Er fy mod i’n siaradwr Cymraeg rhugl, mae fy hyder wrth ei ddefnyddio yn y gwaith yn amrywio ac yn dibynnu ar y sefyllfa. Rydw i wedi bod yn ymateb i ymgynghoriadau ar ran Cyfranogaeth Cymru am tua dwy flynedd, ond dim ond yn y mis diwethaf ymatebais yn y Gymraeg am y tro cyntaf. Rwy’n siarad Cymraeg bob dydd, ond dydw i ddim yn dod ar draws yr iaith sy’n cael ei ddefnyddio mewn ymgynghoriadau o ddydd i ddydd.
Pan gefais wahoddiad i wneud cyflwyniad yn symposiwm Tu Hwnt i’r Bwlch Comms Cymru ar yr iaith Gymraeg a chyfryngau cymdeithasol, roeddwn i’n awyddus ar unwaith – rydw i wedi mwynhau defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel rhan o fy rôl i. Maen nhw wedi helpu torri lawr ffiniau confensiynol gwasanaeth gwybodaeth, gan mai dim ond darlledu gwybodaeth wnaeth mudiadau yn y dyddiau a fu. Mae cyfryngau cymdeithasol wedi fy ngalluogi i rannu syniadau, dysgu oddi wrth eraill a rhwydweithio gyda mudiadau ledled y byd.
Fel siaradwr Cymraeg, rydw i’n awyddus i gael y cyfle i fyw fy mywyd trwy gyfrwng y Gymraeg ble bynnag mae’n bosib. Er mwyn galluogi hyn i ddigwydd, mae rhaid fy mod i’n cael y cyfle i ymgysylltu yn iaith fy newis i. Rwy’n ffodus fy mod i’n byw yng Nghaerdydd, ble mae gan Gyngor Caerdydd cyfrif Twitter Cymreig ardderchog, sy’n fy ngalluogi i wneud hynny.
Yn anffodus, dyw pawb yng Nghymru ddim yn cael yr un cyfle. O’r 257 o bobl a gwblhaodd Arolwg Cymru gyfan ar ddefnydd y rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol gan wasanaethau cyhoeddus, dim ond traean (33%) o’r ymatebwyr dywedodd bod ganddynt ffrydiau cyfryngau cymdeithasol Cymraeg neu ddwyieithog, tra bod 28% yn ansicr a doedd dim gan 39%.
Yn ddiddorol, roedd teimladau cymysg yn yr arolwg ac yn y digwyddiad am gael un ffrwd ddwyieithog neu ffrydiau ar wahân ar gyfer y Gymraeg a Saesneg. Roedd rhai’n teimlo bod un ffrwd yn normaleiddio’r defnydd o Gymraeg, tra bod eraill yn teimlo roedden nhw’n hoffi cael yr opsiwn o ddilyn ffrwd o’u dewis fel bod nhw’n gallu ymgysylltu yn yr iaith roedden nhw’n dewis.
Mae canlyniadau’r arolwg wedi dangos bod pobl yn meddwl mai un o’r rhwystrau mwyaf cyffredin yw does dim digon o staff sy’n siarad Cymraeg gan fudiadau er mwyn cynnal gwasanaeth effeithiol. Roedd pobl yn meddwl bod ymateb cyflym yn hollbwysig wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.
Roedd ymatebwyr hefyd yn teimlo bod e’n anodd cael pobl i ymgysylltu yn y Gymraeg, ac roedd e’n anodd gwneud achos busnes ar gyfer buddsoddiad ychwanegol pan mae defnydd yn isel. Fodd bynnag, dywedodd rhai ymatebwyr eu bod nhw’n teimlo bod llai o siaradwyr Cymraeg yn ymgysylltu trwy gyfryngau cymdeithasol achos doedd cynnwys Cymreig ddim wedi ei ysgrifennu mewn ffordd byddan nhw’n siarad, a bod negeseuon yng nghyfieithiad uniongyrchol o neges Saesneg fel arfer.
Ar hyn o bryd rwy’n ail-ysgrifennu fy argymhellion ar gyfer yr adroddiad yn dilyn penderfyniad y Gweinidog ar Safonau Iaith Gymraeg, ond mae fy argymhellion drafft yn cynnwys bod y defnydd o gyfryngau cymdeithasol trwy’r Gymraeg yn cael ei brif ffrydio i mewn i waith cyfathrebu mudiadau, yn hytrach na bod yn ychwanegiad. Hefyd rydym yn argymell bod gwaith ymgysylltu yn bodloni egwyddor 5 o’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru, sef ‘Ni fydd unrhyw jargon yn rhan o’r wybodaeth a ddarperir a bydd yn briodol ac yn hawdd i’w deall’. Mae’r nodiadau cyfarwyddyd yn dweud dylai ‘sicrhau bod y wybodaeth ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg, yn ogystal â mewn ieithoedd ethnig lleiafrifol eraill’. Mae’n hanfodol ein bod ni’n ymgysylltu mewn ffyrdd mae pobl eisiau ymgysylltu trwyddo, a hefyd ein bod ni’n ymgysylltu ar delerau bobl gan ddefnyddio iaith glir gall pawb deall. Mae cyfryngau cymdeithasol yn ffordd ddelfrydol i wneud hyn, gan fod ei natur anffurfiol yn golygu y gallwn ddefnyddio iaith glir i gyfathrebu’n well â phobl, beth bynnag yw eu dewis iaith.
– Dyfrig