Ysgrifennwyd y blog gwadd hwn gan Rachel Waters o Wasanaeth Cwnsela Cymunedol Casnewydd.
Mae Gwasanaeth Cwnsela Cymunedol Casnewydd wedi’i leoli ym Mhrifysgol De Cymru. Mae’r gwasanaeth yn cynnig cwnsela am ddim i bobl leol ar draws Casnewydd a Chaerllion.
Mae’r Gwasanaeth Cwnsela hefyd yn cynnal ymchwil i gwnsela ac yn y blog hwn byddaf yn canolbwyntio ar ein hymchwil gyfranogol gyda gofalwyr. Rwyf wedi edrych yn ôl ar rai agweddau heriol ar y gwaith a chynnwys ambell i air o gyngor i gynorthwyo eraill sy’n rhan o ymchwil gyfranogol.
Beth yw Ymchwil Gyfranogol?
Mae ymchwil gyfranogol yn cynnwys pobl mewn ymchwil fel cyd-ymchwilwyr nid cyfranogwyr yn unig; cyd-gynhyrchir gwybodaeth drwy gydweithio rhwng partneriaid ymchwil gymunedol, a dylai’r ymchwil arwain at weithredu er lles y gymuned dan sylw.
Mae gan ddulliau cyfranogol werth arbennig ‘sy’n cynnwys … rheoli grym â’r rheini sydd fel arfer yn destun yr ymchwil, a gweithio tuag at newid cymdeithasol graddol’ (Tîm Ymchwil Gymunedol Durham, 2011, t.4)
Canfod ein Cyd-ymchwilwyr
Ein cam cyntaf oedd cysylltu â mudiadau gofalwyr yn ardal Casnewydd.
Roedd hyn yn anodd i ddechrau – roedd llawer o fudiadau yn gefnogol ac am i ni gadw mewn cysylltiad, ond heb y capasiti i gymryd rhan. Roedd egluro natur ymchwil gyfranogol yn anodd – gofynnwyd i mi’n aml am y cwestiynau ymchwil a’r ymrwymiad amser angenrheidiol. Eglurais y byddai cyd-ymchwilwyr yn cytuno ar gwestiynau ymchwil a bod ymrwymiad yn hyblyg yn ôl diddordebau a chapasiti’r mudiad. Mae’r ansicrwydd cynhenid mewn dulliau ymchwil gyfranogol yn ei gwneud yn anodd rhagweld mewn unrhyw fanylder beth fydd y prosiect yn ei gynnwys, ac mae hyn yn ei gwneud yn anos i fudiadau allu ymrwymo i gymryd rhan.
Er gwaetha’r heriau hyn, yn y pen draw llwyddon ni i ennyn diddordeb ac ymrwymiad nifer o fudiadau ac unigolion allweddol lleol a gytunodd i fod yn gyd-ymchwilwyr.
Ein cyd-ymchwilwyr
Ein cyd-ymchwilwyr yw: Fforwm Gofalwyr Casnewydd, Hafal (Casnewydd), Swyddog Datblygu Gofalwyr Cyngor Dinas Casnewydd a Thîm Adolygu Oedolion Cyngor Casnewydd.
- Gair o gyngor… Gall perthynas bositif sydd eisoes yn bod â mudiadau ac unigolion wneud y cam cyntaf hwn gymaint haws.
- Gair o gyngor… Paratowch eglurhad cryno a dealladwy o ymchwil gyfranogol ond byddwch yn barod am gwestiynau ynghylch manylion y prosiect.
Y dasg nesaf oedd gweithio gyda’n gilydd i benderfynu ar ein cwestiwn ymchwil.
Penderfynu beth i’w ymchwilio
Yn ddelfrydol mewn ymchwil gyfranogol, mae cyd-ymchwilwyr cymunedol yn dewis y pwnc a’r cwestiynau ymchwil, ond roedd ein cyd-destun penodol fel gwasanaeth cwnsela mewn Prifysgol yn ei gwneud yn ofynnol i ni ganolbwyntio ar gwnsela. Gwnaed ein cyd-ymchwilwyr yn ymwybodol o hyn o’r dechrau.
Datgelodd adolygiad o’r Gwasanaeth Cwnsela nad oedd llawer o ofalwyr yn defnyddio ein gwasanaeth ac nad oedd y rheini a oedd yn ei defnyddio yn aros yn hir. Roedd hyn yn peri pryder gan y gwyddem o’n cyd-ymchwilwyr ac o ymchwil fod yna lawer o ofalwyr yn yr ardal hon, y gall gofalu arwain at straen, iselder a gorbryder, ac y gall cwnsela fod o gymorth i ofalwyr. Bu i ni rannu’r wybodaeth hon â’n cyd-ymchwilwyr a phenderfynodd y grŵp i edrych ymhellach ar yr anghysondeb hwn gan anelu at wella’r gwasanaeth y mae Gwasanaeth Cwnsela Cymunedol Casnewydd yn ei gynnig i ofalwyr a rhannu’r hyn rydym yn ei ganfod â mudiadau cwnsela eraill a mudiadau gofalwyr.
Datgelodd trafodaeth â’n cyd-ymchwilwyr fod gofalwyr yn tueddu i ganolbwyntio ar y sawl sy’n cael y gofal gan esgeuluso eu hanghenion eu hunain. Ategwyd hyn yn y llenyddiaeth ymchwil. Roedd y grŵp yn meddwl tybed a yw gofalwyr yn ystyried cwnsela fel ffordd o’u helpu i gynnal gofal a ddim yn llawn sylweddoli pa mor ddefnyddiol y gallai fod i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.
Lluniodd y grŵp yr amcanion canlynol:
- Canfod disgwyliadau gofalwyr o broses a chanlyniadau posib cwnsela
- Canfod a yw gofalwyr yn ystyried y gallai cwnsela fod o gymorth iddynt, ac ym mha ffordd, yn enwedig o ran effaith gofalu ar eu lles emosiynol
- Canfod rhwystrau sy’n atal gofalwyr rhag cael at wasanaethau cwnsela
- Gweithio ar y cyd a, chyn belled ag sy’n ymarferol, yn gyfartal ag aelodau o’r gymuned leol
Er ei bod efallai yn ymddangos o ddarllen y crynodeb hwn i’n hamcanion ymchwil ddisgyn yn gyflym ac yn esmwyth i’w lle, mewn gwirionedd roedd proses integreiddio gwybodaeth academaidd â gwybodaeth gymunedol yn cymryd llawer o amser ac yn lletchwith. Bu i ni adolygu’r llenyddiaeth a gwrando ar ein partneriaid cymunedol ar yr un pryd – wrth edrych yn ôl, mae’n bosib y byddai gwrando’n gyntaf ac yna adolygu’r llenyddiaeth ar y pynciau a godwyd wedi hwyluso’r broses.
- Gair o gyngor… Ystyriwch ymlaen llaw a ydych am integreiddio gwybodaeth academaidd o’r pwnc i mewn i ddatblygiad amcanion neu gwestiynau ymchwil, ac ym mha ffordd.
Datblygu ein deunyddiau astudio
Bu i ni benderfynu fel grŵp i ddefnyddio cyfweliadau lled strwythuredig i gael gwybodaeth gan ofalwyr, gan fynd ati i gynhyrchu ein deunyddiau astudio – cyhoeddusrwydd i recriwtio cyfranogwyr, amserlen cyfweliadau, ac yn y blaen.
Yn ddelfrydol mewn ymchwil gyfranogol byddai’r holl ddeunyddiau’n cael eu cynhyrchu fel grŵp o’r dechrau, ond oherwydd pryderon pragmataidd penderfynon ni y byddai’r partneriaid academaidd yn datblygu’r deunyddiau ac y byddai’r grŵp yn eu hadolygu a’u golygu gan ddefnyddio eu profiad a’u gwybodaeth leol.
Arweiniodd y broses adolygu at sawl newid yn ein deunyddiau megis gwneud y term ‘gofalwr’ yn gliriach – dywedodd ein cyd-ymchwilwyr wrthym fod y term yn cael ei ddefnyddio’n lleol i gyfeirio at ofalwyr cyflogedig yn ogystal â’r rhai di-dâl. Bu i ni hefyd addasu amserlen y cyfweliadau i fod yn fwy cyfleus i’r rheini sy’n gofalu am fwy nag un person – dangosodd ein cyd-ymchwilwyr fod y sefyllfa hon yn llawer mwy cyffredin nag oeddem wedi’i ragweld.
Canlyniadau Ymchwil
Un o’r agweddau pwysicaf ar ymchwil gyfranogol yw y dylai arwain at gamau positif er lles y gymuned dan sylw – yn ein hachos ni, gofalwyr yng Ngwent. Mae pa gamau y byddwn yn eu cymryd yn dibynnu ar ganlyniadau ein hymchwil, ond mae gennym syniadau amrywiol mewn golwg gan gynnwys hyfforddiant arbenigol i gwnselwyr sy’n gweithio gyda gofalwyr a/neu gynhyrchu gwybodaeth hygyrch i ofalwyr ynglŷn â chwnsela.
Rydym wrthi’n recriwtio gofalwyr i gael eu cyfweld ar gyfer ein hymchwil. Os gwyddech am unrhyw ofalwyr di-dâl, dros 18 oed yng Ngwent a all fod â diddordeb, anfonwch fy manylion cyswllt atynt os gwelwch yn dda:
Rachel Waters (Cynorthwyydd Ymchwil)
Gwasanaeth Cwnsela Cymunedol Casnewydd
Ffôn: 01633 435282
E-bost: Rachel.Waters2@southwales.ac.uk
Mae unrhyw farn neu safbwyntiau a gyflwynir yn y blog hwn yn eiddo i’r awdur yn unig ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli barn na safbwyntiau Prifysgol De Cymru a’r cyd-ymchwilwyr cymunedol.
Cyfeiriadau
Tîm Ymchwil Gymunedol Durham (2011) Community-based participatory research: Ethical challenges. Ar gael ar: https://www.dur.ac.uk/resources/beacon/CCDiscussionPapertemplateCBPRBanksetal7Nov2011.pdf
(Cyrchwyd 2 Mai 2014)