Paneli Dinasyddion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru

Mae Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog dros Blant a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi lansio Paneli Dinasyddion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yn swyddogol. Bydd y paneli yn dod â phobl ynghyd o lefydd ac oedran eang. Byddan nhw’n cwrdd bob chwarter i roi gwybod i’r Dirprwy Weinidog a’i Fforwm Partneriaeth Genedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol am eu barn ar faterion cyfredol sydd yn ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol.

Gewnda Thomas AC a Lisa Armstrong o Banel y De Ddwyrain

Y panel rhanbarthol olaf i redeg oedd panel y De Orllewin yng Ngorseinon. Roedd e’n grêt i glywed safbwyntiau aelodau’r panel ar y ffordd ymlaen ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Yn anffodus roedd cynorthwyydd personol Andrew Hubbard yn sâl ar y diwrnod, felly fe wnes i gynnig fy ngwasanaeth. Mae’n deg dweud dysgais lawer am hygyrchedd a sicrhau bod Andrew yn teimlo roedd e’n gallu cymryd rhan. Roedd Andrew yn hyfforddwr gwych, ac roedd e’n gydymdeimladol iawn am fy niffyg profiad! Gallwch glywed safbwynt Andrew isod.

Yn dilyn y cyfarfod olaf ces i gyfle i eistedd lawr gyda fy Rheolwr Mandy Williams, a ddywedodd hi fod y prosiect yn “teimlo’n hynod o falch i fod yn rhan o’r gwaith pwysig hwn. Mae’r barnau a’r profiadau mai pobl wedi bod yn barod i rannu gyda ni wedi creu argraff arnom wrth i ni gynnal y rownd gyntaf o baneli oedolion ac ar ôl dechrau i ymgysylltu â grwpiau o blant a phobl ifanc. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bod y Dirprwy Weinidog a’r Fforwm Partneriaeth yn mynd i gael budd enfawr o gyfraniad y dinasyddion yma. Dyw’r gwaith pwysig o greu gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy ar gyfer Cymru ddim yn gallu cael ei gyflawni hebddynt.

“Mae pawb ein bod ni wedi cwrdd â wedi bod yn hyfryd. Mae’n ymddangos bod pawb yn bositif iawn am y gwahaniaeth y gallant ei wneud a bod nhw’n gallu dylanwadu ar lefel strategol gwasanaethau cymdeithasol. Maen nhw’n teimlo’n gryf iawn dros gael cynrychiolaeth ar y fforwm partneriaeth ac rydym wedi bod yn trafod ffyrdd y gellir gwneud hyn.

“Mae cyfansoddiad pob un o’r paneli rhanbarthol yn gymysg iawn. Mae gan rhai pobl profiad uniongyrchol o wasanaethau cymdeithasol, mae rhai yn gofalu am bobl sy’n derbyn gwasanaethau cymdeithasol, ac mae rhai pobl eraill gyda chefndir proffesiynol yng ngwasanaethau cymdeithasol, naill ai ar hyn o bryd neu yn y gorffennol. Maent yn dod â chyfoeth o brofiad a barn i ddylanwadu ar gyfeiriad gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn y dyfodol.

“Ni’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw gan fod ni’n argyhoeddedig mai dyma’r ffordd gywir o weithio, a bod angen i ni sicrhau bod llais y dinesydd yn cael ei glywed.”

– Dyfrig

2 responses to “Paneli Dinasyddion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru

  1. Hysbysiad Cyfeirio: Gwefannau cyfranogol – beth mae arfer da yn edrych fel? | www.participationcymru.org.uk

  2. Hysbysiad Cyfeirio: Sut mae plant a phobl ifanc yn bwydo i mewn i Banel Dinasyddion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru | www.participationcymru.org.uk

Gadael sylw