Tag Archives: rhannu gwybodaeth

Beth sy’n gwneud cyflwyniad hudolus?

Mae cyflwyniadau wedi’u creu â PowerPoint wedi bod yn rhan fawr o’r byd busnes dros yr 20 mlynedd diwethaf. Araith yw cyflwyniad sydd i fod i roi gwybodaeth, perswadio neu ffurfio perthynas dda â’r gynulleidfa; pwrpas y sleidiau tu ôl i’r siaradwr yw ategu ei eiriau. Mae’r cysyniad o gyflwyno yn yr arddull hon yma i aros, ond pam mae cyflwyniadau traddodiadol yn ymddangos mor ddiflas y dyddiau hyn?

Mor aml, fe fydd sleidiau yn cynnwys pethau sy’n debygol o achosi i’r gynulleidfa golli diddordeb yn gyflym:

  • Paragraffau o ysgrifen (dyw hi ddim yn hawdd darllen sleidiau a gwrando ar y siaradwr yr un pryd)
  • Graffeg yn troi, troelli, hedfan neu fflachio (peidiwch â rhoi cur pen i’ch cynulleidfa!)
  • Delweddau cyffredinol, ystrydebol o ddarnau hanfodol mewn peiriant, pobl drwsiadus yn sefyll o amgylch monitor neu’r llun clasurol o rywun yn codi bawd.

Mae’r holl nodweddion cyffredin hyn a welir mewn cyflwyniadau wedi helpu i fathu’r ymadrodd ‘marwolaeth drwy PowerPoint’ .

deathbypowerpoint

Mae erthygl y BBC ar sut i osgoi ‘marwolaeth drwy PowerPoint’  yn rhestru rhai o’r ystrydebau a orddefnyddir, sydd bron yn ddigon i wneud i chi wingo, rydych mae’n siwr ar ryw ben wedi gorfod eu dioddef wrth geisio cuddio’ch diflastod.

Ond beth yw’r dewisiadau eraill?

Cyn i chi ddechrau dylunio sleidiau, mae angen i chi wybod sut fath o ddull cyflwyno neu safbwynt rhethregol sydd gennych, gwybod beth yw pwrpas eich cyflwyniad ac, yn bwysicaf oll, beth yw anghenion y gynulleidfa y byddwch yn cyflwyno iddi a sut i gyfleu’r neges mewn modd dealladwy a dengar. A ydych hyd yn oed angen sleidiau ynteu a fydd eich geiriau yn ddigon?

Os ydych yn dewis defnyddio sleidiau, mae yna lawer o fathau gwahanol o feddalwedd i roi cynnig arnynt os ydych am osgoi cyflwyniad PowerPoint traddodiadol. Un dewis yw Prezi a ddefnyddir yn weddol eang – ei brif nodwedd yw’r rhyngwyneb sy’n eich galluogi i chwyddo a chylchdroi i mewn i bob sleid, ond cofiwch beidio â gorddefnyddio’r nodwedd hon.

Dewis arall yw Keynote ar gyfer Mac ac iOS. Hefyd, mae gan y fersiwn ddiweddaraf o Microsoft PowerPoint rai nodweddion cyffrous megis y dylunydd sleidiau a’r animeiddydd 3-D.

Cynnwys gweledol

‘Yn aml mewn cyflwyniadau da, mae lluniau’n gweithio’n dda o safbwynt trosiadol neu gysyniadol, neu i bennu naws gefndirol yr hyn y mae’r gynulleidfa yn ei glywed gan y cyflwynydd, ac nid o reidrwydd i gyfathrebu cynnwys gwirioneddol’.  Aaron Weyenberg

Un o’m cas bethau i yn bersonol mewn cyflwyniadau yw pan fo’r sleidiau yn ailadrodd – air am air bron – yn union beth mae’r cyflwynydd yn ei ddweud. Fy newis personol i yw cyn lleied o eiriau â phosib ar y sleid (neu ddim o gwbl yn ddelfrydol). Fe fydd y lluniau rydych yn eu dewis fel eich cefndir yn helpu i bennu’r naws ar gyfer y pwynt rydych yn ei wneud felly, wrth osgoi’r ystrydebau megis llun o rywun yn codi bawd, mae hyn hefyd yn gyfle i fod yn greadigol gyda’ch cynnwys gweledol; beth am ddod o hyd i lun stoc am ddim ar Pixabay, creu ffeithlun gydag Easel.ly neu Canva, neu hyd yn oed dynnu’ch lluniau’ch hun i fynd gyda’ch cyflwyniad.

Eich perfformiad chi yw e’!

Ar gyfer unrhyw fath o gyflwyniad neu siarad cyhoeddus mae gofyn i chi berfformio neu fabwysiadu persona, yn bennaf achos mae’n dasg frawychus ac fe fydd hyd yn oed y perfformwyr cyhoeddus mwyaf profiadol yn mynd yn nerfus – mae hyn yn hollol normal. Un syniad da yw canolbwyntio ar iaith y corff – mae ymchwil y seicolegydd cymdeithasol, Amy Cuddy, yn dangos bod sefyll mewn modd hyderus yn gallu effeithio ar niwrodrosglwyddyddion penodol yn eich ymennydd ac ar eich siawns o lwyddo, hyd yn oed os nad ydych yn teimlo’n arbennig o hyderus ar y pryd – y peth pwysig yw ymddwyn yn hyderus.

 

Peidiwch ag anghofio beth sy’n gwneud i’ch calon ganu

If you’re passionate about the topic you’re speaking about then this will show. Steve Jobs says “Be authentic: don’t let the noise of other’s opinions drown out your own inner voice” – get inspired by your topic in order to inspire your audience.

HeartSing

Photo credit: tamsininnit

Os yw’r pwnc rydych yn siarad yn ei gylch yn agos at eich calon, yna fe fydd hynny’n dangos. Cyngor Steve Jobs oedd “Byddwch yn ddiffuant: peidiwch â gadael i sŵn barn pobl eraill foddi’ch llais mewnol eich hun” ­– chwiliwch am ysbrydoliaeth yn eich pwnc er mwyn ysbrydoli’ch cynulleidfa.

Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau eraill ar gyfer dylunio neu roi cyflwyniadau? Mae croeso i chi adael sylwadau isod i rannu’ch syniadau a’ch profiadau.

Sarah

 

Advertisements

Cynhwysiant digidol a dyfodol e-gyfranogaeth

Ar y 25ain a’r 26ain o Chwefror 2015, cynhaliodd Cymunedau 2.0 gynhadledd ynglŷn â Chynhwysiant Digidol ac aeth Cyfranogaeth Cymru draw i gael gwybod mwy.

Dyma ein barn ni ar arwyddocâd a rôl cynhwysiant digidol ar gyfer dyfodol cyfranogaeth yng Nghymru.

Mae’n rhyfeddol meddwl gymaint mae technoleg wedi datblygu mewn cyfnod mor fyr. Rwy’n siwr fod llawer ohonom yn cofio ein cyfrifiadur cyntaf (mae’n siwr un Windows ’95 clogyrnaidd fel un fi), neu hyd yn oed ein bricsen gyntaf – efallai ffôn poced Nokia 32:10. Mae’n rhyfedd meddwl gymaint gallwn ni ei wneud nawr ar ffôn clyfar sylfaenol am ffracsiwn o’r gost.

(Cymerwch olwg ar y lluniau isod a gweld faint o’r rhain sy’n mynd â chi’n ôl!)

Communities 2.0 Digital Inclusion

 

Mae technoleg o’r fath wedi newid y dirwedd rydym yn byw ein bywydau bob dydd ynddi am byth. Ond wrth i’r byd digidol ruthro ymlaen, mae’n hawdd cael eich gadael ar ôl.

I’r mwyafrif ohonom, y mae ein ffordd o fyw a’n gweithle yn fwyfwy digidol, mae hi efallai’n anodd gwerthfawrogi’r math o rwystrau y byddem yn eu hwynebu pe na bai gennym yr adnoddau a’r set o sgiliau sydd eu hangen i fod yn annibynnol yn y byd digidol.

Wrth i gymdeithas fynd yn fwyfwy digidol, mae’r rhaniad sy’n bodoli rhwng y rheini sydd wedi’u cynnwys yn ddigidol a’r rheini sydd heb, yn creu problem wirioneddol ac yn golygu goblygiadau ar bob lefel, hyd yn oed yn economaidd ac yn ddemocrataidd.

Y rhaniad hwn y craffwyd yn fanwl arno yn ystod cynhadledd ddeuddydd Cymunedau 2.0.

Amcangyfrifodd y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn 2015 fod dros 500,000 o oedolion yn dal i fod wedi’u hallgáu’n ddigidol yng Nghymru (tua 1 o bob 6 ohonom). Mae’r cysylltiad sy’n bodoli rhwng allgáu digidol a thlodi ynghyd â grwpiau eraill o bobl sy’n agored i niwed yn dangos bod allgáu digidol yn fater o gyfiawnder cymdeithasol, ac mae’n hawdd gweld y ffordd y gall allgáu digidol ddwysáu diffyg grym.

O safbwynt busnes, mae’r farchnad fyd-eang sy’n gynyddol ddigidol yn golygu bod gan fudiadau sydd yn y llif digidol lawer mwy o gyfle i sicrhau deunyddiau rhatach, ymestyn eu cyrhaeddiad â chwsmeriaid, symleiddio prosesau gwaith a chwtogi oriau gwaith. Mae hyn oll yn ei gwneud yn llawer anos i fusnesau nad ydynt yn manteisio ar y we i oroesi.

Mae diffyg gwybodaeth ddigidol nid yn unig yn cyfyngu ar gyfleoedd cyflogaeth, ond hyd yn oed yn ei gwneud yn drafferthus i gael at fudd-daliadau megis lwfans ceisio gwaith.

Gall cynnal perthynas â phobl eraill – rhywbeth mor syml â chadw cysylltiad – fynd yn fwyfwy anodd os ydych ymysg y rheini sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol. Ymhellach, wrth i fwy a mwy o wasanaethau cyhoeddus symud i fod yn wasanaethau arlein, rydych yn llawer llai tebygol o glywed newyddion a gwybodaeth ynglŷn â phethau a allai effeithio arnoch.

O’r safbwynt hwn, mae allgáu digidol nid yn unig yn golygu cael eich ynysu a’ch analluogi, ond hefyd eich dadrymuso mewn modd cwbl sylfaenol. Felly, beth allwn ni ei wneud i helpu i roi diwedd ar allgáu digidol?

Wel, nid oes yna un ateb syml. Tra mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau positif i ganolbwyntio’n fwy ar lythrennedd digidol yng Nghymru, mae’n galonogol fod mudiadau annibynnol megis #techmums hefyd yn bodoli i helpu i ddymchwel y rhwystrau hynny a chynyddu hyder defnyddwyr digidol. Fel ag erioed, mae yna bob amser waith rhagorol yn cael ei wneud drwy’r adeg gan wirfoddolwyr ar hyd a lled y wlad i helpu i rymuso’r rheini sydd ei angen.

Roedd ymdrechion y grwpiau a’r bobl hyn wir yn amlygu ei bod yn bwysig cofio, yn y gwaith ac yn ein bywyd personol, ein bod yn rhannu cyfrifoldeb i rannu ein grym a sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl.

Mae’n hawdd meddwl am dechnoleg yn nhermau’r hyn mae’n ei roi i ni – boed hynny yr offer i gael yr atebion rydym eu hangen, y cyfle i hysbysebu ein busnes neu ddod o hyd i waith, y gallu i symleiddio ein bywydau bob dydd, darparu adloniant i ni neu bethau newydd i’w dysgu – hyd yn oed rhywbeth mor syml â’r gallu i gadw cysylltiad â’n hanwyliaid…

Georgina

Rhwydweithiau cyfranogaeth rhanbarthol mis Hydref: offer a thechnegau

Os ydych yn newydd i’r blog hwn, mae ein rhwydweithiau cyfranogaeth rhanbarthol yn addas i unrhyw un sy’n gweithio ym maes cyfranogi ac ymgysylltu â dinasyddion ac rydym yn eu cynnal deirgwaith y flwyddyn yn y Gogledd, y De Ddwyrain a’r De Orllewin. Mae’r rhai sy’n mynychu yn dod o fudiadau amrywiol yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n ffocysu ar sawl mater gwahanol. Mae’r digwyddiadau yn addas ar gyfer unrhyw un o unrhyw lefel o fewn mudiad sydd gyda diddordeb mewn gwaith cyfranogol ymarferol, gan gynnwys swyddogion ymgynghori, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr, swyddogion datblygu a rheolwyr.

Mae’r rhwydweithiau ymarferwyr yma yn weithdai bywiog a chyfranogol sydd yn darparu cyfle i gymheiriaid i rannu, cefnogi ac ymgysylltu â’i gilydd.

Thema’r rhwydweithiau a gynhaliwyd yng Nglyn-coch, Llanelli a’r Rhyl fis Hydref oedd offer a thechnegau cyfranogi. Rhoddodd y sesiynau gyfle i gyfranogwyr ddysgu ac ymarfer nifer o dechnegau ymarferol y gellir eu defnyddio mewn gweithgaredd ymgysylltu wyneb yn wyneb.

Dyma grynodeb o rai o’r technegau yr edrychon ni arnynt a’r syniadau a drafodwyd:

Gobeithion ac ofnau

Nod: Darganfod gobeithion ac ofnau cyfranogwyr.

Dull: Gofyn i gyfranogwyr nodi beth yw eu gobeithion a’u hofnau. Defnyddiwyd hyn fel ffordd o dorri’r garw ymhellach er mwyn darganfod yr hyn roedd pobl yn gobeithio ei gael o’r sesiwn a’r hyn roeddynt yn ei ofni. Mae hi hefyd yn werth mynd yn ôl at y rhain ar ddiwedd y sesiwn, i weld a wireddwyd y gobeithion ac a ddeliwyd gyda’r ofnau.

Mae’r dechneg hon yn arbennig o ddefnyddiol i’w defnyddio ar ddechrau sesiwn gan ei bod yn galluogi’r hwylusydd i reoli disgwyliadau o’r dechrau; er enghraifft os yw rhywun wedi ‘gobeithio’ am rywbeth sydd ddim yn berthnasol neu sydd ddim yn ymwneud â’r pwnc yna gellir gwneud hyn yn glir. Gall hefyd fod yn gysur i gyfranogwyr weld bod eraill yn rhannu’r un ‘ofnau’ â nhw – gallai’r hwylusydd hefyd dawelu meddwl unrhyw un sydd ag ofnau dilys yn ymwneud â’r sesiwn.

20141022_105405

Y gorau a’r gwaethaf yn y byd

Nod: Tynnu sylw at faterion drwy edrych arnynt mewn sefyllfa freuddwydiol/hunllefus. Gall hwn fod yn offeryn darlunio yn ogystal ag yn offeryn datrys problemau.

Dull: Dewiswch bwnc rydych eisiau edrych arno yn fanwl a gofyn i’r grŵp ddychmygu’r fersiwn orau a’r fersiwn waethaf posib.

Mae’r dechneg hon yn ddiddorol gan ei bod yn galluogi’r grŵp i archwilio sefyllfa drwy edrych arni ar ei gorau ac ar ei gwaethaf. Mae hi hefyd yn ffordd ysgafn o edrych ar faterion difrifol. Gan ddilyn ymlaen o hyn – gallech wedyn symud ymlaen i feddwl am y broses o sut rydych yn cyflawni’r ‘gorau’ a sut i osgoi bod y ‘gwaethaf’ yn y byd!

Yn ein rhwydweithiau, y pwnc a ddewiswyd oedd cymdogion: Sut beth yw cymydog gorau/gwaethaf y byd a pha nodweddion sydd ganddo?

20141022_105158

Ffeithiau yn erbyn Rhagdybiaethau

Nod: Gwahaniaethu ffeithiau oddi wrth ragdybiaethau a meithrin ymwybyddiaeth mai si neu farn yn aml yw’r hyn y mae pobl yn ei alw’n ffaith.

Pan oedden ni’n paratoi at y dechneg hon roedd yn rhaid i ni feddwl am sut i wahaniaethu ffeithiau oddi wrth ragdybiaethau a chawsom drafferth wrth ddewis pwnc enghreifftiol i’w ddefnyddio. Fe benderfynon ni ofyn beth oedd rhagdybiaethau cyfranogwyr ynglŷn â Cyfranogaeth Cymru ac yna roeddem yn gallu eu cadarnhau a oeddent yn gywir ynteu’n anghywir, a oedd yn dipyn o hwyl! Roedd rhai cyfranogwyr yn meddwl ein bod yn dîm mawr, pan nad oes ond pedwar ohonom yma.

Gofynnon ni wedyn i gyfranogwyr wirfoddoli i fod y ‘ceidwad ffeithiau’ ar gyfer eu mudiadau eu hunain ac yna ailadrodd yr ymarfer gyda mudiadau’r bobl yn yr ystafell. Roedd hyn yn ffordd ddiddorol dros ben o rwydweithio a dysgu am fudiadau ein gilydd, ac ysgogodd gryn drafodaeth yn ein rhwydweithiau.

Os yw’r pwnc rydych yn ei drafod yn un dadleuol yna dylid ei ddefnyddio’n ofalus gan nad yw ffeithiau bob amser yn fater syml – fe fydd llawer o bobl yn gweld eu barn fel ffeithiau. Gellid hefyd defnyddio’r dechneg hon wrth i fudiadau weithio mewn partneriaeth gyda’i gilydd; rydym yn ei defnyddio yn ein cwrs hyfforddi achrededig Gweithio mewn partneriaeth yn effeithiol.

Rhannodd cyfranogwyr yn y 3 rhwydwaith eu hoff dechnegau eu hunain hefyd, ac rydym bob amser yn croesawu cyfraniadau yn ein rhwydweithiau cyfranogaeth – os ydych yn meddwl am syniad/pwnc neu am helpu i drefnu neu gynnal ein rhwydweithiau yna cofiwch gysylltu â ni.

I werthuso’r rhwydweithiau hyn gofynnon ni i gyfranogwyr sgorio pob techneg yn ôl pa mor ddefnyddiol oeddynt gan ddefnyddio sticeri ar raddfa 1-10 (canlyniadau’r 3 rhwydwaith wedi’u cyfuno):

20141022_110310 20141022_105948 20141022_110137

Cynhelir y rownd nesaf o ddigwyddiadau rhwydweithio fis Chwefror 2015 ac maent am ddim i ddod iddynt. Fe fydd mwy o wybodaeth ar gael yn fuan ond gallwch archebu’n gynnar i sicrhau’ch lle! Diolch yn fawr i chi am barhau i gefnogi’r rhwydweithiau cyfranogaeth hyn.

Sarah

Rhwydweithiau Cyfranogaeth Ranbarthol Mai: Cydgynhyrchu

Mae’n ymddangos mai cydgynhyrchu yw’r bri-air diweddaraf sydd i’w ganfod ym mhob sector o’r gwasanaeth cyhoeddus a byddai rhai yn dadlau ei fod yn golygu pethau gwahanol i bobl wahanol. Yn y rhwydweithiau cyfranogaeth a gynhaliwyd ddechrau mis Mai, edrychon ni ar beth mae cydgynhyrchu yn ei olygu i bobl a cheisio gwneud synnwyr o’r hyn mae’n ei olygu yng nghyd-destun cyfranogi ac ymgysylltu. Hefyd rhannodd cyfranogwyr y rhwydwaith lawer o enghreifftiau o gydgynhyrchu sy’n digwydd yn eu prosiectau/mudiadau – ond nid yw pawb yn ei alw ‘cydgynhyrchu’. Fel rydym wedi dysgu mewn rhwydweithiau blaenorol (Chwefror 2014, Hydref 2013) mae’n bwysig peidio boddi mewn diffiniadau.

Dechreuon ni bob rhwydwaith gydag ymarfer torri’r garw. Gofynnon ni i gyfranogwyr fynd i barau a meddwl sut mae cydgynhyrchu yn edrych, beth yw ef a beth nad yw ef. Nid oedd yr ymarfer hwn yn ceisio llunio diffiniad mewn geiriau ond yn ceisio canfod beth mae gweithio’n gydgynhyrchiol yn ei olygu mewn gwirionedd.

maynetwork_03maynetwork_02

 

 

 

 

 

 

 

Daeth y grŵp i’r casgliad nad yw cydgynhyrchu yn ddull ymgysylltu tocenistaidd; nid yw’n golygu arbed arian yn unig ac nid yw’n golygu ymgynghori. Dywedodd y grwpiau hefyd fod rhannu grym, gweithio tuag at amcan cyffredin a chydnabod pobl fel asedau yn crynhoi beth yw cydgynhyrchu – yn gyfystyr â gwerthoedd craidd Edgar Cahn ar gyfer cydgynhyrchu:

  • Cydnabod pobl fel asedau
  • Rhoi gwerth ar waith mewn ffordd wahanol
  • Hyrwyddo cydgyfnewidiaeth
  • Meithrin rhwydweithiau cymdeithasol.

Cliciwch yma i ddarllen nodiadau llawn yr ymarfer torri’r garw.

Roedd gennym siaradwr gwadd gwahanol ym mhob digwyddiad. Anne Collis o Barod oedd ein siaradwr yn y Gogledd. Mae Barod wedi cynhyrchu chwaer ddogfen i gyhoeddiad WCVA Rhoi Pobl yn y Canol o’r enw Bod yn y Canol a gyhoeddir yn fuan. Mae Bod yn y Canol wedi’i ysgrifennu mewn iaith syml ac wedi’i fwriadu ar gyfer y cyhoedd sy’n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus.

Mae Barod wedi datblygu dull maent yn ei alw’n sgyrsiau siop goffi a ddefnyddiwyd ganddynt wrth ddatblygu’r cyhoeddiad Bod yn y Canol. Mae’r dull yn golygu gwrando ar farn pobl mewn awyrgylch anffurfiol (siop goffi neu gaffi) yn hytrach na chyfarfod ymgynghori ffurfiol.

Ein siaradwr yn y De Ddwyrain oedd Gareth Coles, Swyddog Cyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus yn WCVA. Gofynnodd Gareth i gyfranogwyr feddwl am y rhwystrau i weithio’n gydgynhyrchiol a dyma oedd rhai o’u cynigion:

  • Mae’r syniad o gydgynhyrchu yn gallu bod yn ddryslyd gan fod nifer o wahanol syniadau a diffiniadau o’r hyn ydyw.
  • Mae cydgynhyrchu yn gofyn i bobl roi’r gorau i’w grym a rhoi grym i gymunedau a’r cyhoedd. Ni all cydgynhyrchu ddigwydd heb gael ei sbarduno gan y bobl ar y brig, sy’n aml yn amharod i rannu grym.
  • Pwysau ariannol. Hefyd diffyg gonestrwydd ar hyn o bryd wrth gyfathrebu â’r cyhoedd – mae ar lawer o fudiadau ofn cwrdd â thrigolion a bod yn onest â nhw.
  • Nid yw mudiadau bob amser yn cydnabod bod gan ddefnyddwyr gwasanaethau rhywbeth i’w roi yn ôl.

Wedyn trafododd y grŵp pa gamau y mae angen i fudiadau eu cymryd i weithio’n fwy cydgynhyrchiol:

  • Treulio mwy o amser yn gwrando
  • Peidio bod ag ofn rhoi’r ateb nad oes arnynt eisiau ei glywed
  • Gofyn am bryderon ac atebion
  • Rhoi’ch hun yn esgidiau’r derbynnydd
  • Meithrin a rhannu sgiliau/adnoddau
  • Derbyn beirniadaeth
  • Rhoi cynnig arni (gyda phob ewyllys da)
  • Creu deialog tryloyw

Yn y De Orllewin, y siaradwyr oedd Rick Wilson o’r Consortiwm Bywydau Cymunedol a rhai o arweinwyr y prosiect Amser i Gwrdd. Mae Amser i Gwrdd yn cael ei drefnu gan bobl ag anableddau dysgu a’u ffrindiau, eu teulu a staff yn Abertawe. Ei nod yw helpu aelodau i feithrin bywydau cymdeithasol cryfach gyda phobl o’u cwmpas drwy rannu sgiliau, diddordebau ac amser. Mae hyn yn cynnwys gweithdai gwneud gemwaith, gweithdai gwneud cardiau, boreuon coffi a llawer o weithgareddau eraill gan gynnwys eu fersiwn eu hunain o Come Dine with Me o’r enw Come Eat With Us!

Dangosodd Rick ddull maent yn ei ddefnyddio i adnabod beth mae ar eu haelodau eisiau ei wneud. Rhoddwyd darn o bapur coch a darn o bapur glas i bob un ohonom. Roedd gan y darn coch gwestiwn arno: Beth hoffech ei wneud? Ac ar y darn glas: Beth ydych yn hoffi ei wneud, neu’n dda am ei wneud? Unwaith i ni gyd nodi’n hatebion, rhoddwyd y papurau i gyd ar y llawr a’u gosod mewn grwpiau. Daeth hi’n amlwg fod ar lawer ohonom eisiau dysgu am arddio a choginio ac roedd yna hefyd bobl yn yr ystafell oedd eisoes yn gwybod am y pynciau hyn felly fel grŵp roeddem yn syth wedi canfod cyfle i bobl ddysgu ac adnodd i wneud hynny.

maynetwork_01

Ar ddiwedd bob cyfarfod rhwydweithio rydym bob amser yn mynd i grwpiau bach i rannu darnau o waith diweddar ac enghreifftiau o ymarfer da neu i barhau â’r drafodaeth gyffredinol. Yn olaf gofynnir i gyfranogwyr gwblhau ymarfer gwerthuso cyfranogol.

Nid yw Cyfranogaeth Cymru bellach yn cael dim cyllid i hwyluso a threfnu’r rhwydweithiau cyfranogi hyn felly rydym yn ddiolchgar iawn i fudiadau’r cyfranogwyr am ddarparu’r lleoliadau a’r lluniaeth (y tro hwn: Gyrfaoedd Cymru – Bangor, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru – Llantrisant a Chyngor Sir Caerfyrddin). Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i’r siaradwyr am roi eu hamser i ni. Byddwn yn ymdrechu i gadw’r cyfarfodydd rhwydweithio hyn i fynd a bydd y rownd nesaf o gyfarfodydd fis Hydref yn canolbwyntio ar ddulliau a thechnegau cyfranogol felly os ydych am ddangos techneg, rhoi cynnig ar un neu’n gallu cyfrannu unrhyw beth arall at y rhwydweithiau hyn, yna cysylltwch ar bob cyfrif.

Wythnos nesaf, fe fydd Non Humphries yn blogio ynglŷn â Chydgynhyrchu ar Waith.

–       Sarah

Siarad ar y radio am y tro cyntaf!

RadioCardiffRadio Caerdydd 97.8FM yw gorsaf radio gymunedol Caerdydd, sef math o wasanaeth radio sy’n darlledu y tu hwnt i wasanaeth masnachol a chyhoeddus. Mae’n darlledu cynnwys sy’n boblogaidd ac yn berthnasol i gynulleidfa leol a phenodol sy’n aml yn cael ei hesgeuluso.

Cynhelir Diverse Cardiff yn fyw bob dydd Mawrth 13:30-15:00 a gofynnwyd i Cyfranogaeth Cymru ddod i siarad ar y sioe. Roedd yn gyfle cyffrous iawn felly penderfynais wirfoddoli fy hun i’w wneud; rwy’n un dda iawn am siarad am ein gwaith felly meddyliais: pam lai?!

Wrth i mi gyrraedd y stiwdio cofiais am y cwrs hyfforddi hyder mewn digwyddiadau cyhoeddus a wnaethais y llynedd ac roedd yn sicr o gymorth ar yr achlysur yma! Cofiais yn benodol am y rhan o’r cwrs ar ddod dros ofn…

  1. Bydd yr ofn byth yn mynd i ffwrdd cyn belled fy mod yn parhau i dyfu
  2. Yr unig ffordd o gael gwared â’r ofn o wneud rhywbeth yw mynd allan a’i wneud
  3. Yr unig ffordd o deimlo’n well amdanaf fy hun yw mynd allan…a’i wneud
  4. Nid yn unig rwyf am deimlo ofn pryd bynnag rwyf ar dir anghyfarwydd, ond bydd pawb arall yn teimlo felly hefyd
  5. Mae bwrw drwy ofn yn llai ofnus na byw gyda’r ofn sydd dan yr wyneb o ganlyniad i deimlo’n ddi-help

(wedi’i gymryd a’i gyfieithu o Susan Jeffers ‘Feel the fear and do it anyway’)

Roeddwn, wrth gwrs, yn teimlo’r nerfau cyn dechrau siarad ond ar ôl rhai munudau dechreuais fwynhau fy hun a doeddwn i ddim eisiau stopio siarad!

Mae’r sioe yn un anffurfiol iawn, gyda llawer o sgwrsio a siarad. A hithau mor agos i Ddydd Gŵyl Dewi roedd yr holl gerddoriaeth a chwaraewyd ar y sioe gan artistiaid o Gymru, felly cefais fwynhau gwrando ar Gorky’s Zygotic Mynci a Super Furry Animals wrth i mi aros.

Dechreuais drwy gyflwyno Cyfranogaeth Cymru, pwy ydyn ni a beth rydym yn ei wneud, yna siaradais am waith rydym wedi’i wneud yn ddiweddar a gorffen drwy siarad am ffyrdd y gall pobl fanteisio ar ein gwaith, drwy fynychu ein hyfforddiant, rhwydweithiau a chymeradwyo’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd. Soniais hefyd am rai cyfleoedd lleol i bobl Caerdydd gymryd rhan, gan grybwyll gwefannau megis www.holicaerdydd.com a http://www.ygymruagarem.co.uk/

Mae Diverse Cardiff bob amser yn chwilio am westeion i siarad ar y sioe, felly os oes gennych brosiect lleol diddorol yr hoffech ei drafod yna cliciwch yma i gysylltu â Diverse Cardiff.

Dyma ychydig o gyngor i unrhyw un sy’n siarad ar y radio am y tro cyntaf:

  • Rydych yn cael sgwrs gyffredinol am eich gwaith; dychmygwch y bwrdd heb y microffon.
  • Siaradwch mewn iaith syml – peidiwch â defnyddio brawddegau hir na geiriau jargon a all eich achosi i faglu drostynt, ac os ydych yn baglu dros eich geiriau – dechreuwch eto – mwy na thebyg ni fydd neb yn sylwi (heblaw amdanoch chi’ch hun!)
  • Cofiwch baratoi – gallech hyd yn oed ysgrifennu rhai cwestiynau yr hoffech i’r cyflwynwyr eu gofyn a’u hanfon atynt ymlaen llaw er mwyn gwybod beth sy’n dod
  • Cofiwch fod amser yn ymddangos yn llawer cynt pan rydych yn siarad – efallai y bydd rhywbeth rydych yn meddwl fydd yn cymryd 2 funud i’w ddweud yn cymryd 5 munud mewn gwirionedd

Gallwch wrando ar y sioe gyfan yma neu ar gyfweliad Cyfranogaeth Cymru yn unig yma; y gwestai arall oedd Chrissie Nicholls o Gymorth i Fenywod Cymru.

–          Sarah

Mwy o graffu!

Efallai’ch bod yn gwybod yn barod ein bod yn cynnal rhwydweithiau cyfranogi rhanbarthol deirgwaith y flwyddyn sy’n addas i unrhyw un sy’n gweithio ym maes cyfranogi ac ymgysylltu â dinasyddion. Mae pobl yn dod iddynt o amrywiaeth o wahanol fudiadau yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n canolbwyntio ar faterion amrywiol. Mae’r digwyddiadau hyn yn addas i unrhyw un o unrhyw lefel mewn mudiad sydd â diddordeb mewn gwaith cyfranogi ymarferol, gan gynnwys swyddogion ymgynghori, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr, gweithwyr datblygu a rheolwyr.

Mae gan bob digwyddiad rhwydweithio thema gyffredinol a thema ein digwyddiadau fis Chwefror oedd Cynnwys y cyhoedd wrth graffu. Roedd y tywydd yn ein herbyn ond roeddem yn falch iawn o’r amrywiaeth o fudiadau a lwyddodd i ddod i’r digwyddiadau.

Rydym bob tro’n dechrau’r sesiynau gydag ymarfer torri’r garw, sef ‘wal graffiti’ y tro hwn. Gofynnon ni i gyfranogwyr feddwl am gynifer o ddiffiniadau ar gyfer y gair craffu ag y gallent feddwl amdanynt, neu enghreifftiau o ble maent wedi gweld craffu yn digwydd ar y teledu neu yn y cyfryngau. A dyma sut roedd y wal yn edrych ar ôl yr olaf o’r 3 digwyddiad:

Scrutiny Graffiti Wall

Y diffiniadau mwyaf cyffredin oedd atebolrwydd, gwirio a gofyn cwestiynau. Cafwyd rhai ystyron diddorol yn ogystal! Mae “Newsnight”, “boring” a “sexy” hefyd ar y wal os edrychwch yn ddigon agos! Nid yw’r un o’r atebion hyn yn gywir nac yn anghywir ac mae’n glir bod craffu, yn ei hun, yn air llawn ystyron.

Cynulliad Cenedlaethol CymruAr ôl torri’r garw, rhoddodd cynrychiolydd o dîm allgymorth Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyflwyniad am eu gwaith craffu a sut maent yn dal Llywodraeth Cymru yn atebol. Edrychon ni hefyd ar dystiolaeth fideo maent wedi’i chynhyrchu fel rhan o’r Ymchwiliad Entrepreneuriaeth Ymysg Pobl Ifanc. Gallwch lawrlwytho’r cyflwyniad yma. Roedd cyfranogwyr yn meddwl bod cyflwyniad y Cynulliad yn ddiddorol a pherthnasol iawn ac yn llawn gwybodaeth gan iddo amlinellu enghreifftiau diweddar o ymchwiliadau a gynhaliwyd gan bwyllgorau’r Cynulliad a ffyrdd roeddynt wedi cynnwys y cyhoedd yn yr ymchwiliadau hyn. Roeddem yn arbennig o hoff o’r defnydd o graffeg gwybodaeth i gyflwyno gwybodaeth mewn ffordd hwylus (mae’r Ymchwiliad i Lyfrgelloedd Cyhoeddus yng Nghymru yn enghraifft sy’n edrych yn arbennig o dda) a defnyddio vignettes – techneg casglu tystiolaeth y byddwn yn rhoi sylw iddi yng nghylchlythyr nesaf Cyfranogaeth Cymru.

Clywson ni hefyd gan arbenigwyr craffu lleol, David Lloyd o TPAS Cymru (y Gogledd), Rebecca David-Knight o’r Ganolfan Craffu Cyhoeddus (y De Orllewin) a Hazel Ilet o Gyngor Sir Fynwy (y De Ddwyrain).

Yn y Gogledd, roedd gan David focs yn llawn eitemau amrywiol, mae pob un o’r rhain yn cynrychioli craffu mewn rhyw ffordd, a allwch ddyfalu sut…?!

  • Tei
  • Chwyddwydr
  • Pêl ping-pong
  • Pyst gôl

Yn y De Orllewin, pwysleisiodd Rebecca fod ymgysylltu â’r cyhoedd yn fath o graffu a bod y gallu i herio penderfyniadau yn grymuso. Mae craffu yn cau’r bwlch mewn atebolrwydd democrataidd ac mae angen ymgysylltu o safon er mwyn i wasanaeth fod yn llwyddiannus, gan fod gwasanaethau yn ddibynnol ar ddefnyddwyr ac nid y ffordd arall!

Yn y De Ddwyrain, rhanodd Hazel enghreifftiau ar ffurf astudiaethau achos gan gynnwys galwad i mewn mewn cyfarfod pwyllgor craffu ynglŷn â dyrannu tir ar gyfer safle teithwyr pan fu i’r broses graffu hon ganfod bylchau yn y dystiolaeth a oedd yn cefnogi penderfyniad a oedd wedi’i wneud yn ddiweddar. O ganlyniad i drafodaeth y fforwm cyhoeddus, cafodd y penderfyniad ei gyfeirio at y cyngor llawn felly mae hyn yn dangos y grym sydd gan y cyhoedd yn y broses graffu. Mae gan sir Fynwy fforwm agored cyhoeddus hefyd ar agenda pob cyfarfod y pwyllgor craffu.

Rhwydweithiau

Rydym bob amser yn gorffen ein digwyddiadau rhwydweithiau cyfranogi gyda thrafodaeth mewn grŵp ac yna techneg gwerthuso cyfranogol. Bu i ni ddefnyddio ‘calonnau, cyrff a meddyliau’ ac mae crynodeb o’r gwerthusiadau ar gael yma:

Rydym yn ddiolchgar iawn i Caryl, Lowri a Rhys o dîm allgymorth Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’n siaradwyr eraill am eu cyfraniad gwerthfawr i’r digwyddiadau hyn.

Mae’r rownd nesaf o rwydweithiau cyfranogi ym mis Mai 2014 a’r thema fydd cydgynhyrchu mewn gwasanaethau cyhoeddus. I gael mwy o wybodaeth neu gadw lle ewch draw i’n gwefan. Cofiwch fod y digwyddiadau hyn yn rhad ac am ddim felly maent yn llenwi’n gyflym iawn!

–          Sarah

Rhwydweithiau cyfranogi rhanbarthol fis Hydref: Gwybodaeth a thechnoleg hygyrch

A ddylem ymdrechu i gyflawni’r canlyniadau optimwm neu a ddylem, yn syml, trio ein gorau?

Rydym newydd gynnal Digwyddiadau’r Rhwydweithiau Rhanbarthol a’r thema y tro hwn oedd ‘Gwybodaeth a thechnoleg hygyrch’.

BookDechreuon ni bob sesiwn gydag ymarfer torri’r garw i gyflwyno’r thema, cafodd hanner y cyfranogwyr ‘gerdyn jargon’ a’r hanner arall ‘gerdyn hawdd ei ddarllen’. Roedd un gair ar bob cerdyn a nod y gêm oedd cerdded o gwmpas yr ystafell a dod o hyd i’r person oedd â’r cerdyn a oedd â’r un ystyr â’r gair ar eich cerdyn chi. Er enghraifft, os oedd gennych gerdyn jargon yn dweud ‘cyfranogi’ yna byddech yn cael eich paru â’r person a oedd â’r cerdyn hawdd ei ddarllen yn dweud ‘cymryd rhan’ arno ac yna’n cyflwyno’ch gilydd. Geiriau eraill a ddefnyddiwyd yn yr ymarfer hwn oedd ymdrechu (trio), terfynu (gorffen) a chydweithredu (gweithio gyda rhywun). Mae mwy o gyngor ynghylch iaith syml ar gael ar wefan Cymraeg Clir.

Gweithiodd yr ymarfer yn dda i gael pobl i sgwrsio â’i gilydd ac roedd yr adborth a gawsom yn bositif. Doedd neb wedi defnyddio’r ymarfer hwn o’r blaen ond roedd rhai wedi chwarae Buzzword Bingo mewn cyfarfodydd llawn jargon.

Yn y De Ddwyrain, cynhaliwyd y digwyddiad yn Ystrad Mynach. Rhoddodd Barod CIC gyflwyniad a eglurodd pam mae’n bwysig darparu gwybodaeth glir mewn fformat hwylus. Cafodd y grŵp wybod am y gwasanaethau y mae Barod yn eu darparu megis trosi dogfennau i iaith hawdd ei darllen a/neu iaith bob dydd. Maent hefyd yn cynnig pecynnau hyfforddi i fudiadau sydd am hyfforddi staff i gynhyrchu dogfennau hawdd eu darllen. Mae pobl ag anableddau dysgu yn darllen drwy’r holl waith y mae Barod yn ei wneud. Hefyd, rhoddodd Sam o Anabledd Dysgu Cymru gyflwyniad ar Clear & Easy sef canllaw cynhwysfawr i fudiadau sydd am wneud eu gwybodaeth yn fwy hygyrch. Mae’r canllaw yn cynnwys DVD rhyngweithiol sydd am ddim i’r sector gwirfoddol a chyhoeddus (cyfyngiad o un y mudiad). Cysylltwch ag Anabledd Dysgu Cymru i gael gwybod mwy.

Yn y De Orllewin, cynhaliwyd y digwyddiad yn Felin-foel, Llanelli. Roedd sesiwn Andrew Hubbard, o’r Panel Dinasyddion peilot ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymdeithas Byw’n Annibynnol Abertawe, yn canolbwyntio ar Dechnoleg Hygyrch, gan egluro i gyfranogwyr sut mae meddalwedd darllen sgrin yn gweithio i bobl â nam ar eu golwg. Trefnodd Andrew ymarfer grŵp i fynd drwy amrywiaeth o wahanol sefyllfaoedd sy’n wynebu pobl anabl wrth gael at wybodaeth bob dydd megis swyddi gwag, amseroedd bws/trên a hysbysebion. Cafwyd trafodaeth grŵp ar ôl yr ymarfer. Roedd Barod CIC yn ddigon clên i roi cyflwyniad ar y canllaw Clear & Easy eto (am yr ail ddiwrnod yn olynol!)person reading

Ar ôl toriad byr, eglurodd ein swyddog hyfforddi a datblygu, Siobhan, dechneg rydym wedi’i defnyddio o’r blaen ac sydd bob amser yn llwyddiannus iawn – Hot Air Balloon o’r llyfr Spice it Up gan Dynamix! Yn yr ymarfer hwn, anogwyd cyfranogwyr i feddwl am y ffordd y mae eu mudiadau eu hunain yn darparu gwybodaeth a sut y gallent ei gwneud yn fwy hygyrch. Roedd angen i gyfranogwyr feddwl am beth oedd yn eu dal yn ôl, pwy oedd angen eu cynnwys a beth sydd ei angen i’w wneud i ffynnu.

Cafodd cyfyngiadau o ran arian ac amser eu crybwyll yn aml fel pethau sy’n eu dal yn ôl. Cafwyd syniad gan un cyfranogwr fod angen newid diwylliant yn llwyr er mwyn sicrhau bod gwybodaeth fwy hygyrch ar gael drwy’r amser.

Yna cawsom ein rhannu’n grwpiau bach i glywed gan gyfranogwyr am waith maent yn ei wneud, arfer da maent wedi dod ar ei draws neu broblemau maent yn eu cael. Clywsom am waith yn TPAS Cymru sy’n cynnal digwyddiad fis Tachwedd ar Ymgysylltu â’r Cyhoedd. Clywsom hefyd fod Clwstwr Cymunedau yn Gyntaf y Barri yn cynnal sesiynau TG galw-heibio ac yn darparu hyfforddiant TG sylfaenol ar sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd. Mae Heddlu’r De hefyd yn gwneud gwaith ardderchog yn ennyn diddordeb pobl ifanc  darganfod beth maent yn ei feddwl o’r gymuned leol a pha ardaloedd maent yn teimlo’n ddiogel neu’n anniogel ynddynt. Mae Cyngor Sir Gâr wedi cynnal ymgynghoriad cyllideb a defnyddio efelychydd cyllideb sy’n swnio’n ffordd wych o gael pobl yn rhan o gyllidebu.

Yn y Gogledd, cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghyffordd Llandudno ar ddiwrnod llawn gwynt a glaw rydym wedi hen arfer ag o yng Nghymru! Clywsom gan ddau aelod o’r Panel Dinasyddion peilot ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol; Jennie a Beth Lewis. Dechreuodd Beth drwy ddweud wrth y grŵp am ei bywyd; mae’n 24 oed ac mae ganddi anabledd dysgu, mae’n byw yn ei fflat ei hun ac mae ganddi swydd, mae’n mwynhau coginio ac yn awyddus i wneud mwy ar ei phen ei hun. Mae’n gallu darllen yn dda iawn ond ddim bob amser yn deall beth mae’r geiriau yn ei olygu felly mae’n well ganddi frawddegau byr gyda lluniau. Dangosodd Beth a’i mam, Jennie, lawer o enghreifftiau i ni o wybodaeth a anfonwyd ati drwy’r post. Rhoddwyd tasg i’r cyfranogwyr drosi llythyr a oedd wedi cael ei anfon at Beth i fformat hawdd ei ddarllen mewn grwpiau bach (roedd y dasg yn anodd iawn i bawb – yn eironig roedd y llythyr yn ymwneud â chynllun yn benodol i bobl anabl, gan gynnwys pobl ag anableddau dysgu). Cerddodd Beth o gwmpas yr ystafell i ddarllen a gwirio beth roedd pobl wedi’i ysgrifennu.

jennie-bethGofynnon ni i’r grwpiau drafod sut y byddent yn rhoi cyflwyniad diddorol Jennie a Beth ar waith drwy feddwl am sut y gallent wneud y wybodaeth y mae eu mudiadau eu hunain yn ei chynhyrchu yn fwy hygyrch. Heb os roedd llawer iawn i feddwl amdano a chafwyd trafodaethau diddorol dros ben. Yn benodol dywedodd rhywun mai un rhwystr mawr oedd ‘iaith gyfreithiol’ a bod yn rhaid i rai dogfennau neu gontractau ddefnyddio geiriau penodol, ac un ffordd o oresgyn hyn yw rhoi eglurhad hawdd ei ddarllen wrth ochr neu o dan ddatganiad, gan egluro beth mae’n ei ddweud gyda llun os oes angen.

Ar y cyfan roedd y rownd hon o ddigwyddiadau yn llwyddiannus gyda thema ddiddorol iawn a chafwyd cyflwyniadau ardderchog gan ein holl westeion yn y tair ardal. Rydym yn ddiolchgar iawn i Barod, Andrew Hubbard a’i gynorthwyydd Bev, Jennie a Beth am ein helpu yn y rhwydweithiau hyn. Diolch i bawb am ddod!

Fe fydd y rownd nesaf o ddigwyddiadau’r rhwydweithiau yn cael eu cynnal fis Chwefror 2014, mae mwy o fanylion ar gael ar ein gwefan yma. Mae archebu’n gynnar yn hanfodol gan mai dim ond 20 lle sydd ym mhob digwyddiad ac maent yn llenwi’n gyflym! Peidiwch â cholli allan!

–          Sarah