Tag Archives: gwybodaeth hygyrch

Mae cyfranogi yn allweddol i herio gwahaniaethu

Yn Rhwydwaith Cyfranogaeth Cymru Gyfan eleni, gosododd Joe Powell y safon gydag araith agoriadol bwerus ynglŷn â phwysigrwydd cyfranogi’n llawn yng nghymdeithas i bobl ag anableddau dysgu. Canfuwyd bod gan Joe Syndrom Asperger yn 1996 ac mae ef wedi treulio 11 mlynedd mewn gofal cymdeithasol. Ef bellach yw Cyfarwyddwr Cenedlaethol Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan; grŵp sy’n uno lleisiau grwpiau hunaneirioli yng Nghymru. Tynnodd Joe ar ei brofiad uniongyrchol o frwydro i adael system a oedd yn benderfynol o’i ystyried yn ddefnyddiwr gwasanaeth, rhywun sydd angen cymorth, ac nid rhywun sydd hefyd â llawer i’w gynnig i’w gymuned.

Dechreuodd Joe ei araith drwy amlinellu’r ‘Model bywyd da’; gwerthoedd sy’n bwysig i’r bobl ag anableddau dysgu y mae Joe wedi siarad â nhw. Ymysg y gwerthoedd hyn roedd ‘perthnasau llawn cariad a gofal’, y dewis sy’n deillio o fod â rhywfaint o gyfoeth (mae hyn hefyd yn cynnwys rheolaeth dros eich asedau ariannol eich hun), ‘lle i gyfrannu yn y Byd’ a ‘fy nghartref fy hun’. Y peth cyntaf i’m taro oedd pa mor debyg ydynt i’r hyn y mae ar rywun sydd heb anabledd dysgu ei eisiau o’i fywyd – ymddangosai’r gwerthoedd yn gyffredin i bawb, nid yn benodol i anableddau dysgu. Yn fy nhyb i, wrth wraidd yr holl werthoedd oedd cydbwysedd rhwng diogelwch personol ar y naill law ac, ar y llall, ymdeimlad o allu cymryd rheolaeth dros eich bywyd eich hun ac, ar ben hynny, gyfrannu rhywbeth at fywydau pobl eraill. Onid dyma sydd ar bawb ei eisiau o’u bywydau?

Joe Powell

Mae gan lawer o bobl ag anableddau dysgu nam ar eu golwg hefyd ac ni ddysgwyd rhai o’r bobl hyn i ddarllen yn yr ysgol. Gall pethau syml megis cynnig gwybodaeth hawdd ei darllen a fformat sain ei gwneud yn bosib i bobl ag anableddau dysgu gael at wybodaeth heb orfod dibynnu ar ffrind neu ofalwr i’w darllen iddyn nhw. Mae hyn yn galluogi pobl i gadw ymdeimlad o annibyniaeth ac urddas, yn hytrach na chael eu sefydliadoli, yn enwedig pan fo’r wybodaeth dan sylw o natur breifat.

O ystyried bod yr hyn y mae ar bobl ag anableddau dysgu ei eisiau mor debyg i’r hyn y mae’r boblogaeth ehangach yn anelu ato, gellid maddau i rywun am gredu bod y dymuniadau hyn yn cael eu bodloni â chroeso mewn gofal ar gyfer anableddau dysgu a bod cymdeithas yn dangos empathi â nhw. Serch hynny, eglurodd Joe mai’r gwirionedd yw bod pobl ag anableddau dysgu i bob pwrpas yn ‘ymddeol yn ddeunaw oed’; prin mewn cyflogaeth ac yn aml yn cael eu cau allan o wirfoddoli. Ymddengys mai’r meddylfryd y tu cefn i’r fath ymyleiddio yw bod unrhyw un sydd ag anabledd dysgu yn ‘ddefnyddiwr gwasanaeth’ ac felly angen cymorth. Tra mae llawer o bobl ag anableddau dysgu yn wir yn ddefnyddwyr gwasanaethau, nid yw hyn yn golygu eu bod heb y gallu a’r awydd i roi cymorth yn eu cymunedau a chyfrannu’n ystyrlon nid yn unig at eu bywydau eu hunain, ond bywydau eraill hefyd.

History of people learning disabilities

Mae’r cyfyngiad hwn ar gyfranogi nid yn unig yn golled enfawr o ran cyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth posib ond hefyd yn gwbl groes i egwyddorion Strategaeth Gymru Gyfan 1983. Mae’r strategaeth yn pennu bod gan bobl ag anableddau dysgu yr hawl i ddewis eu patrymau bywyd eu hunain o fewn eu cymunedau a chael mynediad at wasanaethau proffesiynol pan fo cymorth ychwanegol yn angenrheidiol er mwyn iddynt gyflawni hyn.

Mae’r mwyafrif o bobl ag anableddau dysgu yn dymuno gweithio a gwirfoddoli, meddai Joe, ac mae angen i ni ymdrechu’n fwy i ddiwallu eu hanghenion er mwyn iddynt wneud hyn. Mae rhagfarn yn deillio o anwybodaeth a phan fo pobl ag anableddau dysgu i’w gweld mewn rolau defnyddiol, fe fydd hyn yn ei gwneud yn anos eu stereoteipio fel baich ac yn rhoi hygrededd i’w lleisiau.

Cyn gwahodd cwestiynau o’r llawr, gorffennodd Joe ei araith drwy ddweud bod yn rhaid i gyfranogaeth ar gyfer pobl ag anableddau dysgu fod yn realistig a byth yn docenistaidd. Rhaid i ni ei gwneud yn bosib i bobl ag anableddau dysgu gael mynediad at y gweithlu gan wneud addasiadau rhesymol os oes angen dim ond pan allant gyflawni’r rôl honno.

Os hoffech glywed mwy gan Joe Powell, cadwch olwg ar Joe’s Soapbox.

Mae ‘Storify’ y diwrnod, gan gynnwys cyflwyniad Joe, adnoddau eraill o’r rhwydwaith a chyfraniadau cyfranogwyr drwy’r cyfryngau cymdeithasol, ar gael yma.

 – Non

Rhwydweithiau cyfranogi rhanbarthol fis Hydref: Gwybodaeth a thechnoleg hygyrch

A ddylem ymdrechu i gyflawni’r canlyniadau optimwm neu a ddylem, yn syml, trio ein gorau?

Rydym newydd gynnal Digwyddiadau’r Rhwydweithiau Rhanbarthol a’r thema y tro hwn oedd ‘Gwybodaeth a thechnoleg hygyrch’.

BookDechreuon ni bob sesiwn gydag ymarfer torri’r garw i gyflwyno’r thema, cafodd hanner y cyfranogwyr ‘gerdyn jargon’ a’r hanner arall ‘gerdyn hawdd ei ddarllen’. Roedd un gair ar bob cerdyn a nod y gêm oedd cerdded o gwmpas yr ystafell a dod o hyd i’r person oedd â’r cerdyn a oedd â’r un ystyr â’r gair ar eich cerdyn chi. Er enghraifft, os oedd gennych gerdyn jargon yn dweud ‘cyfranogi’ yna byddech yn cael eich paru â’r person a oedd â’r cerdyn hawdd ei ddarllen yn dweud ‘cymryd rhan’ arno ac yna’n cyflwyno’ch gilydd. Geiriau eraill a ddefnyddiwyd yn yr ymarfer hwn oedd ymdrechu (trio), terfynu (gorffen) a chydweithredu (gweithio gyda rhywun). Mae mwy o gyngor ynghylch iaith syml ar gael ar wefan Cymraeg Clir.

Gweithiodd yr ymarfer yn dda i gael pobl i sgwrsio â’i gilydd ac roedd yr adborth a gawsom yn bositif. Doedd neb wedi defnyddio’r ymarfer hwn o’r blaen ond roedd rhai wedi chwarae Buzzword Bingo mewn cyfarfodydd llawn jargon.

Yn y De Ddwyrain, cynhaliwyd y digwyddiad yn Ystrad Mynach. Rhoddodd Barod CIC gyflwyniad a eglurodd pam mae’n bwysig darparu gwybodaeth glir mewn fformat hwylus. Cafodd y grŵp wybod am y gwasanaethau y mae Barod yn eu darparu megis trosi dogfennau i iaith hawdd ei darllen a/neu iaith bob dydd. Maent hefyd yn cynnig pecynnau hyfforddi i fudiadau sydd am hyfforddi staff i gynhyrchu dogfennau hawdd eu darllen. Mae pobl ag anableddau dysgu yn darllen drwy’r holl waith y mae Barod yn ei wneud. Hefyd, rhoddodd Sam o Anabledd Dysgu Cymru gyflwyniad ar Clear & Easy sef canllaw cynhwysfawr i fudiadau sydd am wneud eu gwybodaeth yn fwy hygyrch. Mae’r canllaw yn cynnwys DVD rhyngweithiol sydd am ddim i’r sector gwirfoddol a chyhoeddus (cyfyngiad o un y mudiad). Cysylltwch ag Anabledd Dysgu Cymru i gael gwybod mwy.

Yn y De Orllewin, cynhaliwyd y digwyddiad yn Felin-foel, Llanelli. Roedd sesiwn Andrew Hubbard, o’r Panel Dinasyddion peilot ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymdeithas Byw’n Annibynnol Abertawe, yn canolbwyntio ar Dechnoleg Hygyrch, gan egluro i gyfranogwyr sut mae meddalwedd darllen sgrin yn gweithio i bobl â nam ar eu golwg. Trefnodd Andrew ymarfer grŵp i fynd drwy amrywiaeth o wahanol sefyllfaoedd sy’n wynebu pobl anabl wrth gael at wybodaeth bob dydd megis swyddi gwag, amseroedd bws/trên a hysbysebion. Cafwyd trafodaeth grŵp ar ôl yr ymarfer. Roedd Barod CIC yn ddigon clên i roi cyflwyniad ar y canllaw Clear & Easy eto (am yr ail ddiwrnod yn olynol!)person reading

Ar ôl toriad byr, eglurodd ein swyddog hyfforddi a datblygu, Siobhan, dechneg rydym wedi’i defnyddio o’r blaen ac sydd bob amser yn llwyddiannus iawn – Hot Air Balloon o’r llyfr Spice it Up gan Dynamix! Yn yr ymarfer hwn, anogwyd cyfranogwyr i feddwl am y ffordd y mae eu mudiadau eu hunain yn darparu gwybodaeth a sut y gallent ei gwneud yn fwy hygyrch. Roedd angen i gyfranogwyr feddwl am beth oedd yn eu dal yn ôl, pwy oedd angen eu cynnwys a beth sydd ei angen i’w wneud i ffynnu.

Cafodd cyfyngiadau o ran arian ac amser eu crybwyll yn aml fel pethau sy’n eu dal yn ôl. Cafwyd syniad gan un cyfranogwr fod angen newid diwylliant yn llwyr er mwyn sicrhau bod gwybodaeth fwy hygyrch ar gael drwy’r amser.

Yna cawsom ein rhannu’n grwpiau bach i glywed gan gyfranogwyr am waith maent yn ei wneud, arfer da maent wedi dod ar ei draws neu broblemau maent yn eu cael. Clywsom am waith yn TPAS Cymru sy’n cynnal digwyddiad fis Tachwedd ar Ymgysylltu â’r Cyhoedd. Clywsom hefyd fod Clwstwr Cymunedau yn Gyntaf y Barri yn cynnal sesiynau TG galw-heibio ac yn darparu hyfforddiant TG sylfaenol ar sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd. Mae Heddlu’r De hefyd yn gwneud gwaith ardderchog yn ennyn diddordeb pobl ifanc  darganfod beth maent yn ei feddwl o’r gymuned leol a pha ardaloedd maent yn teimlo’n ddiogel neu’n anniogel ynddynt. Mae Cyngor Sir Gâr wedi cynnal ymgynghoriad cyllideb a defnyddio efelychydd cyllideb sy’n swnio’n ffordd wych o gael pobl yn rhan o gyllidebu.

Yn y Gogledd, cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghyffordd Llandudno ar ddiwrnod llawn gwynt a glaw rydym wedi hen arfer ag o yng Nghymru! Clywsom gan ddau aelod o’r Panel Dinasyddion peilot ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol; Jennie a Beth Lewis. Dechreuodd Beth drwy ddweud wrth y grŵp am ei bywyd; mae’n 24 oed ac mae ganddi anabledd dysgu, mae’n byw yn ei fflat ei hun ac mae ganddi swydd, mae’n mwynhau coginio ac yn awyddus i wneud mwy ar ei phen ei hun. Mae’n gallu darllen yn dda iawn ond ddim bob amser yn deall beth mae’r geiriau yn ei olygu felly mae’n well ganddi frawddegau byr gyda lluniau. Dangosodd Beth a’i mam, Jennie, lawer o enghreifftiau i ni o wybodaeth a anfonwyd ati drwy’r post. Rhoddwyd tasg i’r cyfranogwyr drosi llythyr a oedd wedi cael ei anfon at Beth i fformat hawdd ei ddarllen mewn grwpiau bach (roedd y dasg yn anodd iawn i bawb – yn eironig roedd y llythyr yn ymwneud â chynllun yn benodol i bobl anabl, gan gynnwys pobl ag anableddau dysgu). Cerddodd Beth o gwmpas yr ystafell i ddarllen a gwirio beth roedd pobl wedi’i ysgrifennu.

jennie-bethGofynnon ni i’r grwpiau drafod sut y byddent yn rhoi cyflwyniad diddorol Jennie a Beth ar waith drwy feddwl am sut y gallent wneud y wybodaeth y mae eu mudiadau eu hunain yn ei chynhyrchu yn fwy hygyrch. Heb os roedd llawer iawn i feddwl amdano a chafwyd trafodaethau diddorol dros ben. Yn benodol dywedodd rhywun mai un rhwystr mawr oedd ‘iaith gyfreithiol’ a bod yn rhaid i rai dogfennau neu gontractau ddefnyddio geiriau penodol, ac un ffordd o oresgyn hyn yw rhoi eglurhad hawdd ei ddarllen wrth ochr neu o dan ddatganiad, gan egluro beth mae’n ei ddweud gyda llun os oes angen.

Ar y cyfan roedd y rownd hon o ddigwyddiadau yn llwyddiannus gyda thema ddiddorol iawn a chafwyd cyflwyniadau ardderchog gan ein holl westeion yn y tair ardal. Rydym yn ddiolchgar iawn i Barod, Andrew Hubbard a’i gynorthwyydd Bev, Jennie a Beth am ein helpu yn y rhwydweithiau hyn. Diolch i bawb am ddod!

Fe fydd y rownd nesaf o ddigwyddiadau’r rhwydweithiau yn cael eu cynnal fis Chwefror 2014, mae mwy o fanylion ar gael ar ein gwefan yma. Mae archebu’n gynnar yn hanfodol gan mai dim ond 20 lle sydd ym mhob digwyddiad ac maent yn llenwi’n gyflym! Peidiwch â cholli allan!

–          Sarah