Monthly Archives: Tachwedd 2012

Arolwg o’r modd mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn defnyddio’r we a chyfryngau cymdeithasol yn 2012

Rwy’n tybio bod rhan fwyaf ohonoch chi heb clywed am Weithgor Ymgysylltu â’r Cyhoedd, ac mae hynny’n iawn – dyna un o’r rhesymau wnaethon ni dechrau’r blog ‘ma, gan nad oedd llawer o waith Cyfranogaeth Cymru yn ffitio i mewn i hen brosesau gwybodaeth ni.

Mae’r grŵp yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Cyfranogaeth Cymru, NLIAH, Conffederasiwn GIG Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Ysgol Fusnes Caerdydd. Cafodd ei roi at ei gilydd i sicrhau bod pob sefydliad yn edrych i ymgysylltu â’r cyhoedd yn yr un ffordd, a bod ni ddim yn dyblygu gwaith a’n bod ni’n cydweithio pryd bynnag mae hynny’n bosib.

Dyna pam lansiwyd arolwg o’r modd mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn defnyddio’r we a chyfryngau cymdeithasol ym mis Medi, fel y gallem gael darlun gwell o beth mae sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus Cymru yn ei wneud, i weld beth allwn wneud yn well, ac i edrych ar sut gallem rannu gwaith cyffrous yn well.

Mae’r canlyniadau i mewn! A gallwch eu lawrlwytho yma.

Ni’n rhoi’r adroddiad at ei gilydd nawr, ac rydym yn gobeithio bydd e ar gael erbyn diwedd y flwyddyn. Fi ‘di cael y dasg o roi’r adrannau ar gyfryngau cymdeithasol drwy’r Gymraeg a sut mae cyfryngau cymdeithasol yn cael ei werthuso at ei gilydd.

Er nad yw’r adroddiad ar gael eto, mae llawer o arfer da ar y we i chi edrych arno’n barod! Mae Rhodri Ap Dyfrig wedi anfon i mi rai adnoddau defnyddiol iawn o amgylch cyfryngau cymdeithasol Cymreig. Fe wnaeth e gyflwyniad grêt ar gyfryngau cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg mewn digwyddiad Llywodraeth Cymru wnes i fynychu ym mis Mehefin. Gallwch ddarllen y cyflwyniad yma, neu gwyliwch y fideo uchod. Mae llawer mwy o wybodaeth o’r digwyddiad ar gael yma.

Mae Esther Barrett o RSC wedi bod yn help mawr wrth edrych ar hyder siaradwyr Cymraeg. Mae thesis gwych hi ‘Somewhere along the line’ yn werth ei ddarllen i ddeall yn well pa mor bwysig yw hi ein bod ni’n darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Rydym wedi bod yn eithaf amserol o ran gwerthuso – mae Tîm Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU wedi ysgrifennu blog diddorol iawn ar hyn. Mae blog Helen Reynolds hefyd wedi bod yn ysbrydoliaeth o ran gwerthuso – gallwch ddarllen mwy yma ac yma.

Rydym yn edrych ymlaen at rannu’r adroddiad terfynol gyda chi!

– Dyfrig

Adeiladu ymgysylltiad ar-lein gyda WordPress

Ddoe, mynychais ddigwyddiad defnyddiol iawn a gafodd ei gynnal gan Ddefnyddwyr WordPress Cymru a Chynghrair Meddalwedd Cymru ar Adeiladu Ymgysylltiad Ar-lein Gyda WordPress. Edrychwch ar yr adborth!

Fel prosiect, rydym yn gymharol newydd i flogio, felly roedd yn wych i glywed syniadau sy’n cadarnhau beth ni’n wneud (“defnyddiwch lais anffurfiol”) ac i ddysgu mwy am sut y gallwn blogio’n effeithiol (“rhoi eich erthyglau blog yn eich cylchlythyr, defnydd cymaint o’r cynnwys â phosibl”).

Fe wnaeth Phillipa Davies, Joel Hughes a Helen Reynolds cynnig awgrymiadau craff am sut i flogio’n effeithiol a sut i ddefnyddio WordPress yn arbennig.

Rydw i wedi defnyddio Storify i gasglu trydar o’r digwyddiad er mwyn i chi gael blas o sut wnaeth digwyddiad rhedeg.

Mae’r cyflwyniadau i gyd ar gael ar flog Defnyddwyr WordPress Cymru. Mae Joel wedi ysgrifennu erthygl dilynol ar ei flog ef hefyd.

– Dyfrig

DIWEDDARIAD  – Mae Helen Reynolds wedi ysgrifennu erthygl grêt ar ei flog hi ers y digwyddiad. Gallwch ffeindio’r blog yma.

Zuzana Mrazkova

Mae Zuzana Mrazkova wedi bod yn gweithio i Gyfranogaeth Cymru ers mis Ionawr 2010, ond mae hi newydd weithio ei ddiwrnod olaf fel aelod o’n tîm drwy helpu i hwyluso Panel Dinasyddion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Ngogledd Cymru. Mae Zuzana a fi (Dyfrig Williams, Ymgynghorydd Cyfranogaeth Cymru) yn awr ar drên o Landudno, ac rydw i wedi penderfynu bod cyfweld Zuzana yn ddefnydd da o’n hamser. Rwy’n trio perswadio hi i adael i mi recordio hwn, ond dyw hi ddim yn fodlon i mi (sylwch fy mod i’n hymgysylltu ar ei thermau hi yn hytrach na rhai fi, ac rwy’n gobeithio bod hwn yn darllen yn well oherwydd hynny!).

Fe wnaeth Zuzana ymuno â’r tîm fel Gweinyddwr ym mis Ionawr 2010, cyn dechrau ei swydd bresennol fel Ymgynghorydd ym mis Hydref 2011. Roedd ei rôl yn cynnwys cefnogi sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus yn eu gwaith ymgysylltu, gyda’r prif ffocws ar weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r Byrddau Gwasanaethau Lleol. Yn aml fe fyddai Zuzana yn cynnal grwpiau ffocws o fewn sefydliadau a chyda’u rhanddeiliaid er mwyn nodi eu blaenoriaethau, ac y byddai’n ysgrifennu adroddiadau i amlinellu ffyrdd ymlaen ar eu cyfer. Roedd hyn yn cynnwys adroddiad ar waith fe wnaeth Cyfranogaeth Cymru gwneud ar gyfer Llywodraeth Cymru ar weithdrefn cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol, lle wnaethom gynnal grwpiau ffocws gyda grwpiau sy’n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol i gasglu eu barn. Gallwch ddod o hyd i’r adroddiad terfynol gan Lywodraeth Cymru yma.

O’r fan yma ymlaen y geiriau i gyd yw rhai Zuzana. Mwynhewch!

“Rydw i wedi mwynhau gweithio ar gyfer Cyfranogaeth Cymru. Fe wnes i weithio mewn tîm grêt gyda phobl sydd wedi ymrwymo’n llawn i’r hyn maent yn ei wneud. Mae pawb yn gweithio’n frwd i sicrhau ymgysylltiad gwell mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae Cyfranogaeth Cymru wedi bod yn dîm bychan o bump (bellach pedwar), ond rydym wedi cyflawni lot achos mae pawb wedi ei ymrwymo’n llawn i’r hyn a wnawn.

“Mae Mandy (Williams) wedi bod yn Rheolwr gwych. Mae’n deall pobl yn dda, ac mae hi wedi rhoi rhyddid i bob aelod o’r tîm i wneud eu gwaith yn y ffordd y maen nhw’n meddwl orau. Roeddwn i’n teimlo fy mod i’n derbyn cefnogaeth fel aelod staff ac fel person. Mae hi’n berson gwirioneddol hyfryd, sy’n gymhelliant go iawn achos dydw i ddim eisiau siomi hi! Mae hyn wedi gwneud yn siŵr fy mod i’n hymdrechu i wneud y gwaith gorau y gallaf.

“Os byddai fi wedi aros yng Nghymru am flwyddyn arall neu ddwy byddwn wedi hoffi dysgu Cymraeg. Prague yw fy nhref enedigol, ond Caerdydd yw ail gartref fi nawr, ac rwy’n teimlo’n hynod o lwcus i gael gwlad fel Cymru yn ail gartref.

“Rydw i wedi rhoi fy nghyfeiriad e-bost personol i ar restr bostio Cyfranogaeth Cymru (Dydw i ddim yn gallu colli cyfle i awgrymu eich bod yn gwneud yr un peth, cysylltwch â ni! – Dyfrig) gan fy mod i eisiau parhau i glywed am y gwaith mae’r prosiect yn gwneud – dyna ymroddiad i chi!

“Fy ngobaith i yw bod ymgysylltiad cyhoeddus yn dod yn rhan annatod o strategaethau mudiadau. Byddai hyn yn arwain at wasanaethau sy’n diwallu anghenion pobl. Mae rhaid i hwn cael ei roi ar waith o’r gwaelod i fyny ac o’r brig i lawr. Mae ymgysylltu â staff yn hanfodol – os nad ydych chi’n ymgysylltu â’ch staff, dydych chi ddim yn gallu cael eu hymrwymiad.

“Er byddaf yn byw mewn gwlad wahanol, rydw i wedi cwrdd â llawer o ffrindiau drwy fy ngwaith, ac rwy’n gwybod y byddaf yn aros mewn cysylltiad â’r bobl yr wyf wedi cwrdd.

“Rwy’n teimlo’n freintiedig fy mod i wedi gweithio ar y prosiect hwn gan fy mod i’n credu ein bod ni’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl”.

Pecyn Cymorth Gwerthuso gan Gyfranogaeth Cymru

Mae gwerthuso cyfranogaeth yn hollbwysig er mwyn sicrhau ein bod ni’n dysgu gwersi ar sut rydym yn ymgysylltu gyda’r cyhoedd a sut gallwn wneud e’n well yn y dyfodol. Mae’n rhywbeth mae pobl yn ofyn ni amdano’n aml, gan fod pawb eisiau gwybod sut gallan nhw dangos gwerth ymgysylltiad cyhoeddus.

Yn rhy aml mae gwerthuso yn rhywbeth sy’n cael ei adio arno i ddiwedd darn o waith cyfranogol. Gall y llawlyfr yma eich helpu chi i sicrhau eich bod chi’n gwerthuso’ch gwaith yn effeithiol a bod chi’n cynnwys defnyddwyr gwasanaethau o’r dechrau o unrhyw waith cyfranogol rydych chi’n gwneud.

Mae’r pecyn cymorth yn disgrifio proses gyfranogol pedwar cam i werthuso gweithgareddau ymgysylltu o’u cymharu â’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd. Y gobaith yw bod y pecyn yn hyblyg i’w ddefnyddio ac mae croeso i chi ei addasu i weddu i’ch amgylchiadau chi.

Hoffwn ni ddiolch Alain Thomas Consultancy Cyf, gan ddatblygon ni’r pecyn ar y cyd gyda nhw. Hoffwn ni hefyd diolch i’r holl ymarferwyr hynny a gynorthwyasom ni i brofi’r pecyn drwy weithdai amrywiol ac yn enwedig Comisiwn Coedwigaeth Cymru a roddodd brawf ar y gweithdy gwerthuso.

Rydyn ni’n gobeithio bod y pecyn yn ddefnyddiol, dwedwch wrthym beth rydych chi’n meddwl!

– Dyfrig

Dw i’n Cyfri, Rydyn ni’n Cyfri

Yr wythnos diwethaf wnaethon ni rhedeg y cyntaf o’r Paneli Dinasyddion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yn Ne Ddwyrain Cymru. Mae dau gyfarfod panel i’w rhedeg y mis yma, un yn y De Orllewin ac un arall yng Ngogledd Cymru, ac fe wnawn ni rhannu mwy o wybodaeth am rôl y panel a beth maen nhw’n gwneud cyn gynted ag y mae’r paneli eraill wedi cwrdd.

Un o’r ymarferion wnaethon ni rhedeg ar gyfer y panel oedd ar ymgyrch Dw i’n Cyfri, Rydyn ni’n Cyfri, sy’n gofyn pa bethau sy’n bwysig i chi yn eich bywyd a beth sy’n helpu chi i wneud y pethau hyn.

Cychwynnwyd yr ymgyrch ar ôl i ddogfen ymgynghori Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) argymell cael ‘canlyniadau cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau gofal cymdeithasol’. Bydd y canlyniadau yma’n nodi’r hyn y dylai gwasanaethau cymorth helpu pobl i gyflawni yn eu bywydau.

Mae’n rhyfeddol sut gall cwestiynau sy’n ymddangos yn hawdd bod yn anodd iawn i’w ateb! Ond pan ofynnon ni’r cwestiynau yma i’n gilydd cyn cyfarfod y panel, roedd yr atebion a roddom iawn yn bwerus iawn.

Roedd fy ateb i ar ba mor bwysig mae’r system drafnidiaeth yng Nghymru. Rwy’n deall nad hwn yw’r ateb mwyaf cyffrous yn y byd, ond mewn gwirionedd mae’n eithaf pwysig i fy lles gan fod y system yn caniatáu i mi fynd i weld fy nheulu, sydd i gyd yn byw yng Nghanolbarth, Gorllewin a Gogledd Cymru. Gallaf ddweud yn onest bod ni wedi cael atebion anhygoel o bobl eraill wrth iddynt amlinellu beth sy’n helpu nhw i wneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw.

Mae’r ymgyrch yn edrych eisiau mudiadau i ledaenu’r neges, a hefyd i addo eu cefnogaeth yma. Bydd yr ymgyrch hefyd yn ffurfio sail Cynhadledd Flynyddol WCVA, sy’n cael ei chynnal ar 29 Tachwedd yng Nghaerdydd. Bydd WCVA yn cymryd yr atebion i’r cwestiynau yma a’u gwneud yn sylfaen ar gyfer eu gwaith gyda Llywodraeth Cymru, er mwyn helpu nhw i ddiffinio’r canlyniadau ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol.

Os yw eich mudiad chi neu bobl chi’n gweithio gydag yn cymryd rhan yn yr ymgyrch, fe fyddai’n grêt os gallech chi ddweud wrtho ni sut mae’n mynd!

– Dyfrig

Arfer Da Cymru

Mae Cyfranogaeth Cymru wedi bod yn bartner mewn Arfer Da Cymru ers 2011. Mae’n gallu fod yn anodd ffeindio enghreifftiau o arfer da, felly mae’n grêt i fod yn rhan o brosiect sy’n dod â ffyrdd arloesol o weithio gan gymaint o fudiadau a sectorau amrywiol yng Nghymru at ei gilydd.

Beth sy’n wych am y cyfarfodydd ni’ mynychu yw bod ni’n siarad am sut y gallwn wella’r ffyrdd ni’n rhannu arfer da, ond hefyd ni’n cael y cyfle i rannu beth sy’n gweithio o fewn ein mudiadau ni ac i glywed oddi wrth bobl eraill am beth sy’n gweithio yn eu gwaith nhw.

Un o’r pynciau siaradom amdano yn ystod y cyfarfod oedd ein defnydd o gyfrif Twitter y prosiect, sef @GPWales. Roedd e’n wych i glywed sut roedd pawb yn meddwl amdano os yw’r dulliau ni’n defnyddio yn addas ar gyfer ein cynulleidfa, yn hytrach na disgwyl i’n cynulleidfa i ddefnyddio’r offer technolegau ni’n defnyddio.

Daeth y pwynt i fyny bod e-bost yn dal i fod yn ffordd hynod o ddefnyddiol o gyfathrebu a’i fod yn ffordd effeithiol iawn o roi cyhoeddusrwydd i arfer da, er ei fod yn hawdd anghofio hyn wrth i ni gyd trafod am ymgysylltu trwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol newydd.

Fel mae Dave Coplin o Microsoft yn dweud yn yr erthygl hon ar y BBC, “Everything has its place and it’s really understanding which is the right tool for the job.”

– Dyfrig