Os ydych yn newydd i’r blog hwn, mae ein rhwydweithiau cyfranogaeth rhanbarthol yn addas i unrhyw un sy’n gweithio ym maes cyfranogi ac ymgysylltu â dinasyddion ac rydym yn eu cynnal deirgwaith y flwyddyn yn y Gogledd, y De Ddwyrain a’r De Orllewin. Mae’r rhai sy’n mynychu yn dod o fudiadau amrywiol yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n ffocysu ar sawl mater gwahanol. Mae’r digwyddiadau yn addas ar gyfer unrhyw un o unrhyw lefel o fewn mudiad sydd gyda diddordeb mewn gwaith cyfranogol ymarferol, gan gynnwys swyddogion ymgynghori, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr, swyddogion datblygu a rheolwyr.
Mae’r rhwydweithiau ymarferwyr yma yn weithdai bywiog a chyfranogol sydd yn darparu cyfle i gymheiriaid i rannu, cefnogi ac ymgysylltu â’i gilydd.
Thema’r rhwydweithiau a gynhaliwyd yng Nglyn-coch, Llanelli a’r Rhyl fis Hydref oedd offer a thechnegau cyfranogi. Rhoddodd y sesiynau gyfle i gyfranogwyr ddysgu ac ymarfer nifer o dechnegau ymarferol y gellir eu defnyddio mewn gweithgaredd ymgysylltu wyneb yn wyneb.
Dyma grynodeb o rai o’r technegau yr edrychon ni arnynt a’r syniadau a drafodwyd:
Gobeithion ac ofnau
Nod: Darganfod gobeithion ac ofnau cyfranogwyr.
Dull: Gofyn i gyfranogwyr nodi beth yw eu gobeithion a’u hofnau. Defnyddiwyd hyn fel ffordd o dorri’r garw ymhellach er mwyn darganfod yr hyn roedd pobl yn gobeithio ei gael o’r sesiwn a’r hyn roeddynt yn ei ofni. Mae hi hefyd yn werth mynd yn ôl at y rhain ar ddiwedd y sesiwn, i weld a wireddwyd y gobeithion ac a ddeliwyd gyda’r ofnau.
Mae’r dechneg hon yn arbennig o ddefnyddiol i’w defnyddio ar ddechrau sesiwn gan ei bod yn galluogi’r hwylusydd i reoli disgwyliadau o’r dechrau; er enghraifft os yw rhywun wedi ‘gobeithio’ am rywbeth sydd ddim yn berthnasol neu sydd ddim yn ymwneud â’r pwnc yna gellir gwneud hyn yn glir. Gall hefyd fod yn gysur i gyfranogwyr weld bod eraill yn rhannu’r un ‘ofnau’ â nhw – gallai’r hwylusydd hefyd dawelu meddwl unrhyw un sydd ag ofnau dilys yn ymwneud â’r sesiwn.
Y gorau a’r gwaethaf yn y byd
Nod: Tynnu sylw at faterion drwy edrych arnynt mewn sefyllfa freuddwydiol/hunllefus. Gall hwn fod yn offeryn darlunio yn ogystal ag yn offeryn datrys problemau.
Dull: Dewiswch bwnc rydych eisiau edrych arno yn fanwl a gofyn i’r grŵp ddychmygu’r fersiwn orau a’r fersiwn waethaf posib.
Mae’r dechneg hon yn ddiddorol gan ei bod yn galluogi’r grŵp i archwilio sefyllfa drwy edrych arni ar ei gorau ac ar ei gwaethaf. Mae hi hefyd yn ffordd ysgafn o edrych ar faterion difrifol. Gan ddilyn ymlaen o hyn – gallech wedyn symud ymlaen i feddwl am y broses o sut rydych yn cyflawni’r ‘gorau’ a sut i osgoi bod y ‘gwaethaf’ yn y byd!
Yn ein rhwydweithiau, y pwnc a ddewiswyd oedd cymdogion: Sut beth yw cymydog gorau/gwaethaf y byd a pha nodweddion sydd ganddo?
Ffeithiau yn erbyn Rhagdybiaethau
Nod: Gwahaniaethu ffeithiau oddi wrth ragdybiaethau a meithrin ymwybyddiaeth mai si neu farn yn aml yw’r hyn y mae pobl yn ei alw’n ffaith.
Pan oedden ni’n paratoi at y dechneg hon roedd yn rhaid i ni feddwl am sut i wahaniaethu ffeithiau oddi wrth ragdybiaethau a chawsom drafferth wrth ddewis pwnc enghreifftiol i’w ddefnyddio. Fe benderfynon ni ofyn beth oedd rhagdybiaethau cyfranogwyr ynglŷn â Cyfranogaeth Cymru ac yna roeddem yn gallu eu cadarnhau a oeddent yn gywir ynteu’n anghywir, a oedd yn dipyn o hwyl! Roedd rhai cyfranogwyr yn meddwl ein bod yn dîm mawr, pan nad oes ond pedwar ohonom yma.
Gofynnon ni wedyn i gyfranogwyr wirfoddoli i fod y ‘ceidwad ffeithiau’ ar gyfer eu mudiadau eu hunain ac yna ailadrodd yr ymarfer gyda mudiadau’r bobl yn yr ystafell. Roedd hyn yn ffordd ddiddorol dros ben o rwydweithio a dysgu am fudiadau ein gilydd, ac ysgogodd gryn drafodaeth yn ein rhwydweithiau.
Os yw’r pwnc rydych yn ei drafod yn un dadleuol yna dylid ei ddefnyddio’n ofalus gan nad yw ffeithiau bob amser yn fater syml – fe fydd llawer o bobl yn gweld eu barn fel ffeithiau. Gellid hefyd defnyddio’r dechneg hon wrth i fudiadau weithio mewn partneriaeth gyda’i gilydd; rydym yn ei defnyddio yn ein cwrs hyfforddi achrededig Gweithio mewn partneriaeth yn effeithiol.
Rhannodd cyfranogwyr yn y 3 rhwydwaith eu hoff dechnegau eu hunain hefyd, ac rydym bob amser yn croesawu cyfraniadau yn ein rhwydweithiau cyfranogaeth – os ydych yn meddwl am syniad/pwnc neu am helpu i drefnu neu gynnal ein rhwydweithiau yna cofiwch gysylltu â ni.
I werthuso’r rhwydweithiau hyn gofynnon ni i gyfranogwyr sgorio pob techneg yn ôl pa mor ddefnyddiol oeddynt gan ddefnyddio sticeri ar raddfa 1-10 (canlyniadau’r 3 rhwydwaith wedi’u cyfuno):
Cynhelir y rownd nesaf o ddigwyddiadau rhwydweithio fis Chwefror 2015 ac maent am ddim i ddod iddynt. Fe fydd mwy o wybodaeth ar gael yn fuan ond gallwch archebu’n gynnar i sicrhau’ch lle! Diolch yn fawr i chi am barhau i gefnogi’r rhwydweithiau cyfranogaeth hyn.
– Sarah