Yma yn Cyfranogaeth Cymru, rydym wrth ein bodd yn treulio amser yn yr awyr agored ac ers tro bellach rydym wedi bod yn trafod y syniad o gynnal rhwydwaith ym myd natur.
Felly, yn fuan ar ôl penwythnos Gŵyl Banc Calan Mai, cynhaliwyd rhwydwaith ymarferwyr yn yr awyr agored am y tro cyntaf erioed gyda chymorth Tom Moses o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Dyma grynodeb o’r hyn a ddigwyddodd:
Yn gyntaf, roedd y tywydd yn fendigedig!
Dim argoel o gwbl am law
Roedd Tom wedi cynnau’r tân yn gynt y bore hwnnw, felly roedd paned boeth o de a choffi ar gael wrth i ni gyrraedd.
Dangosodd Jill Simpson, o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, y dodrefnyn godidog hwn i ni (mae’n gymaint mwy na mainc yn unig). Fe’i dyluniwyd a’i greu gan bobl ifanc leol ar gyfer y coetir hwn.
Aeth Matt, un o wirfoddolwyr Arfordir Penfro, â ni am dro ar hyd llwybr cerdded gan ddysgu darllen map a sgiliau cyfeiriannu sylfaenol.
Ar hyd y ffordd, fe ddaethom ar draws wartheg ifanc chwilfrydig a oedd yn awyddus iawn i ddweud shwmae
Mae modd gwneud te o blanhigion, gwreiddiau a ffyngau amrywiol o’r goedwig (ond peidiwch byth â bwyta unrhyw beth gwyllt rydych wedi’i hel onid ydych yn hollol siwr ei fod yn ddiogel!)
Tamaid i aros pryd: bara cynnes yn syth o’r ffwrn agored gyda garlleg gwyllt a oedd newydd ei hel.
Defnyddiwyd dull pleidleisio cyfranogol – ‘pleidlais gerrig’ – i benderfynu pa de oedd fwyaf blasus (dant y llew oedd ‘at ddant’ y mwyafrif).
Ond roedd mwy i’w wneud na dim ond yfed te, sgwrsio â gwartheg a mynd am dro, thema’r cyfarfod rhwydweithio oedd newid ymddygiad. Gofynnodd Cyfranogaeth Cymru y cwestiwn i fudiadau sy’n gweithredu’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru: pa fath o newid ymddygiad sy’n gorfod digwydd o fewn mudiad? Atebion ar y bwrdd gwyn magnetig…
Yn ddiweddar, fe wnaethom gyhoeddi rhestr gyfeirio wrth weithredu’r Egwyddorion Cenedlaethol ac arni gwestiynau ar gyfer pob egwyddor. A yw’ch mudiad chi wedi gorfod newid ei ymddygiad wrth ymgysylltu? A ydych chi wedi gorfod ceisio dylanwadu ar ymddygiad eraill er mwyn gwneud gwelliannau? Ymunwch yn y sgwrs drwy adael sylw isod.
Yn olaf… gadael (bron) dim ôl
Mae’r clai hwn, sy’n hydawdd mewn dŵr ac yn sychu ag aer, yn ffordd wych i bobl ‘adael eu marc’ ym myd natur heb niweidio’r amgylchedd o gwbl. Aethom â’n sbwriel i gyd i ffwrdd gyda ni.
Diolch o galon i Tom, Jill a Matt o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro am eu cymorth i sicrhau llwyddiant y diwrnod.
Os ydych chi’n ystyried cynnal digwyddiad neu gyfarfod cymunedol yn yr awyr agored, cofiwch roi gwybod i ni fel y gallwn eich helpu i’w hyrwyddo.
Cofiwch gadw llygad ar ein gwefan am fanylion digwyddiadau rhwydweithio i ddod.
Cynhelir ein ‘digwyddiad Rhwydweithio Cymru Gyfan’ o’r enw ‘Ymgysylltu â chymunedau amrywiol’ yn Llandrindod ar 14eg Gorffennaf; mynediad am ddim!
– Sarah