Monthly Archives: Ebrill 2014

Gair bach i gyflwyno ein gweinyddwr newydd: Non Humphries

NonRwy’n Weinyddwr newydd yn Cyfranogaeth Cymru ers pythefnos erbyn hyn, felly mae’n hen bryd i mi ysgrifennu fy narn blog cyntaf i gyflwyno fy hun.Rwy’n dod o Gaerdydd, a graddiais mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Bryste ym mis Gorffennaf 2013, cyn dychwelyd i weithio i Sustrans Cymru fel Derbynnydd Swyddfa.Bûm yn gweithio i Sustrans Cymru am ychydig dros 6 mis cyn ymuno â Cyfranogaeth Cymru.

Mae fy CV hyd yma yn amrywiol a dweud y lleiaf – mae gen i rywfaint o brofiad o lawer o bethau.Mae rhai o fy swyddi blaenorol yn cynnwys hyfforddwr pêl-droed i blant, gweithio fel swyddog codi arian dros y ffôn a ‘Hyrwyddwr Chwaraeon’ yn cynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon fel rhan o gynllun gan Undeb Prifysgol Bryste.Dim ond mewn un swydd arall rwyf erioed wedi gorfod ysgrifennu blog, sef pan oeddwn i’n Hyfforddai Cyfathrebu i’r Sefydliad Trawsnewid Polisïau Cyffuriau. Rhywsut, llwyddais i gael amser i wneud hynny ddau ddiwrnod yr wythnos yn ystod fy mlwyddyn olaf yn y brifysgol. Felly rwy’n ymddiheuro os yw fy niffyg profiad blogio yn amlwg!

Roedd Undeb Ddadlau Bryste yn rhan fawr o fy mywyd yn y brifysgol, ac roeddwn i’n mwynhau trefnu twrnameintiau yn ystod fy nghyfnod yn Gynullydd Allanol, yn ogystal â chynllunio a chyflwyno sesiynau hyfforddi pan oeddwn i’n Gyfarwyddwr Hyfforddiant.Mae’r profiadau a gefais drwy fod yn rhan o Undeb Ddadlau Bryste wedi datblygu fy sgiliau trefnu, ac mae gen i dipyn o brofiad o hyfforddi rhwng y gwaith pêl-droed a’r dadlau (ond nid cymaint â Siobhan, Sarah a Mandy).

Yn ogystal â datblygu fy sgiliau, roedd y ffaith fy mod yn cystadlu’n gyson gydag Undeb Ddadlau Bryste yn rhoi cyfleoedd i mi deithio ledled y DU a thu hwnt i fynd i dwrnameintiau, gan gynnwys i Belgrade unwaith.Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2013, roeddwn i’n Gynullydd Bwrdeistrefi i bedair Bwrdeistref yn Llundain fel rhan o Her Ddadlau Llundain; twrnamaint blynyddol sy’n cael ei drefnu gan yr English-Speaking Union sy’n rhoi cyfle i ddisgyblion o ysgolion uwchradd gwladol ddadlau mewn sefyllfa gystadleuol.

Yn ogystal â rhywfaint o brofiad blaenorol o weithio yn y trydydd sector, rwyf wedi gwirfoddoli i Oxfam a Sefydliad Prydeinig y Galon, ac rwy’n dal i wirfoddoli i Recovery Cymru, mudiad i bobl sy’n ceisio rhoi’r gorau i fod yn gaeth i gyffuriau ac alcohol.Cyn hir byddaf yn hwyluso grŵp ysgrifennu creadigol wythnosol yn Recovery Cymru, ac rwy’n edrych ymlaen at hynny.

Mae fy mhythefnos cyntaf wedi hedfan heibio, ac rwyf wedi mwynhau ymgolli cymaint â phosib yn fy rôl newydd.Rwyf wedi cael croeso cynnes gan y tîm, ac rwy’n siŵr y bydda i wir yn mwynhau gweithio gyda nhw.Maen nhw wedi rhoi llawer o wybodaeth i mi hyd yma, ac wedi bod yn amyneddgar iawn gyda fy nghwestiynau!Gan fod pawb wedi bod mor groesawgar, rwy’n teimlo fy mod i wedi bod yn rhan o Cyfranogaeth Cymru ers mwy na phythefnos, ond rwy’n sicr yn dal i ddysgu hyd a lled y rôl yn ogystal â goblygiadau’r modelau cyfranogaeth lu!

–          Non