Gemeiddio yng ngŵyl Newid Ymddygiad Bangor

Cynhaliwyd Rhwydwaith Cyfranogi diweddaraf y Gogledd o fewn digwyddiad ehangach – yr Ŵyl Newid Ymddygiad yng nghanolfan Pontio, Prifysgol Bangor ac fe’i trefnwyd ar y cyd â Swyddfa Archwilio Cymru ac Arfer Da Cymru.

Roedd yr Ŵyl Newid Ymddygiad wedi’i hanelu at bobl â diddordeb mewn newid neu arloesi cymdeithasol yn y rolau canlynol ym meysydd gofal iechyd, addysg, llywodraeth leol a chenedlaethol a’r sector gwirfoddol:

  • Staff sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus
  • Llunwyr Polisïau
  • Aelodau Etholedig
  • Y Rhai sy’n Gwneud Penderfyniadau Strategol
  • Defnyddwyr Gwasanaethau sydd â diddordeb mewn gwasanaethau cyhoeddus gwell

Rhan fawr o’r ŵyl oedd yr agwedd gemeiddio ar bob diwrnod. Os gwelsoch ein cylchlythyr diweddaraf, dyma oedd ‘Dull y Mis’. Beth am i ni edrych yn fanylach ar y ffordd mae’n gweithio:

Roedd gan bob cyfranogwr dri ‘cherdyn gêm’ yn y pecyn a roddwyd i bawb wrth gyrraedd. Roedd pob cerdyn naill ai’n cynrychioli ‘hawdd’, ‘canolig’ neu ‘anodd’ ac arnynt roedd rhestr o heriau i’w cwblhau drwy gydol y dydd. Wrth gwblhau her, rydych yn cael stamp ar eich cerdyn gêm ac mae cerdyn sydd wedi’i gwblhau’n llawn yn ennill gwobr fechan.

Rwy’n hoffi her, felly es i yn syth am y cerdyn ‘anodd’ a gweld beth oedd angen i mi ei wneud i ennill gwobr:

  1. Cerdded 6000 o gamau
  2. Archebu pryd o fwyd iach o fwyty o fewn y ganolfan
  3. Cydnabod 3 pheth da a ddigwyddodd heddiw
  4. Ymuno â grŵp arall
  5. Mynd i bob digwyddiad mewn un diwrnod

Doedd hi ddim mor syml â gofyn am stamp, roedd angen i chi ddarparu tystiolaeth…

StepCounterAppDefnyddiais ap cyfrif camau ar fy ffôn i gofnodi faint roeddwn yn ei gerdded (roeddwn eisoes wedi cerdded i’r ganolfan felly roeddwn dros hanner ffordd at y targed cyn i’r digwyddiad ddechrau), roedd teclynnau cyfrif camau ar gael hefyd.

Amser cinio, tynnais lun o’r dderbynneb a’r pryd o fwyd a chefais fy ngwobrwyo â stamp am ‘archebu pryd o fwyd iach’. WelshHealthMenu

 

Roeddwn hefyd wedi bwriadu defnyddio lluniau i brofi fy mod wedi cydnabod pethau positif a ddigwyddodd – roedd yr haul yn gwenu, roedd presenoldeb da iawn yn ein digwyddiad rhwydweithio a chawsom drafodaeth ragorol – yn anffodus, ni lwyddais i gael y stamp am yr her hon; roeddwn yn brysur yn hwyluso’r digwyddiad rhwydweithio a dim ond un llun y cefais gyfle i’w dynnu felly oherwydd diffyg tystiolaeth ni chefais stamp!

Er mwyn ymuno â grŵp arall, roedd yna fandiau llewys o wahanol liwiau yn y pecyn a roddwyd i ni wrth gyrraedd – 4 lliw gwahanol i gyd. Roedd modd profi hyn drwy dynnu llun o’r bandiau llewys o wahanol liwiau.

Wristbands

I brofi’ch bod wedi bod i bob digwyddiad mewn un diwrnod, ar ôl gadael sesiwn roedd modd i’r cyfranogwyr a oedd yn chwarae’r gêm gael stamp ar eu cerdyn.

Er na lwyddais i gael pob stamp er mwyn ennill gwobr, roedd y gweithgaredd hwn yn ffordd hwyl iawn o gyfranogi ar ben y sesiynau diddorol a oedd ymlaen fel rhan o’r ŵyl.

Rhag ofn eich bod yn chwilfrydig, dyma’r tasgau ar y cardiau ‘hawdd’ a ‘chanolig’:

GameCards

Gwneud y gêm hon yn rhan o’ch bywyd bob dydd

Mae’r dechneg hon yn cynnig ffordd o’ch ysgogi’ch hun os ydych yn ei defnyddio yn eich bywyd bob dydd. Mae yna wefan ac ap symudol rwyf wedi’i ddarganfod o’r enw Habitica sy’n troi’ch bywyd yn gêm chwarae rôl (RPG – role-playing-game). Rydych yn gosod eich tasgau a’ch amcanion eich hun, yn dewis pa mor anodd ydynt ac wrth i chi eu cwblhau mae’ch cymeriad yn cael ei wobrwyo! Ond gofalwch, os nad ydych yn cwblhau’ch tasgau, fe fydd hyn yn niweidio iechyd eich cymeriad a rhaid i chi weithio’n galetach i’w adfer.

Cymwynas ar hap

Yn ogystal â’r cardiau gêm, roedd yna wybodaeth yn ein pecynnau ynglŷn â ‘chymwynas ar hap’ …ac ambell i sticer. Awgrymodd y daflen wybodaeth y cymwynasau ar hap canlynol:

  • Gadael llyfr ail-law mewn caffi
  • Dweud wrth rywun sut mae ef/hi wedi effeithio ar eich bywyd
  • Prynu diod i bwy bynnag sydd tu ôl i chi yn y ciw
  • Cuddio anrheg fechan i ddieithryn ei darganfod
  • Canmol rhywun
  • Rhoi nodyn rydych wedi’i ysgrifennu â llaw i ffrind

Y gêm oedd defnyddio’r sticeri a ddarparwyd i nodi’ch cymwynasau ar hap. Nod y gêm hon yw creu profiad positif i bawb. Mae wedi’i ddangos bod cymwynas fechan, syml ar hap, yn aml i ddieithriaid, yn cynyddu teimladau o hapusrwydd yn fawr yn yr un sy’n ei gwneud hi a’r un sy’n ei derbyn. Yn ogystal, mae myfyrio’n ymwybodol ynghylch cymwynasau o’r fath yn cael ei gysylltu â lleihad mewn emosiynau negyddol a chredir ei fod yn hwb tuag at fod ag agwedd optimistaidd.

Mae ymchwil wedi dangos y gall cymwynasau ar hap fod yn ffordd effeithiol o hybu’ch llesiant cymdeithasol ac emosiynol, sydd â chysylltiad pellach â sgiliau mewn perthynas, gwneud penderfyniadau cyfrifol, hunanbarch a hunanymwybyddiaeth.

Ydych chi wedi defnyddio unrhyw weithgareddau gemeiddio gyda defnyddwyr gwasanaethau, neu a ydych wedi defnyddio ap gemeiddio i gyrraedd nod i newid eich ymddygiad personol? A allai cymwynasau ar hap fod yn fuddiol i chi? Rhowch wybod drwy adael sylw isod ac ymuno yn ein trafodaeth.

   – Sarah

 

3 responses to “Gemeiddio yng ngŵyl Newid Ymddygiad Bangor

  1. Ydi hyn o ddifrif? Mae’r byd wedi mynd o’i go’!

  2. Yn enw pob rheswm, faint o arian sy wedi ei wario ar y rwtshi-ratsch honco bost hollol wirion yma?

  3. Hysbysiad Cyfeirio: RHP: Gwasanaeth gwych, cyflogwr gwych | Good Practice Exchange at The Wales Audit Office

Gadael sylw