Monthly Archives: Tachwedd 2013

Hynt a helynt mis Tachwedd

Mae Tachwedd wedi bod yn fis prysur i griw Cyfranogaeth Cymru, rydym wedi symud swyddfa yn Nhŷ Baltig a bellach yn ymgartrefu yn ein swyddfa newydd ar ochr arall yr adeilad, yn edrych dros Gyfnewidfa Glo enwog Caerdydd o ongl ychydig yn wahanol i’r un rydym wedi arfer â hi!

Jon deskAr wahân i bori drwy focsys a symud dodrefn, rydym wedi bod yn brysur gyda’n gwaith arferol: mae Mandy wedi bod yn hwyluso Set Dysgu Gweithredol ar gyfer Gwalia tra mae Siobhan wedi bod yn datblygu sesiwn hyfforddi ar Iaith a Steil Ymgynghori sy’n cael ei darparu ar gyfer Bwrdd Gwasanaethau Lleol Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Aeth Sarah i Gynhadledd Uned Ddata Llywodraeth Leol yn Abertawe i hyrwyddo gwaith Arfer Da Cymru a’r Gweithgor Ymgysylltu â’r Cyhoedd ac mae Jon wedi cwblhau ei gwrs hyfforddi achrededig ar Ymgysylltu â’r Cyhoedd: theori ac ymarfer. Mae Jon wedi addo ysgrifennu darn ar gyfer y blog ynglŷn â’r hyn a ddysgodd ar y cwrs – felly gwyliwch y gofod hwn!

Roeddem hefyd yn ddigon ffodus i gael gwahoddiad i achlysur lansio’r Cwmni Buddiannau Cymunedol, Barod, yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Cynhaliwyd yr achlysur dros amser ginio ac roedd yn cynnwys siaradwyr o’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni Genedlaethol, Pobl yn Gyntaf Cymru a sesiwn gyfranogol ddifyr a hwyluswyd gan Dynamix. Defnyddiodd y sesiwn y dull cyfranogol ‘pleidleisio goleuadau traffig’ sydd hefyd yn cael sylw yng Nghylchlythyr Cyfranogaeth Cymru y mis hwn. Cafodd yr achlysur ei noddi gan Mark Isherwood AC, sy’n cadeirio’r grŵp trawsbleidiol ar Anabledd.

Drwy gydol mis Tachwedd rydym wedi bod yn recriwtio aelodau ar gyfer Bwrdd Cynghori Cenedlaethol Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Dyma gyfle ardderchog i ofalwyr, defnyddwyr gwasanaethau a gwirfoddolwyr gyfrannu at y ffordd y mae gofal a gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu harolygu yng Nghymru. Bydd aelodau o’r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol yn mynegi eu barn a’u syniadau ar lefel bwysig iawn lle gallant wneud newidiadau gwirioneddol. Byddant yn helpu i awgrymu atebion ar gyfer canfyddiadau gwaith yr Arolygiaeth a’r heriau sy’n wynebu gofal a gwasanaethau cymdeithasol. Byddant yn cyfrannu at gynlluniau gwaith yr Arolygiaeth at y dyfodol ac at Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygydd.

Os oes gennych awydd ymgeisio, nid yw’n rhy hwyr! Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni. Byddwn yn fwy na pharod i helpu. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar ein gwefan yma.

I gael y diweddaraf am Cyfranogaeth Cymru, dilynwch ni ar Twitter neu tanysgrifiwch i’n cylchlythyr.

–          Sarah