Tag Archives: ymgynghori

Adborth

Wythnos diwethaf fe wnaeth Dyfrig Williams addo byddwn i’n ysgrifennu blog i Gyfranogaeth Cymru. Felly dyma fe! Mae’n briodol fy mod i’n dechrau blogio nawr gan fy mod i newydd gael fy mhenodi i fy rôl newydd fel Hwylusydd Cyfranogaeth Cymru, a byddaf yn gofalu am y blog a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar ôl i Dyfrig gadael am ei swydd newydd yn Swyddfa Archwilio Cymru.

Roeddwn i hefyd yn bresennol yn y cwrs achrededig ar ymgysylltiad cyhoeddus yng Nghaerdydd ar ddiwedd mis Ebrill, rhywbeth rydw i wedi eisiau mynychu am sbel. Fe wnaethon ni edrych dros siwd gymaint o wybodaeth yn ystod y ddau ddiwrnod, ac fe wnaethon ni archwilio nifer o syniadau diddorol a thechnegau cyfranogol hwyl. Y rhan fwyaf diddorol yn fy marn i oedd ar y pwysigrwydd adborth yn y broses ymgysylltu.

Feedback - CYM

Rwy’n credu yn bersonol bod y gair ‘ymgysylltu’ yn awgrymu bod adborth yn cael ei roi yn barhaus o’r dinesydd a’r darparwr gwasanaeth – mewn geiriau eraill – bod ymgysylltu yn sgwrs, ac yn broses barhaus. Fe wnaeth yr hyfforddiant gwneud i mi sylweddoli bod dinasyddion hefyd yn llawer mwy tebygol o fod eisiau i gymryd rhan os ydynt yn gwybod effaith eu cyfraniad. Mae adborth hefyd yn rhoi eglurder i’r broses ymgysylltu, ac mae’n rhoi grym i unigolion a grwpiau cymunedol, gan fod nhw’n gwybod sut mae eu syniadau yn cael eu defnyddio.

Fodd bynnag, nid yw adborth digonol yn golygu cyhoeddi canlyniadau arolwg cenedlaethol mewn cyhoeddiad does neb yn darllen, neu wefan nad oes unrhyw yn ymweld â. Rhaid i’r adborth a roddir i fod yn briodol ac yn berthnasol i’r math o ymgynghori a wnaethoch. Ar gyfer ymgynghoriad bach, gallai dinasyddion derbyn adborth trwy gyswllt uniongyrchol (ar yr amod eu bod wedi caniatáu i chi ddefnyddio eu manylion ar gyfer y diben hwnnw, wrth gwrs!). Byddai’r dull yma yn dangos i’r dinesydd faint rydych chi wedi gwerthfawrogi eu cyfraniad wrth i chi gymryd yr amser i gysylltu â nhw’n unigol. Efallai ar gyfer ymgynghoriad mwy byddai’r cyfryngau neu gyfryngau cymdeithasol yn ffordd fwy priodol i roi adborth.

Mae’r wefan change.org yn rhoi adborth rhagorol i lofnodwyr deisebau. Yn ddiweddar, rwyf wedi llofnodi deisebau drwy’r safle hwn ac wedi derbyn negeseuon e-bost manwl o beth sy’n digwydd – pan mae’r ddeiseb yn cael ei anfon i’r person perthnasol, eu hymateb a beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf, felly mae’n enghraifft wych o adborth perthnasol.

Sut y byddwch yn rhoi adborth i’ch rhanddeiliaid yn y dyfodol?

– Sarah

Advertisements

Drilio i lawr

Rydw i wedi bod yn gweithio i Gyfranogaeth Cymru am dair blynedd, ond mis nesaf byddai’n dechrau swydd newydd fel Swyddog Cyfnewid Gwybodaeth gyda’r Gyfnewidfa Arfer Dda yn Swyddfa Archwilio Cymru, felly byddai rhai’n dweud fy mod i wedi gadael e braidd yn hir i wneud hyfforddiant achrededig Cyfranogaeth Cymru ar ymgysylltu â’r cyhoedd! Er fy mod i’n teimlo’n hyderus yn gweithio ym maes cyfranogiad, fe wnes i dal dysgu llawer o awgrymiadau defnyddiol iawn ar sut gallai sicrhau fy mod i’n hymgysylltu’n fwy effeithiol yn y dyfodol.

Adran ‘drilio i lawr’ y cwrs oedd y rhan wnaeth agor fy llygaid i’r fwyaf, sy’n eithaf brawychus, gan ei fod e’n hanfodol i ymgysylltu’n effeithiol â’r cyhoedd. Mae’r dull yn caniatáu i ymarferwyr i sicrhau eu bod nhw’n tynnu’r casgliadau cywir o’r gwaith maen nhw’n gwneud.

Funnel - CYM

Amlinellodd y cwrs tri cham i drilio i lawr:

  1. Casglu amrywiaeth eang o wybodaeth: Rhaid ein bod ni’n agored i ystod eang o safbwyntiau – mae angen i ni ddechrau o dudalen wag o bapur.
  2. Holwch a gwirio: Ffocysu ar yr ymatebion a’r casgliadau ni’n tynnu ohonynt er mwyn eu gwirio nhw a sicrhau ein bod ni’n deall y pwyntiau sy’n cael eu gwneud.
  3. Blaenoriaethu, neu ddod i gasgliad: Mae gennym gasgliad gwybodus o ymatebion.

Mae hyn yn cyd-fynd â’r disgrifiad o’r twndis a roddwyd inni – ein bod ni’n agored ar y dechrau, ac yna trwy fireinio’r wybodaeth rydym gyda gwybodaeth benodol ar ddiwedd y broses.

Mae hyn i gyd yn swnio’n amlwg, ond ar ôl dau ddiwrnod cyntaf y cwrs rwy’n teimlo’n llawer mwy parod i wneud hyn, yn enwedig achos defnyddiom dechnegau cyfranogol yn ystod y cwrs i alluogi ni roi hyn ar waith. Mae dull fel ‘Snot Man’ (fy ffefryn personol a gafodd ei ddyfeisio gan Vicky Butler, lle y byddwn yn gofyn beth sy’n ‘snot fair’, gydag ymatebion ar nodiadau post-it lliw snot – neis!) yn gallu cael eu defnyddio i gael adborth, a gellir defnyddio dulliau graddio neu gontinwwm gwerthoedd (lle mae pobl yn trefnu eu hunain mewn llinell, gyda’r ddau ben yn cynrychioli’r ddau begwn barn) i flaenoriaethu ymatebion.

Snot Man

Fe wnaeth fy nghydweithiwr Sarah Ball mynychu’r cwrs hefyd, ac mae hi’n mynd i flogio’r wythnos nesaf am beth ddysgodd hi o’r cwrs. Rwy’n edrych ymlaen at glywed beth wnaeth hi ddysgu o’r cwrs!

– Dyfrig

Geiriau Sarah Jones ar ei diwrnod olaf fel Swyddog Cyfranogaeth Cymru

Mae’n ddrwg gen i adael fy swydd i fel Swyddog Cyfranogaeth Cymru ar ôl 3.5 mlynedd.

Sarah Jones

Rydw i  siŵr o fod wedi cwrdd â chi wrth hyfforddi neu hwyluso dros y blynyddoedd diwethaf (ac os byddaf yn anghofio eich enw maddewch i mi, ni wedi gweithio gyda channoedd o ymarferwyr ac aelodau o’r cyhoedd ledled Cymru). Yn ystod y cyfnod hwnnw mae ein tîm bychan o 4, yn ogystal â’n rhwydwaith o hyfforddwyr cyswllt, wedi gweithio’n galed i gefnogi ymgysylltiad â’r cyhoedd yng Nghymru. Ni wedi gweld sawl person yn mynd a dod, ac fe wnes i fy hun gadael am 9 mis i gael fy mab (ac wedyn dod yn ôl eto).

I mi, fe wnaeth yr un materion codi tro ar ôl tro, doedd dim ots pwy roedden ni’n gweithio gyda:

  1. Does ganddo’ch dim byd i ofni o ymgysylltu – nid yn bersonol nac fel sefydliadau. Y noson cyn i mi ymgysylltu â’r cyhoedd roeddwn i’n wir yn poeni: A fydd pobl yn ddig? Beth os maen nhw’n gofyn cwestiynau anodd i mi? Beth os dydw i ddim yn gofyn y cwestiynau cywir yn ystod y sesiwn? Mae ymarferwyr yn aml yn dweud wrthym eu bod nhw’n teimlo’r un fath. Y realiti (bob amser) yw bod pobl yn wir eisiau siarad am eu profiadau ac maen nhw’n ddiolchgar am y cyfle. Mae pobl yn ddig o bryd i bryd, a dydyn ni ddim yn gallu ateb eu cwestiynau bob amser. Ond ni’n gallu gwrando. Ac felly gallwch chi. Wrth wraidd y jargon ymgysylltu, polisi a theori – dim ond siarad â phobl yw e!
  2. Ni gyd yn ddinasyddion. Er bod chi’n ymarferydd sy’n gweithio ym maes ymgysylltu â’r cyhoedd, rydych chi hefyd yn ddinesydd ac mae ganddo’ch chi rôl wrth annog newid diwylliannol i gael mudiadau i ymgysylltu mwy. Gall pob un ohonom yn ein ffordd ein hunain rhoi adborth i fudiadau ar eu gwasanaethau a helpu nhw ar eu taith i ymgysylltu â’r cyhoedd i wneud yn siwr ei fod yn rhan annatod o’r hyn mae mudiadau yn gwneud. Mae gan bawb cyfrifoldeb i ddweud wrth fudiadau ni’n ymgysylltu â sut gallant wneud yn well gennym ni. Y dyddiau yma rwy’n ateb yr holl arolygon a cheisiadau am adborth sydd yn ffeindio’i ffordd i fy mewnflwch, neu ar fat fy nrws blaen, gan gynnwys sgriblo nodyn sydyn ar y cerdyn sylwadau sy’n dod gyda fy nghoffi.
  3. Mae’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yn ddogfen ddefnyddiol iawn ac rydw i’n cyfeirio yn ôl ato dro ar ôl tro. Gellir eu defnyddio nhw mewn nifer wahanol o feysydd gwaith yn gyffredinol, dim jyst i ymgysylltu. Maen nhw’n egwyddorion am weithio’n effeithiol. Mae copi ohonynt wedi bod yn sownd i’r wal wrth ymyl fy nesg i ers i ni argraffu nhw. Os bu’n rhaid i mi ddewis fy hoff egwyddor rwy’n meddwl byddai’n dewis rhif 9: Adborth. Ni gyd yn dioddef yr effeithiau o geisio ymgysylltu gyda phobl ar ôl iddynt gael profiad gwael o’r blaen gan fod nhw heb dderbyn adborth. Dwedwch wrth bobl beth sy’n digwydd os gwelwch yn dda- hyd yn oed (ac yn enwedig!) os yw’n newyddion drwg neu does dim newyddion o gwbl. Ni gyd yn gwybod pa mor rhwystredig / annifyr yw hi i beidio clywed unrhyw beth o gwbl. Mae hyn mor bwysig gan ei fod yn cau’r cylch ac yn paratoi’r ffordd ar gyfer ymgysylltu parhaus a sgwrsio yn y dyfodol. A dyma beth sy’n gweithio yng ngwirionedd – dim gwneud ychydig pob nawr ac yn  y man.

Fy ngobaith i yw bydd ymgysylltu â’r cyhoedd yng Nghymru (ac rwy’n teimlo y gallaf ddweud hyn gan fy mod i’n gadael) yn cael r adnoddau a chefnogaeth ar lefel genedlaethol i gael ei wneud mor effeithiol â ni’n dweud y dylai fod.

Rwy’n gadael i ddod o hyd i rôl sy’n ffitio’n well gyda fy mywyd cartref. Dydw i ddim yn siwr lle bydd y daith yn mynd â fi ar hyn o bryd, ond rwyn gobeithio parhau i weithio mewn meysydd cysylltiedig ac mae’n debyg fe wnâi eich gweld chi eto ar ryw adeg. Dewch i ddweud helo i mi ar LinkedIn.

Gwelai chi cyn bo hir, Sarah