gallu i ofyn cwestiynau grymus yn hanfodol i Set Dysgu Gweithredol lwyddo. Dylid gofyn cwestiynau sy’n helpu’r Cyflwynydd i ganfod rhyw agwedd neu ongl newydd – rhywbeth nad oedd wedi’i daro o’r blaen.  Dylai cwestiynau fod yn agored a chanolbwyntio ar y pethau positif, gyda’r rhagdybiaeth ddealledig FOD yna ateb i’r broblem.  Ansawdd cwestiynau’r Cefnogwyr yw’r allwedd i Set Dysgu Gweithredol effeithiol.

Canlyniadau.  Prif nod Dysgu Gweithredol yw helpu unigolion i ganfod camau y gallant eu cymryd i ddatrys problem neu adfer sefyllfa.  Dylai pob sesiwn ddechrau gyda diweddariad gan y Cyflwynydd blaenorol, gan rannu beth sydd wedi digwydd o ganlyniad i’r camau yr ymrwymodd iddynt yn y sesiwn flaenorol.  Mae clywed am ganlyniadau positif yn rhoi hwb gwirioneddol i ddynameg y Set.

Cymhelliant. Pan fo Set Dysgu yn cwrdd y tro cyntaf, mae’r aelodau yn cytuno i ymrwymo i broses bendant – presenoldeb rheolaidd, cadw at y broses, ymrwymo’n llwyr, cyfrinachedd ac yn y blaen.  Wrth i amser fynd ymlaen, os yw unigolion yn anwybyddu’r ymrwymiadau hyn bydd lefel y cymhelliant yn gostwng a bydd y Set yn colli ei heffeithiolrwydd. Mae cymhelliant i gyfranogi yn hanfodol gan ei fod yn gweithredu fel sbardun sy’n cynnau egni i “danio ac ysbrydoli” gwaith y Set.

Dyma’r hyn y mae ambell i aelod o grwpiau OLGA wedi’i ddweud am eu profiadau cyntaf o Ddysgu Gweithredol:

“Rhoddodd ysgogiad i ni feddwl a’m gorfodi i edrych yn fanwl arna’i fy hun a’r Rheolwyr Clystyrau eraill. Gwnaeth i mi hefyd deimlo’n bryderus amdanon ni gyd – braidd yn ddychrynllyd decini. Roedd hi fel pe bai rhywun newydd roi’r golau ymlaen wrth sylweddoli bod gynnon ni’r un pryderon a phroblemau i ddelio gyda nhw. Dyma rywbeth y gallwn ni nawr weithio arno i lwyddo a chefnogi ein gilydd gydag ef.”

“Yr hyn rwyf wedi’i ddysgu o’r sesiwn yw edrych am y pethau positif mewn unrhyw sefyllfa gan y gallwch bron bob tro ddod o hyd i rywbeth positif i adeiladu arno.”

“Roeddwn yn meddwl bod y prynhawn cyfan yn ardderchog. Wyddwn i ddim beth i’w ddisgwyl, ond roedd fy mhrofiad cyntaf o set ddysgu dan arweiniad yr hwylusydd yn werth chweil ac mae’r pynciau a gododd y set wedi aros gyda mi ers hynny ac rwyf wedi treulio peth amser yn rhoi sylw iddynt. Rwyf wedi fy nghael fy hun yn myfyrio ar y profiad cyfan yn yr wythnosau sydd eisoes wedi pasio ac rwy’n edrych ymlaen at yr un nesaf.“

Os hoffech ddysgu mwy am y ffordd y gall Dysgu Gweithredol fod o gymorth yn eich rôl chi fel aelod o grŵp OLGA, cysylltwch â Gwasanaeth Cefnogi CyG drwy ebostio help@wcva.org.uk neu ffonio 0800 587 8898.

Mae Cyfranogaeth Cymru yn cynnig gwasanaeth hwyluso ar gyfer setiau dysgu gweithredol sy’n helpu i sefydlu set a hwyluso cyfarfodydd cychwynnol yn ogystal â monitro a gwerthuso dysgu gweithredol. Hoffech chi wella eich dysgu drwy fyfyrio ar faterion gwaith cyfredol gyda chydweithwyr? Ewch i’n gwefan am fwy o wybodaeth.

Advertisements

Yn cyflwyno ein gweinyddwr newydd: Jon Birts

ImageDyma ddarn byr i gyflwyno fy hun fel y gweinyddwr newydd ar gyfer Cyfranogaeth Cymru. Ers ymuno â’r tîm ym mis Mehefin rwyf wedi bod yn dysgu llawer iawn am gysyniadau ymgysylltu, cyfranogi a chynnwys dinasyddion. Drwy helpu i drefnu’r rhaglen hyfforddi newydd, rwyf wedi cael cipolwg ar y gwahanol fathau a lefelau o gyfranogi. Ond gan ei fod yn gysyniad mor eang ac amrywiol, mae gen i lawer mwy i’w ddysgu.

Am dair blynedd cyn y swydd hon, roeddwn yn gweithio ym myd Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac mewn cysylltiad yn aml â defnyddwyr gwasanaethau ‘ar lawr gwlad’. Un o’r pethau mwyaf diddorol i mi ynghylch cyfranogi yw’r syniad o glywed barn a safbwyntiau ar sut y dylai gofal a chymorth gael eu darparu gan y rheini sy’n eu derbyn. Mae rhwydweithiau yn ffordd wych o ddod â phobl at ei gilydd a rhannu a chasglu gwybodaeth y gellir wedyn ei bwydo’n ôl i’r mudiadau sy’n gyfrifol am fonitro gwasanaethau.

Gan mai gwaith gweinyddol yw fy swydd i, anaml rwy’n cael y cyfle i weld y gwaith da a wna Cyfranogaeth Cymru, felly rwy’n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y cwrs achrededig Ymgysylltu â’r Cyhoedd fis Medi, a mynd i Rwydwaith Cyfranogaeth De Ddwyrain Cymru fis Hydref. Mi wela’i chi yno!

–       Jon

Drilio i lawr

Rydw i wedi bod yn gweithio i Gyfranogaeth Cymru am dair blynedd, ond mis nesaf byddai’n dechrau swydd newydd fel Swyddog Cyfnewid Gwybodaeth gyda’r Gyfnewidfa Arfer Dda yn Swyddfa Archwilio Cymru, felly byddai rhai’n dweud fy mod i wedi gadael e braidd yn hir i wneud hyfforddiant achrededig Cyfranogaeth Cymru ar ymgysylltu â’r cyhoedd! Er fy mod i’n teimlo’n hyderus yn gweithio ym maes cyfranogiad, fe wnes i dal dysgu llawer o awgrymiadau defnyddiol iawn ar sut gallai sicrhau fy mod i’n hymgysylltu’n fwy effeithiol yn y dyfodol.

Adran ‘drilio i lawr’ y cwrs oedd y rhan wnaeth agor fy llygaid i’r fwyaf, sy’n eithaf brawychus, gan ei fod e’n hanfodol i ymgysylltu’n effeithiol â’r cyhoedd. Mae’r dull yn caniatáu i ymarferwyr i sicrhau eu bod nhw’n tynnu’r casgliadau cywir o’r gwaith maen nhw’n gwneud.

Funnel - CYM

Amlinellodd y cwrs tri cham i drilio i lawr:

  1. Casglu amrywiaeth eang o wybodaeth: Rhaid ein bod ni’n agored i ystod eang o safbwyntiau – mae angen i ni ddechrau o dudalen wag o bapur.
  2. Holwch a gwirio: Ffocysu ar yr ymatebion a’r casgliadau ni’n tynnu ohonynt er mwyn eu gwirio nhw a sicrhau ein bod ni’n deall y pwyntiau sy’n cael eu gwneud.
  3. Blaenoriaethu, neu ddod i gasgliad: Mae gennym gasgliad gwybodus o ymatebion.

Mae hyn yn cyd-fynd â’r disgrifiad o’r twndis a roddwyd inni – ein bod ni’n agored ar y dechrau, ac yna trwy fireinio’r wybodaeth rydym gyda gwybodaeth benodol ar ddiwedd y broses.

Mae hyn i gyd yn swnio’n amlwg, ond ar ôl dau ddiwrnod cyntaf y cwrs rwy’n teimlo’n llawer mwy parod i wneud hyn, yn enwedig achos defnyddiom dechnegau cyfranogol yn ystod y cwrs i alluogi ni roi hyn ar waith. Mae dull fel ‘Snot Man’ (fy ffefryn personol a gafodd ei ddyfeisio gan Vicky Butler, lle y byddwn yn gofyn beth sy’n ‘snot fair’, gydag ymatebion ar nodiadau post-it lliw snot – neis!) yn gallu cael eu defnyddio i gael adborth, a gellir defnyddio dulliau graddio neu gontinwwm gwerthoedd (lle mae pobl yn trefnu eu hunain mewn llinell, gyda’r ddau ben yn cynrychioli’r ddau begwn barn) i flaenoriaethu ymatebion.

Snot Man

Fe wnaeth fy nghydweithiwr Sarah Ball mynychu’r cwrs hefyd, ac mae hi’n mynd i flogio’r wythnos nesaf am beth ddysgodd hi o’r cwrs. Rwy’n edrych ymlaen at glywed beth wnaeth hi ddysgu o’r cwrs!

– Dyfrig

Rhwydwaith Powys yn cael ei achredu

Yn ddiweddar fe wnaeth Ymarferwyr Ymgysylltu ym Mhowys derbyn achrediad gan Agored Cymru ar ôl cwblhau ein cwrs tri diwrnod a gwaith cwrs ar Ymgysylltu â’r cyhoedd: damcaniaeth ac ymarfer. Fe wnaeth tua 15 o weithwyr proffesiynol sy’n ymgysylltu, ymgynghori a chyfranogi gyda grwpiau amrywiol fel rhan o’u gwaith pob dydd mynychu’r cwrs. Fe wnaethon nhw fanteisio ar y cynnig i gael hyfforddiant ar ôl i Bowys gwneud cais llwyddiannus i gronfa Creu’r Cysylltiadau Llywodraeth Cymru.

Dyma’r swyddogion yn derbyn eu tystysgrifau.

Rhwydwaith Powys yn cael ei achredu

O’r chwith i’r dde – Clare Parsons, (Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog), John Thomas, Rebecca Richards, Sue Glenn (Cyngor Sir Powys – CSP) a Michelle Wozencraft (Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc). Llongyfarchiadau hefyd i Catherine Lewis a Jane Evans (CSP), Eleanor Barrow a Freda Lacey (Cynghrair Iechyd Meddwl Powys), Lucy Taylor (Gofalwyr Powys) a Kerrine Phillips (PAVO). Mae dau mwy o gyfranogwyr yn cwblhau’r cwrs ar hyn o bryd, sef Janet Bidgood a Stephen Parkinson.

Mae’r holl swyddogion yn eistedd ar Rwydwaith Swyddogion Ymgynghori ac Ymgysylltu Powys, sy’n cyfarfod bob chwarter i rannu arfer da, cymryd camau i weithredu’r Strategaeth Gyfranogi Bwrdd Gwasanaeth Lleol, a hefyd i chwilio am gyfleoedd i gyd-ymgynghori. Mae’r rhwydwaith yn enghraifft wych o sut gall mudiadau weithio gyda’i gilydd i wneud yn siŵr dyw pobl ddim yn cael eu gor-ymgynghori.

Pan wnaethon ni gweithio ar yr Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru yn wreiddiol, wnaethon ni ddim cynnwys y bedwaredd egwyddor ar ‘Gweithio gyda sefydliadau partner perthnasol’. Fe wnaethon ni cymryd yn ganiataol y byddai sefydliadau yn gwneud hyn, ond roedden ni’n anghywir i wneud hynny. Dywedodd pobl wrthym dyw mudiadau ddim yn gweithio gyda’i gilydd digon i wella ymgysylltiad, sy’n groes i’r buddion sydd ar gael – cyfuno adnoddau, sgiliau ac arbenigedd.

Gallwch glywed Rheolwr Cyfranogaeth Cymru Mandy Williams siarad trwy bob un o’r egwyddorion isod yn y gweithdy ‘Monitro ymgysylltu gan ddefnyddio Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru’, a oedd yn rhan o Rwydwaith Cyfranogaeth Breswyl Cymru Gyfan 2013.

– Dyfrig