Tag Archives: cyfathrebu

Mae cyfranogi yn allweddol i herio gwahaniaethu

Yn Rhwydwaith Cyfranogaeth Cymru Gyfan eleni, gosododd Joe Powell y safon gydag araith agoriadol bwerus ynglŷn â phwysigrwydd cyfranogi’n llawn yng nghymdeithas i bobl ag anableddau dysgu. Canfuwyd bod gan Joe Syndrom Asperger yn 1996 ac mae ef wedi treulio 11 mlynedd mewn gofal cymdeithasol. Ef bellach yw Cyfarwyddwr Cenedlaethol Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan; grŵp sy’n uno lleisiau grwpiau hunaneirioli yng Nghymru. Tynnodd Joe ar ei brofiad uniongyrchol o frwydro i adael system a oedd yn benderfynol o’i ystyried yn ddefnyddiwr gwasanaeth, rhywun sydd angen cymorth, ac nid rhywun sydd hefyd â llawer i’w gynnig i’w gymuned.

Dechreuodd Joe ei araith drwy amlinellu’r ‘Model bywyd da’; gwerthoedd sy’n bwysig i’r bobl ag anableddau dysgu y mae Joe wedi siarad â nhw. Ymysg y gwerthoedd hyn roedd ‘perthnasau llawn cariad a gofal’, y dewis sy’n deillio o fod â rhywfaint o gyfoeth (mae hyn hefyd yn cynnwys rheolaeth dros eich asedau ariannol eich hun), ‘lle i gyfrannu yn y Byd’ a ‘fy nghartref fy hun’. Y peth cyntaf i’m taro oedd pa mor debyg ydynt i’r hyn y mae ar rywun sydd heb anabledd dysgu ei eisiau o’i fywyd – ymddangosai’r gwerthoedd yn gyffredin i bawb, nid yn benodol i anableddau dysgu. Yn fy nhyb i, wrth wraidd yr holl werthoedd oedd cydbwysedd rhwng diogelwch personol ar y naill law ac, ar y llall, ymdeimlad o allu cymryd rheolaeth dros eich bywyd eich hun ac, ar ben hynny, gyfrannu rhywbeth at fywydau pobl eraill. Onid dyma sydd ar bawb ei eisiau o’u bywydau?

Joe Powell

Mae gan lawer o bobl ag anableddau dysgu nam ar eu golwg hefyd ac ni ddysgwyd rhai o’r bobl hyn i ddarllen yn yr ysgol. Gall pethau syml megis cynnig gwybodaeth hawdd ei darllen a fformat sain ei gwneud yn bosib i bobl ag anableddau dysgu gael at wybodaeth heb orfod dibynnu ar ffrind neu ofalwr i’w darllen iddyn nhw. Mae hyn yn galluogi pobl i gadw ymdeimlad o annibyniaeth ac urddas, yn hytrach na chael eu sefydliadoli, yn enwedig pan fo’r wybodaeth dan sylw o natur breifat.

O ystyried bod yr hyn y mae ar bobl ag anableddau dysgu ei eisiau mor debyg i’r hyn y mae’r boblogaeth ehangach yn anelu ato, gellid maddau i rywun am gredu bod y dymuniadau hyn yn cael eu bodloni â chroeso mewn gofal ar gyfer anableddau dysgu a bod cymdeithas yn dangos empathi â nhw. Serch hynny, eglurodd Joe mai’r gwirionedd yw bod pobl ag anableddau dysgu i bob pwrpas yn ‘ymddeol yn ddeunaw oed’; prin mewn cyflogaeth ac yn aml yn cael eu cau allan o wirfoddoli. Ymddengys mai’r meddylfryd y tu cefn i’r fath ymyleiddio yw bod unrhyw un sydd ag anabledd dysgu yn ‘ddefnyddiwr gwasanaeth’ ac felly angen cymorth. Tra mae llawer o bobl ag anableddau dysgu yn wir yn ddefnyddwyr gwasanaethau, nid yw hyn yn golygu eu bod heb y gallu a’r awydd i roi cymorth yn eu cymunedau a chyfrannu’n ystyrlon nid yn unig at eu bywydau eu hunain, ond bywydau eraill hefyd.

History of people learning disabilities

Mae’r cyfyngiad hwn ar gyfranogi nid yn unig yn golled enfawr o ran cyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth posib ond hefyd yn gwbl groes i egwyddorion Strategaeth Gymru Gyfan 1983. Mae’r strategaeth yn pennu bod gan bobl ag anableddau dysgu yr hawl i ddewis eu patrymau bywyd eu hunain o fewn eu cymunedau a chael mynediad at wasanaethau proffesiynol pan fo cymorth ychwanegol yn angenrheidiol er mwyn iddynt gyflawni hyn.

Mae’r mwyafrif o bobl ag anableddau dysgu yn dymuno gweithio a gwirfoddoli, meddai Joe, ac mae angen i ni ymdrechu’n fwy i ddiwallu eu hanghenion er mwyn iddynt wneud hyn. Mae rhagfarn yn deillio o anwybodaeth a phan fo pobl ag anableddau dysgu i’w gweld mewn rolau defnyddiol, fe fydd hyn yn ei gwneud yn anos eu stereoteipio fel baich ac yn rhoi hygrededd i’w lleisiau.

Cyn gwahodd cwestiynau o’r llawr, gorffennodd Joe ei araith drwy ddweud bod yn rhaid i gyfranogaeth ar gyfer pobl ag anableddau dysgu fod yn realistig a byth yn docenistaidd. Rhaid i ni ei gwneud yn bosib i bobl ag anableddau dysgu gael mynediad at y gweithlu gan wneud addasiadau rhesymol os oes angen dim ond pan allant gyflawni’r rôl honno.

Os hoffech glywed mwy gan Joe Powell, cadwch olwg ar Joe’s Soapbox.

Mae ‘Storify’ y diwrnod, gan gynnwys cyflwyniad Joe, adnoddau eraill o’r rhwydwaith a chyfraniadau cyfranogwyr drwy’r cyfryngau cymdeithasol, ar gael yma.

 – Non

Siarad ar y radio am y tro cyntaf!

RadioCardiffRadio Caerdydd 97.8FM yw gorsaf radio gymunedol Caerdydd, sef math o wasanaeth radio sy’n darlledu y tu hwnt i wasanaeth masnachol a chyhoeddus. Mae’n darlledu cynnwys sy’n boblogaidd ac yn berthnasol i gynulleidfa leol a phenodol sy’n aml yn cael ei hesgeuluso.

Cynhelir Diverse Cardiff yn fyw bob dydd Mawrth 13:30-15:00 a gofynnwyd i Cyfranogaeth Cymru ddod i siarad ar y sioe. Roedd yn gyfle cyffrous iawn felly penderfynais wirfoddoli fy hun i’w wneud; rwy’n un dda iawn am siarad am ein gwaith felly meddyliais: pam lai?!

Wrth i mi gyrraedd y stiwdio cofiais am y cwrs hyfforddi hyder mewn digwyddiadau cyhoeddus a wnaethais y llynedd ac roedd yn sicr o gymorth ar yr achlysur yma! Cofiais yn benodol am y rhan o’r cwrs ar ddod dros ofn…

  1. Bydd yr ofn byth yn mynd i ffwrdd cyn belled fy mod yn parhau i dyfu
  2. Yr unig ffordd o gael gwared â’r ofn o wneud rhywbeth yw mynd allan a’i wneud
  3. Yr unig ffordd o deimlo’n well amdanaf fy hun yw mynd allan…a’i wneud
  4. Nid yn unig rwyf am deimlo ofn pryd bynnag rwyf ar dir anghyfarwydd, ond bydd pawb arall yn teimlo felly hefyd
  5. Mae bwrw drwy ofn yn llai ofnus na byw gyda’r ofn sydd dan yr wyneb o ganlyniad i deimlo’n ddi-help

(wedi’i gymryd a’i gyfieithu o Susan Jeffers ‘Feel the fear and do it anyway’)

Roeddwn, wrth gwrs, yn teimlo’r nerfau cyn dechrau siarad ond ar ôl rhai munudau dechreuais fwynhau fy hun a doeddwn i ddim eisiau stopio siarad!

Mae’r sioe yn un anffurfiol iawn, gyda llawer o sgwrsio a siarad. A hithau mor agos i Ddydd Gŵyl Dewi roedd yr holl gerddoriaeth a chwaraewyd ar y sioe gan artistiaid o Gymru, felly cefais fwynhau gwrando ar Gorky’s Zygotic Mynci a Super Furry Animals wrth i mi aros.

Dechreuais drwy gyflwyno Cyfranogaeth Cymru, pwy ydyn ni a beth rydym yn ei wneud, yna siaradais am waith rydym wedi’i wneud yn ddiweddar a gorffen drwy siarad am ffyrdd y gall pobl fanteisio ar ein gwaith, drwy fynychu ein hyfforddiant, rhwydweithiau a chymeradwyo’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd. Soniais hefyd am rai cyfleoedd lleol i bobl Caerdydd gymryd rhan, gan grybwyll gwefannau megis www.holicaerdydd.com a http://www.ygymruagarem.co.uk/

Mae Diverse Cardiff bob amser yn chwilio am westeion i siarad ar y sioe, felly os oes gennych brosiect lleol diddorol yr hoffech ei drafod yna cliciwch yma i gysylltu â Diverse Cardiff.

Dyma ychydig o gyngor i unrhyw un sy’n siarad ar y radio am y tro cyntaf:

  • Rydych yn cael sgwrs gyffredinol am eich gwaith; dychmygwch y bwrdd heb y microffon.
  • Siaradwch mewn iaith syml – peidiwch â defnyddio brawddegau hir na geiriau jargon a all eich achosi i faglu drostynt, ac os ydych yn baglu dros eich geiriau – dechreuwch eto – mwy na thebyg ni fydd neb yn sylwi (heblaw amdanoch chi’ch hun!)
  • Cofiwch baratoi – gallech hyd yn oed ysgrifennu rhai cwestiynau yr hoffech i’r cyflwynwyr eu gofyn a’u hanfon atynt ymlaen llaw er mwyn gwybod beth sy’n dod
  • Cofiwch fod amser yn ymddangos yn llawer cynt pan rydych yn siarad – efallai y bydd rhywbeth rydych yn meddwl fydd yn cymryd 2 funud i’w ddweud yn cymryd 5 munud mewn gwirionedd

Gallwch wrando ar y sioe gyfan yma neu ar gyfweliad Cyfranogaeth Cymru yn unig yma; y gwestai arall oedd Chrissie Nicholls o Gymorth i Fenywod Cymru.

–          Sarah

Rhwydweithio dros frecwast!!!

Mae’r syniad o gwrdd â phobl newydd a dylanwadu arnynt dros frecwast yn ddigon i godi arswyd arnaf fi ond dyma’r union beth y gofynnwyd i mi ei hwyluso yng Nghynhadledd WCVA, ‘Ymgysylltwch! Cynhadledd Cydweithio’ yn Stadiwm Liberty, Abertawe, yr wythnos hon.

Roedd tua 20 o bobl o bob math o fudiadau trydydd sector yng Nghymru wedi dod draw’n gynnar i fod yn bresennol yn y sesiwn rwydweithio dros frecwast a drefnwyd gan Gyfranogaeth Cymru.

Networking

Fel hwylusydd y sesiwn, bûm yn holi fy hun, ‘Pa mor dda wyf fi fel hwylusydd’.

Rhaid cofio ei fod yn golygu mwy na dweud helo wrth rywun arall yn yr ystafell. Mae’n weithgarwch bwriadol, crefft y mae’n rhaid gweithio arni ac mae rhai ohonom yn rhwydweithwyr naturiol ac mae eraill, fel fi, sy’n gorfod gweithio’n galed ar y grefft. Rhowch fi mewn ystafell sy’n llawn cyfranogwyr ar gyfer sesiwn hyfforddi neu gofynnwch i mi hwyluso neu gadeirio cyfarfod ac mi fyddaf yn teimlo’n ddigon cyfforddus. Ond rhowch fi yng nghanol grŵp o bobl nad wyf yn eu hadnabod, heb rôl i’w chwarae, ac mae hynny’n llawer mwy o her i mi.

Mae rhwydweithio’n gymhwysedd pwysig mewn llawer o swyddi’r dyddiau hyn. Mae partneriaethau a chydweithio’n dibynnu arno. Mae gwneud y gorau o bobl newydd rydych yn eu cyfarfod gyda’r posibilrwydd y gallant fod yn gydweithwyr neu’n bartneriaid newydd yn rhywbeth y dylem i gyd allu ei wneud yn dda.

Felly, roedd y cyfarfod hwn dros frecwast yn gyfle i griw o bobl a oedd yno ar hap i ddechrau dod i adnabod ei gilydd yn well, i rannu gwybodaeth, profiadau a chyfleoedd. I fynd oddi yno gyda chysylltiad newydd, rhywbeth newydd i feddwl amdano ac egin gyfle i gydweithio.

Roedd yr amser yn brin cyn i sesiwn lawn y gynhadledd agor felly dechreuais ar broses hwyluso cyflym a oedd yn galluogi pobl i fynd at rywun yn yr ystafell nad oeddent yn ei adnabod a threulio 5 munud yng nghwmni’i gilydd gan ddefnyddio’r canlynol fel awgrymiadau cyn symud ymlaen at rywun arall.

  • Dywedwch wrth eich gilydd pwy ydych chi, o ble’r ydych yn dod a beth rydych yn ei wneud.
  • Eglurwch yr hyn sydd gennych chi a’ch mudiad i’w gynnig i eraill.
  • Eglurwch yr hyn y gallwch chi a’ch mudiad i gael gan eraill.

Wedi’r cyfan ‘Mae rhwydweithio’n farchnata. Marchnata eich hun, marchnata’ch elfennau unigryw, marchnata’r hyn rydych yn ei gynrychioli.’ (Christine Comaford-Lynch).

Ond mae’n werth cofio hefyd. ‘Gallwch wneud mwy o ffrindiau mewn deufis drwy gymryd diddordeb mewn pobl eraill nag y gallwch mewn dwy flynedd drwy geisio cael pobl i gymryd diddordeb ynoch chi’. (Dale Carnegie).

Mae rhwydweithio yn sgil y gellir ei dysgu. Mae’n agwedd a ddywed, ‘Rwyf yn agored i bobl a chyfleoedd newydd’.

Diolch i’r bobl awyddus hynny a fanteisiodd ar y cyfle i rwydweithio dros frecwast yr wythnos yma, a gobeithio bod y sgyrsiau dros goffi a croissants wedi bod yn werth yr ymdrech i godi’n gynnar.

Mandy

Defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ymgynghori o fewn y sector cyhoeddus

Er fy mod i’n siaradwr Cymraeg rhugl, mae fy hyder wrth ei ddefnyddio yn y gwaith yn amrywio ac yn dibynnu ar y sefyllfa. Rydw i wedi bod yn ymateb i ymgynghoriadau ar ran Cyfranogaeth Cymru am tua dwy flynedd, ond dim ond yn y mis diwethaf ymatebais yn y Gymraeg am y tro cyntaf. Rwy’n siarad Cymraeg bob dydd, ond dydw i ddim yn dod ar draws yr iaith sy’n cael ei ddefnyddio mewn ymgynghoriadau o ddydd i ddydd.

Pan gefais wahoddiad i wneud cyflwyniad yn symposiwm Tu Hwnt i’r Bwlch Comms Cymru ar yr iaith Gymraeg a chyfryngau cymdeithasol, roeddwn i’n awyddus ar unwaith – rydw i wedi mwynhau defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel rhan o fy rôl i. Maen nhw wedi helpu torri lawr ffiniau confensiynol gwasanaeth gwybodaeth, gan mai dim ond darlledu gwybodaeth wnaeth mudiadau yn y dyddiau a fu. Mae cyfryngau cymdeithasol wedi fy ngalluogi i rannu syniadau, dysgu oddi wrth eraill a rhwydweithio gyda mudiadau ledled y byd.

Fel siaradwr Cymraeg, rydw i’n awyddus i gael y cyfle i fyw fy mywyd trwy gyfrwng y Gymraeg ble bynnag mae’n bosib. Er mwyn galluogi hyn i ddigwydd, mae rhaid fy mod i’n cael y cyfle i ymgysylltu yn iaith fy newis i. Rwy’n ffodus fy mod i’n byw yng Nghaerdydd, ble mae gan Gyngor Caerdydd cyfrif Twitter Cymreig ardderchog, sy’n fy ngalluogi i wneud hynny.

Yn anffodus, dyw pawb yng Nghymru ddim yn cael yr un cyfle. O’r 257 o bobl a gwblhaodd Arolwg Cymru gyfan ar ddefnydd y rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol gan wasanaethau cyhoeddus, dim ond traean (33%) o’r ymatebwyr dywedodd bod ganddynt ffrydiau cyfryngau cymdeithasol Cymraeg neu ddwyieithog, tra bod 28% yn ansicr a doedd dim gan 39%.

Yn ddiddorol, roedd teimladau cymysg yn yr arolwg ac yn y digwyddiad am gael un ffrwd ddwyieithog neu ffrydiau ar wahân ar gyfer y Gymraeg a Saesneg. Roedd rhai’n teimlo bod un ffrwd yn normaleiddio’r defnydd o Gymraeg, tra bod eraill yn teimlo roedden nhw’n hoffi cael yr opsiwn o ddilyn ffrwd o’u dewis fel bod nhw’n gallu ymgysylltu yn yr iaith roedden nhw’n dewis.

Mae canlyniadau’r arolwg wedi dangos bod pobl yn meddwl mai un o’r rhwystrau mwyaf cyffredin yw does dim digon o staff sy’n siarad Cymraeg gan fudiadau er mwyn cynnal gwasanaeth effeithiol. Roedd pobl yn meddwl bod ymateb cyflym yn hollbwysig wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.

Roedd ymatebwyr hefyd yn teimlo bod e’n anodd cael pobl i ymgysylltu yn y Gymraeg, ac roedd e’n anodd gwneud achos busnes ar gyfer buddsoddiad ychwanegol pan mae defnydd yn isel. Fodd bynnag, dywedodd rhai ymatebwyr eu bod nhw’n teimlo bod llai o siaradwyr Cymraeg yn ymgysylltu trwy gyfryngau cymdeithasol achos doedd cynnwys Cymreig ddim wedi ei ysgrifennu mewn ffordd byddan nhw’n siarad, a bod negeseuon yng nghyfieithiad uniongyrchol o neges Saesneg fel arfer.

Ar hyn o bryd rwy’n ail-ysgrifennu fy argymhellion ar gyfer yr adroddiad yn dilyn penderfyniad y Gweinidog ar Safonau Iaith Gymraeg, ond mae fy argymhellion drafft yn cynnwys bod y defnydd o gyfryngau cymdeithasol trwy’r Gymraeg yn cael ei brif ffrydio i mewn i waith cyfathrebu mudiadau, yn hytrach na bod yn ychwanegiad. Hefyd rydym yn argymell bod gwaith ymgysylltu yn bodloni egwyddor 5 o’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru, sef ‘Ni fydd unrhyw jargon yn rhan o’r wybodaeth a ddarperir a bydd yn briodol ac yn hawdd i’w deall’. Mae’r nodiadau cyfarwyddyd yn dweud dylai ‘sicrhau bod y wybodaeth ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg, yn ogystal â mewn ieithoedd ethnig lleiafrifol eraill’. Mae’n hanfodol ein bod ni’n ymgysylltu mewn ffyrdd mae pobl eisiau ymgysylltu trwyddo, a hefyd ein bod ni’n ymgysylltu ar delerau bobl gan ddefnyddio iaith glir gall pawb deall. Mae cyfryngau cymdeithasol yn ffordd ddelfrydol i wneud hyn, gan fod ei natur anffurfiol yn golygu y gallwn ddefnyddio iaith glir i gyfathrebu’n well â phobl, beth bynnag yw eu dewis iaith.

– Dyfrig

Newid sianeli: Gwneud y defnydd gorau o sianeli cyfathrebu gyda dinasyddion

Dyma blog gwadd cyntaf Cyfranogaeth Cymru, sydd wedi cael ei chyflwyno gan Tanwen Berrington. Os hoffech chi gyfrannu i’r blog yma, e-bostiwch participationcymru@wcva.org.uk.

Fforwm Gwasanaethau Cwsmeriaid y Sector Cyhoeddus

Ar ddiwedd mis Chwefror fe es i i gynhadledd a gafodd ei drefnu gan PSCSF gyda’r teitl cywrain o ‘Strategaethau aml-sianel i gysylltu â’r cwsmer a newid sianeli i’r sector cyhoeddus’. Roeddwn i wedi fy amgylchynu gan arbenigwyr mewn gwasanaethau cwsmer yn y sector cyhoeddus a hefyd cwmnïau o’r sector cyhoeddus ag oedd yn noddi’r digwyddiad. Dydw i ddim yn arbenigwr yn yr ardaloedd yma, ac rwy’n dychmygu ni fydd llawer o ddarllenwyr chwaith.

Fodd bynnag, cefais sioc ar yr ochr orau ynglŷn â sut mae’r cysyniad ehangach o ymgysylltiad cyhoeddus wedi dod yn ystyriaeth allweddol ar gyfer y ddau sector yma; mae ymgysylltiad cyhoeddus yn werth lot o arian y dyddiau yma.

Roedd yna ystod eang o gyflwyniadau, gan gynnwys siaradwyr o awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, a chwmnïau sector preifat sy’n arbenigo mewn cyfathrebu â chwsmeriaid yn gymdeithasol, ar-lein ac yn electronig (er doedd dim siwd gymaint o’r olaf i droi’r gynhadledd yn ddigwyddiad o werthu).

Fe wnaeth y rhain i gyd ffocysu ar ddefnyddio sianeli i gysylltu â chwsmeriaid, ac i wneud y gorau o’r sianeli yma. Roedd rhai’n ffocysu ar y dechnoleg sydd ar gael i reoli eich ymgysylltiad cyhoeddus, ac roedd pawb yn ymddiddori mewn darparu gwasanaeth gwell i gwsmeriaid drwy wella cyfathrebu ac ymgysylltu.

I ni’r lleyg-bobl, efallai roedd rhai o’r cyflwyniadau arbenigol ar ganolfannau cyswllt i gwsmeriaid ychydig dros ein pennau. I mi, roedd y cyflwyniad gan Sarah Barrow o Gyngor Bwrdeistref Wokingham ar ddewis sianeli cyfathrebu priodol a Leon Stafford o LiveOps ar ‘grymuso eich asiantau i wneud ymgysylltu ymreolaethol’ yn ddiddorol.

Beth wnes i ddysgu?

  • I fy nealltwriaeth i, nid dim ond achos o symud eich dinasyddion i gyfryngau cymdeithasol ac ar-lein yw newid sianeli; wedi’r cwbl, mae hyn ychydig yn unbenaethol! Yn hytrach mae fe amdano ymgysylltu â dinasyddion yn y ffordd fwyaf priodol. Mae hwn yn meddwl symud rhwng cyfryngau gwahanol yn dibynnu ar natur y gwasanaeth a’r cyfrwng mae’r dinesydd yn gyfforddus yn defnyddio, neu sy’n defnyddio mewn ei bywyd pob dydd. Felly efallai byddai cwsmer sy’n cwyno am wasanaeth ar Drydar yn gwerthfawrogi ymateb unionsyth trwy drafodaeth gwe (sy’n dod gyda’r bonws ychwanegol o breifatrwydd).
  • Dyw hi ddim o reidrwydd yn arfer da i ddefnyddio eich cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein i ddarlledu gwybodaeth yn unig. Er enghraifft gall Trydar bod yn ddefnyddiol i ddarlledu diweddariadau traffig, ond mae fe hefyd yn ffordd rad a rhwydd i wrando ar eich dinasyddion. Gallwch ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg fel ‘rhwydwaith synhwyro dynol’ (cysyniad neis a gafodd ei defnyddio gan Dave Snowden) i sicrhau’r tymheredd ac i ddod yn ymwybodol o faterion lleol sy’n ffynhonnell o gwynion neu glod. Pam trefnu ymgynghoriadau afreolaidd ac anaml pan mae ganddo’ch dolen adborth rheolaidd yn barod?
  • Gallwch roi’r rhwydweithiau yma ‘ar waith’. Roedd yna enghraifft grêt o rwydwaith o gerddwyr cŵn ym Mwrdeistref Wokingham; pan mae ci yn cael ei cholli, mae’r cyngor yn anfon neges testun i aelodau’r rhwydwaith, sydd wedyn yn troi mewn i ymarfer ‘chwilio ac achub’ sy’n amgylchynu’r fwrdeistref gyfan (er mae rhaid i mi ddweud fy mod i’n ‘person ci’).

Beth mae hwn yn meddwl?

  • Yn aml mae llawer o fudiadau wedi setio eu sianeli ymgysylltu i fyny yn barod. Felly does dim rhaid i chi ail-ddyfeisio’r olwyn, dim ond gwneud y defnydd gorau o beth rydych chi gyda’n barod.
  • Mewn gwirionedd gall hyn bod mor syml a thalu sylw i beth mae’ch dinasyddion yn dweud!
  • Neu reoli eich sianeli fel bod eich negeseuon wedi’u cydlynu. Bydd dinasyddion yn teimlo fel gallan nhw gysylltu gyda chi mewn unrhyw ddull maen nhw’n teimlo’n gyfforddus heb gael eu colli yn y system.

– Tanwen Berrington
Gweithio i wella’r sector cyhoeddus. Dyma farn fi fy hun.