Tag Archives: anableddau dysgu

Mae cyfranogi yn allweddol i herio gwahaniaethu

Yn Rhwydwaith Cyfranogaeth Cymru Gyfan eleni, gosododd Joe Powell y safon gydag araith agoriadol bwerus ynglŷn â phwysigrwydd cyfranogi’n llawn yng nghymdeithas i bobl ag anableddau dysgu. Canfuwyd bod gan Joe Syndrom Asperger yn 1996 ac mae ef wedi treulio 11 mlynedd mewn gofal cymdeithasol. Ef bellach yw Cyfarwyddwr Cenedlaethol Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan; grŵp sy’n uno lleisiau grwpiau hunaneirioli yng Nghymru. Tynnodd Joe ar ei brofiad uniongyrchol o frwydro i adael system a oedd yn benderfynol o’i ystyried yn ddefnyddiwr gwasanaeth, rhywun sydd angen cymorth, ac nid rhywun sydd hefyd â llawer i’w gynnig i’w gymuned.

Dechreuodd Joe ei araith drwy amlinellu’r ‘Model bywyd da’; gwerthoedd sy’n bwysig i’r bobl ag anableddau dysgu y mae Joe wedi siarad â nhw. Ymysg y gwerthoedd hyn roedd ‘perthnasau llawn cariad a gofal’, y dewis sy’n deillio o fod â rhywfaint o gyfoeth (mae hyn hefyd yn cynnwys rheolaeth dros eich asedau ariannol eich hun), ‘lle i gyfrannu yn y Byd’ a ‘fy nghartref fy hun’. Y peth cyntaf i’m taro oedd pa mor debyg ydynt i’r hyn y mae ar rywun sydd heb anabledd dysgu ei eisiau o’i fywyd – ymddangosai’r gwerthoedd yn gyffredin i bawb, nid yn benodol i anableddau dysgu. Yn fy nhyb i, wrth wraidd yr holl werthoedd oedd cydbwysedd rhwng diogelwch personol ar y naill law ac, ar y llall, ymdeimlad o allu cymryd rheolaeth dros eich bywyd eich hun ac, ar ben hynny, gyfrannu rhywbeth at fywydau pobl eraill. Onid dyma sydd ar bawb ei eisiau o’u bywydau?

Joe Powell

Mae gan lawer o bobl ag anableddau dysgu nam ar eu golwg hefyd ac ni ddysgwyd rhai o’r bobl hyn i ddarllen yn yr ysgol. Gall pethau syml megis cynnig gwybodaeth hawdd ei darllen a fformat sain ei gwneud yn bosib i bobl ag anableddau dysgu gael at wybodaeth heb orfod dibynnu ar ffrind neu ofalwr i’w darllen iddyn nhw. Mae hyn yn galluogi pobl i gadw ymdeimlad o annibyniaeth ac urddas, yn hytrach na chael eu sefydliadoli, yn enwedig pan fo’r wybodaeth dan sylw o natur breifat.

O ystyried bod yr hyn y mae ar bobl ag anableddau dysgu ei eisiau mor debyg i’r hyn y mae’r boblogaeth ehangach yn anelu ato, gellid maddau i rywun am gredu bod y dymuniadau hyn yn cael eu bodloni â chroeso mewn gofal ar gyfer anableddau dysgu a bod cymdeithas yn dangos empathi â nhw. Serch hynny, eglurodd Joe mai’r gwirionedd yw bod pobl ag anableddau dysgu i bob pwrpas yn ‘ymddeol yn ddeunaw oed’; prin mewn cyflogaeth ac yn aml yn cael eu cau allan o wirfoddoli. Ymddengys mai’r meddylfryd y tu cefn i’r fath ymyleiddio yw bod unrhyw un sydd ag anabledd dysgu yn ‘ddefnyddiwr gwasanaeth’ ac felly angen cymorth. Tra mae llawer o bobl ag anableddau dysgu yn wir yn ddefnyddwyr gwasanaethau, nid yw hyn yn golygu eu bod heb y gallu a’r awydd i roi cymorth yn eu cymunedau a chyfrannu’n ystyrlon nid yn unig at eu bywydau eu hunain, ond bywydau eraill hefyd.

History of people learning disabilities

Mae’r cyfyngiad hwn ar gyfranogi nid yn unig yn golled enfawr o ran cyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth posib ond hefyd yn gwbl groes i egwyddorion Strategaeth Gymru Gyfan 1983. Mae’r strategaeth yn pennu bod gan bobl ag anableddau dysgu yr hawl i ddewis eu patrymau bywyd eu hunain o fewn eu cymunedau a chael mynediad at wasanaethau proffesiynol pan fo cymorth ychwanegol yn angenrheidiol er mwyn iddynt gyflawni hyn.

Mae’r mwyafrif o bobl ag anableddau dysgu yn dymuno gweithio a gwirfoddoli, meddai Joe, ac mae angen i ni ymdrechu’n fwy i ddiwallu eu hanghenion er mwyn iddynt wneud hyn. Mae rhagfarn yn deillio o anwybodaeth a phan fo pobl ag anableddau dysgu i’w gweld mewn rolau defnyddiol, fe fydd hyn yn ei gwneud yn anos eu stereoteipio fel baich ac yn rhoi hygrededd i’w lleisiau.

Cyn gwahodd cwestiynau o’r llawr, gorffennodd Joe ei araith drwy ddweud bod yn rhaid i gyfranogaeth ar gyfer pobl ag anableddau dysgu fod yn realistig a byth yn docenistaidd. Rhaid i ni ei gwneud yn bosib i bobl ag anableddau dysgu gael mynediad at y gweithlu gan wneud addasiadau rhesymol os oes angen dim ond pan allant gyflawni’r rôl honno.

Os hoffech glywed mwy gan Joe Powell, cadwch olwg ar Joe’s Soapbox.

Mae ‘Storify’ y diwrnod, gan gynnwys cyflwyniad Joe, adnoddau eraill o’r rhwydwaith a chyfraniadau cyfranogwyr drwy’r cyfryngau cymdeithasol, ar gael yma.

 – Non