Dyma’r fideo olaf mewn cyfres o dri chyfweliad a wnaethom gydag aelodau o Banel Cynghori Cyfranogaeth Cymru. Mae’r cyfweliad yma yn dilyn cyfweliadau blaenorol gyda Derek Walker o Ganolfan Cydweithredol Cymru a Margaret Peters o Gyngor Cefn Gwlad Cymru (sydd bellach yn rhan o Gyfoeth Naturiol Cymru). Rydyn ni wedi bod yn ffilmio’r rhain fel rhan o’n Fframwaith Gwerthuso, sy’n helpu ni i sicrhau bod yr hyn ni’n gwneud yn bodloni anghenion y bobl a mudiadau sy’n defnyddio ein gwasanaethau.
Wayne Jepson on Participation Cymru / Wayne Jepson ar Gyfranogaeth Cymru from Participation Cymru on Vimeo.
Mae Wayne wedi bod yn aelod o’r Panel Cynghori am sbel. Mae fe wedi bod yn cynrychioli’r Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd (sydd newydd dod i ben – mae’i swyddogaethau nawr yn rhan o Lywodraeth Cymru a’r GIG Cymru) am nifer o flynyddoedd, ac mae fe wedi bod yn ymwneud â chomisiynu gwaith o’r prosiect yn ogystal â darparu arweiniad ar gyfer ein gwaith fel aelod o’r Panel Cynghori.
Pan ofynnais i Wayne sut roedd e’n gweld rôl y Panel Cynghori dywedodd “Rwy’n meddwl bod y Panel Cynghori yn elfen hanfodol o ddatblygiad Cyfranogaeth Cymru. Rwy’n credu ei fod e’n darparu fforwm i lywio a dylanwadu ar benderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan Gyfranogaeth Cymru, a hefyd am Gyfranogaeth Cymru a’r sector cyhoeddus ehangach. I mi, mae’r Panel Cynghori yn gweithredu fel gall Bwrdd Rhaglen gweithredu ar gyfer prosiect, ond mae’r panel hefyd yno i alluogi’r prosiect i wirio ac i sicrhau cydbwysedd. Rwy’n credu bod cyfansoddiad y Panel Cynghori – mae pobl yn dod o fudiadau a sectorau amrywiol – yn dod â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth i’r bwrdd sydd dim ond yn gallu helpu Cyfranogaeth Cymru i ddatblygu a symud ymlaen”.
Un o’r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru yw “Gweithio gyda mudiadau partner perthnasol”. Mae’r Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd wedi rhoi hwn ar waith yn eu rôl fel aelod o’r Panel Cynghori, gan bod nhw wedi comisiynu hyfforddiant ar y cyd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae’r dull hwn wedi sicrhau’r defnydd gorau posibl o adnoddau, ac mae fe hefyd wedi ychwanegu gwerth i’r hyfforddiant gan fod mynychwyr yn cael y cyfle i rwydweithio a dysgu o brofiadau ei gilydd.
Mae Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd wedi cynhyrchu llawer o adnoddau defnyddiol ar wella gwasanaethau iechyd, gan gynnwys canllaw defnyddiol iawn ar gynnwys oedolion sy’n ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr y GIG, sy’n dangos yn glir ei fod yn hanfodol bod lleisiau cleifion a’r cyhoedd yn cael eu clywed er mwyn cael gwasanaethau iechyd effeithiol yng Nghymru.
– Dyfrig