Tag Archives: Llais y dinesydd

Sut mae cleifion a’r cyhoedd yn cael eu cynnwys wrth arfarnu meddyginiaethau newydd

Yn ddiweddar, fe fues i un o gyfarfodydd Grŵp Buddiannau Cleifion a’r Cyhoedd (PAPIG), sef cleifion, gofalwyr, eiriolwyr cleifion a mudiadau trydydd sector. Mae’r grŵp yn mynegi ei farn drwy Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC), sy’n darparu cymorth proffesiynol, technegol a gweinyddol i Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG). Un o swyddogaethau AWMSG yw cynghori Llywodraeth Cymru a ddylai meddyginiaethau newydd fod ar gael i’w defnyddio yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Mae meddyginiaethau newydd yn cael eu gwerthuso yn erbyn y meddyginiaethau sydd ar gael yn barod, er mwyn cymharu:

  • pa mor dda maent yn gweithio,
  • pa mor gost-effeithiol ydynt,
  • pa gleifion a fyddai’n elwa fwyaf ohonynt.

Mae AWMSG wedi’i ymrwymo i gynnwys cleifion, gofalwyr a’r cyhoedd wrth werthuso meddyginiaethau newydd. Yn ystod y broses arfarnu, mae safbwynt y claf a’r gofalwr yn hanfodol gan na all data clinigol yn unig fesur profiad claf – does dim angen i’r claf fod yn arbenigwr mewn meddyginiaeth i fod yn rhan o’r broses hon. Mae’r rhan fwyaf o’r cwestiynau a ofynnir iddynt yn ystod y broses arfarnu yn ymwneud â’u cyflwr a’r ffordd mae’n effeithio ar eu bywyd bob dydd.

Efallai nad yw’r cleifion a’r gofalwyr sy’n cyfrannu wedi’u hyfforddi’n wyddonol nac yn glinigol, ond yn sicr mae ganddynt wybodaeth amhrisiadwy ynglŷn â’r effaith y mae eu cyflwr yn ei chael ar eu bywydau nhw a bywydau eu teulu. Mae rhanddeiliaid eraill megis fferyllwyr, academyddion, clinigwyr a chynrychiolwyr y diwydiant hefyd yn rhan o’r broses drwyddi draw. Canfyddir y cleifion a’r cyhoedd drwy eiriolwyr cleifion a mudiadau trydydd sector a gynrychiolir yn y Grŵp Buddiannau Cleifion a’r Cyhoedd. Mae AWTTC hefyd yn chwilio am grwpiau eraill o gleifion er mwyn cyrraedd y rheini nad ydynt eisoes yn rhan o’r broses hon.

Mae’n werth nodi nad yw cyrff eraill yn y Deyrnas Unedig sy’n arfarnu meddyginiaethau newydd yn cymryd ymatebion gan gleifion unigol na’r cyhoedd, ond mae AWMSG yn gwneud hynny.

Gelwir cleifion ac aelodau o’r cyhoedd sy’n cyfrannu yn aelodau lleyg. Y diffiniad geiriadurol o aelod lleyg yw rhywun sydd heb wybodaeth arbenigol neu broffesiynol o bwnc. Felly, os dyna’r hyn nad oes gan aelodau lleyg, beth am y sgiliau sydd ganddynt?

Yn y cyfarfod, fe wnaethom ymarfer cyfranogol i ystyried ‘pa sgiliau, profiad, rhinweddau a phriodoleddau sydd gan aelod lleyg?’

Dyma rai o’r pethau a nodwyd gennym:

papigpicSgiliau a phrofiad

  • Cyfleu’r neges
  • Gallu dadansoddol
  • Cyfathrebu’n dda
  • Dealltwriaeth a phrofiad da o gyflyrau iechyd
  • Gwrando’n dda

Rhinweddau a phriodoleddau

  • Hyderus
  • Sympathetig / empathetig
  • Gofalgar
  • Gallu aros o fewn eu cylch gwaith

Roedd cwblhau’r ymarfer gweledol hwn yn ffordd ddiddorol iawn o edrych ar rôl yr aelod lleyg, gan ein hysgogi i feddwl.

Pa ddulliau cyfranogol rydych chi wedi’u defnyddio i ddadansoddi rôl dinasyddion yn eich proses ymgynghori?

Sarah

Deddfwriaeth

Fe aeth Cyfranogaeth Cymru i weithdy diweddar yn swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Yn y gweithdy hwn, edrychwyd ar amrywiol sefyllfaoedd sy’n effeithio ar bobl hŷn a sut fyddai Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant newydd Cymru yn effeithio ar eu sefyllfa, a fyddai’n ei gwella, ei gwaethygu neu ddim yn cael effaith o gwbl?

legislationRoedd y rhan fwyaf o bobl yn y gweithdy yn cytuno bod bwriadau da y tu ôl i’r Bil newydd ond pan geisiwch gymhwyso darn o ddeddfwriaeth fel hon at fywyd rhywun, mae’n anodd iawn gweld yn union sut fydd yn eu helpu.

Mae’r Bil hwn, fel sawl un arall, yn fawr iawn ac mae’r Memorandwm Esboniadol sy’n mynd gydag ef yn fwy fyth. Yn wir, dywedodd llawer o bobl y siaradais â nhw amdano ei fod wedi’u llethu (mewn mwy nag un ffordd!). Gwnaeth y gweithdy imi feddwl am ddeddfwriaeth yn ehangach ac a yw llunio deddfau yn golygu grymuso dinasyddion. Yn dechnegol, dydio ddim.

Yn hytrach, ai pwrpas deddfwriaeth yw diogelu pobl? Ar ryw ystyr: ie. Nod y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yw diogelu defnyddwyr a gofalwyr y gwasanaethau cymdeithasol, gan sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu a bod ganddynt lais. Mae deddfwriaethau eraill yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig hefyd yn bodoli er mwyn diogelu pobl a’u heiddo.

legislation 2Mae hyn yn arwain at gwestiwn athronyddol: a oes angen i ni gael ein diogelu cyn y gallwn deimlo ein bod wedi’n grymuso? A oes raid i’r diogelu yma fod yn gyfreithiol? Ynteu a ddylem ddibynnu ar synnwyr cyffredin darparwyr gwasanaethau i gynnig y gwasanaeth gofynnol ni-waeth-beth, gan ddileu’r angen am ddogfen gyfreithiol hirfaith?

Does dim un o’r bobl rydym wedi siarad â nhw erioed wedi dweud mai’r hyn mae wir arnynt ei eisiau neu ei angen yw darn newydd o ddeddfwriaeth ”.

Cytunaf yn llwyr – mae ar bobl Cymru angen mynediad at wasanaethau cyhoeddus da sy’n diwallu eu hanghenion, does dim arnynt angen deddfwriaeth i ddweud wrth ddarparwr gwasanaeth beth ddylent fod yn ei wneud beth bynnag.

Dyma ffordd syml o gyfleu’r pwynt hwn: Y rheswm dydwi ddim yn mynd allan fory a dwyn o’r banc yw gan fy mod yn credu bod dwyn yn anfoesol ac yn hunanol, nid gan fy mod am osgoi cael fy nghosbi neu gan fod yna ddeddf yn dweud na ddylwn ddwyn. Caf fy ngrymuso gan fy mhenderfyniad fy hun.

–         Sarah