A ddylem ymdrechu i gyflawni’r canlyniadau optimwm neu a ddylem, yn syml, trio ein gorau?
Rydym newydd gynnal Digwyddiadau’r Rhwydweithiau Rhanbarthol a’r thema y tro hwn oedd ‘Gwybodaeth a thechnoleg hygyrch’.
Dechreuon ni bob sesiwn gydag ymarfer torri’r garw i gyflwyno’r thema, cafodd hanner y cyfranogwyr ‘gerdyn jargon’ a’r hanner arall ‘gerdyn hawdd ei ddarllen’. Roedd un gair ar bob cerdyn a nod y gêm oedd cerdded o gwmpas yr ystafell a dod o hyd i’r person oedd â’r cerdyn a oedd â’r un ystyr â’r gair ar eich cerdyn chi. Er enghraifft, os oedd gennych gerdyn jargon yn dweud ‘cyfranogi’ yna byddech yn cael eich paru â’r person a oedd â’r cerdyn hawdd ei ddarllen yn dweud ‘cymryd rhan’ arno ac yna’n cyflwyno’ch gilydd. Geiriau eraill a ddefnyddiwyd yn yr ymarfer hwn oedd ymdrechu (trio), terfynu (gorffen) a chydweithredu (gweithio gyda rhywun). Mae mwy o gyngor ynghylch iaith syml ar gael ar wefan Cymraeg Clir.
Gweithiodd yr ymarfer yn dda i gael pobl i sgwrsio â’i gilydd ac roedd yr adborth a gawsom yn bositif. Doedd neb wedi defnyddio’r ymarfer hwn o’r blaen ond roedd rhai wedi chwarae Buzzword Bingo mewn cyfarfodydd llawn jargon.
Yn y De Ddwyrain, cynhaliwyd y digwyddiad yn Ystrad Mynach. Rhoddodd Barod CIC gyflwyniad a eglurodd pam mae’n bwysig darparu gwybodaeth glir mewn fformat hwylus. Cafodd y grŵp wybod am y gwasanaethau y mae Barod yn eu darparu megis trosi dogfennau i iaith hawdd ei darllen a/neu iaith bob dydd. Maent hefyd yn cynnig pecynnau hyfforddi i fudiadau sydd am hyfforddi staff i gynhyrchu dogfennau hawdd eu darllen. Mae pobl ag anableddau dysgu yn darllen drwy’r holl waith y mae Barod yn ei wneud. Hefyd, rhoddodd Sam o Anabledd Dysgu Cymru gyflwyniad ar Clear & Easy sef canllaw cynhwysfawr i fudiadau sydd am wneud eu gwybodaeth yn fwy hygyrch. Mae’r canllaw yn cynnwys DVD rhyngweithiol sydd am ddim i’r sector gwirfoddol a chyhoeddus (cyfyngiad o un y mudiad). Cysylltwch ag Anabledd Dysgu Cymru i gael gwybod mwy.
Yn y De Orllewin, cynhaliwyd y digwyddiad yn Felin-foel, Llanelli. Roedd sesiwn Andrew Hubbard, o’r Panel Dinasyddion peilot ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymdeithas Byw’n Annibynnol Abertawe, yn canolbwyntio ar Dechnoleg Hygyrch, gan egluro i gyfranogwyr sut mae meddalwedd darllen sgrin yn gweithio i bobl â nam ar eu golwg. Trefnodd Andrew ymarfer grŵp i fynd drwy amrywiaeth o wahanol sefyllfaoedd sy’n wynebu pobl anabl wrth gael at wybodaeth bob dydd megis swyddi gwag, amseroedd bws/trên a hysbysebion. Cafwyd trafodaeth grŵp ar ôl yr ymarfer. Roedd Barod CIC yn ddigon clên i roi cyflwyniad ar y canllaw Clear & Easy eto (am yr ail ddiwrnod yn olynol!)
Ar ôl toriad byr, eglurodd ein swyddog hyfforddi a datblygu, Siobhan, dechneg rydym wedi’i defnyddio o’r blaen ac sydd bob amser yn llwyddiannus iawn – Hot Air Balloon o’r llyfr Spice it Up gan Dynamix! Yn yr ymarfer hwn, anogwyd cyfranogwyr i feddwl am y ffordd y mae eu mudiadau eu hunain yn darparu gwybodaeth a sut y gallent ei gwneud yn fwy hygyrch. Roedd angen i gyfranogwyr feddwl am beth oedd yn eu dal yn ôl, pwy oedd angen eu cynnwys a beth sydd ei angen i’w wneud i ffynnu.
Cafodd cyfyngiadau o ran arian ac amser eu crybwyll yn aml fel pethau sy’n eu dal yn ôl. Cafwyd syniad gan un cyfranogwr fod angen newid diwylliant yn llwyr er mwyn sicrhau bod gwybodaeth fwy hygyrch ar gael drwy’r amser.
Yna cawsom ein rhannu’n grwpiau bach i glywed gan gyfranogwyr am waith maent yn ei wneud, arfer da maent wedi dod ar ei draws neu broblemau maent yn eu cael. Clywsom am waith yn TPAS Cymru sy’n cynnal digwyddiad fis Tachwedd ar Ymgysylltu â’r Cyhoedd. Clywsom hefyd fod Clwstwr Cymunedau yn Gyntaf y Barri yn cynnal sesiynau TG galw-heibio ac yn darparu hyfforddiant TG sylfaenol ar sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd. Mae Heddlu’r De hefyd yn gwneud gwaith ardderchog yn ennyn diddordeb pobl ifanc darganfod beth maent yn ei feddwl o’r gymuned leol a pha ardaloedd maent yn teimlo’n ddiogel neu’n anniogel ynddynt. Mae Cyngor Sir Gâr wedi cynnal ymgynghoriad cyllideb a defnyddio efelychydd cyllideb sy’n swnio’n ffordd wych o gael pobl yn rhan o gyllidebu.
Yn y Gogledd, cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghyffordd Llandudno ar ddiwrnod llawn gwynt a glaw rydym wedi hen arfer ag o yng Nghymru! Clywsom gan ddau aelod o’r Panel Dinasyddion peilot ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol; Jennie a Beth Lewis. Dechreuodd Beth drwy ddweud wrth y grŵp am ei bywyd; mae’n 24 oed ac mae ganddi anabledd dysgu, mae’n byw yn ei fflat ei hun ac mae ganddi swydd, mae’n mwynhau coginio ac yn awyddus i wneud mwy ar ei phen ei hun. Mae’n gallu darllen yn dda iawn ond ddim bob amser yn deall beth mae’r geiriau yn ei olygu felly mae’n well ganddi frawddegau byr gyda lluniau. Dangosodd Beth a’i mam, Jennie, lawer o enghreifftiau i ni o wybodaeth a anfonwyd ati drwy’r post. Rhoddwyd tasg i’r cyfranogwyr drosi llythyr a oedd wedi cael ei anfon at Beth i fformat hawdd ei ddarllen mewn grwpiau bach (roedd y dasg yn anodd iawn i bawb – yn eironig roedd y llythyr yn ymwneud â chynllun yn benodol i bobl anabl, gan gynnwys pobl ag anableddau dysgu). Cerddodd Beth o gwmpas yr ystafell i ddarllen a gwirio beth roedd pobl wedi’i ysgrifennu.
Gofynnon ni i’r grwpiau drafod sut y byddent yn rhoi cyflwyniad diddorol Jennie a Beth ar waith drwy feddwl am sut y gallent wneud y wybodaeth y mae eu mudiadau eu hunain yn ei chynhyrchu yn fwy hygyrch. Heb os roedd llawer iawn i feddwl amdano a chafwyd trafodaethau diddorol dros ben. Yn benodol dywedodd rhywun mai un rhwystr mawr oedd ‘iaith gyfreithiol’ a bod yn rhaid i rai dogfennau neu gontractau ddefnyddio geiriau penodol, ac un ffordd o oresgyn hyn yw rhoi eglurhad hawdd ei ddarllen wrth ochr neu o dan ddatganiad, gan egluro beth mae’n ei ddweud gyda llun os oes angen.
Ar y cyfan roedd y rownd hon o ddigwyddiadau yn llwyddiannus gyda thema ddiddorol iawn a chafwyd cyflwyniadau ardderchog gan ein holl westeion yn y tair ardal. Rydym yn ddiolchgar iawn i Barod, Andrew Hubbard a’i gynorthwyydd Bev, Jennie a Beth am ein helpu yn y rhwydweithiau hyn. Diolch i bawb am ddod!
Fe fydd y rownd nesaf o ddigwyddiadau’r rhwydweithiau yn cael eu cynnal fis Chwefror 2014, mae mwy o fanylion ar gael ar ein gwefan yma. Mae archebu’n gynnar yn hanfodol gan mai dim ond 20 lle sydd ym mhob digwyddiad ac maent yn llenwi’n gyflym! Peidiwch â cholli allan!
– Sarah